Agenda item

I dderbyn diweddariad gan

 

·        Network Rail

 

·        Trafnidiaeth Cymru

 

·        Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig

·         

Cofnod:

Trafnidiaeth Cymru (TrC)

 

Mynegwyd siom nad oedd cynrychiolydd o Trafnidiaeth Cymru yn bresennol yn y cyfarfod o ystyried bod nifer o faterion angen ymateb iddynt.

 

  • Bod ymateb Ken Skates (Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth) i rybudd o gynnig a gafwyd yng nghyfarfod o’r Cyngor Llawn Mai 2024 wedi ei dderbyn ym mis Hydref - cywilydd bod hyd at 5 mis wedi pasio cyn derbyn ymateb a’r ymateb hwnnw yn cynnwys yr un esgusodion ac atebion gwael
  • Amser y trên olaf tua’r gogledd (19:00) yn annerbyniol gan nad oes bysiau nos rhwng Machynlleth a Thywyn nac Abermaw a Porthmadog. Bydd cwestiwn yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn mis Rhagfyr yn galw ar Cyngor Gwynedd i gyflwyno sylwadau cryf i TrC a Llywodraeth Cymru ynghylch colli'r trên hwyraf ar reilffordd Arfordir y Cambrian. Bydd lleihad mewn gwasanaeth yn cael effaith ar economi'r ardal wrth i bobl fethu teithio adref ar y trên o’u gwaith a digwyddiadau cymdeithasol – hyn yn eithrio pobl / gosod cyrffyw.
  • Annhegwch llwyr gyda’r nifer trenau sy’n rhedeg ar reilffyrdd de Cymru
  • Niferoedd teithwyr TrC erioed wedi bod yn gywir gyda honiadau o drenau gwag pan, mewn gwirionedd y trenau yn llawn a thaliadau teithwyr ddim yn cael eu casglu - y wybodaeth sydd yn cael ei gasglu yn gamarweiniol ac yn nonsens llwyr. Beth yw’r arbedion ariannol sydd yn deillio o hyn?
  • Bod amseroedd ymweld â threfi megis yr Amwythig, wedi ei lleihau o 8 awr i 3 awr
  • Nad oedd Adolygiad Amserlen Ar-lein TrC wedi ystyried effaith cydraddoldeb. Cyfrifoldeb y Llywodraeth yw hyn - rhaid ymgynghori a chwblhau asesiadau cyn gweithredu newidiadau yn unol â’r cytundeb. BR i rannu’r wybodaeth gyda LHE
  • Beth yw strwythur TrC? Llywodraeth Cymru yw perchnogion TrC ac felly gan bwy mae’r atebolrwydd?
  • Bod nifer defnyddwyr platfform Llanbedr bron yn cyfateb gyda ffigyrau cyn covid – tystiolaeth bod y rheilffordd yn cael ei defnyddio! Sut felly mae TrC yn casglu data?
  • Bod toriadau i wasanaeth digonol yn gwneud y sefyllfa yn un annigonol i’r defnyddiwr
  • Angen pwyso ar Aelodau Seneddol Dwyfor Meirionnydd i leisio barn
  • Pryd fydd y trenau newydd yn cael eu cyflwyno?

 

Mewn ymateb i sylw am yr angen i bwyso ar Aelodau Seneddol Dwyfor Meirionnydd i leisio barn, amlygwyd bod Mabon ap Gwynfor wedi sefydlu deiseb yn galw ar TrC a Llywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau Reilffordd Arfordir y Cambrian. Nodwyd bod y ddeiseb yn amlygu bod y rheilffordd yn gyswllt trafnidiaeth hanfodol i drigolion lleol ac economi ymwelwyr Gwynedd gyda chymunedau yn ddibynnol ar y gwasanaeth am resymau addysg, cyflogaeth, twristiaeth, siopa ac iechyd. Ategwyd yn hytrach na thorri gwasanaethau pellach, dylai TrC a Llywodraeth Cymru fod yn buddsoddi mewn cysylltiadau trafnidiaeth leol ledled gogledd orllewin Cymru, gan sicrhau bod pobl leol ac ymwelwyr yn cael gwasanaethau trên cadarn, dibynadwy a hygyrch.

 

Deiseb Diogelu Rheilffordd Arfordir y Cambrian

 

Network Rail

 

Croesawyd Tomos Roberts a Heledd Walters i’r cyfarfod.

 

Yn dilyn damwain trychinebus diweddar yn Nhalerddig, cydymdeimlwyd gyda theuluoedd a theithwyr oedd wedi dioddef, a nodwyd bod TrC a Newtwork Rail yn cydweithio i adfer y sefyllfa.

 

Tynnwyd sylw at y gwaith sydd yn cael ei wneud ar y rheilffordd rhwng Machynlleth a Pwllheli  gyda bysiau yn cymryd lle trenau rhwng gorsafoedd Machynlleth a Pwllheli o 16.45  8fed Rhagfyr 2024 tan 07.30 16 Rhagfyr 2024. Y rheswm dros gau’r rheilffordd oedd y byddai Network Rail yn ail-osod mwy nag 1km o drac rhwng gorsafoedd Dyffryn Ardudwy a Harlech fydd yn cynnwys 1,800 o "sleepers" newydd a 3,600 tunnell o falast (carreg trac). Ategwyd, os am gynllunio taith, bod manylion llawn ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

 

Croesawyd buddsoddiad Network Rail

 

Mewn ymateb i sylw bod gwybodaeth anghywir wedi ei rannu ynglŷn â ffordd amgen i’w defnyddio yn ystod y cyfnod cau, nodwyd y bydd y sylw yn cael ei gyfeirio at y Tîm Prosiect i’w  gywiro.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pam na ellid rhedeg trenau rhwng Abermaw a Chyffordd Dyfi yn ystod cwblhau y gwaith rhwng Dyffryn Ardudwy a Harlech, fydd yn lleihau’r effaith (yn enwedig ar deithiau plant ysgol), nodwyd bod gwaith ar safleoedd eraill ar hyd y rheilffordd hefyd yn cael eu cwblhau ac felly bod angen cau’r rheilffordd.

 

Materion eraill yn codi:

·       Lifft Gorsaf Machynlleth  - cyfarwyddiadau’r lifft yn uniaith Saesneg, a yw hyn wedi ei gywiro? Tomos Roberts i holi’r Tîm Lleol

 

Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig

 

Croesawyd Tomos Davies i’r cyfarfod.

 

Nododd bod un mater sylweddol wedi dod i sylw’r Heddlu yn ymwneud â thirfeddiannwr oedd bellach yn gwrthod gwneud galwad ffôn i geisio caniatâd i agor giatiau i groesi'r rheilffordd. Yn dilyn cwyn gan y tirfeddiannwr nad oedd y gwasanaeth ffôn ar gael yn y Gymraeg, penderfynodd beidio gwneud galwadau am ganiatâd, gan agor y giatiau ei hun. Ystyriwyd hyn fel defnydd anghyfrifol o’r groesfan ac felly’n arwain at gyflwyno’r tirfeddiannwr gyda Gorchymyn Llys. Ategwyd bod y mater wedi bod yn mynd ymlaen ers rhai blynyddoedd gyda’r Heddlu wedi gorfod ymyrryd ar sawl achlysur. Er yn derbyn rhwystredigaeth y tirfeddiannwr nad oedd Rheolwyr Croesfan Rheilffordd ar gael i ymateb yn Gymraeg, a hynny yn groes i bolisi TrC, nodwyd bod y mater bellach yn cael ei ystyried nid fel mater ieithyddol yn unig, ond fel un oedd yn amlwg yn diystyru rheolau'r rheilffordd a diogelwch y cyhoedd.

 

Mewn ymateb i’r mater, nodwyd:

·              Bod angen datrys y mater cyn bydd damwain

·              Yn croesawu ymateb yr Heddlu i gyflwyno Gorchymyn Llys

·              Angen sicrhau diogelwch y cyhoedd

·     Bod cyfrifoldeb ar TrC / Network Rail i sicrhau bod gwasanaeth Gymraeg ar gael

 

Materion eraill yn codi:

·       Gorsaf Penrhyndeudraeth

Bod achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod yn yr orsaf. Yr Heddlu wedi ymateb ac wedi siarad gyda’r plant ynglŷn â pharchu eiddo pobl eraill a gwarchod delwedd gyhoeddus

 

·       Croesfan ger Ysgol Harlech.

Cais gan Reolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd Cyngor Gwynedd i’r Heddlu sgwrsio gyda’r plant am ddiogelwch. TD i drafod gyda Swyddfa Machynlleth fel eu bod yn gallu monitro'r sefyllfa. Natur y cwynion i’w rhannu gyda’r Cyng. Gwynfor Owen fel ei fod yn gallu trafod gyda Phillip Caldwell (Rheolwr Croesfan Leol Network Rail) sydd bob amser yn barod i ymateb i faterion diogelwch.

 

·        Gorsaf Tywyn

Cyfnod amser rhwng Ysgol Uwchradd Tywyn yn cau a'r trên adref i ddisgyblion yn arwain at gamymddwyn yn yr orsaf. Cais i ystyried cael presenoldeb Bugeiliaid Stryd (Street Pastors) yn yr orsaf  a/ neu ar y platfform oherwydd nad oes gweithwyr gorsaf  yn bresennol. TD i drafod y posibilrwydd gyda Swyddfa Machynlleth.

 

·       Yr Iaith Gymraeg

Bod angen gweld mwy o Gymraeg ar drenau’r Cambrian

Awgrym i wahodd Lowri Joyce (Arweinydd Strategaeth y Gymraeg, Trafnidiaeth Cymru) i  gyfarfod Mawrth 2025

 

Strategaeth y Gymraeg | Trafnidiaeth Cymru