Cyflwyno adroddiad ar yr uchod.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd –
adroddiad gan yr Aelod Cabinet Addysg yn:-
·
egluro’r cefndir a’r rhesymeg dros y gorwariant
hanesyddol ym maes cludiant addysg;
·
adrodd ar gynnydd a’r camau gweithredu sydd wedi’u
cymryd mewn ymateb i’r sefyllfa; ac yn
·
cyflwyno opsiynau sydd dan ystyriaeth o ran
trefniadau cludiant addysg i’r dyfodol er mwyn ceisio rhesymoli a lleihau’r
costau ble’n ymarferol bosib’.
Gosododd yr Aelod
Cabinet y cyd-destun a rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.
Nodwyd y cydnabyddid bod yna brinder tacsis
yn ardal Meirionnydd yn benodol a bod hynny yn sicr o fod yn creu costau uchel
i’r Cyngor. Holwyd beth y bwriedid ei
wneud o ran hynny. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Bod
yna brinder darparwyr cludiant mewn sawl ardal a bod hynny’n gallu arwain at
brisiau uwch ar gyfer darparu gan fod rhaid i’r gyrrwr neu’r tacsi deithio o
fwy o bellter i wneud y gwaith.
·
Bod
yr adroddiad yn cyfeirio at nifer o bethau ymarferol y gellid eu gwneud
ynglŷn â’r sefyllfa a bod yr Adran yn edrych ar bob opsiwn posib’ wrth
symud ymlaen.
Gan gyfeirio at y rhaglen waith ym
mharagraff 4.1.1 o’r adroddiad sy’n cyfeirio at ail-edrych ar drefniadau
cludiant dysgwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol, gofynnwyd i’r Adran beidio rhoi’r
plant a’r bobl ifanc yma mewn bocs ac i gydnabod bod ganddynt anableddau
gwahanol, ac nid anableddau corfforol yn unig.
Nodwyd bod angen ystyried plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau niwroamrywiol gan ofyn am gyngor cyfreithiol cyn llunio
unrhyw feini prawf neu gynllun ar gyfer dysgwyr ADY. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Bod
y cyfeiriad yn yr adroddiad at ail-edrych ar drefniadau cludiant dysgwyr ADY
fwy i ymwneud ag ail-edrych ar yr amserlen, yn hytrach na’r ddarpariaeth fel
bod modd tendro’r ddarpariaeth yn gynt ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yma er
mwyn cael y pris gorau.
·
O
ran y sylw ehangach ynglŷn â chludiant ADY, bod rhaid ystyried anghenion
pob plentyn wrth gwrs ac ni chredid y byddai hynny’n newid mewn unrhyw
drefniadau a wneid, ond o bosib’ ein bod yn edrych ar ffordd wahanol ac ychydig
mwy cost effeithiol o ddarparu cludiant i’r dyfodol.
·
Y
cynhaliwyd nifer o sgyrsiau diweddar gydag Ysgol Hafod Lon o ran adnabod
anghenion gwahanol blant ac adnabod pa blant fyddai’n gallu teithio gyda’i
gilydd, pa blant na fyddai’n addas i wneud hynny a pha blant sydd angen
tywyswyr, ayb.
Nodwyd, wrth edrych ar y cynllun, bod rhaid
cydnabod bod unrhyw newid bach fel newid tacsi yn gallu bod yn niweidiol i
ddysgwyr ADY. Mewn ymateb, nodwyd bod hynny
yn mynd i orfod cael sylw wrth symud ymlaen er mwyn sicrhau bod anghenion y
dysgwyr ar y daith yn cael eu cyfarch a dyna pam, wrth fynd allan i dendro, bod
angen bod yn fwy clir ynglŷn â’n gofynion a’n disgwyliadau ar gyfer y
dysgwyr hynny.
Nododd yr Aelod Cabinet:-
·
Y
cytunid â’r sylw bod angen rhoi ystyriaeth hefyd i anghenion dysgwyr sydd â
chyflyrau niwroamrywiol a’i bod yn bwysig
ymgynghori’n llawn ar hyn gydag arbenigwyr yn y maes.
·
Bod
rhaid gwneud popeth i osgoi effaith negyddol ar unrhyw un gan arddel
hyblygrwydd fel bod modd addasu’r drefn ar gyfer unigolion sydd ag anghenion
gwahanol.
·
Petai
raid cyflwyno newid, bod y newid hwnnw yn cael ei gyfathrebu yn glir ac yn cael
ei gyflwyno’n raddol fel bod y dysgwr yn cael amser i ymgyfarwyddo â’r newid,
a’u bod yn rhan o’r ymgynghori hefyd.
Nodwyd bod pryder yn Ne Meirionnydd y bydd
pobl ifanc, o bosib’, yn gorfod talu am gludiant i Goleg Meirion Dwyfor ac nad
oedd amserlenni’r bysiau yn cyd-fynd â’r diwrnod coleg. Mewn ymateb, nodwyd bod newidiadau wedi bod
yn ddiweddar o ran yr amserlenni cludiant cyhoeddus ym Meirionnydd ac y
byddai’n rhaid i’r Adran adolygu’r amserlenni eto a gweld sut mae modd
gwasanaethu safleoedd yn well yn y rhan honno o’r sir.
Nodwyd bod cludiant ôl-16 i’r colegau yn
hanfodol i bobl ifanc yn ardal Meirionnydd a Dwyfor gan nad oes 6ed dosbarth yn
yr ysgolion. Awgrymwyd y dylid gofyn i’r
Aelod Cabinet Addysg gysylltu gyda Llywodraeth
Cymru yng nghyswllt cyflwyno tocyn teithio am ddim i bobl ifanc 16-21 oed er
mwyn lleihau’r pwysau ar y Cyngor i ddarparu trafnidiaeth am ddim, ac i hwyluso
teithio i’r gwaith, i goleg neu chweched dosbarth. Mewn ymateb, nododd yr Aelod Cabinet ei fod
yn croesawu’r cais a bod pobl ifanc Gisda hefyd yn lobio am gyflwyno tocyn
teithio am ddim i bobl ifanc.
Gan gyfeirio at baragraff 3.3 o’r adroddiad,
gofynnwyd am fwy o esboniad ynglŷn â chludiant all-sirol. Mewn ymateb, nodwyd bod nifer fechan iawn o
ddisgyblion gydag anghenion dwys yn mynychu darpariaethau arbenigol addysgol ar
hyd Gogledd Cymru, a rhai gydag anghenion dwys iawn yn teithio ymhellach na
hynny. Darperir cludiant tacsi i fynd â
hwy i’r lleoliad ar ddydd Llun ac i ddod â hwy yn ôl adref ar ddydd Gwener.
Holwyd pam bod costau cludiant i ysgolion
arbennig wedi dyblu mewn blwyddyn. Mewn
ymateb, nodwyd mai cynnydd yn y niferoedd plant a’r gost o ran y darparwyr oedd
yn gyfrifol am hynny.
Holwyd a oedd y Cyngor yn darparu unrhyw
gludiant anstatudol. Mewn ymateb,
nodwyd:-
·
Bod
cynllun seddi gweigion y Cyngor yn gynllun anstatudol sy’n caniatáu i unrhyw
sy’n dymuno cael sedd sy’n wag dalu amdani, ond gan ei bod yn bosib’ na
fyddai’r sedd honno yn wag y flwyddyn ganlynol, roedd hynny’n creu problemau i
deuluoedd a phobl ifanc o safbwynt cysondeb a pharhad cludiant i unigolion.
·
Mai’r
elfen arall anstatudol yw’r tocyn teithio ôl-16.
Holwyd, gan fod cyllidebau ysgolion yn cael
eu gwasgu, oedd perygl y gallai rhieni geisio symud eu plant i ysgol arbennig
yn hytrach na’u cadw mewn ysgol prif lif, a thrwy hynny greu mwy o gostau
cludiant i’r Awdurdod. Mewn ymateb,
nodwyd bod mynediad i ysgolion arbennig yn ymwneud ag anghenion y plant yn
hytrach na dymuniad y rhieni a bod yna banel cymedroli a phroses finiog iawn ar
gyfer pennu mynediad i’r ysgolion hynny.
Nodwyd bod paragraff 3.5 o’r adroddiad yn
cyfeirio at broses dendro bob 5 mlynedd ar gyfer darpariaeth bysiau, ond bod
paragraff 4.2 yn adrodd bod yna ail-dendro wedi bod er mwyn arbed arian. Cwestiynwyd a oedd hynny’n deg â’r cwmnïau
bysiau lleol sydd wedi disgwyl y bydd eu cytundeb yn parhau am 5 mlynedd. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Fel
gydag unrhyw gytundeb tendro, bod yna gymal o fewn y dogfennau sy’n caniatáu
i’r Cyngor ail-dendro’r ddarpariaeth os yw amgylchiadau’n newid, a bod y
darparwyr yn ymwybodol o’r hawliau hynny.
·
Nad
oedd y Cyngor yn torri unrhyw reolau. O
bosib’ bod yna effaith ar gwmnïau lleol yn sgil hynny, ond roedd yn ofynnol i’r
Cyngor ddarparu gwasanaeth yn unol â’i anghenion.
Holwyd oes modd rhagweld maint y gostyngiad
mewn niferoedd plant dros gyfnod y cytundeb fel bod darparwyr yn ymwybodol wrth
dendro y gall y gofyn am eu gwasanaeth leihau.
Mewn ymateb, nodwyd bod yr Uned Cludiant Integredig yn gallu rhagweld i
bwynt, ond bod amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor yn gallu newid hefyd,
er enghraifft, gallai newidiadau i lwybrau bysiau cyhoeddus hepgor yr angen am
y gwasanaeth gan fod bws cyhoeddus yn dilyn llwybr tebyg.
Ar bwynt o gywirdeb, nodwyd bod angen cywiro
dau ffigwr yn y tabl ym mharagraff 3.7 o’r adroddiad, ac y byddai’r Adran yn
anfon y ffigurau cywir at yr aelodau.
PENDERFYNWYD
1.
Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau, yn arbennig y sylw ynglŷn â bod yn ymwybodol o anghenion
penodol rhai grwpiau o blant wrth gynllunio’r ddarpariaeth.
2.
Nodi pwysigrwydd
darpariaeth teithio i’r coleg ar gyfer pobl ifanc yn Nwyfor a Meirionnydd.
3.
Gofyn i’r Aelod Cabinet
Addysg gysylltu gyda Llywodraeth Cymru yng nghyswllt cyflwyno tocyn teithio am
ddim i bobl ifanc 16-21 oed er mwyn lleihau’r pwysau ar y Cyngor i ddarparu
trafnidiaeth am ddim, ac i hwyluso teithio i’r gwaith, i goleg neu chweched
dosbarth.
Dogfennau ategol: