Agenda item

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·        Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

Nodyn:

Cyfeirio argymhellion yr adroddiad at sylw’r Pwyllgor Craffu Gofal

Rhannu adroddiad ‘Llechen Lan’ gydag Aelodau’r Pwyllgor

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cadeirydd yn manylu ar brif ddarganfyddiadau cyfarfod diweddar o’r Gweithgor Gwella Rheolaethol wrth iddynt drafod archwiliadau Plas Pengwaith, Llys Cadfan a Plas Hafan. Adroddwyd bod yr archwiliadau wedi derbyn lefel sicrwydd ‘cyfyngedig’ a hynny oherwydd, “er bod rheolaethau mewn lle, bod angen gwella cydymffurfiaeth â’r rheolaethau a / neu gyflwyno rheolaethau newydd i leihau’r risgiau maer’ gwasanaetha yn agored iddynt”. Eglurwyd bod y Gweithgor Gwella yn gyfle i holi’r swyddogion perthnasol am ddarganfyddiadau’r archwiliadau gan fynd i’r afael a’r prif faterion / diffygion. Ategwyd mai materion rheolaethol oedd wedi derbyn sylw ac nad oedd yr archwiliadau yn adlewyrchu dim ar safon y gofal a roddir i’r preswylwyr sydd bob amser yn derbyn blaenoriaeth, ac yn eu hiaith ddewisol.

 

Nodwyd mai’r prif resymau dros y  gwendidau rheolaethol oedd diffyg adnoddau staffio a'r pwysau a roddi’r i’r Rheolwyr o ganlyniad i hynny. Trafodwyd diffyg recriwtio a chadw staff a dibyniaeth ar staff asiantaethau  yn dilyn newidiadau i’r strwythur tal yn dilyn colli hawl i chwydd-daliad.

 

Cytunwyd yn y Gweithgor y byddai’n fuddiol i’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gynnal adolygiad ar y cyd gydag Archwilio Mewnol i edrych ar wariant staff asiantaeth a'r goblygiadau ariannol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Bod y cyfarfod wedi bod yn fuddiol - yn rhoi cyfle i swyddogion a rheolwyr y cartrefi ymateb yn onest i’r sefyllfa

·        Pryder am gostau staff asiantaethau - cytuno bod angen cynnal adolygiad i geisio cadw staff o dan reolaeth Cyngor Gwynedd - byddai hyn yn lleihau trosiant

·        Awgrym am grynodeb o’r materion sydd angen sylw i’w cynnwys ar ddiwedd yr adroddiad

·        Bod angen cyfeirio argymhellion yr adroddiad at sylw’r Pwyllgor Craffu Gofal

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â bwriad y Canghellor i osod yswiriant gwladol ar gyfraniadau pensiwn cyflogwyr ac o ganlyniadau y byddai asiantaethau gofal yn gorfod talu costau cyflogi uwch, a’r pryder y bydd hyn yn gwaethygu’r sefyllfa staffio, nodwyd er nad oedd manylion wedi eu cadarnhau, y bydd gweithwyr y sector cyhoeddus yn cael eu heithrio o’r newid, a hynny oherwydd byddai’n rhaid i adrannau’r llywodraeth wneud toriadau sylweddol i’w cyllidebau i ariannu’r newid. Ategwyd fod disgwyl bydd y Cyngor yn cael eu had-dalu am gostau yswiriant gwladol staff cartrefi’r Cyngor, ond nad oes disgwyl y bydd iawndal o’r fath yn daladwy ar gyfer staff sy’n cael eu cyflogi trwy asiantaethau.

 

Ategodd  Aelod Cabinet Cyllid ei fod wedi bod mewn trafodaethau gyda Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Cabinet Cymru am y sefyllfa a bod disgwyl mwy o fanylion yn Ionawr 2025. Bydd y manylion yn rhoi darlun o’r effaith ar y gyllideb - swm sydd yn debygol o fod oddeutu £5 miliwn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyflogau gweithwyr gofal, nododd y Rheolwr Archwilio, er bod codiad cyflog wedi ei gyflwyno yn y blynyddoedd diwethaf, nad oedd yn ddigonol;  bod y tal penwythnos (y chwydd - ddaliad) wedi bod yn ‘hanesyddol ddeniadol’ a bellach staff yn gadael oherwydd telerau gwell yn y maes iechyd a thu hwnt.

 

Mewn ymateb i’r adroddiad, nododd Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod y swyddogion oedd wedi mynychu’r gweithgor wedi ei weld fel ymarferiad defnyddiol ac yn gyfle da i gael sgwrs ehangach i drafod sefyllfa tu hwnt i’r hyn sydd yn cael ei gynnwys mewn adroddiad archwilio. Ategodd bod bwriad ymateb i’r canfyddiadau a’i fod yn croesawu adolygiad i gostau staff asiantaeth o ystyried bod cynnydd yn y galw a’r effaith yn sylweddol ar y Cartrefi Gofal.

 

Ategodd Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol bod recriwtio staff yn y maes gofal yn heriol, a bod cyfnod covid wedi gwaethygu’r sefyllfa. Er hynny, amlygodd bod y sefyllfa yn gwella yn araf a defnydd staff asiantaethau wedi eu haneru (cymhariaeth 445 o weithwyr asiantaeth yn hanner cyntaf blwyddyn 2023/24 o gymharu gyda 208 o weithwyr asiantaeth yn hanner cyntaf blwyddyn 2024/25).

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phroblemau yn benodol i Wynedd, o ystyried bod poblogaeth Gwynedd yn hŷn ac angen mwy o ofal, a rhai ardaloedd o’r Sir yn diboblogi o ganlyniad i bobl ifanc yn gadael ardaloedd gwledig i chwilio am waith, nodwyd bod cynnal gwasanaethau gofal yn ardaloedd  gwledig o’r Sir yn broblem. Yn ôl y Cyfrifiad adroddwyd bod poblogaeth oedran gweithio Gwynedd (16 - 64 oed) wedi gostwng o 75,800 yn 2011 i 70,700 yn 2021 a bod gostyngiad hefyd yn nifer y plant dan 16 oed, ynghyd a chynnydd sylweddol yn nifer pobl hŷn dros 65 oed (a'r rhai dros 85), a’r nifer oedd yn gallu gwneud gwaith gofal cymdeithasol yn lleihau.

 

Ategodd bod adroddiad Llechen Lân – Gwasanaethau Cymdeithasol Pobl Hŷn i’r Dyfodol  yn gosod cyfeiriad strategol a chynllun gweithredu i geisio amlygu, mynd i'r afael a lliniaru problemau yn y dyfodol, wedi ei gymeradwyo gan y Cabinet (15 Hydref 2024).

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

Nodyn:

Cyfeirio argymhellion yr adroddiad at sylw’r Pwyllgor Craffu Gofal

Rhannu adroddiad ‘Llechen Lan’ gydag Aelodau’r Pwyllgor

 

Dogfennau ategol: