Cyflwynwyd gan:Cyng. Llio E. Owen
Penderfyniad:
Derbyniwyd
y Cynllun Llesiant fel cynllun ar gyfer cefnogi a hybu llesiant staff tros y
blynyddoedd nesaf.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Cyng. Llio Elenid Owen.
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd y Cynllun Llesiant fel
cynllun ar gyfer cefnogi a hybu llesiant staff tros y blynyddoedd nesaf.
TRAFODAETH
Atgoffwyd bod
Cynllun Llesiant Staff yn weithredol a'i fod wedi derbyn Gwobr Lefel Aur gan
Lywodraeth Cymru nifer o weithiau am Safon Iechyd Corfforaethol. Er hyn,
eglurwyd bod cyfnod Covid wedi arwain at nifer o
newidiadau i lesiant staff ac mae anghenion yn dra gwahanol erbyn hyn, i’r
disgwyliadau cyn y pandemig. Eglurwyd ei fod yn amserol i adolygu’r Cynllun yn
llawn er mwyn sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn addas i bwrpas i’r dyfodol.
Adroddwyd bod y
Cynllun Llesiant yn ymdrin â nifer o ddyletswyddau megis y ddyletswydd foesol i
warchod iechyd a llesiant staff. Manylwyd bod y Cynllun hefyd yn cyfarch
dyletswyddau cyfreithiol i warchod diogelwch, iechyd a llesiant staff. Eglurwyd
hefyd bod dyletswyddau ariannol o fewn y Cynllun Llesiant er mwyn sicrhau bod y
staff yn iach a bodlon. Cadarnhawyd bod costau absenoldebau salwch dros y
flwyddyn ddiwethaf yn £5.7m.
Cadarnhawyd bod ‘Gweithlu Iach a Bodlon’ yn
ffrwd gwaith o fewn Cynllun Ffordd Gwynedd gan ei fod yn ddull o ddenu
gweithwyr newydd, cadw gweithwyr presennol, gostwng cyfraddau absenoldeb salwch
a gwella perfformiad a datblygiad staff y Cyngor. Ymfalchïwyd bod rhan gyfan
o’r Holiadur Llais Staff wedi manylu ar lesiant staff eleni ac mae’r canlyniadau
wedi cael eu bwydo mewn i’r cynllun.
Eglurwyd bod tri
sylfaen i’r Cynllun newydd sef ‘Arwain a Rheoli’, ‘Cefnogaeth gynaliadwy’ ac
‘Yr Amgylchedd Waith’. Eglurwyd bod sylfaen ‘Arwain a Rheoli’ yn ymgymryd â
datblygu Arweinyddion a Rheolwyr i gefnogi llesiant staff yn well gan roi
pwyslais ar rôl greiddiol y Rheolwyr i gefnogi llesiant. Ymhelaethwyd bod y
sylfaen ‘Cefnogaeth Gynaliadwy’ yn sicrhau bod trefniadau mewn lle megis
cynigion cwnsela, ffisiotherapi, gwiriadau iechyd a chefnogaeth Uned Iechyd
Galwedigaethol yn parhau er mwyn cynnig cefnogaeth llesiant meddyliol,
corfforol, cymdeithasol ac ariannol. Tynnwyd sylw bod sylfaen ‘Yr Amgylchedd
Waith’ yn ffocysu ar weithleoedd yn y Cyngor er mwyn sicrhau bod yr adeiladau
yn hybu llesiant tra hefyd yn cefnogi timoedd os oes patrymau absenoldebau yn
codi.
Cadarnhawyd bod y Cynllun Llesiant wedi
dilyn proses ymgynghori cyn ei gyflwyno i’r Cabinet gan ei fod wedi derbyn
mewnbwn gan y Tîm Rheoli Corfforaethol, Fforwm Iechyd Diogelwch a Llesiant,
Panel Iechyd Diogelwch a Llesiant, y Rhwydwaith Rheolwyr a staff y Cyngor
drwy’r Holiadur Llais Staff.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
· Gofynnwyd a yw’r costau absenoldebau salwch yn uchel o’i gymharu gydag
Awdurdodau eraill.
o
Mewn ymateb i’r cwestiwn, cadarnhaodd Pennaeth Adran
Gwasanaethau Corfforaethol nad yw pob Awdurdod Lleol yn adrodd ar y niferoedd
hyn. Fodd bynnag, cadarnhawyd mai costau Cyngor Gwynedd yw’r lleiaf ond un o
ystyried ffigyrau’r 13 Awdurdod Lleol sy’n datgelu’r wybodaeth.
· Cefnogwyd y Cynllun gan ei fod yn arwain at waith Ataliol pwysig iawn.
Pwysleisiwyd bod hyrwyddo gweithgareddau a’r gefnogaeth sydd ar gael yn holl
bwysig i iechyd a llesiant staff. Ychwanegwyd ei fod yn bwysig derbyn adborth
gan staff am y cynigion hyn gan ddiolch i’r Adran am ei gynnwys o fewn yr
Holiadur Llais Staff.
· Ystyriwyd sylfaen ‘Arwain a Rheoli’ yn un pwysig iawn ac ymfalchïwyd ei fod
yn rhan allweddol o’r Cynllun yn dilyn yr adolygiad. Gofynnwyd a fydd mesuriad
yn cael ei wneud o’r newid agwedd a llwyddiant y sylfaen hwn gan ei fod yn
sylfaen newydd i’r Cynllun.
o
Eglurwyd bod y Cynllun
Llesiant bellach yn rhan o Gynllun Ffordd Gwynedd a chadarnhawyd bod proses
arfarnu yn cael ei weithredu fel rhan o system fonitro’r Cynllun hwnnw.
Cadarnhawyd y golyga hyn bod gofyniad i bob adran arfarnu eu datblygiad gyda’r
sylfaen hwn yn rheolaidd.
· Gofynnwyd a oes modd adnabod Adrannau neu Wasanaethau penodol sydd yn profi
mwy o absenoldebau staff nag eraill.
o
Mewn ymateb i’r cwestiwn, cadarnhaodd Pennaeth Adran
Gwasanaethau Corfforaethol bod modd canfod y data yma. Ymhelaethwyd bod polisi
rheoli ac adrodd ar absenoldebau wedi cael ei fabwysiadu eleni gan ddefnyddio’r system hunanwasanaeth er
mwyn cefnogi’r Adrannau. Cadarnhawyd bod hyn wedi arwain at ddarlun cyflawn o
heriau absenoldebau staff. Pwysleisiwyd bod gwaith pellach yn mynd rhagddo er
mwyn canfod ymyraethau a datrysiadau pellach i unrhyw wasanaethau sydd yn profi
heriau absenoldebau uchel.
Diolchwyd i’r
Pennaeth Adran a’r Pennaeth Cynorthwyol am eu gwaith o arwain datblygiad y
Cynllun Llesiant. Diolchwyd hefyd i’r Cynghorydd Menna Trenholme am ei
chefnogaeth i’r Adran dros y blynyddoedd diwethaf.
Awdur:Ian Jones, Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol a Catrin Love, Pennaeth Cynorthwyol - Gwasanaethau Corfforaethol
Dogfennau ategol: