Agenda item

I ystyried adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Cofnod:

Cyflwynwyd:                         Adroddiad gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn diweddaru’r Pwyllgor ar faterion rheolaethol Harbwr Abermaw. 

 

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr Aelodau drwy gynnwys yr adroddiad

 

Darllenodd yr Uwch Swyddog Harbyrau yr adroddiad ynglyn a chynnal a chadw i’r aelodau a gwnaed cyfeiriad penodol i’r isod:

 

(a)  Harbwr Abermaw

 

  • O ran prysurdeb yn yr Harbwr gwelwyd sefydlogrwydd o ran niferoedd gyda 5 cwch wedi gadael ar ddiwedd 2015/16. Fe fydd yr Harbwr Feistr  yn cysylltu gyda’r cwsmeriaid i geisio derbyn rheswm dros adael yr Harbwr. 
  • Gwelwyd cynnydd yn y nifer o gychod pŵer a badau dwr personol a fu wedi cofrestru mewn cymhariaeth á 2015 a braf ydoedd nodi bod y cwynion wedi lleihau o safbwynt y badau dwr personol a chysondeb yn y niferoedd a gofrestrir
  • Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod ynglŷn â chwynion ac a oedd hyn oherwydd nad oedd bwiau wedi eu gosod, esboniwyd drwy drafodaeth y cafwyd cytundeb gan y Pwyllgor Ymgynghorol i beidio rhoi bwiau allan ond os yw yn creu pryder, gellir ail-ystyried y sefyllfa a chadarnhawyd bod bwiau I’r dwyrain o’r Pont y Rheilffordd wedi ei osod.  Fodd bynnag, nodwyd ymhellach nad oedd y Gwasanaeth wedi derbyn cwyn ynglyn a chamddefnydd gan gychod pwer yn yr Harbwr
  • Ychwanegwyd bod gan y Cyngor drefniadau ffurfiol a phroses i’w ddilyn ar gyfer derbyn cwynion a bo’r Gwasanaeth yn cydymffurfio a chysylltu gyda’r swyddogion priodol pan fo cwyn yn cael ei dderbyn. 
  • O safbwynt derbyn cwynion llafar, eglurwyd y drefn sef bod unrhyw gwyn yn cael ei nodi yn y dyddiadur yn swyddfa’r Harbwr fel sydd yn digwydd ymhob Harbwr arall y Cyngor. Mae unrhyw gwyn ysgrifenedig yn cael ei gofnodi drwy drefn Cwynion y Cyngor
  • Bod y Cod Diogelwch Morwrol yn berthnasol i bob Harbwr ac yn cael ei adolygu’n rheolaidd.  Fe fydd archwiliwr allannol yn treulio amser gyda’r Harbwr Feistr i adolygu’r cod ac sustemau’r holl harbyrau dan reolaeth y Cyngor ym mis Ionawr 2017.
  • Yn ystod yr haf, ni chodwyd unrhyw fater o sylw sy’n berthnasol i ddyletswyddau statudol yr Harbwr a hyderir y bydd hyn yn parhau
  • Cyfeiriwyd at y trychineb ym mis Awst lle gollodd dau fachgen ifanc eu bywydau a thalwyd teyrnged i staff yr Harbwr, staff y Gwasanaeth, y Bad Achub a’r gymuned leol am eu hymdrechion clodwiw yn ystod y digwyddiad hwn
  • Yn sgil y digwyddiad uchod, cynhaliwyd cyfarfod gydag Aelod Seneddol Dwyfor/Meirionnydd, ac asiantaethau perthnasol eraill  i drafod materion diogelwch y cyhoedd ac yn benodol cynllun ar gyfer arwyddion er ceisio gwella gwybodaeth i ymwelwyr a defnyddwyr y traeth i’r dyfodol
  • Bu i un cwch dorri’n rhydd o’i angorfa yn ystod gwyntoedd cryf a bu’n rhaid cau Pont y Rheilffordd am gyfnod byr er mwyn galluogi Gwylwyr y Glannau a criw y Bad Achub I dynnu’r cwch oddi ar y bont. Cadarnhawyd na chafodd difrod ei achosi i’r bont yn dilyn y digwyddiad hwn. Fe archwilwyd y rheilffordd gan arbenigwyr rheilffyrdd er sicrhau na chafodd difrod ei achosi i’r bont.
  • O safbwynt trafodaethau ynglyn ag achubwyr bywydau ar y traeth, esboniwyd bod trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda’r RNLI.  Nodwyd bod trefniadau presenol sydd mewn lle ar hyd yr arfordir yn gyson. Nodwyd bod y Cyngor yn barod i ystyried datrysiadau lleol mewn ymateb i broblemau lleol.  Nodwyd bod goblygiadau ariannol sylweddol ynglyn a phenodi achubwyrbywydau ar y traethau.  Yng nghyd-destun arwyddion, cyflwynwyd pecyn o awgrymiadau gan y Bad Achub o sut i wella, a phenderfynwyd i weithredu rhai o’r awgrymiadau erbyn 2017, ond fod yn bwysig nodi byddai hyn yn rhan o drafodaeth ehangach.
  • Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a statws y Faner Goch, esboniwyd y golygir perygl os yw’r Faner Goch yn chwifio.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(b)          Materion Gweithredol

 

  • Bod buddsoddiadau wedi eu gwneud o safbwynt cymhorthion mordwyo a calonogol ydoedd nodi bod y bwiau i gyd ar eu safle
  • Bod bwi newydd wedi ei osod gan Dŷ’r Drindod ar ran Dwr Cymru i farcio peipen arllwys dŵr i’r môr.  Datganwyd wrth Dwr Cymru a Ty’r Drindod fod angen tynnu gweddillion y cymhorthydd oddi ar y beipen fel mater brys gan fod y polyn sydd weddill yn achosi perygl i gychod sydd yn tramwyo yn yr ardal yn enwedig ar ben llawn 
  • Mewn ymateb i ymholiad gan aelod ynglyn a gosod bwi yn lle polyn, eglurwyd bod bwi yn gallu cymryd y tywydd yn well a thueddiad i bolyn gael ei ddifrodi ond ni chafodd y Gwasanaeth Morwrol y cyfle i roi sylwadau
  • Deallwyd bod y Cyng. Rob Triggs wedi ysgrifennu at Dŷ’r Drindod yn mynegi pryder am y perygl yn deillio o’r polyn ac ategodd sawl aelod bryder am ddiogelwch morwyr ac y dylid dwyn y mater i sylw Tŷ’r Drindod yn ddi-oed

 

Penderfynwyd:  Derbyn a nodi’r uchod.

 

(c)          Rhaglen Waith

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Harbyrau rhaglen waith ar gyfer yr Harbwr o Hydref 2016 i Fawrth 2017  ac fe dywyswyd yr Aelodau drwy’r rhestr a nodwyd ar y rhaglen waith. 

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod ynglyn a’r llwyth gwaith, cadarnhaodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai cymorth ar gael gan staff yr Harbyrau eraill i ymgymryd â rhai dyletswyddau. Nodwyd ymhellach bod cyflogaeth y ddau gymhorthydd harbwr Abermaw ac Aberdyfi wedi eu hymestyn hyd at ddiwedd Rhagfyr 2016.

 

Derbyniwyd 8 cais gan wirfoddolwyr i gynorthwyo yn yr Harbwr a’r cam nesaf fyddai cynnal asesiadau risg a thrafod y math o waith i’w gyflawni gan sicrhau bod y gwaith yn dderbyniol iddynt. Pwysleisiwyd am yr angen i drefniadau cywir fod mewn lle a diolchwyd am y diddordeb a’r brwdfrydedd. Cyflwynwyd diolch i’r unigolion a fu wedi datgan parodwydd i wirfoddoli yn yr Harbwr.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(ch)      Materion Eraill

 

Nodwyd ers i’r pontŵn gael ei osod ar wal y cei ger adeilad yr “SS Dora” roedd y Gwasanaeth Morwrol wedi cyfrannu oddeutu £20,000 i’w gynnal a’i gadw hyd yma, yn ogystal â’i archwilio yn rheolaidd. Nodwyd fod y tywydd a thonnau yn cael effaith niweidiol ar y pontŵn.  Tra’n derbyn bod y pontwn wedi bod o fudd i Abermaw gyda morwyr yn cael gwell mynediad at y dŵr, fodd bynnag nid oedd y Gwasanaeth Morwrol o’r farn, yn dilyn derbyn sylwadau gan Beiriannydd y Cyngor,  y gellid ail osod y bysedd ar brif strwythur y pontwn i’r dyfodol  gan nad oeddynt yn addas i’r lleoliad hwn.  Eglurwyd bod y bysedd wedi eu tynnu oddi ar y pontwn ar 31 Hydref 2015 oherwydd eu bod yn rhoi straenar brif strwythur y pontwn ac wedi creu sawl crac ifframwaith y pontwn. Ar hyn o bryd mae’r bysedd wedi eu angori yn ddiogel yn ardal y Baddon.  Nodwyd ymhellach bod gwaith sylweddol i’w gyflawni i atgyweirio’r pontwn.  Fe fydd yn anorfod derbyn cadarnhad ynglyn a perchenogaeth y pontwn ynghyd a chynllun cynnal a chadw gan y grwp yn fuan.

 

Nododd cynrychiolydd y Clwb Hwylio bod grŵp bychan a ddaeth at ei gilydd wedi derbyn grantiau sylweddol sef £50k o’r Loteri Genedlaethol a £20k gan Barc Cenedlaethol Eryri ar gyfer prynu’r pontwn ac roedd o’r farn bod yn rhaid ei atgyweirio a’i fod yn ased gwerthfawr i Abermaw ac mai ei brif bwrpas ydoedd i gychod ymwelwyr fedru cael mynediad hwylus i fynd a dod o’r harbwr ac nid i angori cychod oddi arno yn barhaol.  Roedd yn ymwybodol bod y Clwb Hwylio wedi cynnig £2,000 tuag at y costau cynnal a chadw ac adnewyddu’r rhannau a fu wedi ei difrodi.   Ategwyd aelod arall bod y pontwn yn boblogaidd ac yn y tymor byr, oherwydd bod y bysedd wedi eu tynnu oddi arno, bod bwlch ar y pontwn sydd yn rhwystro defnydd ohono.

 

Nododd y Cadeirydd bod angen eglurhad o’r sefyllfa ynglyn a pherchnogaeth a chael trefniadau mewn lle ar gyfer gwell cyfathrebu.  Awgrymwyd ymhellach y dylid sefydlu Is-grŵp gyda chynrychiolaeth o’r mudiadau perthnasol i drafod y ffordd ymlaen ac yn y cyfamser gofynnwyd i gynrychiolydd y Clwb Hwylio gysylltu gyda gwneuthurwyr y pontwn i ganfod a oedd yn bosibl ei atgyweirio.  Awgrymwyd hefyd i ofyn i’r peirianyddion lleol i archwilio ei gyflwr.

 

Penderfynwyd:          (a)        Sefydlu Is-grŵp i gynnwys y cynrychiolwyr o’r mudiadau fel a ganlyn:

 

Dr John Smith, Grŵp Mynediad Traphont Abermaw

Mrs Wendy Ponsford, Clwb Hwylio Meirionnydd

Mr Martin Parouty, Grŵp Defnyddwyr Harbwr Abermaw a’r Foryd

Y Cyng. Rob Triggs, Cyngor Tref Abermaw

Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig

Harbwr Feistr

 

                                    (b)       Yn y cyfamser, cyn galw cyfarfod o’r Is-grŵp uchod, bod yr aelodau canlynol yn ymchwilio ymhellach i gyflwr y pontwn a phosibilrwydd o’i atgyweirio fel a ganlyn:

 

Mrs Wendy Ponsford i gysylltu gyda’r gwneuthurwyr

Y Cyng. Rob Triggs i gysylltu gyda’r peirianyddion i archwilio ei gyflwr

 

(d)        Trwyddedau Ysgraff

 

Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y derbyniwyd cwynion am ymddygiad y gweithredwyr ysgraff eleni ac o’r herwydd cyflwynwyd cynllun drafft gerbron y Pwyllgor yn dangos llwybr mordwyo i bob ysgraff ei ddilyn.  Teimlwyd y byddai dilyn un cwrs yn rhwystro'r cychod rasio yn erbyn ei gilydd a thorri ar draws cychod eraill

 

Esboniwyd y broses ynglyn â thrwyddedu’r ysgraff a sicrhawyd bod trefniadau mewn lle ar gyfer archwiliadau ar y tir ynghyd ag archwiliad o’r cychod ar y dŵr.

 

Er yn datgan diddordeb, rhoddwyd hawl i un o weithredwyr yr ysgraff, fynegi ei farn gan nodi bod gweithredwyr ysgraff yn brofiadol ac y byddent yn asesu’r amodau ac yn dewis y llwybr mwyaf diogel. 

 

Wrth ateb cais am sylwadau ynglŷn â ‘Thrwyddedau Ysgraff’ a ‘Mordwyo’ awgrymodd aelod y byddai peilot o dan rhai amgylchiadau (fel gorlanw ar drai) yn dewis morwydo ymhellach i’r dwyrain, i ffwrdd o’r sianel ac yn union ar draws yr harbwr i gyfeiriad deheuol gan felly osgoi Trwyn y Gwaith (morglawdd Ynys y Brawd) a dŵr garw sy’n gallu datblygu yn y fynedfa i’r harbwr pan fo’r gwynt yn erbyn y llanw.

 

Awgrymodd y byddai’r dewis yma yn unol ag arferion mordwyo diogel gan y gallai rhoi mwy o le i’r peilot symud; mwy o amser i gymryd camau cadarnhaol i osgoi unrhyw drybeini pe byddai angen (fel y cwch oedd â mynediad wrth ddod i gysylltiad â chwch arall oedd yn dod i’r harbwr), golwg llai cyfyngedig a thaith lyfnach.

 

Fe wnaeth yr aelod hefyd atgoffa’r pwyllgor fod peilotiaid yn rheolaidd yn cludo teithwyr i ac o’u cychod ac wrth ddarparu teithiau cwch, a byddai angen cynllunio llwybr amgen ar gyfer y rhain.

 

Mynegodd yr aelod hefyd y farn fod peilotiaid yr ysgraffau, oedd â phrofiad sylweddol o fordwyo’r dyfroedd yn yr harbwr, mewn sefyllfa gref iawn i wneud penderfyniadau da am beilota diogel.

 

O ystyried tymor 2016, roedd yr aelod o’r farn (o ran y berthynas dda rhwng y peilotiaid) fod y tymor wedi bod yn un da gyda diolch i’r awgrymiadau a’r anogaeth gafwyd gan yr Uwch Swyddog Harbyrau a Harbwr Feistr Abermaw; ymdrechion y peilotiaid eu hunain a’r newidiadau wnaed ar y cyd i weithdrefnau gweithredu’r gwasanaeth ac yn olaf oherwydd fod y gwasanaeth wedi gweithredu’n gyson gyda thri cwch yn darparu seddau i bedwar ar hugain, roedd y galw am y gwasanaeth yn cael ei gwrdd yn gyfforddus.

 

I gloi, nododd  yr aelod ei fod  yn barod i drafod awgrymiadau gyda staff y Gwasanaeth Morwrol. 

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol amlygwyd y prif bwyntiau canlynol:

 

  • Awgrymwyd os oedd modd ystyried opsiwn ar gyfer llwybr mordwyo a fyddai’n addas i’r gweithredwyr
  • Bod diogelwch y teithwyr yn bwysig dros ben
  • Rhyddhawyd tair trwydded eleni a chaniatawyd pedwaredd drwydded ar gyfer teithiau i fyny’r aber.

 

Penderfynwyd:          (a) Cymeradwyo i’r ysgraff ddefnyddio’r llwybr mordwyo fel amlinellir yn y cynllun a gyflwynwyd i’r Pwyllgor pan fydd y llanw yn caniatáu, ac yn defnyddio llwybr amgen i’w drafod a chytuno gan y gweithredwyr a’r Harbwr Feistr. 

 

                                    (b) Gofyn i’r Swyddog Morwrol gyflwyno gwybodaeth ynglŷn â threfn trwyddedu cychod pleser i’r cyfarfod nesaf. 

 

 

(e)           Materion Ariannol

 

Cyfeiriwyd at y fantolen ariannol a thywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r gyllideb gan nodi y rhagwelir tanwariant ar incwm yr Harbwr o £11,332.

 

Penderfynwyd:        Derbyn a nodi’r uchod.

 

(f)           Ffioedd a Thaliadau

 

Rhagwelir cynnydd o 2% ar ffioedd a thaliadau ar gyfer 2017/18.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(ff)       Digwyddiadau

 

Diolchodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i bawb a oedd ynghlwm â’r trefniadau'r digwyddiadau yn Harbwr Abermaw a calonogol ydoedd gweld cynifer o gychod yn Ras y Tri Chopa a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2016.  Tynnwyd sylw y bydd y ras yn dathlu pen-blwydd yn 40oed yn 2017.

 

Cynhelir gŵyl “Paddlefest y Fawddach 2017 ar 15/16 Gorffennaf.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

Dogfennau ategol: