(a) Adroddiad ar Gynllun Rheoli
Pwynt Penrhyn – Cyngor Cymuned Arthog
(b)
Cynllun Busnes (Cynllun Datblygu’r Harbwr) – Cyng. Rob Triggs
(c)
Polyn a sbigyn peryg yn
Harbwr Aberamffra
(ch) Diweddariad ynglyn a sefyllfa tywod
(d)
Bagiau
Tywod / Giat ar frig y llithrfa
(dd) Gorsaf
Danwydd Petrol
(e) Angorfeydd
(f)
Bysedd y Pontwn
(ff)
Pysgod Marw
(Copi
o fanylion (dd) i (ff) yn
amgaeedig)
Cofnod:
(a) Cynllun rheoli
Pwynt Penrhyn
Diolchodd y Cyng.
Julian Kirkham, Cyngor Cymuned
Arthog, i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig am ei gymorth a’i
gefnogaeth mewn goresgyn rhai o broblemau parcio ym Mhwynt Penrhyn.
Fodd bynnag, roedd faniau
campio o bob maint yn anwybyddu’r arwydd “Dim Parcio Dros Nos”. Nodwyd bod rhywun wedi troi'r arwydd fel nad
ydyw yn weledol a gofynnwyd a fyddai modd i’r Gwasanaeth Morwrol ail-osod yr
arwydd. Nodwyd ymhellach bod faniau campio
yn enwedig y rhai mwy wedi cymryd i barcio yn yr ardal uwchben y llithrfa ac yn
anwybyddu’r arwydd ac awgrymwyd y gall arwydd arall “Dim Parcio Dros Nos” gael
ei osod lle mae’r cylch bwi achub bywyd.
Deallir hefyd bod Adran Trafnidiaeth yn
bwriadu rhoi arwyddion 30 m.y.a. ar y ffordd i’r pwynt. A oedd hyn yn golygu y
gallai cerbydau sydd wedi parcio dros nos ar y briffordd fod yn destun
erlyniad. Ychwanegwyd nad oedd mannau
parcio ar y cylch troi. Roedd un o
aelodau’r Cyngor Cymuned wedi ymchwilio i is-ddeddfau ynglyn
a “gwersylla gwyllt”.
Gwnaed cais
i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig am bwynt cyswllt yn yr
Adran Gyfreithiol fel bo Clerc
Cyngor Cymuned Arthog yn gallu
cysylltu i wneud cais am gyfarfod ac i archwilio’r posibilrwydd i Bwynt Penrhyn fod
yn “bwynt arbrawf”.
Nodwyd bod Rheilffordd Fairbourne
yn cytuno y gellid gosod giât i stopio faniau campio
ddefnyddio’r ardal uwchben y llithrfa;
amcan cyntaf y Cyngor Cymuned fyddai gosod y giât a gosod clo gyda chod pwrpasol, lle y gellir ei roi i ddeiliad “bona fide” am drwydded ddi-dâl i lansio eu cwch, ar ôl gwneud
cais i Gyngor Cymuned Arthog am drwydded.
Mewn ymateb,
adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig:
·
Bod y Gwasanaeth Morwrol wedi buddsoddi mewn
arwyddion a chytunwyd i roi giât yma ond derbyniwyd gwrthwynebiad a bu’n rhaid
ail-ystyried oherwydd bod y ffordd yr unig fynediad i safle lansio cychod Pwynt
Penrhyn
·
Croesawyd bod Adran Trafnidiaeth wedi cytuno i roi arwyddion
30 m.y.a. ar y ffordd i’r pwynt
·
Bod problemau parcio dros nos yn bodoli ledled y
Sir a’i fod yn anodd ei reoli
·
Cytunwyd y byddai’r Harbwr Feistr yn
gosod arwyddion ychwanegol ar y safle cyn diwedd
mis Mawrth 2017 ac yn trwsio’r arwydd
a fu wedi ei ddifrodi cyn
diwedd 2016
Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r
uchod.
(b)
Cynllun Busnes (Cynllun Datblygu’r harbwr)
(i)
Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a chynllun i ddatblygu’r harbwr, esboniodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd gan
y Gwasanaeth Morwrol y gyllideb a’r adnoddau
i arwain ar ddatblygiadau.
Nododd y Cadeirydd ymhellach bod y Grŵp
Llywio Cymunedol yn ystyried prosiect ehangach a’i fod yn gynamserol i drafod
cynllun datblygu’r harbwr hyd nes y gwelir beth fydd adwaith datblygiad y
Grŵp Llywio dros y flwyddyn nesaf.
(ii)
Yng nghyd-destun ymholiad ynglyn a’r tir tu
ol i swyddfa’r Harbwr Feistr, gofynnwyd i’r Uwch
Swyddog Harbyrau a’r Harbwr Feistr
edrych ar y posibilrwydd ar gyfer datblygu’r tir yn fannau
parcio, ac adrodd yn ol i Gyng.
Rob Triggs.
(iii)
Nododd y Cyng. Rob Triggs bod gofod sylweddol ar y cei yn Aberamffra y gellir gwneud defnydd ohono.
Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod yr unedau
yn Aberamffra bellach wedi eu gwerthu ac y byddai’n
rhaid ymgynghori gydag Uned Amddiffyn yr Arfordir ynglyn
a chyflwr y wal. Awgrymwyd trafod
syniadau’r Cyng. Triggs (unedau o fodurdai) yn
uniongyrchol gyda’r Uwch Swyddog Harbyrau a’r Harbwr
Feistr mewn ymgynghoriad a’r Uned Amddiffyn yr Arfordir.
(c)
Polyn peryglus yng ngwaelod y llithrfa yn Harbwr Aberamffra
Nodwyd
y gwnaed ymdrech i dynnu’r polyn ond
nid oedd yn bosibl i’w
dorri.
(ch) Diweddariad ynglyn a sefyllfa tywod
Nododd
y Cadeirydd bod adroddiad drafft ar gael
ac y bydd ar gael i’r cyhoedd
unwaith y bydd wedi ei gadarnhau.
(d)
Bagiau Tywod / Giât ar frig y llithrfa
Gofynnwyd a oedd modd cau’r giât ar frig y llithrfa yn enwedig ar lanw
uchel.
O
safbwynt y bagiau tywod, deallir nad yw’r Cyngor
yn cyflenwi bagiau tywod ac amlygwyd pryder bod rhannau o Abermaw yn dioddef o lifogydd
ac y dylid ail-ystyried darparu bagiau tywod. Cyflwynwyd llythyr i’r Swyddog Morwrol
a Pharciau Gwledig ar ran perchennog y Last Inn yn mynegi pryder
am yr uchod i’w gyflwyno ymhellach
i Uned Amddiffyn yr Arfordir.
Mewn ymateb i’r uchod, sicrhaodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig na
fyddai unrhyw anhawster ynglyn a chloi’r giât ar frig
y llithrfa yn ystod y gaeaf ac ar lanw uchel. Bydd yr Harbwr Feistr yn sicrhau
fod y giat ar glo dros gyfnod llanw uchel (Springs) ac yn cael ei agor pan bydd y llanw yn lleihau (Neaps)
(dd) Gorsaf Danwydd Petrol
Gofynnodd cynrychiolydd Grŵp Defnyddwyr Harbwr Abermaw a fyddai
modd ystyried cael cyfleuster tanwydd petrol i’r harbwr. Tra’n derbyn bod elfennau iechyd a diogelwch
i’w hystyried, gwelwyd y cyfleuster yn fodd o greu incwm ychwanegol.
Mewn
ymateb, addawodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ystyried y mater ymhellach
yn
nhermau risgiau a rheoliadau perthnasol ac y byddir yn adrodd
ar ei ganfyddiadau
i gyfarfod nesaf y pwyllgor ymgynghorol hwn ym mis
Mawrth 2017.
(e)
Angorfeydd
(i)
Taliadau Blynyddol - pe na fyddai angorfa wedi ei
ddefnyddio a oedd polisi i godi tal is neu ffi cadw? Os nad oedd, a fedrai’r Cyngor ystyried
polisi o’r fath?
Mewn
ymateb, esboniodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig pe byddai unigolyn
yn awyddus i gadw angorfa, byddai’n
rhaid talu’r ffi. Os nad yw
unigolyn yn gallu lansio oherwydd
rhesymau dilys, fe fyddai’r Harbwr
Feistr yn hyblyg ynglyn a thaliadau.
(ii)
Cadarnhad o
fanyleb offer gwely’r môr. A oes unrhyw
amodau ar gyfer offer gwely’r môr, a yw hyn yn gymwys i’r holl angorfeydd neu a
yw’r rhai ar gyfer angorfeydd dros dro yn wahanol i angorfeydd parhaol? Pwy sy’n gyfrifol am angorfeydd, dros dro a
pharhaol, pe byddent yn llusgo ac yn achosi niwed i drydydd parti?
Mewn ymateb, cadarnhaodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod yn
rhaid i’r angorfeydd cydymffurfio a manyleb berthnasol sy’n cynnwys maint y
cadwyni ac angor. Rhaid i berchennog pob
angorfa gyflwyno tystysgrif cymwys briodol i’r Harbwr Feistr cyn angori cwch ar
yr angorfa. Ni fydd yr Harbwr Feistr yn
archwilio pob un angorfa gan nad yw hyn yn gyfrifoldeb y Gwasanaeth Morwrol ond
o safbwynt angorfeydd y Cyngor, bydd yr Uwch Swyddog Harbyrau
a’r Harbwr Feistr yn eu harchwilio.
O safbwynt math yr angorfa, nodwyd bydd y
Gwasanaeth yn ystyried hyn ac yn cadarnhau eu penderfyniad yn y cyfarfod nesaf.
Awgrymwyd
y byddai’r Harbwr Feistr yn anfon
polisi angorfeydd allan i’r aelodau.
(iii)
O
safbwynt poeni am ddiogelwch, gofynnir bod angorfeydd y Tri Chopa yn y fynedfa i’r
harbwr yn cael eu marcio
gyda bwi goleuedig.
Mewn ymateb, yn wyneb y ffaith ei bod yn
annhebygol y byddai’r cychod yn hwylio i mewn yn ystod y nos, nododd y Swyddog
Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai modd rhoi rhybudd i forwyr
yn hytrach na rhoi bwi goleuedig.
(f)
Pysgod Marw
Mynegwyd pryder am faterion amgylcheddol yn sgil y ffaith y gwelwyd
gweddillion dros 270 o hyrddiaid wedi eu ffiledu yn llanast yn yr harbwr.
Mewn ymateb, gwerthfawrogwyd derbyn y wybodaeth gan y Swyddog Morwrol a
Pharciau Gwledig. Ychwanegwyd, bod
dyletswydd ar unigolion i ddatgelu pwy sydd yn gyfrifol, os ydynt yn ymwybodol
o’r achos ac yn ymwybodol pwy sydd yn gyfrifol am bysgota yn anghyfreithlon yn
yr harbwr.
(g)
Mewn ymateb i ymholiad ychwanegol ynglyn a gwelliant mewn derbyn tystysgrifau
angorfeydd, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod angen tynhau gweithrediadau’r
tystysgrifau ac fe fyddir yn trafod
ymhellach gyda’r Uwch Swyddog Harbyrau a’r Harbwr Feistr.
Penderfynwyd: Gofyn
i’r swyddogion perthnasol weithredu yn unol a’r
awgrymiadau wnaed uchod.
Dogfennau ategol: