Agenda item

Cyflwyno adroddiad ar yr uchod.

Penderfyniad:

 

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Gofyn i’r Adran Addysg rannu gydag aelodau’r pwyllgor:-

(a)   data treigl fesul ysgol;

(b)  diweddariadau rheolaidd ar ddatblygiad Strategaeth Addysg Gwynedd.

  1. Bod y pwyllgor yn craffu’r Strategaeth Addysg ddrafft pan yn amserol.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet Addysg, y Pennaeth Addysg a’r swyddogion i’r cyfarfod.

 

Nododd yr Aelod Cabinet:-

·         Y dymunai yntau ategu’r diolchiadau i’r cyn-aelod Cabinet Addysg am ei gwasanaeth a’i dull egwyddorol o gyflawni’r rôl dros y blynyddoedd diwethaf, gan bwysleisio y byddai yntau’n parhau i ddilyn cyfeiriad egwyddorol y Cynghorydd Beca Brown wrth gyflawni’r rôl.

·         Fel cyn-aelod o’r pwyllgor hwn, y gobeithiai ffurfio perthynas broffesiynol gyda’r pwyllgor ac y dymunai i’r craffwyr ei ddal yntau a’r Adran Addysg i gyfri’.

·         Y dymunai gymryd y cyfle, fel Aelod Cabinet newydd, i ymddiheuro o waelod calon am unrhyw ddioddef a ddigwyddodd yn Ysgol Friars, Bangor.  Nododd ymhellach bod y Cyngor yn ymrwymo’n llawn i droi pob carreg er mwyn deall beth yn union aeth o’i le yn yr ysgol, ac y byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau na fydd y math hwn o beth yn digwydd byth eto.

·         Y byddai’n sicrhau bod yr Adran Addysg a’r Cyngor yn ymateb yn llawn ac yn briodol i unrhyw argymhellion yn deillio o’r ymchwiliadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd.

·         Ei fod yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad cyhoeddus er sicrhau mynd at wraidd yr hyn aeth o’i le yn Ysgol Friars.

·         Y cyhoeddwyd Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar 11 Rhagfyr a bod setliad Gwynedd yn annigonol ac yn llai na’r cyfartaledd cenedlaethol.  Gan hynny, roedd y Cyngor yn wynebu penderfyniadau anodd dros y blynyddoedd nesaf.

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan yr Aelod Cabinet Addysg yn manylu ar Gyllidebau Refeniw Ysgolion er sicrhau mewnbwn a dealltwriaeth y pwyllgor o effaith toriadau, demograffi a grantiau ar gyllidebau refeniw ysgolion.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun ac yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Gan gyfeirio at baragraff 4.2.3 o’r adroddiad, mynegwyd pryder bod penaethiaid yn y sector cynradd yn adrodd nad oes ganddynt y staff i gynnig darpariaethau arbenigol ac ymyraethau cynnar fel ELSA (Cymorthyddion Llythrennedd Emosiynol).  Nodwyd bod problemau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn dwysau a bod ymyraethau cynnar o’r fath yn bwysig o ran cefnogi presenoldeb disgyblion a lleihau cyfeiriadau at asiantaethau allanol fel CAMHS, sydd â rhestrau aros maith.  Holwyd a oedd modd edrych ar ffynonellau ariannu eraill ar gyfer y gwaith pwysig hwn.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y pwynt yn un dilys iawn ac y mawr werthfawrogid y gwaith ac effaith y gwaith ymyrraeth gynnar a chefnogi plant o fewn y sector cynradd, a’r uwchradd hefyd.

·         Bod y gwaith yn digwydd mewn ysgolion, ond bod y cyni ariannol yn golygu bod y cyfleoedd a’r gallu i gynnig sesiynau yn mynd yn llai.

·         Bod yr ysgolion yn edrych ar bob ffordd bosib’ i allu cynnal y sesiynau hyn, boed hynny drwy waith grŵp, er enghraifft, yn hytrach na gwaith un i un.

·         Bod unrhyw grantiau ychwanegol sydd ar gael yn cael eu dyrannu’n llwyr i’r ysgolion i wneud y gwaith, ond wrth i gyllidebau grebachu, bod yr ysgolion yn wynebu sefyllfaoedd lle mae’n anodd, er enghraifft, cyfiawnhau rhoi sesiwn ELSA i un plentyn, ac efallai amddifadu gweddill y dosbarth o ddarpariaethau eraill.

 

Gan gyfeirio at baragraffau 4.3.10 i 4.3.12 o’r adroddiad, sy’n ymhelaethu ar drefniadau ariannu cefnogaeth ar gyfer disgybl ag anghenion dysgu ychwanegol sy’n symud ysgol, holwyd a oedd y cymhorthydd yn symud gyda’r disgybl, neu’n aros yn yr ysgol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y sefyllfa integreiddio a’r dull o gefnogi plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn newid yng Ngwynedd ar hyn o bryd.

·         Y gwnaethpwyd penderfyniad yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol i rewi’r gyllideb integreiddio ysgolion, a thrwy hynny wneud i ffwrdd â’r paneli cymedroli a’r fforymau oedd yn arfer dyrannu cyllid i ysgolion ar ffurf oriau ar gyfer penodi cydlynwyr anghenion arbennig dros dro.

·         Yn hanesyddol, wrth i ddisgybl adael ysgol, byddai’r swydd cydlynydd yn yr ysgol honno yn dirwyn i ben, a’r oriau hynny yn cael eu cynnig mewn ysgol arall.

·         Y penderfynwyd rhewi’r gyllideb integreiddio eleni er mwyn symud i fformiwla newydd a ffordd newydd o ddyrannu’r arian, a hefyd er mwyn ceisio rhesymoli’r gwaith i gydlynwyr anghenion arbennig mewn ysgol.  Roedd rhai ysgolion wedi ennill o hynny gan fod y gyllideb wedi’i rhewi ar frig y don, tra bo ysgolion eraill ar waelod y don ac yn gresynu bod y gyllideb wedi’i rhewi yn y lle cyntaf.

·         Y byddai’r model newydd yn cymryd ciplun o holl anghenion yr ysgol ar bwynt mewn amser ac yn dyrannu’r arian integreiddio am y flwyddyn ar sail hynny.  Gobeithid y byddai hynny’n rhoi sicrwydd i staff bod eu swydd yn yr ysgol yn parhau petai’r disgybl yn gadael, a hefyd yn rhoi sicrwydd i’r ysgol o ran cynllunio’r ddarpariaeth.

·         Na olygai’r newidiadau hyn y byddai yna unrhyw gynnydd yn y swm o arian sydd ar gael, a phetai plentyn yn symud o un ysgol i’r llall, byddai’n rhaid i’r ysgolion ddygymod â hynny. 

·         Petai yna blentyn yn dod o’r tu allan i’r sir, roedd pot o arian wrth gefn ar gael ar gyfer plant mwy dwys ac ar gyfer sicrhau, petai achos newydd yn dod, bod modd cyfarch yr anghenion hynny, ond ni fyddai yna unrhyw beth ar ôl yn y pot wedyn.

 

Holwyd beth fyddai’n digwydd i’r pres y pen mae ysgolion yn derbyn ar ddechrau’r flwyddyn academaidd petai plentyn yn cael ei wahardd yn gynnar yn y tymor cyntaf ac yn symud i ysgol arall.  Mewn ymateb, nodwyd bod yr arian yn symud gyda’r plentyn yn y sector uwchradd fel mater o drefn, ond y bydd rhaid cynnal trafodaeth ynglŷn â’r sector cynradd hefyd os bydd nifer y gwaharddiadau cynradd yn parhau i gynyddu.

 

Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig bod unrhyw gynnydd mewn cyflogau yn cael ei ariannu’n llwyr o’r canol.

 

Holwyd faint o ysgolion Gwynedd sydd ond yn parhau’n agored oherwydd eu bod yn disgyn i mewn i’r rhwyd diogelu.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod gan Wynedd ychydig dros 30 o ysgolion yn disgyn i mewn i’r categori yma ar hyn o bryd, a bod hyn yn gwarantu isafswm o bennaeth ac athro.

·         Bod yna gategori is na hynny, sef ysgolion gyda llai nag 15 o blant, a bod hynny’n gwarantu isafswm o bennaeth a chymhorthydd.

·         Y rhagwelid y byddai gan Wynedd 5 o ysgolion gyda llai na 15 o blant fis Medi nesaf, a bod gennym 16 o ysgolion gyda llai na 30 o blant ar hyn o bryd.

 

Holwyd a oedd yn amser i edrych ar gau ysgolion eto.  Nodwyd y gofynnid y cwestiwn er tegwch i blant y sir i gyd o ystyried bod holl ysgolion bach Bro Dysynni wedi cau eisoes.  Mewn ymateb, nodwyd ei bod yn ofynnol cytuno ar strategaeth addysg sy’n edrych ar bopeth ac yn gosod cyfeiriad o ran y maes yma, a gwerthfawrogid mewnbwn y craffwyr i’r strategaeth pan fydd yn barod.

 

Holwyd beth oedd yr amserlen o ran paratoi’r Strategaeth Addysg.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod nifer o sesiynau ymgysylltu wedi’u cynnal eisoes gyda’r penaethiaid cynradd, uwchradd ac arbennig o ran y cyfeiriad.

·         Bod strategaeth wedi’i pharatoi ar ffurf drafft a byddai angen cael mewnbwn yr Aelod Cabinet newydd iddi.

·         Yn dilyn yr ymgysylltu gyda’r penaethiaid, bod bwriad i fynd yn ôl at yr ysgolion i egluro’r hyn a ragwelir fel y ffordd ymlaen.

·         Ei bod yn amlwg o’r drafodaeth gyda’r ysgolion bod pawb yn cytuno bod y drefn bresennol yn anghynaladwy, ond nad oedd neb yn cytuno ar y ffordd ymlaen.

 

Holwyd sut roedd yr ymgynghori gyda’r ysgolion yn gweithio.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Nad oedd yna unrhyw ymgynghori ffurfiol wedi digwydd gyda’r ysgolion hyd yma o ran unrhyw strategaeth, eithr ymgysylltwyd â hwy er mwyn gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i’w ddweud o ran y ffordd ymlaen.

·         Y daethpwyd ag ysgolion o’r un maint yn yr un ardal at ei gilydd gan ei bod yn haws i bobl siarad yn agored o ran eu profiadau gyda phenaethiaid eraill sy’n gweithio o fewn yr un cyd-destun o ran niferoedd plant.

·         Bod yr ymarferiad wedi bod yn werthfawr iawn a dysgwyd llawer am y meddylfryd yn yr ysgolion.

·         Yr ymgysylltwyd â’r sector uwchradd hefyd, ond yn fwy ar lefel ardaloedd, a chafwyd trafodaeth agored iawn gyda hwythau ynglŷn â’r ffordd ymlaen.  Cynhaliwyd trafodaeth gyda’r sector arbennig hefyd o ran y cyfeiriad a byddai angen mynd drwy’r Fforymau Strategol, ayb, hefyd.

 

Nododd yr Aelod Cabinet:-

·         Y dymunid dod â’r Strategaeth gerbron y pwyllgor hwn a thrwy’r sianelau cywir pan fydd yn barod.

·         Y llawn sylweddolid bod hwn yn fater sensitif a dymunid ymdrin â hyn yn y ffordd fwyaf sensitif bosib’.

·         Y dymunid sicrhau’r craffwyr bod bwriad i ymgynghori’n llawn ar y Strategaeth.

·         Bod y data a gynhwyswyd yn yr adroddiad gerbron y cyfarfod hwn o’r pwyllgor yn dangos nad yw’r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy, a bod hynny o ganlyniad i 15 mlynedd o lymder a thoriadau.

·         Y byddai yna benderfyniadau anodd iawn i’w gwneud maes o law, ond y byddai’r Adran yn gwneud eu gorau i fod yn greadigol o ran canfod atebion ac yn gweithio gyda’r cynghorwyr a chymunedau a phobl Gwynedd.

 

Nodwyd bod y sir yn colli tua 150 o ddisgyblion cynradd bob blwyddyn a phwysleisiwyd bod hynny’n amlygu’r angen i gael strategaeth, neu o leiaf strategaeth interim, yn ei lle.  Nodwyd bod y pwyllgor wedi craffu strategaeth ddrafft yn ôl ym mis Medi 2023 a holwyd beth oedd wedi dal y gwaith yn ei ôl.  Mewn ymateb, nodwyd gan mai hon fyddai Strategaeth Addysg Gwynedd am y 10 mlynedd nesaf, bod y Pennaeth Addysg yn awyddus i gael dogfen sydd, nid yn unig yn amlygu’r penawdau a’r hyn a ddeisyfir, ond hefyd yn manylu ar y cyfeiriad a sut y bwriedir gwireddu’r amcanion hynny.  Nid oedd y strategaeth ddrafft a gyflwynwyd i’r pwyllgor ym Medi 2023 yn gwneud hynny.

 

Croesawyd yr adroddiad gerbron y cyfarfod hwn o’r pwyllgor gan fod y data brawychus ynddo yn galluogi i’r craffwyr edrych ar y broblem yn gwbl gignoeth.

 

Holwyd a glustnodwyd dyddiadau ar gyfer camau’r broses o baratoi a chwblhau’r Strategaeth Addysg.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y bwriedid gorffen llunio’r Strategaeth ddrafft yn ystod Tymor y Gwanwyn, gan ymgynghori arni ddiwedd Tymor y Gwanwyn / dechrau Tymor yr Haf.

·         Bod pethau eraill yn mynd i orfod digwydd yn y cyfamser ac y byddai hynny i’w weld dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

 

Awgrymwyd mai’r hyn fyddwn yn ei wynebu yn y dyfodol fydd llai o ysgolion, llai o ddosbarthiadau fesul blwyddyn yn yr ysgolion hynny yn achos ysgolion uwchradd, a’r dosbarthiadau hynny yn fwy.  Yn sgil hynny, cwestiynwyd sut bod yr adroddiad plaen a gonest gerbron y cyfarfod hwn yn cyd-fynd ag adroddiadau a chynlluniau eraill a chynllun Gwynedd Yfory, sy’n sôn am gynnig yr addysg o’r safon orau, gan gynnwys mynediad at ystod o bynciau ayb.  Holwyd ai propaganda oedd dweud bod popeth yn hyfryd.  Awgrymwyd, yn yr hirdymor, y byddwn yn gweld dirywiad wedi’i reoli yn yr ardaloedd gwledig Cymreig gyda chartrefi gofal yn Nwyfor a Meirionnydd ac ysgolion yn Arfon, a’r boblogaeth ifanc yng nghanol y sir a’r boblogaeth hen ar y cyrion (sef tueddiad sydd wedi cychwyn eisoes).  O ran y blynyddoedd nesaf, holwyd beth fydd effaith hyn oll ar yr ystod gwricwlaidd a gynigir yn yr ysgolion, yn benodol pynciau TGAU fel Ffrangeg, Cerdd a Chyfrifiadureg, sy’n bwysig iawn o ran cyfoethogi addysg plant.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y gostyngiad mewn niferoedd plant i’w deimlo ar hyd a lled Gwynedd, ac nid yn yr ardaloedd gwledig yn unig.  Gwelwyd gostyngiad gwirioneddol mewn llefydd fel Caernarfon, Bangor a Bethesda.

·         O ran y pynciau TGAU, ei bod yn wirioneddol heriol i gynnal yr ystod pynciau y dymunir ei gael mewn ysgolion ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 10 ac 11.  Gall fod yn anodd cael digon o ddisgyblion i ddewis y pynciau i gyfiawnhau’r gost o gyflwyno’r cwrs.  Hefyd, mae’n her cael arbenigwyr i ddysgu’r pynciau.  Gan na fyddai’r arbenigwyr hynny yn gallu dysgu eu pwnc 5 diwrnod yr wythnos, byddent yn cael eu hymestyn i ddysgu pob math o bynciau eraill, ac nid o reidrwydd pynciau o’u dewis.

 

Holwyd a roddwyd ystyriaeth i ddysgu pynciau TGAU traddodiadol fel Ffrangeg a Chyfrifiadureg o bell.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod cynllun sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru mewn lle eisoes ac yn cael ei ddefnyddio gan nifer o ysgolion mewn ardaloedd gwledig o Gymru.

·         Nad oedd dysgu o bell yn addas ar gyfer pawb a chredid ei fod yn fwy addas ar gyfer plant hŷn a mwy aeddfed o ran y gallu i ganolbwyntio ar dasg ayb.

·         Bod angen aelod o staff yn y dosbarth ac arbenigwr ar-lein, felly roedd y costau, er yn llai, yn dal yna.

·         Er sicrhau’r un profiad i bob plentyn, bod pawb yn cael eu dysgu’n rhithiol, hyd yn oed petai’r arbenigwr yn gweithio o ystafell arall yn yr un ysgol â rhai o’r disgyblion, ond nid oedd hynny bob amser yn taro deuddeg gyda rhieni.

 

Nododd yr Aelod Cabinet:-

·         Ei fod yn llwyr ymwrthod â’r sylwadau gan aelod ynglŷn â dirywiad wedi’i reoli yn yr ardaloedd gwledig Cymreig a phropaganda, ac fel Aelod Cabinet, ei flaenoriaeth oedd gweld Gwynedd Yfory yn rhoi pob cyfle bosib’ i holl blant y sir.

·         Wrth orfod ail-strwythuro ac ail-edrych ar bethau, bod cyfle gwirioneddol yma i allu darparu addysg well, ac ystod ehangach o addysg.  Gobeithid hefyd bod modd edrych ar well darpariaeth a chynhaliaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Nodwyd bod y ffigurau cronnus o ran cyllideb un ysgol am y tair blynedd nesaf yn peri pryder, ac awgrymwyd, os oedd hynny’n gyffredin o’r sefyllfa ar draws y sir gyfan, y byddwn mewn sefyllfa reit ddifrifol ymhen tua 3 blynedd.  Yn wyneb hynny, gofynnwyd am gadarnhad y bydd gennym strategaeth fydd yn gweithio.  Mewn ymateb, cadarnhawyd y bydd y Strategaeth yn gweithio.

 

Nodwyd y cyfeirir weithiau at Strategaeth Addysg ac at Strategaeth Ysgolion ar adegau eraill, a gofynnwyd am sicrwydd bod y ddau beth yn union yr un fath.  Gofynnwyd hefyd am sicrwydd mai strategaeth ddrafft, ac nid y strategaeth derfynol, fydd yn dod gerbron y pwyllgor hwn maes o law fel bod modd i’r craffwyr roi eu barn ar y cynnwys.  Nodwyd ymhellach bod gan Wynedd Strategaeth Addysg arbennig o dda tua 15 mlynedd yn ôl, oedd yn edrych ar ysgolion ar draws y sir ac yn llunio opsiynau gwahanol.  Fodd bynnag, nid oedd dim byd pellach wedi digwydd ers hynny, ac awgrymwyd, pan fydd cyfleoedd yn codi, y dylid edrych ar opsiynau megis ffederaleiddio ysgolion, creu rhagor o ysgolion gydol oes neu rannu pennaeth rhwng 2-3 ysgol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Mai un Strategaeth Addysg sy’n bodoli ac y bydd yn cynnwys y gyrwyr o ran pam bod rhaid newid a beth yw ein huchelgais.  Bydd yn edrych hefyd ar unrhyw gyfleoedd sy’n codi, sut i ymateb i’r cyfleoedd hynny o safbwynt dyfodol ysgolion a sut y gellir gweithio i rannu penaethiaid, ayb, wrth symud ymlaen.

·         Y bydd y Strategaeth Addysg yn cael ei chyflwyno i’r pwyllgor hwn ar ffurf drafft.

 

Holwyd a oes gan ysgolion sydd ddim yn gwneud defnydd llawn o’u harian cynhwyso i gynhwyso plant record waeth o ran gwahardd disgyblion nag ysgolion sy’n defnyddio’r arian yn llawn, ac efallai’n rhoi ychydig bach yn ychwanegol o’u prif gyllideb i sicrhau bod plant yn cael eu cynhwyso yn llawn.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Ers cau Ysgol Coed Menai ac Uned Gyfeirio Bryn Llwyd ym Mangor ac Uned Gyfeirio Glan Wnion yn Nolgellau, bod y sector uwchradd yn derbyn tua £1.2m o grant cynhwysiad ar gyfer cynhwyso plant ac i sicrhau bod plant yn cael eu cynnal o fewn ysgolion a thrwy hynny leihau gwaharddiadau a gwella presenoldeb.

·         Bod anghenion plant wedi newid dros y blynyddoedd gyda’r ysgolion bellach yn cefnogi mwy o blant gydag anghenion emosiynol a bregustod o ran eu gallu i fynychu’r ysgol, ayb, fel nad oes yna lawer o ddarpariaeth, os o gwbl, ar ôl ar gyfer plant gyda phroblemau ymddygiad gwirioneddol.

·         Er bod anghenion plant wedi dwysau, bod y grant wedi aros yr un fath.

·         Bod y defnydd o’r grant yn cael ei fonitro i raddau.  Byddai’n ddymunol gwneud mwy o waith monitro oherwydd, mewn cyfnod o lymder ariannol, gallai fod yn demtasiwn i sawl pennaeth ddefnyddio’r arian at ddibenion eraill o fewn eu hysgolion, megis darparu gwersi ychwanegol i’r haen uwch.  Dyma’r math o beth y gofynnid i’r swyddogion ei wneud y flwyddyn nesaf.

 

Holwyd a oedd perygl bod rhai ysgolion sydd â 6ed dosbarth (sy’n cael ei ariannu gan Medr – Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil) yn defnyddio arian o’u prif gyllideb i sybsideiddio’r 6ed dosbarth.  Mewn ymateb, nodwyd y gallai hynny ddigwydd, ond mai mater i gyrff llywodraethol ysgolion oedd penderfynu ar y defnydd o’u harian craidd.  Nodwyd y gallai ddigwydd i’r gwrthwyneb hefyd gydag arian grant Medr yn sybsideiddio’r gyllideb graidd i raddau.

 

Mynegwyd pryder y gallai disgyblion Blynyddoedd 7-11 golli allan os yw arian craidd yr ysgol yn cael ei ddefnyddio i sybsideiddio’r 6ed dosbarth.  Mewn ymateb, awgrymwyd bod hynny’n fater i gynghorwyr sy’n aelodau o gyrff llywodraethol ysgolion ei godi yn eu cyfarfodydd llywodraethwyr pe dymunent.

 

Erfyniwyd ar yr Adran i geisio sicrhau bod ysgolion anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu gwarchod o unrhyw doriadau unwaith yn rhagor gan eu bod yn derbyn llawer llai o arian nag ysgolion eraill yng Nghymru.  Mewn ymateb, nodwyd, er na ellid rhoi unrhyw addewid, y byddai’r Adran yn gwneud eu gorau i sicrhau hynny.  

 

Nodwyd y tybid y byddai’r gostyngiad mewn niferoedd plant yn uwch o dipyn yn Nwyfor a Meirionnydd o gymharu ag Arfon, sy’n fwy trefol, a gofynnwyd a fyddai’n bosib’ rhannu data fesul ysgol gyda’r aelodau er mwyn gweld maint y dirywiad yn yr ardaloedd gwledig.  Mewn ymateb, cytunwyd i rannu’r data treigl o ran niferoedd plant ar draws yr holl sectorau gyda’r aelodau.

 

Nodwyd bod rhai ysgolion wedi llwyddo i amddiffyn eu hunain rhag toriadau yn y gorffennol trwy ddefnyddio balansau, ond wrth i’w balansau leihau, byddai’r sefyllfa yn mynd yn fwy anodd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod nifer o ysgolion yn gwneud defnydd o falansau i osod cyllidebau.

·         Bod yr Adran yn cynghori ysgolion ar newidiadau staffio ymhell ymlaen llaw a bod y defnydd o falansau o gymorth i hwyluso’r newid.

·         Na chaniateid i ysgolion osod cyllidebau gan ddefnyddio balansau heb gael trafodaeth ystyrlon ynglŷn â’u cynlluniau ar gyfer yr adeg pan fydd y balansau hynny wedi darfod.

·         Bod y sgwrs yn mynd yn gynyddol anodd wrth i niferoedd plant ostwng hefyd.

 

Diolchwyd i’r Adran am y gefnogaeth a roddir i benaethiaid sy’n mynd drwy’r broses o ddiswyddo staff oherwydd gormodedd a hefyd wrth iddynt osod eu cyllidebau o flwyddyn i flwyddyn.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod yna lawer o gefnogaeth a chynhaliaeth ar gael ar gyfer y broses gormodedd, ac y dymunid diolch i’r undebau a’r swyddogion cyllid, addysg ac adnoddau dynol am eu gwaith arbennig o dda yn cefnogi’r ysgolion.

·         Bod y broses gormodedd yn cychwyn ym mis Ionawr bellach, yn hytrach nag ym mis Tachwedd, fel bod y sefyllfa o ran y dyraniad cyllidol yn gliriach.

·         Bod yna falansau mawr mewn rhai ysgolion o hyd a bod hynny’n beth da yn yr ystyr bod yr ysgolion hynny wedi gallu bod yn ddarbodus o ran eu defnydd o gyllid. 

·         Bod lefelau’r balansau yng Ngwynedd yn parhau yn eithaf uchel yn gyffredinol, ond nid ymhob ysgol.

 

PENDERFYNWYD

1.         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.         Gofyn i’r Adran Addysg rannu gydag aelodau’r pwyllgor:-

(a)       data treigl fesul ysgol;

(b)      diweddariadau rheolaidd ar ddatblygiad Strategaeth Addysg Gwynedd.

3.         Bod y pwyllgor yn craffu’r Strategaeth Addysg ddrafft pan yn amserol.

 

 

Dogfennau ategol: