Agenda item

Ffion Edwards Ellis (Pennaeth Cynorthywol: Anghenion Addysg Arbennig a Chynwysiad) i gyflwyno’r adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cynorthwyol: Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad.

 

Atgoffwyd aelodau’r Fforwm o’r angen i ddyrannu cyllid ADY ar sail anghenion a fformiwla yn hytrach na’r Panel Cymedroli, gan ddilyn arweiniad nifer o Awdurdodau Lleol eraill sydd eisoes wedi cymryd y cam hwn. Esboniwyd y byddai hyn yn arwain at system fwy teg oherwydd bod yr un fformiwla yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob ysgol. Ymhelaethwyd ei fod yn seiliedig ar ddefnyddio data sydd ar gael yn barod. Nodwyd y rhagwelir y bydd y newid hwn yn rhoi mwy o sicrwydd i ysgolion gan arwain at greu swyddi sefydlog i gymorthyddion.

 

Diweddarwyd aelodau’r Fforwm ar y gwaith sydd ar y gweill hyd at ddiwedd Mawrth 2025.

 

Eglurwyd bod cyfnod trosglwyddo wedi cael ei adnabod ar gyfer gosod rhwyd ble nad oes cynnydd na gostyngiad o fwy na 50% i’r gyllideb bresennol ar gyfer blwyddyn gyntaf y system. Cadarnhawyd y bydd pob ysgol yn trosglwyddo i’r system yn llawn yn y flwyddyn ganlynol.

 

Cadarnhawyd bod gwaith modelu pellach gan ddefnyddio data terfynol o fewn y CDU wedi cael ei gwblhau cyn rhyddhau rhagolygon ysgolion yn ddiweddar. Ychwanegwyd bod rhai ysgolion wedi dod i gyswllt gyda swyddogion er mwyn cadarnhau’r sgoriau sydd wedi cael eu nodi yn y system. Nodwyd bydd y Pennaeth Cynorthwyol yn cynnal trafodaethau gyda’r Cyfrifydd Grŵp er mwyn asesu’r angen i ddiweddaru’r ffigyrau a’u dosbarthu gyda phob ysgol er mwyn sicrhau bod gan holl ysgolion y ffigyrau cywir, neu os oes ysgolion yn dymuno addasu ffigyrau.

 

Adroddwyd y gobeithir cwblhau dogfennaeth gefnogol erbyn diwedd y tymor. Nodwyd bydd y rhain yn gallu cael eu defnyddio fel llawlyfr i ysgolion o fis Mawrth 2025 ymlaen er mwyn eu hymgyfarwyddo gyda’r system.

 

Sicrhawyd bydd sesiynau yn cael eu cynnig i ysgolion er mwyn iddynt gael trafodaethau ac arweiniad gan swyddogion. Eglurwyd bydd y rhain yn cael eu cynnal hyd at ganol mis Chwefror ac yn ymwneud â chyllid ADY a’i effaith.

 

Materion yn codi o’r drafodaeth:

 

Mewn ymateb i ymholiad ar gynnydd mewn cyllideb ADY, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol nad oes trefniadau i gynyddu’r gyllideb hyd yma. Eglurwyd bod hyn oherwydd heriau ariannol ond gobeithir derbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r ddarpariaeth. Cadarnhawyd bod y system newydd yn addasu sut mae’r gyllideb yn cael ei ddyrannu yn hytrach na newid cyfanswm y gyllideb sydd ar gael.

 

Gofynnwyd sut bydd y trefniant cyllido ADY newydd yn cael ei adolygu er mwyn sicrhau bod y gyllideb yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau i ysgolion a disgyblion Gwynedd. Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod adolygu parhaus yn ofyniad statudol a bydd adroddiad adolygol yn cael ei gyflwyno bob blwyddyn pan fydd y system yn weithredol. Ymhelaethwyd y bydd yr adroddiad adolygol cyntaf yn cael ei gyflwyno ymhen dwy flynedd er mwyn sicrhau bod y cyfnod trosiannol wedi mynd heibio cyn adolygu’r trefniadau ymhellach. Pwysleisiwyd bod mewnbwn ysgolion yn allweddol i’r adolygiadau er mwyn sicrhau bod yr holl adborth yn derbyn ystyriaeth i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Dogfennau ategol: