I gyflwyno gwybodaeth am rôl y Cydbwyllgor Ymgynghorol yn y broses o baratoi ac adolygu’r Cynllun Rheoli ar gyfer yr AHNE.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn a Prif
Ymgynghorydd Tirweddau Dynodedig, Cyfoeth Naturiol Cymru.
Atgoffwyd yr
Aelodau mai cyfrifoldeb Cyngor Gwynedd yw paratoi ac adolygu Cynllun Rheoli ar
gyfer yr AHNE yn unol â Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Er hyn,
pwysleisiwyd bod gan y Cyd-bwyllgor rôl ymgynghorol bwysig yn y broses o
baratoi ac adolygu’r Cynllun Rheoli gan gynnwys:
· Rhoi cyngor ar
baratoi a gweithredu Cynllun Rheoli ar gyfer yr AHNE
· Monitro a gwerthuso
cynnydd o fewn rhaglen weithredol y Cynllun Rheoli yn flynyddol ac adolygu’r
Cynllun ei hun yn rheolaidd.
Eglurwyd bod
rhaid i’r Awdurdod ddilyn canllawiau wrth baratoi ac adolygu’r Cynllun Rheoli.
Tynnwyd sylw at ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ond
eglurwyd eu bod wedi dyddio erbyn hyn. Eglurwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn
ymgynghorydd statudol i Lywodraeth Cymru ar ddynodiadau tirwedd (AHNEau a’r
Parciau Cenedlaethol).. Sicrhawyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi comisiynu
cwmni ‘Land Use Conultants’ er mwyn adolygu a diweddaru’r canllawiau hyn er
mwyn iddynt fod yn addas ar gyfer ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a’r
Parciau Cenedlaethol yng Nghymru. Tynnwyd sylw mai nod y canllawiau yw sicrhau
bod Cynlluniau Rheoli yn:
· Arwain, cynllunio a
rheoli newid trawsnewidiol
· Cydredeg gyda
pholisïau a deddfwriaethau perthnasol
· Ymgysylltu gyda
rhanddeiliaid trwy gydol y broses
Cadarnhawyd
bydd y canllawiau newydd ar gyfer y Cynllun Rheoli yn cydblethu gofynion
cenedlaethol a blaenoriaethau’r ardal leol.
Sicrhawyd bod
Cyfoeth Naturiol Cymru yn awyddus i gynorthwyo Swyddogion a’r Cyd-bwyllgor
drwy’r broses o adolygu’r Cynllun Rheoli.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:
Mynegwyd
pryder bod cwmni Land Use Consultants wedi ei leoli yn Llundain gan ofyn pa
sicrwydd a geir bod blaenoriaethau lleol yn cael eu cyfarch o fewn y
canllawiau. Eglurwyd gan y Prif Ymgynghorydd Tirweddau Dynodedig bod y cwmni
wedi cael eu comisiynu drwy dendr i ddatblygu’r canllawiau oherwydd diffyg
capasiti o fewn y tîm yng Nghyfoeth Naturiol Cymru. Sicrhawyd bod gan y cwmni
brofiad eang o gwblhau gwaith polisi ym maes tirweddau dynodedig yng Nghymru a
thu hwnt. Pwysleisiwyd eu bod yn gwmni addas ar gyfer y gwaith a'u bod wedi
cael arweiniad clir gan Gyfoeth Naturiol Cymru
ar faterion rheolaethol, partneriaethol a lleol drwy gydol y broses.
Eglurwyd bod gan y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol a Swyddogion AHNE Llŷn rôl i
sicrhau bod y Cynllun Rheoli yn cydblethu’r canllawiau gyda blaenoriaethau ac
anghenion Llŷn.
Trafodwyd y
pwysau cynyddol ar faterion newid hinsawdd gan nodi bod Llywodraeth Cymru wedi
ail ystyried cynlluniau coedwigaeth a bioamrywiaeth yn y Cynllun Ffermio
Cynaliadwy yn ddiweddar. Ystyriwyd ar ba sail bod y materion hyn yn cael
pwyslais mawr o fewn y cynllunio. Mewn ymateb i’r sylwadau, pwysleisiodd y Prif
Ymgynghorydd Tirweddau Dynodedig bod
newid hinsawdd yn arwain at heriau cyson ar draws Cymru. Eglurwyd bod
ymdrechu i ddatrys yr heriau hyn yn flaenoriaeth gan ei fod hefyd yn gwarchod
ac adfer natur wrth wneud hynny.
Holiwyd am
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig – nododd Y Prif Ymgynghorydd
Tirweddau Dynodedig nad oedd yn delio gyda’r mater hwn ond y byddai yn holi pwy
yn Cyfoeth allai ymateb i ymholiadau am y mater.
Trafodwyd
amserlen i greu’r Cynllun Rheoli gan nodi mai nod y cynllun cyfredol oedd i fod
yn weithredol rhwng 2015 a 2020 ond bod yr amseru wedi llithro gan arwain at
iddo fod yn weithredol o 2017 hyd at 2025. Gofynnwyd a yw’n bosib cael Cynllun
Rheoli sydd yn weithredol am 10 mlynedd er mwyn osgoi llithriadau o’r fath.
Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Ymgynghorydd Tirweddau Dynodedig nad oes unrhyw
rwystr i Gynlluniau Rheoli bod yn weithredol am gyfnodau estynedig, ond
pwysleisiwyd y pwysigrwydd i’w adolygu’n gyson a sicrhau ei fod yn cael sylw
teilwng o fewn y Cynllun Datblygu Lleol. Ymhelaethodd yr Arweinydd Tîm Polisi
Cynllunio mai’r dyddiad sail ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol newydd yw 2024 -
2039 a rhagweli’r cynllun hwnnw gael ei fabwysiadu yn 2027.
Gofynnwyd a
oes sicrwydd bod yr iaith Gymraeg yn cael sylw teilwng o fewn y canllawiau gan
atgoffa bod AHNE Llŷn wedi penderfynu peidio â defnyddio teitl ‘Tirweddau
Cenedlaethol’ i’r dyfodol ac yn gwneud gwaith i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn
ganolog ym mhob agwedd o’r ardal. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Ymgynghorydd
Tirweddau Dynodedig bod gwaith Land Use Consultancy eisoes wedi dod i ben gan
fod y canllawiau wedi cael eu llunio. Derbyniwyd bod yr iaith Gymraeg yn
ganolog i holl weithrediadau AHNE Llŷn a Chyngor Gwynedd a disgwylir i hyn
barhau wrth lunio Cynllun Rheoli newydd sydd yn adlewyrchu hynny. Awgrymwyd
datblygu adroddiad effaith ar yr iaith Gymraeg wrth i’r Cynllun gael ei
ddatblygu, er mwyn edrych i weld os oes mesurau ychwanegol gellir eu cymryd er
mwyn amddiffyn yr iaith a chryfhau trefniadau presennol.
PENDERFYNIAD
Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
Dogfennau ategol: