Agenda item

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Ms A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r collfarnau perthnasol

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais a hynny oherwydd bod yr ymgeisydd wedi cronni pwyntiau'n gyflym am fwy nag un trosedd yrru yn ystod 2022-23. Fodd bynnag, awgrymwyd y dylai’r Is-bwyllgor ystyried penderfyniad y Llys Ynadon i beidio ag atal yr ymgeisydd rhag gyrru am gronni pwyntiau am y troseddau hyn.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y troseddau gyrru a’i hamgylchiadau personol. Nododd ei bod dan bwysau gan ei chyflogwr blaenorol i gwblhau teithiau mor gyflym ag y gallai fel ei bod yn cael ei thalu. Ategodd ers iddi gael y troseddau gyrru, bod ei hagwedd wedi newid, ei bod yn edifarhau ac wedi dysgu gwersi. Roedd yn hoff iawn o weithio fel gyrrwr tacsi, ac yn gweld ei rôl fel merch yn gyrru tacsi yn rhoi sicrwydd i ferched oedd yn teithio ar ben eu hunain i deimlo yn saff mewn tacsi. Nododd ers newid cwmni, ei bod yn teimlo’n llawer gwell ac yn cael cefnogaeth dda.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·      Ffurflen gais yr ymgeisydd

·      Datganiad DBS

·      Adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      Manylion Hysbysiad Llys o Ddirwy a Gorchymyn Casglu

·      Sylwadau llafar yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Tachwedd 2022 derbyniodd yr ymgeisydd dri pwynt cosb am yrru’n gyflymach na’r cyfyngiad cyflymder statudol a’r ffordd gyhoeddus (SP30) h.y goryrru

 

Yn Gorffennaf 2023 derbyniodd yr ymgeisydd 6 pwynt cosb am yrru’n gyflymach na’r cyfyngiad cyflymder statudol a’r ffordd gyhoeddus (SP30) h.y goryrru. Derbyniodd ddirwy o £250.00. Mynychodd yr ymgeisydd y Llys i berswadio'r ynad i beidio å'i gwahardd rhag gyrru. Darbwyllwyd yr Ynadon na ddylid ei hatal rhag gyrru.

 

Roedd yr ymgeisydd wedi bod yn onest ac wedi cysylltu å'r Adran Drwyddedu i'w hysbysu am y pwyntiau ac am benderfyniad Llys yr Ynadon.

 

Nid oedd collfarnau eraill i’w hystyried

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Ystyriwyd paragraff 13 sydd yn ymwneud a mân droseddau traffig ac fe ystyriwyd paragraff 13.3 sydd yn amlygu gall un gollfarn am fan drosedd traffig awrain at wrthod y cais yn enwedig os oes sawl collfarn i’w hysytired ar gyfer un drosedd.

 

CASGLIADAU

 

Ystyriwyd darpariaethau’r Polisi, esboniad yr ymgeisydd o’i amgylchiadau, ac argymhelliad y Rheolwr Trwyddedu i wrthod y cais.

 

Roedd yr Is-bwyllgor o'r farn mai adran 13 o’r Polisi oedd yn berthnasol. Ystyriodd yr Is-bwyllgor bod gan yr ymgeisydd ddwy drosedd am oryrru a hynny o fewn wyth mis i'w gilydd, ac ymhellach fod yr ail drosedd yn un o yrru ar gyflymder o tua 103 mya tra yn y tacsi (er y derbyniwyd nad oedd teithwyr yn bresennol).

 

Ystyriwyd hefyd sylwadau'r ymgeisydd o fod yn difaru'r hyn a wnaeth ers derbyn yr euogfarnau. Derbyniwyd hefyd ei chyfrif gonest ac agored iawn o’r digwyddiadau a’i hamgylchiadau, yn ystod y gwrandawiad. Cydnabuwyd ei bod wedi dysgu gwersi am oryrru ac roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon na fyddai unrhyw droseddau pellach o'r fath yn digwydd. 

 

Roedd yr Is-bwyllgor hefyd o'r farn, pan roedd yr ymgeisydd yn rhoi gwybod i’r Awdurdod ei bod wedi ennill pwyntiau ychwanegol ar ei thrwydded oherwydd y troseddau, na chymerwyd unrhyw gamau gan yr Awdurdod i ddiddymu’r drwydded a caniatawyd iddi barhau i yrru tacsi hyd nes i'r drwydded ddod i ben.

 

Wedi pwyso a mesur yr holl ffactorau yn ofalus, daeth yr Is-bwyllgor i benderfyniad bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat ar hyn o bryd.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd ac y byddai sylwadau Cynrychiolydd yr Ymgeisydd am y drefn gwrandawiadau yn cael eu hystyried.