Cyflwyno
· Datganiad o’r Cyfrifon ôl-archwiliad
· Adroddiad ‘ISA260’ Archwilio Cymru
· Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1)
I ystyried a chymeradwyo’r wybodaeth cyn awdurdodi’r Cadeirydd i ardystio’r llythyr
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
·
Derbyn
a chymeradwyo Adroddiad 'ISA260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Gwynedd
·
Derbyn
a chymeradwyo Datganiad o’r Cyfrifon 2022/23 (ôl-archwiliad)
·
Is-gadeirydd
y Pwyllgor ynghyd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth yn
electroneg
·
Llongyfarch
y swyddogion ar eu gwaith o dderbyn datganiad diamod
· Diolch i Archwilio Cymru am gydweithio
da
Cofnod:
Eglurodd y Pennaeth Cyllid
bod cyfrifon 2023/24, amodol ar archwiliad, eisoes wedi ei gyflwyno i’r
Pwyllgor yng nghyfarfod Medi 2024 lle bu
i’r Datganiad gael ei egluro yn fanwl drwy dynnu sylw’r aelodau at y prif
faterion a’r nodiadau perthnasol. Nododd bod y cyfrifon wedi bod yn destun
archwiliad gan Archwilio Cymru ers yr 20fed o Fehefin ac mai’r Datganiad o’r
Cyfrifon yn dilyn yr archwiliad oedd yn cael eu cyflwyno yma.
Ategodd
Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau mai barn ddiamod a roddwyd
ar y cyfrifon gan yr Archwilwyr ac ers y fersiwn a gyflwynwyd ym mis Medi,
bod addasiadau ac argymhellion yn dilyn
yr archwiliad, wedi eu gweithredu ac ystyriaeth wedi ei roi i’r
camddatganiadau. Cyfeiriwyd at y pedwar camddatganiad oedd heb eu cywiro, gan
nodi bod tri ohonynt yn ymwneud â’r maes asedau ac un yn ymwneud â thriniaeth
budd-daliadau i’r digartref. Ystyriwyd nad oedd y camddatganiadau hyn yn
faterol ac felly bwriad y Cyngor oedd eu cywiro fel rhan o gyfrifon 2024/25.
Wrth drafod addasiadau i’r
Datganiad o’r Cyfrifon sydd wedi eu newid, nodwyd, yng nghyd-destun yr addasiad
disgwyliedig yn ymwneud â phensiynau (Ymrwymiad Pensiwn) mai’r flwyddyn
ddiwethaf oedd y flwyddyn gyntaf i weld sefyllfa o ased pensiwn yn hytrach nag
ymrwymiad, sefyllfa a ystyriwyd yn ddigynsail oherwydd amodau’r farchnad a
chwyddiant uchel, ac felly nid oedd y sefyllfa yn unigryw i Wynedd. O
ganlyniad, eglurwyd bu cryn drafodaeth o ran ei driniaeth yn y cyfrifon y
llynedd, a cafwyd arweiniad gan CIPFA a Thim
Technegol Archwilio Cymru. Eleni fodd bynnag, cafwyd mwy o arweiniad gan yr
Actiwari, ac yn dilyn derbyn cadarnhad gan Archwilio Cymru mai dyma’r dull
cyfrifo oedd yn cael ei ffafrio, newidwyd y cyfrifon
i adlewyrchu’r fethodoleg newydd. Ategwyd bod yr newid wedi cael effaith ar y
prif ddatganiadau a’r nodiadau cysylltiedig.
Cyfeiriwyd
at addasiadau eraill oedd wedi eu newid i gydymffurfio gyda chod ymarfer CIPFA:
·
Ychwanegwyd geiriad i Nodyn 4 Safonau Cyfrifeg
·
Ychwanegiad i Nodyn 39 Ymrwymiadau Dibynnol ac yn gysylltiedig â hyn,
i’r addasiad i’r risg yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol oherwydd addasiad
amseriad.
·
Nodyn 18 Dyledwyr - gwelwyd bod ffigyrau dyledwyr hirdymor yn faterol
eleni ac felly er wedi ei gynnwys yn y Nodyn ‘offerynnau ariannol’, roedd gofyn
iddynt gael eu cynnwys yn y ffigyrau dyledwyr hefyd.
·
Nodyn 30 ‘Taliadau i Swyddogion’ ychwanegiad i sicrhau eglurder i’r
darllenwyr a chydymffurfio gyda rheoliadau cyfrifon;
·
Nodyn 33 Partïon Cysylltiedig - nifer o addasiadau ac ychwanegiadau i’r
nodyn yma, a gan fod lefel materol y nodyn yn is na gweddill y cyfrifon (£10k i
gymharu gyda £285k). Er yn ymddangos yn gryno, nodwyd bod llawer o waith wedi
ei wneud i gwblhau’r nodyn o fewn amser byr iawn gan fod angen edrych ar
ddychweliadau holl gynghorwyr Gwynedd. I’r dyfodol, bydd y swyddogion yn annog
Cynghorwyr i gwblhau eu dychweliadau yn amserol.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Gwahoddwyd Yvonne Thomas, Sioned
Owen a Siwan Glyn o Archwilio Cymru i rannu eu sylwadau. Adroddwyd y bwriad o gyhoeddi
barn diamod ar y cyfrifon gyda’r Datganiad yn amlygu barn gwir a theg o’r
sefyllfa. Ategwyd bod y camau gweithdrefn bellach wedi eu cwblhau ac nad oedd
materion ychwanegol. Er nad oedd sicrwydd cyflawn, nodwyd bod yr Archwilwyr yn
gweithio ar lefel sicrwydd materol gyda lefel perthnasedd 2023/24 o £5.703
miliwn, ac wedi gweithredu yn annibynnol dros gyfnod yr archwiliad. Diolchwyd i
swyddogion cyllid Cyngor Gwynedd am y cydweithio da.
Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth ddilynol:
·
Diolch i swyddogion yr adran Cyllid am y gwaith da – camp sylweddol i
gyrraedd y nod o fewn amserlen dynn a derbyn datganiad diamod.
·
Diolch i swyddogion Archwilio Cymru am y
cydweithio da
·
Croesawu bod y sefyllfa yn un cadarn
Nodyn 10: Reserfau a glustnodwyd: 10:26 - Cronfa Premiwm Treth
Cyngor (darpariaeth yn deillio o Bremiwm
Treth Cyngor ar gyfer cyflawni blaenoriaethu’r Cyngor, gan gynnwys y
Strategaeth Dai) - er wedi clustnodi ar gyfer y cynllun tai (tanwariant
sylweddol hyd yma) a bod caniatáu disgownt a / neu godi premiwm ar ail-gartrefi
ac eiddo gwag hir dymor yn cael ei ystyried yn y Cyngor Llawn mis Rhagfyr, A
yw’r sefyllfa yn gynaliadwy o ystyried bod gwasanaethau eraill o fewn y Cyngor
angen cymorth?
Mewn ymateb i’r
sylw uchod, nododd Aelod Cabinet Cyllid mai penderfyniad y Cabinet (26ain
Tachwedd 2024) oedd cadw premiwm o 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am
12mis neu fwy a chadw premiwm o 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag
Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Ategodd bod £3 miliwn o’r
arian yn mynd i’r Gwasanaeth
Digartrefedd a’r gweddill i’r Gronfa Premiwm Treth Cyngor. Cyfaddefodd bod y
gwariant yn llai na’r hyn sydd yn dod i mewn, ond bod y Cynllun Tai yn gynllun
tymor hir. Yn ychwanegol, nododd bod y Gwasanaeth Tai yn derbyn grantiau a bod
blaenoriaeth yn cael ei roi i wario'r arian grant cyn arian y gronfa.
Derbyniodd y bydd cwestiynau yn cael eu codi os bydd swm y gronfa yn parhau i
gynyddu a dim defnydd yn cael ei wneud o’r arian.
Mewn yamteb i sylw
bod angen adeiladu tai i bobl lleol a bod angen hynny mor fuan a phosib, nodwyd
bod 46 uned yn cael eu datblygu ar hen safle Llywodraeth Cymru yng Nghaernafon – bydd hyn yn sicr o wneud gwahaniaeth.
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn a chymeradwyo Adroddiad 'ISA260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer
Cyngor Gwynedd
·
Derbyn a chymeradwyo Datganiad o’r Cyfrifon 2023/24 (ôl-archwiliad)
·
Is-gadeirydd y Pwyllgor ynghyd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r Llythyr
Cynrychiolaeth yn electroneg
·
Llongyfarch y swyddogion ar eu gwaith o dderbyn datganiad diamod
·
Diolch i Archwilio Cymru am gydweithio da
Dogfennau ategol: