I ystyried adroddiad gan y Swyddog Morwrol
a Pharciau Gwledig.
(Copi’n amgaeedig)
Cofnod:
Cyflwynwyd: Adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion rheolaethol
yr Harbwr gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:-
(a)
Yr Harbwr
·
Nodwyd mai haf eitha’ cymysglyd a fu o ran tywydd ond cafwyd cychwyn gwych
i’r tymor yn ystod gwyliau Sulgwyn pryd fu’r traethau a’r harbyrau
yn brysur iawn.
·
Mai 24 cwch ymwelwyr a
ddaeth i’r harbwr sydd yn ffigwr gweddol sefydlog
·
Bod cynnydd yn y nifer o gychod pŵer a
badau dŵr personol
·
Bod 79 cwch wedi eu
cofrestru ar angorfeydd er yn nifer llai na’r gorffennol ‘roedd hyn yn
adlewyrchu effaith yr economi gan nodi bod 110 o lefydd gwag yn Hafan Pwllheli
·
Fodd bynnag roedd gan Aberdyfi
fantais i ddenu ymwelwyr o safbwynt atyniad y traeth a’r gweithgareddau lleol
·
Bod cydweithrediad y contractwr lleol wedi gwella eleni a hyderir y
byddir yn adeiladu ar y berthynas. Fodd
bynnag roedd angen cydweithrediad pellach ynglŷn â’r
tystysgrifau angorfeydd perthnasol
·
Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â hysbysebu i ddenu mwy o ymwelwyr,
esboniwyd nad oedd cyllideb ar gael a bod y Gwasanaeth Morwrol wedi buddsoddi
yn sylweddol yn y gorffennol mewn cylchgronau megis “Practical
Boat Owner” ond ni welwyd
gwerth ychwanegol drwy hysbysebu. Nodwyd
ymhellach bod Gwynedd yn elwa o ran niferoedd cychod pŵer a badau dŵr
personol ac nid oedd llithrfa Aberdyfi wedi ei ddylunio ar gyfer cymryd cynnydd
yn y nifer o gychod.
·
Sicrhawyd nad oedd unrhyw
broblemau wedi deillio gyda Badau Dŵr Personol yn lansio o Ynys Las eleni
a chadarnhawyd bod staff yr harbwr wedi treulio mwy o amser ar y dŵr eleni
(b)
Cod Diogelwch
Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’n anfon copi
electroneg i aelodau’r Pwyllgor ac os nad oedd gan Aelodau gyfeiriad e-bost
iddynt adael iddo wybod. Nodwyd nad oedd
y cod yn statudol ond yn ymarferiad da.
Byddai archwilwyr o Harbwr yng Ngogledd Iwerddon yn archwilio’r cod a
hyderir y gallent gael sgwrs gyda Chadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol hwn. Apeliwyd ar yr Aelodau i ddatgan os oedd
ganddynt unrhyw faterion sy’n creu pryder.
O safbwynt honiadau diweddar ynglŷn ag aflonyddwch ar y dolffiniaid,
sicrhawyd bod yr Harbwr Feistr wedi trafod gyda pherchnogion y Badau Dŵr
Personol ac ar y pryd nid oeddynt yn ymwybodol eu bod yn achosi unrhyw
aflonyddwch na niwed.
Mewn ymateb i gais y Cadeirydd ynglŷn â threfniadau yswiriant ar
gyfer cychod pŵer a Badau Dŵr Personol, esboniwyd bod yn rhaid i
berchnogion gyflwyno tystiolaeth drwy gyflwyno’r wybodaeth ar ffurflenni
cofrestru. Nodwyd ymhellach na chaiff
unigolion rhwng 16 - 18 oed yrru Badau Dŵr Personol oni bai bod ganddynt
gymhwyster priodol. O safbwynt Badau
Dŵr Personol yn lansio o’r Leri, yn anffodus nid
oedd Ceredigion wedi mabwysiadu ‘run cynllun a Gwynedd.
Nododd Aelod nad oedd pob Badau Dŵr Personol yn achosi pryder a bod
y mwyafrif yn cydymffurfio a’r rheolau.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol ynglŷn â phryder am ddiogelwch ar y traethau, a
chyfeiriwyd yn benodol at y trychineb a ddigwyddodd yn Abermaw yn ystod yr haf
pan fu i ddau fachgen ifanc golli eu bywydau yn y môr, nodwyd y pwyntiau
canlynol:
·
Bod trafodaeth yn cael ei gynnal gyda Chyngor Tref Abermaw, Aelod
Seneddol Dwyfor/Meirionnydd, a chynrychiolwyr y Bad Achub i adolygu’r
trefniadau diogelwch
·
Nodwyd nad oedd cyllideb
ar gael i benodi achubwyr bywyd o fewn y Gwasanaeth o ystyried y toriadau
ariannol a phenderfyniadau anodd a wynebai’r Aelodau etholedig
·
Ar hyn o bryd, nodwyd bod adolygiad yn mynd rhagddo o’r trefniadau oddi
fewn Gwasanaeth Morwrol er ceisio adnabod cyfleon angen bosibl ar gyfer rheoli
a goruchwylio traethau.
Mewn ymateb,
nodwyd y pwyntiau ychwanegol canlynol:
(a)
Cynigodd Mr James
Bradbury-Willis y byddai’n gallu, mewn ymgynghoriad a’r Harbwr Feistr, roi
erthygl yn llyfryn Aberdyfi i dynnu sylw at ymgyrch diogelwch morwrol, ac y gellir nodi’r mannau perygl ar gyfer nofio
yn Aberdyfi ar adegau pan bydd y llanw ar drai. Yn ogystal, roedd yn gyfrifol am dudalen “Facebook” Aberdyfi ac os byddai angen rhoi unrhyw hysbysiad
ar y dudalen byddai’n fwy na pharod i wneud hynny.
(b)
Nododd cynrychiolydd y
Bad Achub bod modd i’r Bad Achub ymgymryd ag uwchraddio’r arwyddion ynglŷn
â llanw uchel ynghyd a manion eraill oherwydd fe
fyddir yn ffaelu’r gymuned os na fyddir yn gwneud hyn.
(c)
Awgrymwyd ar y ffordd
ymlaen i gynnal trafodaethau gyda’r Harbwr Feistr / Mr Dave Williams (Bad
Achub), y Swyddog Traethau i lunio fframwaith ar gyfer uwchraddio arwyddion ar
gyfer Aberdyfi a Thywyn.
Penderfynwyd: (a) Derbyn a
nodi’r uchod.
(b) Cymeradwyo i gynnal trafodaethau fel
amlinellir yn (c) uchod.
(c) Mordwyo
Braf ydoedd nodi
bod cysondeb yn y cymhorthion mordwyo a bod dau rybudd i forwyr
mewn grym yn yr Harbwr sef bwi rhif 1 a chymhorthydd mordwyo arbennig ddim ar
ei safle.
O safbwynt cynnal a chadw, apeliwyd ar aelodau’r Pwyllgor os oedd
ganddynt unrhyw bryderon iddynt roi gwybod i’r Harbwr Feistr yn ddi-oed.
Cyflwynodd yr
Harbwr Feistr ei raglen waith am y misoedd nesaf a oedd yn cynnwys:
·
Adeiladu meinciau newydd
ar gyfer promenâd Tywyn
·
Cydweithio gyda’r Outward Bound
i adnewyddu’r grisiau i Fryn Llestair (Picnic Island)
·
Gwaith ar y cwch pŵer
·
Wedi dechrau i adnewyddu’r llwybr pren o Bont y Brics i lawr i’r traeth
·
Tacluso’r gerddi o gwmpas
yr harbwr
·
Cydweithio gyda’r
contractwr lleol ynghylch yr angorfeydd
·
Gwaith i’w wneud ar y lanfa
·
Gwaith yn Nhywyn ar y
cwch ymdrochi
·
Paentio arwyddion “Dim
Cŵn”
·
Atgyweirio’r llithrfa a’r
grisiau
Cymerwyd y cyfle i
ddiolch i’r Harbwr Feistr a’r staff am y gwaith clodwiw a wneir yn yr Harbwr.
Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod.
(ch) Materion Staff
Adroddwyd ar y
newidiadau yn nhermau staffio yn yr Harbwr, gan nodi bod y cymhorthydd harbwr
i’w ganmol am ei waith ac er sicrhau cefnogaeth a pharhad i’r gwasanaeth ar
draws y sir estynnir cyfnod cyflogaeth y Cymhorthyddion
Harbwr Aberdyfi ac Abermaw hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2016. Fe fydd y Gwasanaeth yn ystyried y
posibilrwydd i ymestyn y gyflogaeth yn hirach i’r flwyddyn newydd er sicrhau
bod gwaith allweddol yn cael ei gwblhau cyn dechrau’r tymor nesaf. Fe fydd yn ofynnol i’r staff gynorthwyo o
bryd i’w gilydd yn Harbwr Abermaw.
Ategodd y Cynghorydd David Richardson bod gwaith y tîm yn Aberdyfi wedi
bod yn ardderchog a’u bod wedi bod yn rhagweithiol yn hytrach nag
adweithiol. Maent wedi bod yn
llysgenhadon gwych i Aberdyfi a hyderir y bydd y trefniant yn parhau.
Mewn ymateb i sylw wnaed gan aelod ynglŷn â’i
siom na ellir cyflogi goruchwyliwr traeth yn Aberdyfi ac na fyddai Gwobr Traeth yn cael ei gyflwyno
i’r dyfodol, eglurwyd bod hyn oherwydd toriad yng nghyllideb y Gwasanaeth. Yn ogystal nid oedd ansawdd dŵr ymdrochi
yn Aberdyfi yn cyfiawnhau i gyflwyno cais am Wobr Traeth y Faner Las.
Nododd Aelod ei bod yn well peidio derbyn Gwobr o gwbl nai golli oherwydd
ansawdd y dŵr ac y byddai’n fwy manteisiol i gyfrannu costau cyflwyno cais
am wobr tuag at gyfleusterau cyhoeddus neu wneud y traeth yn fwy diogel. Roedd consensws barn ymysg yr aelodau na
fyddai’r wobr yn gwneud gwahaniaeth i brysurdeb Aberdyfi ‘prun bynnag.
Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod.
(d) Materion
eraill
Nodwyd bod y
berthynas a’r cydweithio rhwng y pysgotwyr a’r Harbwr Feistr wedi gwella ond
bod angen i’r pysgotwyr gadw eu celfi ac offer yn daclus rhag achosi risg i
ddefnyddwyr yr Harbwr.
Mynegwyd hefyd am
bryder o waredu anghyfreithlon ar dir dan gyfrifoldeb y Cyngor ger y Clwb
Golff. Nodwyd bod asbestos i’w waredu
gan gwmni arbenigol ar gost o oddeutu £10k-£15k. Hyderwyd y gellir
cael neges drwy gynrychiolydd Cymdeithas Pysgodfeydd Bae Ceredigion i’r
pysgotwyr adnabod yr offer maent yn awyddus i’w gadw ond yn naturiol y byddai’n
ofynnol cael lle iddynt fel storfa i’r dyfodol.
Nododd cynrychiolydd y Clwb Hwylio y byddent yn barod i gyfrannu at
gostau i gael sgip gan fod ganddynt hwythau offer i’w gwaredu.
Awgrymodd y
Cadeirydd:
·
Os byddai modd gosod ffens dolen gadwyn o amgylch y tir i rwystro
unigolion i fedru gwaredu deunydd yn anghyfreithlon
·
yn dilyn cael gwared a’r
asbestos y byddai modd i unigolion lleol ddod at ei gilydd i glirio’r tir ac
efallai y byddai modd gofyn i’r Cyngor Tref am gyfraniad tuag at y costau
Penderfynwyd: (a) Cymeradwyo i’r Harbwr Feistr drafod
gyda’r Cyngor Cymuned er mwyn trefnu grŵp cymunedol i glirio’r tir.
(b) Gofyn i gynrychiolydd
Cymdeithas Pysgotwyr Bae Cerdedigion gysylltu gyda’r
pysgotwyr yn rhybuddio bod yn fwriad gan y Cyngor i glirio’r safle ac y dylai unryw offer pysgota fod wedi ei gadwyn daclus ar y safle
cyn cychwyn ar y gwaith clirio safle.
(dd)
Mewn ymateb i ymholiad gan aelod ynglŷn á chynnal byncer Ail Ryfel
Byd yn Trefeddian, awgrymwyd iddo drafod y mater
ymhellach gyda’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i gael manylion CADW sydd
wedi ariannu cabannau yn y Friog.
(e) Wal y Cei
Adroddodd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig fel a ganlyn:
·
bod cynlluniau wedi eu
cadarnhau
·
rhagwelir posibilrwydd i
ddechrau ar y gwaith yn 2018
·
bod y wal bresennol wedi
ei harchwilio gyda sicrwydd bod oddeutu 5 mlynedd yn weddill o’i hoes
·
bod trafodaethau yn mynd
rhagddynt gyda’r Goron
·
bod elfen amgylcheddol yn
parhau angen ei ddatrys
·
ystyrir ail ran i’r cynllun sef wal Bae'r Eglwys a hyderir y gellir ariannu'r gwaith hwn hefyd
·
bod cyfanswm y cynllun oddeutu £4m gyda 75% yn cael ei ariannu gan
Lywodraeth Cymru
·
holwyd a oedd ffynonellau eraill ar gael megis gan yr Outward
Bound ond deallir ar lafar nad oedd cyfraniad ar gael
·
hyderir y byddai gwybodaeth fwy cadarn ym mis Mawrth ynghyd a chyflwyno’r
cynllun busnes
Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd y byddir yn ymgymryd â gwaith cynnal
a chadw rhwng swyddfa’r Harbwr Feistr a’r Institiwt
fel rhan o’r cynllun newidiadau.
Adroddodd y Cadeirydd y byddai’n gwneud fwy o ymholiadau ynglŷn â
ffynhonnell ariannu o ystyried bod yr arian yn wreiddiol o gronfeydd
strwythurol Ewrop. Tra bo’r 75% yn arian
o’r Llywodraeth byddai’n rhaid sicrhau ffynonellau ar gyfer 25% sy’n weddill.
Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod.
(f) Gorsaf
y Bad Achub
Nodwyd gwerthfawrogiad a diolch am gydweithrediad y Bad Achub i’r gwaith
o ymestyn yr orsaf sydd bellach wedi ei gwblhau ynghyd ag ail wynebu tir
cyfagos sydd yn welliant i ddelwedd yr ardal.
Diolchodd y Cyng. Dave Williams am gefnogaeth y gymuned yn hyn o beth gan
gynnwys y Clwb Hwylio, Outward Bound,
y Cyngor ac y bydd agoriad swyddogol i’w drefnu yn fuan. Fe fydd yn hwb enfawr i’r ardal gyda’r cwch
newydd yn cyrraedd ar 28 Tachwedd ac yn weithredol o’r 1 Rhagfyr 2016.
Penderfynwyd: Derbyn a nodir’ uchod.
(ff) Yng
nghyd-destun ymgynghoriad Gwylwyr y Glannau, nododd y Swyddog Morwrol a
Pharciau Gwledig os oedd unrhyw aelod yn awyddus i gyflwyno sylwadau bo’r
wybodaeth ar gael ar y safle we, fel amlinellir yn yr adroddiad.
Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod.
(g) Materion Ariannol
Tywysodd y Swyddog
Morwrol a Pharciau Gwledig yr Aelodau drwy’r fantolen
ariannol gan nodi fel a ganlyn:
·
bod tanwariant o £7,448
yng nghostau staff
·
bod tanwariant o £2,039
yng nghostau tiroedd ac eiddo
·
bod tanwariant o £70 yng
nghostau cwch a cherbydau
·
bod tanwariant o £2,404
yng nghostau offer a chelfi
·
bod targed yr incwm yn
fyr o £6,689
Nododd Mr James
Bradbury-Willis y byddai’n trafod gyda’r Harbwr Feistr y posibilrwydd o
hysbysebu angorfeydd ym mhamffled Aberdyfi i geisio
denu mwy o incwm.
Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod.
(ng) Ffioedd a
thaliadau 2017/18
Nododd y Swyddog
Morwrol a Pharciau Gwledig y byddir yn cynyddu’r ffioedd 2% ar gyfartaledd ar
gyfer y flwyddyn ariannol 2017/18 er cwrdd â her gyllideb a tharged incwm y
gwasanaeth.
Mewn ymateb i
ymholiad, nododd aelod bod 2% yn gytbwys gyda ffioedd eraill.
Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod.
(h) Digwyddiadau
Cymerodd y Swyddog
Morwrol a Pharciau Gwledig y cyfle i ddiolch i bawb a fu ynghlwm i drefniadau’r
gweithgareddau yn Aberdyfi a calonogol ydoedd gweld cynifer o bobl yn mynychu
ac yn mwynhau.
Nododd y Cadeirydd
bod y gymuned yn hynod weithgar yn Aberdyfi a Thywyn gyda’r ddau bentref yn
elwa o’i gilydd.
Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod.
6. UNRHYW FATER ARALL
Symud Tywod
Adroddodd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod Ymgynghoriaeth Gwynedd yn ystyried y camau mwyaf addas a
phriodol a ellir eu cymryd er ceisio datrys problemau sydd yn codi pan bydd
tywod yn cael ei chwythu yn ystod misoedd y gaeaf..
Nododd y Cadeirydd y dylid pwyso’n gadarn ar Ymgynghoriaeth
Gwynedd i symud tywod gan ei fod yn arwain at broblemau costus megis blocio
draeniau a chreu llifogydd i fusnesau'r pentref.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol:
·
Bod angen symud tywod yn
enwedig os ceir stormydd o’r gorllewin
·
Oni ellir gosod cyllideb
hyblyg i’w ddefnyddio ar gyfer symud tywod pe byddai angen
·
Ei bod yn bwysig
atgyfnerthu’r twyni tywod gan eu bod yn bwysig i’r clwb golff rhag llifogydd
·
Bod cynnydd enfawr yn y
glaswellt “sbartina” i’r dwyrain o’r Afon Cletwr ar
ochr Ceredigion o’r foryd a’i fod yn ymledu, yn casglu llaid ac yn creu
twmpathau llaid
·
Y gellir
yn y cyfamser adeiladu wal dywod ychydig o fetrau mewn uchder i liniaru ychydig
o’r broblem
Mewn ymateb i’r uchod, addawodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y
byddai’n cysylltu â’r swyddog perthnasol ac yn anfon
y sylwadau a dderbynnir ganddo o’r rhesymau i Aelodau Pwyllgor Ymgynghorol.
Penderfynwyd: (a) Gofyn i’r
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig drafod gyda Ymgynghoriaeth
Gwynedd ei bwriad ac yn y cyfamser bod yr Harbwr Feistr yn trefnu gyda’r contractwr lleol i adeiladu wal dywod.
Dogfennau ategol: