I ystyried adroddiad gan y Swyddog Morwrol
a Pharciau Gwledig.
(Copi’n amgaeedig)
Cofnod:
Cyflwynwyd: Adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion rheolaethol
yr Harbwr gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:-
(a)
Cod Diogelwch
Morwrol
Nodwyd bod y cod diogelwch yn ddogfen fyw a phwysigrwydd i dderbyn
sylwadau yn rheolaidd ar y cynnwys fel y gall gael ei adolygu ac bod y ddogfen
yn berthnasol i weithgareddau’r Harbwr. Tynnwyd sylw bod y Gwasanaeth yn
disgwyl adolygiad gan arbenigwr allanol Asiantaeth Gwylwyr y Glannau ond
oherwydd diffyg capasiti staffio nid oedd hyn wedi
digwydd ac fe fyddir yn ail-drefnu maes o law.
Cyfeiriwyd
at lansiad Ymgyrch Neifion a oedd wedi ei gynnal
yn ddiweddar yn Ysgol Tywyn yn dilyn adroddiadau
fod beicwyr môr yn aflonyddu
a phoeni dolffiniaid oddi ar arfordir
Abersoch a Thywyn.
Mewn
ymateb i’r uchod, nododd Aelod
bryder nad oedd swyddogion ac Aelodau yn ymwybodol o ddigwyddiadau lleol ac y dylid sicrhau gwell
cyfathrebu rhwng Adrannau i’r dyfodol.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod ac y byddai’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn dilyn
y pryder i fyny gyda’r Adran berthnasol.
(b) Mordwyo
Adroddwyd bod bwi'r “Fairway” wedi dod oddi ar
ei safle yn dilyn storm “Doris” yn ddiweddar a
sicrhawyd y byddir yn anfon Rhybudd i Forwyr yn
ddi-oed ac y byddai trefniadau i’w
gwneud gyda’r contractwr lleol i’w osod yn ôl ar y safle.
Ychwanegwyd bod cymhorthydd ar y morglawdd yn ardal Tywyn i’w roi yn ôl
ar safle ond y byddai’n ofynnol sicrhau bod y llanw a’r tywydd yn dderbyniol i
gyflawni’r gwaith.
Yn
gyffredinol, er gwaethaf y tywydd garw yn ystod
storm “Doris” ‘roedd y cymhorthyddion
eraill yr harbwr ar eu
safleoedd priodol, er hynny, byddir
yn sicrhau bod pob cymhorthydd sydd allan o safle
yn cael eu
ail leoli cyn 1 Ebrill 2017.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(c) Cynnal a Chadw
Amlinellodd yr Harbwr Feistr ar y gwaith
a gyflawnwyd dros y gaeaf sef:
·
Pont
y Brics
·
Atgyweirio o gwmpas yr Harbwr
·
Atgyweirio ochr y Gerddi wrth ymyl
Swyddfa’r Harbwr
·
Gosod bariau / rhwystrau
ar ochr y promenâd i atal y tywod ddod drosodd
Gobeithir
glanhau’r llithrfa’r Bad Achub cyn dechrau’r
tymor ynghyd â manion eraill gan
sicrhau bod popeth yn barod erbyn
Gwyliau’r Pasg.
Apeliwyd
ar Aelodau’r Pwyllgor hwn i gysylltu gyda’r Harbwr Feistr
ar faterion gweithredol fel bod llif y gwaith yn
rhedeg yn esmwyth.
Derbyniodd
y Gwasanaeth air o ddiolch gan gynrychiolydd ar ran Clwb Cychod
Aberdyfi am y gwasanaeth a dderbynir
gan swyddogion yr Harbwr.
(ch) Materion Staff
(i) Adroddwyd bod cytundeb
Cymhorthydd Harbwr Aberdyfi (tymhorol) wedi ei ymestyn ar drefniant tri diwrnod
yr wythnos hyd at ddiwedd Mawrth 2017 yn hytrach na symud staff ac sydd wedi
profi’n gost effeithiol. Bwriedir
cyflogi dau Gymhorthydd Harbwr (1 ym Mhorthmadog ac 1
ar gyfer Aberdyfi / Tywyn) yn llawn amser o’r 1 Ebrill ymlaen a fydd yn cael ei
gyllido o gyllideb y Gwasanaeth Morwrol.
(ii) Bwriedir
ystyried cyflogi Cymhorthydd Traeth yn Aberdyfi dros yr Haf o gyllideb y
Gwasanaeth a fydd oddeutu £4,000 ac efallai edrych ar bosibiliadau o ddenu
arian o ffynonellau lleol eraill. Rhagwelir byddai’r Gwasanaeth yn cysylltu
gyda’r Cyngor Cymuned er ceisio cefnogaeth cyllidol lleol.
(iii) Awgrymwyd
ymhellach oni fyddai’n bosibl cyflogi myfyriwr ar benwythnosau a thymor y
gwyliau o ddechrau Gorffennaf i Fedi.
(iv) Canmolwyd
gwaith y Cymhorthyddion Traeth a thra’n derbyn nad
oedd yn wasanaeth achub bywyd roedd eu gwaith yn fodd o fedru cynnig gwybodaeth
leol a sicrwydd i unigolion a gwelir eu cyflogi yn fantais enfawr. Roedd y Cymhorthyddion
Traeth o gymorth hefyd i’r Harbwr Feistr i fedru ei ryddhau o orfod ymdrin â
materion ar y traeth megis plant methu dod o hyd i’w rhieni ar ôl bod yn y môr,
cymorth cyntaf, a.y.b.
(v) Ychwanegodd yr Uwch Reolwr
Economi a Chymuned bod yn rhaid ystyried
y mater yn ehangach a’r Cyngor yn awyddus
i sicrhau bod diogelwch yn flaenoriaeth gan gofio bod cyfnod o adolygu a newidiadau o ran toriadau cyllidebol, a.y.b.
(vi) O safbwynt arwyddion diogelwch yr Harbwr a’r
traethau, eglurodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod y Gwasanaeth wedi cynnal adolygiad o’r holl arwyddion
yn Abermaw mewn ymgynghoriad gyda’r Bad Achub. Roedd yr adolygiad hwn
wedi rhoi sylfaen o safbwynt cynnal adolygiad yn Aberdyfi a Thywyn sydd i’w gynnal
ym mis Mawrth
/ Ebrill ac yn dilyn hyn gellir
pwyso a mesur yr anghenion ynghyd
â’r costau. Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod a fyddai’r
arwyddion mewn lle ar gyfer
y tymor hwn, esboniodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ymhellach bod yn rhaid trafod
addasrwydd yr arwyddion, cysondeb yng nghyd-destun traethau eraill y Sir, costau cynnal a chadw’r arwyddion, a.y.b. ond sicrhawyd y byddir yn cysylltu
gyda’r Aelodau lleol yn fuan yn
dilyn cynnal yr adolygiad yn
Aberdyfi i drafod ymhellach.
(vii) Ategodd sawl Aelod bwysigrwydd
i osod arwyddion addas ar y safle
ac y dylid gweithredu yn ddi-oed ar
gyfer y tymor hwn.
(viii) Mewn
ymateb, ychwanegodd cynrychiolydd o’r Bad Achub y byddai’n gwthio'n galed i
weithredu’r uchod gan fod dyluniad sylfaenol yr arwyddion wedi eu trafod, ac ni
ragwelai pam na ellir ei weithredu’n fuan.
Nododd ymhellach bod presenoldeb y Cymhorthyddion
Traethau ar y traeth am y tymor twristiaeth yn unig ond bod arwyddion yno i’w
gweld drwy’r amser a phe byddir yn cael arwyddion
gwell, teimlwyd y byddai hyn yn fanteisiol ar gyfer addysgu unigolion o
gyfrifoldeb am ddiogelwch.
Penderfynwyd: Gofyn i’r
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ddiweddaru Aelodau’r Pwyllgor hwn
ynglŷn â datblygiad yr adolygiad arwyddion traethau.
(d) Materion eraill
(i)
Wal y Cei
Derbyniwyd diweddariad gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ar yr
uchod gan nodi bod trafodaethau yn mynd rhagddynt rhwng swyddogion Parc
Cenedlaethol Eryri a Chyfoeth Naturiol Cymru o safbwynt yr elfen amgylcheddol a
hyderir y byddai’r Gwasanaeth yn gallu cyflwyno cynllun busnes i Lywodraeth
Cymru erbyn diwedd mis Mawrth.
Pwysleisiwyd bod y Cyngor wedi adnabod 25% o gostau’r cynllun hwn.
Mynegwyd siom gan yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned nad oedd y caniatâd
cynllunio hyd yma wedi ei gadarnhau ond o safbwynt edrych i’r dyfodol nodwyd
bod y cynlluniau mewn trefn a bod amrywiol gamau i’r broses sydd eisoes i’w trefnu. Nodwyd ymhellach nad oedd unrhyw bryder ynglyn â’r cais cynllunio ond bod
pryder ynglyn â dyfodol ariannu rhaglenni Ewrop yn
sgil Brexit.
Mewn ymateb i bryder y Cadeirydd ynglyn â’r amser yn llithro a dirywiad yn strwythur wal y cei,
eglurodd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned bod gwaith monitro ar y wal yn
digwydd a sicrhawyd bod oddeutu 5 mlynedd yn weddill o oes i’r strwythur pe
byddai’r rhaglen yn llithro hyd at 2020.
Tra’n derbyn bod y strwythur yn dirwyn i ddiwedd ei oes, cadarnhawyd bod
angen buddsoddiad yn y tymor byr / canolig ac felly bod ychydig o amser wrth
gefn. Roedd y datblygiad yn un ehangach
nid yn unig ar gyfer isadeiledd yr Harbwr ond hefyd ar gyfer atal llifogydd.
O
safbwynt pryder amlygwyd gan aelod
bod cyflwr oddeutu 95% o anodau’r strwythur wedi dirywio yn
arw, sicrhawyd bod y gwaith hwn i’w
gyflawni o fewn y cynllun gwaith.
Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi’r uchod.
(b) Gofyn i’r Swyddog
Morwrol a Pharciau Gwledig gyfleu pryder
y Pwyllgor Ymgynghorol ynglyn
a’r oediad mewn prosesu’r cais Cynllunio.
(ii)
Tir Comin / tir ystorfa,
gwastraff
Adroddwyd bod yr uchod yn parhau yn broblemus i’w ddatrys oherwydd
diffyg contractwyr lleol i ymgymryd â’r gwaith
clirio. Disgwylir am amcan bris gan
gwmni o Gaernarfon ac yn y cyfamser roedd y
Gwasanaeth yn ceisio am brisiau ar gyfer gosod ffens uchel a giât sydd i’w
gyllido o gyllideb y Gwasanaeth. Byddai
hyn yn galluogi i fedru cael rheolaeth gadarn dros y tir.
Siomedig
ydoedd nodi nad oedd cydweithrediad
gan y pysgotwyr o ystyried bod cymaint o offer pysgota ar y safle
sydd heb eu symud ers
blynyddoedd lawer. Bydd yn rhaid parhau
i geisio eu cydweithrediad ac erfyn ar gynrychiolydd y pysgotwyr i drafod hyn gyda’r pysgotwyr
fel mater brys.
Ategodd
y Cadeirydd ei fod yn bryd
i roi ffens i fyny a hyderir y byddai hyn yn
atal unigolion rhag gwaredu gwastraff
ar y safle.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod a gofyn i’r Gwasanaeth
Morwrol barhau gyda’u hymdrechion i ddatrys y broblem o glirio’r safle a gosod ffens o amgylch
y tir.
(f) Symud Tywod
Adroddwyd
y bydd contractwr yn cychwyn ar
y gwaith o symud tywod diwedd mis
Mawrth.
Mewn ymateb i ymholiad Mr Des George, ynglyn â
faint o’r tywod a fyddir yn symud, a sicrwydd bod trafodaethau gyda’r Clwb
Golff, addawodd y Swyddog Morwrol a
Pharciau Gwledig y byddai’n holi’r swyddog perthnasol ac yn adrodd yn ôl.
Nodwyd
ymhellach bod y lefelau traeth yn newid
yn sylweddol.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodir’ uchod.
(g) Materion Ariannol
Tywysodd
y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr Aelodau drwy’r fantolen ariannol gan nodi fel
a ganlyn:
Yn gyffredinol roedd y sefyllfa ariannol yn edrych yn addawol ond rhaid
cofio bod oddeutu £12,000 yng nghyllideb Aberdyfi o gyllideb ychwanegol ac
efallai i’r dyfodol y bydd angen ei ddiddymu o’r gyllideb er defnydd ar gyfer gwariant o dan bennawd arall.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(ng) Ffioedd a thaliadau 2017/18
Nododd
y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y bydd chwyddiant ar gyfer 2017/18 yn parhau yn
1.85% ac i gwrdd â tharged incwm awgrymir cynyddu’r ffioedd 2% ar gyfartaledd. Bwriedir cynyddu ffioedd angori cychod masnachol i 6%.
Tynnwyd
sylw bod ffi wedi ei ychwanegu
gan Stad y Goron sydd yn
hawlio £25 gan bob unigolyn sydd ag angorfa yn yr
Harbwr a gofynnir i’r Cyngor, fel awdurdod yr Harbwr,
gasglu’r ffi hwn ar ran Stad
y Goron.
Nododd yr Harbwr Feistr ei fod wedi cysylltu gyda chwsmeriaid a hyd yn
hyn mai dim ond 2 oedd wedi datgan nad oeddynt yn adnewyddu’r hawl i angori.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
Dogfennau ategol: