Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Huw Wyn Jones

Penderfyniad:

·         Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2024 o’r gyllideb refeniw, gan nodi bod rhagolygon o orwariant o £8.3 miliwn gan adrannau’r Cyngor, gyda 83% ohono yn y maes gofal oedolion a phlant, a chefnogi’r camau mae’r Prif Weithredwr wedi eu cyflwyno i ymdrin â’r gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a’r Adran Amgylchedd.

·         Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cyllid a’r Aelodau Cabinet perthnasol i wneud nifer o drosglwyddiadau cyllideb angenrheidiol, heb gyfyngiad ar y gwerth, o fewn cyllidebau gwasanaethau yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant i adlewyrchu'r pwysau presennol, gan gynnwys yn y maes Anabledd Dysgu, Pobl hŷn, Anabledd Corff ac Iechyd Meddwl.

·         Cymeradwyo cymorth ariannol ychwanegol uwchlaw’r taliad cytundebol gwerth £201k i Gwmni Byw'n Iach sydd i’w gyllido o’r gronfa trawsffurfio, gan ddirprwyo’r hawl i’r Aelod Cabinet dros Economi mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet Cyllid, Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i gytuno ar swm y gefnogaeth ariannol terfynol uwchlaw y tâl cytundebol gyda Byw’n Iach ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

·         Cymeradwyo trosglwyddiad o £4,409k o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor.

·         Eithrio cymal 16.3.1.(C) o’r Rheoliadau Ariannol a pheidio caniatáu i adrannau gario unrhyw danwariant i’r flwyddyn ariannol nesaf.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones.

PENDERFYNIAD

TRAFODAETH

Cyflwynwyd adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r

Cyngor am 2024/25, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol gyda

manylion yr holl adrannau wedi eu cynnwys yn Atodiad 1 o’r adroddiad.

Nodwyd fod rhagolygon o orwariant o £8.3 miliwn gan adrannau’r Cyngor yn dilyn adolygiad diwedd Tachwedd, gyda 83% ohono yn y maes gofal oedolion a phlant. Yn ogystal nodwyd bod rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd pump o’r adrannau yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn, gyda gorwariant sylweddol ar gyfer yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a’r Adran Amgylchedd.

Ymhelaethwyd ar y gorwariant fesul Adran, gan nodi fod yr Adran Oedolion yn debygol o orwario £3.3 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn yn sgil cyfuniad o nifer o ffactorau gan gynnwys cynnydd yn y gofyn am ddarpariaeth gofal cartref, costau staffio uwch,  lefelau salwch a chyfraddau oriau digyswllt yn uchel ar y ddarpariaeth fewnol.  Nodwyd fod gwaith eisoes wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i edrych ar sefyllfa ariannol yr adran gyda’r gwaith yn derbyn sylw.

Adroddwyd bod yr Adran Plant yn debygol o orwario £3.7 miliwn, gyda’r sefyllfa wedi gwaethygu ers adroddiad mis Tachwedd.  Nodwyd fod hyn yn bennaf yn sgil costau lleoliadau all-sirol, cymhlethdod pecynnau a defnydd o leoliadau heb eu cofrestru.  Nodwyd fod y Prif Weithredwr wedi comisiynu gwaith, i’w arwain gan y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol i edrych ar y sefyllfa mewn manylder.

Gofynnwyd i’r Cabinet am daliad uwchlaw‘r taliadau cytundebol ar gyfer Cwmni Byw’n Iach ar gyfer y swm o £201,000.

Nodwyd y rhagwelir sefyllfa o orwariant o £699,000 gan yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC yn sgil lleihad yn y gwaith sy’n cael ei gomisiynu gan asiantaethau allanol sy’n cael effaith ar incwm y gwasanaeth ac y bydd £667,000 o orwariant tebygol gan yr Adran Amgylchedd.

Ymhelaethodd y Pennaeth Cyllid fod yr adroddiad wedi ei herio gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwiliad gan nodi eu bod wedi derbyn yr adroddiad, nodi’r sefyllfa ariannol a’r risgiau, gan ofyn i’r Cabinet roi sylw penodol i’r canlynol:

·       i’r gwaith sy’n cael ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr gan ofyn am amserlen ar gyfer cyflawni’r gwaith.

·       y sefydlir rhaglen glir i ymateb i’r gwaith am yr Adran Plant ac i’r dadansoddiad gael ei gyflwyno i’r pwyllgor gael ei herio.

·       gofynnwyd am wybodaeth sut y mae Gwynedd yn cymharu gydag awdurdodau eraill o ran gorwariant.

 Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Ymhelaethwyd ar y gorwariant gan yr Aelodau Cabinet unigol gan nodi fod sylw’n cael ei roi i’r gorwariant a’r diffyg mewn incwm gan rhai o’r Adrannau, a bod camau gwahanol yn cael eu cymryd i wella’r sefyllfa.

·       Nodwyd fod stormydd diweddar wedi effeithio ar y sefyllfa ariannol gan fod yn rhaid darparu gwasanaeth ychwanegol mewn achlysuron o’r fath.

·       Tynnwyd sylw hefyd fod gorwariant mewn adrannau yn sgil diffyg cyllideb hanesyddol i wahanol feysydd, gan nodi fod Gwaith Llechen Lân ym maes Gofal eisoes wedi adnabod cynnydd o 18% yn y gwariant i’r dyfodol.

·       Nodwyd pryder sylweddol am y darlun ariannol yng Ngwynedd a holwyd beth oedd effaith y system o rybudd cynnar ac a yw’r rhagolygon presennol o or-wariant neu ddiffyg cyllideb yn cael eu defnyddio ar gyfer llunio cyllidebau 2025/26.

o   Mewn ymateb nodwyd fod penderfyniadau anodd iawn i’w gwneud wrth sefydlu cyllideb 2025/26, a bod y galw mae’r gwasanaethau yn eu wynebu yn her llawer mwy na’r camau a gymerir trwy’r system ‘rhybudd cynnar’ i rewi swyddi ayyb.

o   Nodwyd hefyd fod y term ‘gorwariant’ yn dechnegol gywir ond ei fod yn adlewyrchu diffyg cyllideb hanesyddol sy’n arwain at ddau ddewis posib, sef peidio darparu gwasanaethau angenrheidiol neu ymateb i ofynion a bod cost ynghlwm â hynny.  Nododd y Prif Weithredwr nad oedd peidio darparu’r gwasanaethau yn opsiwn, ac nad oedd unrhyw achosion o danwariant ar ôl bellach i gynorthwyo’r adrannau eraill sy’n gorwario.   Nodwyd y bydd hyn yn arwain at heriau anodd iawn wrth osod cyllideb 2025/26.

·       Ymhelaethwyd fod gwasanaethau ataliol megis Byw’n Iach yn bwysig iawn wrth atal gofyn am wasanaethau mwy dwys gan wasanaethau eraill megis Gofal a’r Bwrdd Iechyd.

·       Nododd yr Arweinydd neges benodol i Lywodraeth Cymru fod ffynhonnell cyllido Cyngor Gwynedd yn isel o gymharu ag awdurdodau eraill gan erfyn arnynt i wrando ac ymateb i’r diffyg cyllideb cyfredol, yn arbennig wrth ddarparu gwasanaethau i bobl bregus.

Awdur:Ffion Madog Evans - Pennaeth Cyllid Cynorthwyol

Dogfennau ategol: