I gyflwyno gwybodaeth am y camau cychwynnol yn y broses o adolygu’r Cynllun Rheoli.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn.
Eglurwyd bod
nifer o gamau angen eu dilyn wrth adolygu’r Cynllun Rheoli. Manylwyd bod y
broses hon yn cynnwys:
·
Ystyried effeithlonrwydd y Cynllun presennol
·
Ystyried yr wybodaeth ddiweddaraf am nodweddion yr
ardal
·
Cymryd ystyriaeth ac ymgorffori gwybodaeth o
gynlluniau a strategaethau perthnasol
·
Adolygu gweledigaeth, nodau, amcanion a pholisïau’r cynllun
·
Creu Cynllun gweithredu newydd ar gyfer cyfnod y
Cynllun Rheoli
·
Adolygu'r Asesiad Amgylcheddol Strategaeth a
Rheoliadau Cynefinoedd.
Ymhelaethwyd
bydd Cynllun Rheoli Drafft yn cael ei rannu gyda thrigolion yr AHNE yn ogystal
ag asiantaethau gyda’r cyfle i roi sylwadau ar ei gynnwys. Pwysleisiwyd bod gan
y Cyd-bwyllgor rôl ymgynghorol drwy gydol y broses a bydd sylwadau trigolion yn
cael eu cynnwys mewn adroddiad er ystyriaeth y Cyd-bwyllgor.
Atgoffwyd mai un
o gamau cychwynnol adolygu’r Cynlluniau Rheoli yw asesu cyflwr nodweddion
amrywiol er mwyn deall os oes newidiadau wedi digwydd yn ystod y cyfnod
blaenorol. Manylwyd bod Adroddiad o Gyflwr yr AHNE wedi cael ei gomisiynu yn
2021 a bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn casglu gwybodaeth leol fwy diweddar
er mwyn ychwanegu at yr adroddiad hwn er mwyn cynorthwyo gyda’r broses o
ddatblygu Cynllun Rheoli.
Tynnwyd sylw at
rinweddau AHNE Llŷn fel diffiniwyd wrth greu’r Cynllun Rheoli blaenorol,
gan nodi nad yw'r rhain yn agweddau sydd yn debygol o newid gan eu bod yn greiddiol i’r ardal. Manylwyd
na fydd y rhinweddau yn cael eu haddasu ar gyfer y Cynllun Rheoli newydd, gan
nodi eu bod yn cynnwys:
·
Tirlun ac Arfordir Hardd
·
Tawelwch ac Amgylchedd glân
·
Cyfoeth o fywyd gwyllt a chynefinoedd
·
Yr Amgylchedd Hanesyddol
·
Yr iaith Gymraeg a’r diwylliant
·
Pobl a chymunedau clos
·
Cynnyrch a busnesau lleol
·
Mynediad a hawliau tramwy
Adroddwyd bod
gweledigaeth hir dymor yr AHNE wedi dyddio erbyn hyn a bod gweledigaeth
addasedig wedi cael ei lunio i lywio'r AHNE hyd at 2050. Manylwyd mai’r
weledigaeth ddiwygiedig hon yw:
“Ardal o dirlun
ac arfordir hardd gyda bywyd gwyllt cynhenid yn ffynnu, lefel isel o lygredd
amgylcheddol ac amrywiaeth o gyfleon mynediad a chyhoeddus. Adeiladau a
nodweddion hanesyddol mewn cyflwr da, busnesau lleol yn llwyddo a chymunedau
Llŷn yn cynnal yr iaith a’r diwylliant Cymreig”.
Cadarnhawyd ei
fod yn bwysig adolygu polisïau’r Cynllun Rheoli gan nodi bydd rhai o’r polisïau
hyn yn cael eu cyflwyno i’r Cyd-bwyllgor er mwyn ystyried addasiadau priodol.
Nodwyd hefyd gall polisïau newydd gael eu creu a bydd y rhain hefyd yn cael eu
cyflwyno i’r Cyd-bwyllgor.
Adroddwyd bydd
amserlen ddrafft o’r broses o ddatblygu Cynllun Rheoli yn cael ei gyflwyno i’r
Cyd-bwyllgor mewn cyfarfod ym mis Ebrill 2025.
Gofynnwyd i’r
Aelodau i ddod i gyswllt gyda’r swyddogion os ydynt yn ymwybodol o unrhyw fater
sydd yn effeithio ar rinweddau AHNE Llŷn a chynnig syniadau am brosiectau
a all fynd i’r afael o’r heriau hynny.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:
Trafodwyd y
weledigaeth ddiwygiedig hyd at 2050 gan awgrymu'r geiriad canlynol ar ei gyfer:
“...Adeiladau a
nodweddion hanesyddol mewn cyflwr da, busnesau lleol yn llwyddo a chymunedau
AHNE Llŷn yn cynnal a chryfhau'r iaith Gymraeg a’i diwylliant.”
Ymhelaethwyd ar
y pwysigrwydd o sicrhau bod cynefinoedd bywyd gwyllt hefyd yn cael eu crybwyll
o fewn y weledigaeth er mwyn sicrhau ei fod yn cael ystyriaeth hirdymor.
Teimlwyd bod
nifer o faterion llosg y Cynllun Rheoli blaenorol yn parhau i fod yn berthnasol
wrth ddatblygu Cynllun Rheoli newydd. Nodwyd pwysigrwydd sicrhau bod yr iaith
Gymraeg yn cael ei gwarchod o fewn polisïau’r Cynllun Rheoli er gryfhau i’r
dyfodol. Nodwyd hefyd ei fod yn bwysigrwydd ystyried unrhyw faterion llosg sydd
ddim wedi cael eu datrys o fewn cyfnod y Cynllun Rheoli blaenorol er mwyn asesu
os oes modd eu cyflawni yn ystod cyfnod y Cynllun newydd o gysidro adnoddau a
chapasiti’r uned AHNE.
PENDERFYNIAD
·
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
·
Diwygio geiriad y weledigaeth hir dymor addasedig
fel a ganlyn, a’i dderbyn:
o Ardal o dirlun ac
arfordir hardd gyda bywyd gwyllt cynhenid a’u cynefinoedd yn ffynnu, lefel isel
o lygredd amgylcheddol ac amrywiaeth o gyfleon mynediad a chyhoeddus. Adeiladau
a nodweddion hanesyddol mewn cyflwr da, busnesau lleol yn llwyddo a chymunedau
AHNE Llŷn yn cynnal a chryfhau yr iaith Gymraeg a’i diwylliant”.
·
Cylchredeg Adroddiad o Gyflwr yr AHNE (2021) gyda’r
Aelodau gan nodi bod y wybodaeth o fewn yr adroddiad wedi dyddio ychydig erbyn
hyn.
·
Rhoi ystyriaeth i’r Cynllun Rheoli presennol a
phynciau llosg sydd heb gael eu datrys yn y cyfarfod nesaf.
Dogfennau ategol: