Newid defnydd a trosi adeilad yn 9
uned byw
AELODAU LLEOL: Cynghorydd Dylan
Fernley a’r Cynghorydd Nigel Pickavance
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r
amodau canlynol :-
1. 5
mlynedd
2. Unol
a’r cynlluniau.
3. Amod Cyfoeth Naturiol Cymru parthed llifogydd – cau’r
mynediad llawr daear isaf.
4. Manylion
unrhyw awyrdyllau a ffliwiau i’w gytuno o flaen llaw
5. Amodau
Dwr Cymru sy’n ymwneud a diogelu’r carthffosydd.
6. Cytuno manylion enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac
arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo 'r datblygiad
7. Cyfyngu’r
defnydd i anheddau o fewn dosbarth defnydd C3.
COFNODION:
a)
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer newid defnydd cyn ysgol yn naw
uned breswyl hunangynhaliol fyddai’n cynnwys dwy uned fforddiadwy. Nodwyd nad oedd
bwriad gwneud unrhyw waith addasu allanol - yr adeilad yn adeilad 4-llawr
trawiadol o fewn cwrtil annibynnol sydd
hefyd yn adeilad rhestredig gradd II. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn
y ffin datblygu, yng nghanol dinas Bangor ac o fewn ardal cadwraeth.
O safbwynt egwyddor y
datblygiad, nodwyd bod polisi TAI 9 yn caniatáu isrannu eiddo presennol i
fflatiau hunangynhaliol. Ystyriwyd fod y bwriad yn cwrdd gyda meini prawf y
polisi gan nad oedd angen newid allanol i’r adeilad. O ganlyniad, nid oedd
pryder o safbwynt effaith ar osodiad yr adeilad rhestredig na’r ardal
cadwraeth, ac ystyriwyd na fyddai yn debygol o gael effaith andwyol ar
fwynderau o ystyried ei leoliad yng nghanol y ddinas. Nodwyd bod y safle yn
eistedd o fewn cwrtil eu hun, gyda digonedd o le parcio; y safle’n hygyrch ac
yn agos i drafnidiaeth gyhoeddus.
O ystyried ffigyrau tai
Bangor, adroddwyd bod y ddarpariaeth ddisgwyliedig yn cael ei gyfarch trwy’r
safleoedd yn y banc tir, ond bod yr angen yn parhau am ragor o dai yn yr haen
prif ganolfannau. Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt angen a nodwyd
bod bwriad gosod amod i sicrhau defnydd C3 prif gartref yn unig a rhwystro
defnydd ail gartref neu llety gwyliau tymor byr. Byddai darparu dwy uned
fforddiadwy yn cwrdd gyda pholisi tai 15, a gellid sicrhau hynny drwy osod amod
cynllunio priodol.
Derbyniwyd Datganiad Iaith
Gymraeg gyda’r Uned Iaith yn amlygu nad oedd y datganiad yn dod i gasgliad
pendant o’r risg / effaith ieithyddol y datblygiad. Er hynny, ni dderbyniwyd
unrhyw dystiolaeth yn dangos y byddai’r datblygiad yn debygol o fod yn niweidiol
i’r iaith, ac o ystyried bod y bwriad yn cynnwys dwy uned fforddiadwy, ni
ystyriwyd ei fod yn gwbl groes i bolisi PS1. Ategwyd bod modd gosod amod i
sicrhau enw Cymraeg i’r datblygiad i gwrdd yn llawn gyda pholisi PS1.
Yng nghyd-destun
bioamrywiaeth, nodwyd bod datganiad seilwaith gwyrdd yn cynnig mesurau i wella
bioamrywiaeth wedi ei gyflwyno gyda’r cais ac os byddai’r caniatâd yn cynnwys
amodau sydd yn sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r wybodaeth ecolegol yna byddai hyn
yn lleihau pryderon.
Yng nghyd-destun materion
llifogydd a draenio, tynnwyd sylw at y trafodaethau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru
(CNC) a hynny oherwydd diffyg gwybodaeth am y perygl o lifogydd ar y safle.
Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn Parth A, sy’n gysylltiedig gyda’r NCT
presennol, sy’n golygu nad yw defnydd preswyl yn y lleoliad yma yn groes i
bolisi. Er hynny, amlygwyd bod Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio, sydd yn
cynnwys gwybodaeth mwy diweddar, yn nodi bod y safle yn rhannol o fewn Parth
Llifogydd 2/3 Afonydd, sef yn yr achos yma, ardal y maes parcio sydd i gefn yr
adeilad. Ategwyd bod Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn ystyriaeth faterol ac
felly oherwydd y risg, ystyriwyd bod cyfiawnhad dros ofyn am asesiad
canlyniadau llifogydd. Derbyniwyd asesiad gyda’r cais ac roedd yn dangos bod
modd rheoli’r risgiau yn effeithiol. O ganlyniad, nid oedd gan CNC wrthwynebiad
i’r cais.
Wedi ystyried yr holl
faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys bod y bwriad yn un fyddai’n gallu
gwarchod a sicrhau dyfodol i adeilad rhestredig trawiadol o fewn canol Dinas
Bangor, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol. Roedd y swyddogion yn argymhell caniatáu y cais gydag amodau.
b) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
c) Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn a nifer caniatadau dros
y blynyddoedd ar gyfer trosi adeiladau yn ardal Bangor i ddefnydd
aml-denantiaeth ac os oedd y rhestr niferoedd yn aros am gartref yn cynyddu neu
yn gostwng, nodwyd mai cais oedd yma am naw tŷ parhaol fyddai gydag amod
defnydd C3 yn unig. Ni fydd ar gael fel unedau aml-denantiaeth - byddai’r amod yn sicrhau uned parhaol.
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â’r nifer cyfeiriadau at lifogydd yn yr adroddiad, nodwyd bod
trafodaethau wedi eu cynnal gyda CNC oherwydd gwybodaeth anghyson rhwng mapiau
sydd yn gysylltiedig gyda’r NCT a mapiau llifogydd newydd. Ategwyd er bod y
mapiau newydd yn amlygu risg yn y maes parcio, bod CNC yn hapus gyda’r mesurau
lliniaru sydd wedi eu cyflwyno.
PENDERFYNWYD: Caniatáu’r
cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol :
1. 5 mlynedd
2. Unol a’r cynlluniau.
3. Amod Cyfoeth Naturiol Cymru parthed
llifogydd – cau’r mynediad llawr daear isaf.
4. Manylion unrhyw awyrdyllau a ffliwiau
i’w gytuno o flaen llaw
5. Amodau Dwr Cymru sy’n ymwneud a
diogelu’r carthffosydd.
6. Cytuno manylion enwau Cymraeg ar gyfer y
datblygiad ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo 'r datblygiad
7. Cyfyngu’r defnydd i anheddau o fewn
dosbarth defnydd C3.
Dogfennau ategol: