I ystyried y
wybodaeth a gyflwynir, a chynnig unrhyw sylwadau neu awgrymiadau perthnasol.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
·
Derbyn
yr adroddiad
·
Derbyn
cynnig Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol i gyflwyno adroddiad pellach fydd yn
gosod cyd-destun i bolisïau a threfniadau gwella gwasanaeth
Nodyn:
Atodiad A : Cwynion a Gafwyd:
Cyngor Gwynedd – angen gwirio canran poblogaeth
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Adran Gwasanaeth Corfforaethol yn
cyflwyno sylwadau Ombwdsman Cymru ar drefniadau a pherfformiad y Cyngor yng
nghyswllt ymdrin â chwynion a gwella gwasanaethau yn ystod 2023/24 gan amlygu
llwyddiannau, sialensiau a datblygiadau. Atgoffwyd yr Aelodau bod gofyn
statudol ar y Pwyllgor i sicrhau bod gan y Cyngor drefniadau effeithiol ar
gyfer ymdrin â chwynion. Ategwyd, ni fu unrhyw newid yn y drefn na’r Polisi
Pryderon a Chwynion yn ystod 2023/2024 ac felly bod cynnwys llythyr yr
Ombwdsman yn seiliedig ar y Polisi a fabwysiadwyd gan y Cyngor yn 2021.
Adroddwyd bod y Llythyr Blynyddol wedi dod i law 9fed o Fedi 2024.
Cyfeiriwyd at rai sylwadau ac argymhellion a wnaethpwyd gan yr Ombwdsmon oedd
yn cynnwys, “Byddwn yn annog Cyngor Gwynedd, ac yn benodol, eich Pwyllgor
Archwilio a Llywodraethu, i ddefnyddio'r data hwn i ddeall eich perfformiad o
ran cwynion yn well ac ystyried pa mor dda y mae dulliau ymdrin â chwynion yn
dda wedi'i wreiddio ledled yr Awdurdod”.
Yng nghyd-destun trefniadau Gwynedd, awgrymwyd cyflwyno adroddiad
pellach i’r Pwyllgor fyddai’n gosod cyd-destun i bolisïau a threfniadau gwella
gwasanaeth. Ystyriwyd y byddai gwybodaeth o’r fath yn fuddiol i’r Pwyllgor gan
nad yw llythyr yr Ombwdsman yn cyfleu hynny.
Diolchwyd am yr adroddiad
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:
·
Croesawu derbyn adroddia
pellach – saith o’r cwynion yn ymwneud â threfn ac felly buddiol fyddai cael
gwybodaeth ychwanegol o ystyried mai dyletswydd y Pwyllgor yw craffu’r drefn
·
Bod atodiad B yn cynnig nifer y cwynion a
gafwyd fesul pwnc yn unig – angen mwy o wybodaeth ynglŷn â phatrwm cwynion
a sut y gellir adnabod / ymateb i’r patrymau hynny
·
Yn croesawu bod nifer o’r cwynion yn cael eu dartys cyn cyrraedd yr Ombwdsman
·
A yw swyddogion yn trafod gydag awdurdodau
eraill? A oes lle yma i ddysgu a rhannu profiadau? A oes cymariaethau fesul
gwasanaethau awdurdodau eraill ar gael?
·
Bod camgymeriad yn y fersiwn Gymraeg o
Atodiad 1 i lythyr yr Ombwdsmon – nid yw ffigyrau nifer y cwynion fesul 1,000
poblogaeth yn gwneud synnwyr gan fod nifer cwynion Gwynedd, Ynys Môn a Conwy
mwy neu lai yr un peth (38, 38 a 36) a gan fod poblogaeth Gwynedd a Chonwy yn eithaf tebyg i’w gilydd ond poblogaeth Ynys Môn
yn sylweddol llai, nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr fod Gwynedd yn 0.55 ac Ynys
Môn yn 0.2.
Mewn ymateb i’r sylwadau, nodwyd bod Cyngor Gwynedd yn dueddol o fod yn
fwy agored am eu cwynion ac o ganlyniad
y ffigyrau yn ymddangos yn uwch na ffigyrau Awdurdodau eraill (cwynion i’r
Ombwdsman yn unig oedd yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad). Nodwyd bod newid yn
niwylliant y Cyngor yn amlygu bod Gwasanaethau yn ymdrin â chwynion cyn iddynt
gyrraedd y drefn cwynion a bod hyn i’w groesawu.
PENDERFYNWYD
·
Derbyn yr adroddiad
·
Derbyn cynnig Pennaeth Gwasanaethau
Corfforaethol i gyflwyno adroddiad pellach fydd yn gosod cyd-destun i bolisïau
a threfniadau gwella gwasanaeth
Nodyn:
Atodiad
A : Cwynion a Gafwyd: Cyngor Gwynedd (Ferswin
Gymraeg) – angen gwirio canran poblogaeth
Dogfennau ategol: