‘City
Sports and Cocktail Bar’, 20/21 Canolfan Menai, Bangor, LL57 1DN
I ystyried
y cais
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu y cais fel cafodd ei gyflwyno, yn ddarostyngedig ar gynnwys yr amodau
sŵn a gyflwynwyd gan Adran Iechyd yr Amgylchedd.
·
Ni
chaniateir cynnydd yn y lefel LAeq 15munud na’r lefel LZeq 15 munud yn y bandiau amledd trydedd wythfed 31.5,
63 a 125Hz oddi fewn i unrhyw eiddo
preswyl (wedi ei fesur gyda ffenestri’r eiddo ar agor neu ar gau) o ganlyniad i sŵn adloniant yn
deillio o’r eiddo trwyddedig. I bwrpas
yr amod yma mae LAeq wedi ei ddiffinio yn BS4142:2014
·
Os,
wedi cyhoeddi'r drwydded hon bydd Cyngor Gwynedd yn derbyn tystiolaeth nad oes
cydymffurfiaeth ag amod 1 bydd
perchennog yr eiddo yn gwneud y
canlynol:
a) Gwneud unrhyw waith ynysu / arbed sŵn er mwyn sicrhau
bod yr eiddo yn cydymffurfio ac amod sŵn
·
Unwaith
bydd lefel ar ddyfais reoli sŵn yn cael ei sefydlu, nid yw’r lefel yma i’w
newid heb ymgynghoriad a Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Llygredd, Cyngor
Gwynedd.
·
Ni
chaniateir chwarae cerddoriaeth yn allanol
·
Rhaid
cau'r ardal eistedd allanol ar ol 21:00
·
Er
mwyn arbed sŵn a dirgrynant adael yr eiddo trwyddedig, bydd drysau a
ffenestri'r adeilad yn cael eu cadw ar gau yn ystod yr adloniant, heblaw am
fynediad i mewn ac allan o’r eiddo.
·
Ni
chaniateir gwaredu gwastraff poteli neu ganiau i gynhwysydd y tu allan i'r
adeilad trwyddedig rhwng yr oriau 22:00
- 09:00 . Bydd y poteli yn cael eu cadw oddi fewn i gwrtil yr eiddo mewn sgip
neu fin gyda chaead
Amodau
ychwanegol i gynnwys
·
Cynnwys
y mesurau ychwanegol a gyflwynwyd yn rhan M o’r cais, fel amodau i’r drwydded.
·
Stopio
gwerthu alcohol ar y penwythnosau am 03:30 a chau am 04:00
Cofnod:
Eraill a wahoddwyd:
· Chris O’Neal Ymgeisydd
· Gilly Haradence Cynrychiolydd
yr Ymgeisydd
· Ffion Muscroft Swyddog
Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd
· Ian Roberts Heddlu
Gogledd Cymru
· Elizabeth Williams Heddlu
Gogledd Cymru
· Cyng. Nigel
Pickavance Aelod Lleol
· Cyng. Dylan
Fernley Aelod Lleol
· Awen Gwyn Aelod
o’r Cyhoedd
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu
Gwnaed y cais mewn perthynas â Dramâu dan do a'r tu
allan, Ffilmiau dan do, Digwyddiadau Chwaraeon Dan Do, Adloniant Bocsio a Reslo
dan do a'r tu allan, Cerddoriaeth Fyw dan do a'r tu allan, Cerddoriaeth wedi'i
recordio Dan do a'r Tu Allan, Perfformiadau Dawns Dan Do, Lluniaeth Hwyr yn y
Nos dan do a'r tu allan a Chyflenwi Alcohol ar ac oddi ar yr Eiddo.
Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r
amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y
drwydded.
Tynnwyd sylw at
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori oedd yn cynnwys sylwadau
gan aelod o’r cyhoedd yn pryderu am gerddoriaeth fyw gan DJ, bandiau yn chwarae
a cherddoriaeth gefndir ar ddwy lefel y lleoliad ynghyd a chais i sicrhau bod
cynllun rheoli’r busnes yn cynnwys mesurau i ymdrin â llygredd sŵn a
rhwystrau rheoli cwsmeriaid; a yw rheolwyr y bar wedi rhoi ystyriaeth ofalus i
drefniadau mynediad a gadael yr eiddo?; yn bryderus y byddai cynnydd mewn
ymddygiad gwrth gymdeithasol, gall arwain at wrthdaro a / neu achosi difrod i
siopau cyfagos
Roedd sylwadau gan
Iechyd yr Amgylchedd yn nodi pryder am yr oriau arfaethedig, cais i chwarae
cerddoriaeth tu allan tan 21.00 ynghyd a bwriad i gael ardal eistedd allanol
(er y byddai’n rhaid i'r cwmni wneud cais am drwydded gan y Gwasanaeth
Priffyrdd i osod cadeiriau a byrddau ar y stryd). Adroddwyd bod cyfarfod ar y safle wedi ei
gynnal rhwng Swyddog Iechyd yr
Amgylchedd a'r ymgeisydd mewn perthynas â'r cais Cynllunio (oedd ar y pryd yn
mynd drwy'r broses gynllunio) a gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynglŷn â
sŵn mewn perthynas â'r unedau aer dymheru, sŵn gan gwsmeriaid a'r
lefel sŵn a ragwelir yn yr eiddo preswyl cyfagos fel rhan o'r broses
gynllunio.
Amlygwyd bod
Heddlu Gogledd Cymru yn cefnogi'r cais, ond yn mynegi pryderon am ddiogelwch y
cyhoedd, ar ôl 04:00 pryd y bydd llai o adnoddau ganddynt. Wedi trafod y pryderon gyda’r ymgeisydd,
awgrymwyd stopio gwerthu alcohol am 03:30am a chau am 04:00am ar y
penwythnosau. Ategwyd bod yr Awdurdod Cyfrifol yn sicrhau bod asesiad risg yn
ystyried presenoldeb goruchwyliaeth ddigonol mewn ardal lle mae gwrthrychau
caled, fel peli a ffyn pŵl yn bresennol. Codwyd materion hefyd oedd yn
ymwneud â rheoli traffig.
Ategwyd, yn dilyn
defnydd Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro dros y cyfnod 28ain - 30ain o Dachwedd
2024, bod sylwadau dienw wedi eu derbyn yn nodi, er nad oedd problemau ar y nos
Iau na’r nos Wener, bod yr ardal ysmygu ‘allanol’ (ardal gyhoeddus ar y stryd) wedi
bod yn swnllyd, ffenestri yn agored a sŵn cerddoriaeth uchel i’w glywed
yng nghefn yr adeilad.
Roedd yr argymhelliad yn nodi y dylai’r Is-bwyllgor
ystyried derbyn a chymhwyso'r oriau terfynu is ar gyfer gwerthu alcohol ar
benwythnosau fel y cytunwyd rhwng yr Heddlu a'r ymgeiswyr. Argymhellwyd ymhellach fod y pryderon a
amlinellwyd yn y sylwadau gan y Cyhoedd ac Iechyd yr Amgylchedd yn cael eu
hystyried, a bod y mesurau lliniaru sŵn a'r amodau a argymhellwyd yn cael
eu cynnwys yn yr Atodlen Weithredu os am gymeradwyo'r cais; yn unol â Deddf
Trwyddedu 2003.
b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
· Cyfle i Aelodau’r
Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.
· Ar ddisgresiwn y
Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd
y Cyngor.
· Rhoi cyfle i’r
ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion
· Rhoi cyfle i
Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
· Ar ddisgresiwn y
Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd
· Rhoi gwahoddiad i
bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig
· Rhoi cyfle i
gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu
hachos.
c)
Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Is-bwyllgor i
gynrychiolydd y Cyngor ynglŷn â’r ardal allanol ac os oedd ardal arall
benodol ar gael ar gyfer ysmygu o ystyried mai ardal gyhoeddus yw’r stryd fawr,
tu allan i’r eiddo, nodwyd bod argymhelliad i gynnwys amod i sicrhau rheolaeth
o’r ardal ac y byddai angen trwydded palmant i gael defnyddio’r ardal o flaen
yr eiddo, sydd ddim yn annhebyg i fusnesau eraill.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â’r ystod gweithgareddau oedd yn cael eu cynnig ac os oedd
busnesau eraill tebyg yn y ddinas, nodwyd mai ‘Bar Chwaraeon’ oedd yma ac nid
Clwb Nos. Nodwyd nad oedd eiddo arall ar y stryd fawr yn agor tan 04:00, ond
bod Trilogy yn cau am 03:30
ch) Wrth
ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd mai Clwb Chwaraeon oedd dan sylw
a’r bwriad oedd cynnal digwyddiadau
gwylio chwaraeon a gwneud defnydd o adeilad mawr, segur oedd wedi ei lleoli
ynghanol y ddinas. Ynglŷn â’r ardal allanol, nododd bod cais ar wahân wedi
ei gyflwyno i ddefnyddio’r ardal o flaen yr eiddo hyd 21:00. Nid oedd ysmygu a
fêpio yn cael ei ganiatáu tu fewn i’r adeilad ac nid oedd eisiau hysbysu na
hyrwyddo’r ardal allanol fel man ysmygu
d)
Mewn ymateb i gwestiynau i’r ymgeisydd gan yr
Is-bwyllgor a chynrychiolydd y Cyngor nododd yr ymgeisydd;
·
Bod cynllun rheoli sŵn wedi ei gyflwyno
·
Bod offer lleihau sŵn wedi ei brynu lle gellid
rheoli’r lefelau sain
·
Ei fod yn barod i reoli sŵn tu mewn i’r eiddo
ond anodd fydd rheoli sŵn tu allan
·
Bydd staff drysau ar gael yn rheolaidd
·
Byddai unrhyw alcohol sy’n cael ei brynu i’w gario
allan yn unig yn cael ei werthu mewn
cynwysyddion wedi eu selio
·
Bydd y mesurau a gyflwynwyd gyda’r cais yn cael eu
cyfarch – yn cymryd materion trwyddedu o ddifrif
·
Bod cyfarfod gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn
fuddiol
·
Bod TCC o ansawdd uchel wedi ei osod; y Clwb yn
rhan o fenter Pubwatch a Sialens 25
·
Bydd linc radio NIGHT SAFE mewn defnydd fel
diogelwch ychwaegol a bod bwriad ail gyfwlyno ‘angylion stryd’ fydd yn cael
defnyddio’r eiddo fel eu canolfan
dd)
Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y
cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ganddynt.
Ian Roberts a Liz Williams, Heddlu Gogledd Cymru
·
Cyfarfod gyda’r ymgeisydd i drafod y drwydded wedi
bod yn fuddiol
·
Dim yn gwrthwynebu’r cais ac yn cytuno byddai’r
fenter yn hwb i’r economi leol
·
Tynnu sylw bod nifer swyddogion yr Heddlu fydd ar
gael ar ôl 04:00 yn isel ac felly yn awgrymu gall hyn arwain at broblemau
·
Pryder bod y stryd fawr gerllaw yn agor i gerbydau
- sylwadau wedi eu cyflwyno i Cyngor Gwynedd. Gyda nifer o bobl, a cherbydau ar
y stryd fawr, rhaid ystyried diogelwch y cyhoedd
Ffion Muscroft, Swyddog Gwarchod y
Cyhoedd Cyngor Gwynedd
· Yn cefnogi’r
fenter ond yn pryderu am yr effaith negyddol ar fwynderau trigolion cyfagos
· Pryder y bydd
sŵn yn cario ac felly cais i osgoi defnydd cerddoriaeth tu allan a
rheoli’r ‘base rate’ tu mewn i’r adeilad
· Sŵn
cwsmeriaid yn casglu yn yr ardal allanol yn cario ac felly awgrym cau'r ardal
am 21:00 gan arddangos arwyddion yn gofyn i gwsmeriaid barchu preswylwyr
cyfagos, yn enwedig wrth ymadael.
· Ymweliad ar hap ar
y 29ain o Dachwedd wedi cadarnhau bod y ‘base rate’ yn uchel o fewn yr eiddo.
Rheolwr yr eiddo wedi rhoi’r sŵn i lawr ac wedi cau'r drysau
Awen
Gwyn, Aelod o’r Cyhoedd
· Bod rhan yma o’r
stryd fawr yn berchen iddi hi hefyd fel landlord busnes cyfagos - nid y Clwb yw
perchennog yr ardal allanol - yr agwedd
yma yn peri pryder
· Bod Strategaeth
Bangor yn cynnwys preswylwyr ac nid busnesau yn unig. Yr ardal yma gyda
chynlluniau mewn lle ar gyfer oddeutu 50 fflat – rhaid ystyried yr effaith ar
breswylwyr y fflatiau hyn a rheoli’r sŵn
Cyng.
Nigel Pickavance, Aelod Lleol
· Bod ‘Ardal Ni’ yn
gynllun i droi stryd fawr Bangor yn ardal gymdeithasol. Angen hyn i adfywio
canol y ddinas gyda chais wedi ei wneud i’r Cyngor ystyried cau'r stryd fawr i
gerbydau
· Ei fod yn
croesawu'r cynllun NIGHT SAFE
· Yn cytuno mai
ardal siarad yn unig sydd ei angen tu allan i’r eiddo - dim angen cerddoriaeth
yma
· Y fenter o fudd
i’r ddinas - yn safle diogel, yn fywiog ac yn lleoliad cymdeithasol
Cyng.
Dylan Fernley, Aelod Lleol
· Ei fod yn gefnogol
i’r fenter
· Bod y stryd fawr
angen adfywiad
· Yn nodi nad oes
angen cerbydau ar y stryd fawr – rhaid ystyried diogelwch y cyhoedd
· Os bydd unrhyw
broblemau neu bryderon pellach, bydd rhaid i’r ymgeisydd fynd i’r afael â hwy
Cydnabuwyd yr holl sylwadau a dderbyniwyd a
diolchwyd i bawb am y sylwadau hynny.
Yn manteisio ar ei hawl i grynhoi ei achos, nododd
yr ymgeisydd y byddai’r fenter yn cyflogi 32 o bobl ac yn fuddsoddiad sylweddol
i geisio adfywio canol dinas Bangor.
e)
Ymneilltuodd yr
ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor
drafod y cais.
Wrth
gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd,
sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y
Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y
gwrandawiad. Ystyriwyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r
Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor
ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu
2003, sef:
i.
Atal trosedd ac anhrefn
ii.
Atal niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau diogelwch cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant rhag niwed
Diystyrwyd
y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion
uchod.
PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais fel cafodd ei gyflwyno, yn ddarostyngedig ar
gynnwys yr amodau isod
· Ni chaniateir
cynnydd yn y lefel LAeq 15munud na’r lefel LZeq 15 munud yn y bandiau amledd trydedd wythfed 31.5,
63 a 125Hz oddi fewn i unrhyw eiddo
preswyl (wedi ei fesur gyda ffenestri’r eiddo ar agor neu ar gau) o ganlyniad i sŵn adloniant yn
deillio o’r eiddo trwyddedig. I bwrpas
yr amod yma mae LAeq wedi ei ddiffinio yn BS4142:2014
· Os, wedi
cyhoeddi'r drwydded hon bydd Cyngor Gwynedd yn derbyn tystiolaeth nad oes
cydymffurfiaeth ag amod 1 bydd
perchennog yr eiddo yn gwneud y
canlynol:
a)
Gwneud unrhyw waith ynysu / arbed sŵn er mwyn
sicrhau bod yr eiddo yn cydymffurfio ac amod sŵn
· Unwaith bydd lefel
ar ddyfais reoli sŵn yn cael ei sefydlu, nid yw’r lefel yma i’w newid heb
ymgynghoriad a Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Llygredd, Cyngor Gwynedd.
· Ni chaniateir
chwarae cerddoriaeth yn allanol
· Rhaid cau'r ardal
eistedd allanol ar ol 21:00
· Er mwyn arbed
sŵn a dirgrynant adael yr eiddo trwyddedig, bydd drysau a ffenestri'r
adeilad yn cael eu cadw ar gau yn ystod yr adloniant, heblaw am fynediad i mewn
ac allan o’r eiddo.
· Ni chaniateir
gwaredu gwastraff poteli neu ganiau i gynhwysydd y tu allan i'r adeilad
trwyddedig rhwng yr oriau 22:00 - 09:00
. Bydd y poteli yn cael eu cadw oddi fewn i gwrtil yr eiddo mewn sgip neu fin
gyda chaead
Amodau ychwanegol i gynnwys
· Cynnwys y mesurau
ychwanegol a gyflwynwyd yn rhan M o’r cais, fel amodau i’r drwydded.
· Stopio gwerthu
alcohol ar y penwythnosau am 03:30 a chau am 04:00
Yng nghyd-destun Trosedd ac Anrhefn, ni
gyflwynodd yr Heddlu unrhyw sylwadau mewn ymateb i’r cais ac ni chyflwynwyd
unrhyw dystiolaeth bellach oedd yn berthnasol i’r egwyddor hwn.
Yng nghyd-destun materion Diogelwch Cyhoeddus ni
chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth oedd yn berthnasol i'r egwyddor hon.
Yng nghyd-destun Atal niwsans cyhoeddus, roedd
Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd yn fodlon gyda’r cais pe byddai’r amodau a
gynigwyd ganddynt mewn ymateb i’r cais ac a nodwyd uchod yn cael eu cynnwys ar
y drwydded. Nid oedd unrhyw sylwadau eraill wedi eu cyflwyno mewn cysylltiad
â’r egwyddor hwn felly roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon caniatáu yn
ddarostyngedig i’r amodau. Clywodd yr Is-bwyllgor nifer o sylwadau yn mynegi
pryder ynglŷn â phosibilrwydd o ymddygiadau gwrthgymdeithasol a lefelau
sŵn. Serch hynny, nid oedd unrhyw dystiolaeth o broblem sŵn.
Eglurodd yr ymgeisydd fod sustem monitro sŵn
cymhleth wedi ei gomisiynu yn ogystal â chamerâu TCC arbennig i sicrhau fod
lefelau sŵn ddim yn ymyrryd ar drigolion cyfagos. Nid oedd unrhyw sylwadau
eraill wedi eu cyflwyno mewn cysylltiad â’r egwyddor hwn felly roedd yr
Is-bwyllgor yn fodlon caniatáu yn ddarostyngedig i’r amodau. Wrth
werthfawrogi’r pryderon a fynegwyd gan y trigolion lleol, nid oedd yr
Is-bwyllgor o’r farn fod tystiolaeth i wrthod caniatáu'r drwydded. Petai unrhyw
broblemau yn codi mewn cysylltiad â’r egwyddorion trwyddedu byddai’r Ddeddf yn
caniatáu cyfeirio trwydded i’w hadolygu gan yr awdurdod.
Yng nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed ni
chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth oedd yn berthnasol i'r egwyddor hon.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn
ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd
bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn
erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi
rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn
cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr
(neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.
Dogfennau ategol: