Ystyried a ddylai'r Awdurdod lunio Gorchymyn Addasu Map Diffiniol.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Yn groes i’r argymhelliad, yr Awdurdod i
lunio Gorchymyn Addasu Map Diffiniol a chofrestru llwybr cyhoeddus Harbwr Nefyn,
Tref Nefyn – nodi dyddiad codi cwestiwn fel Tachwedd 20fed, 2021
Rheswm: Tystiolaeth ddigonol o ddefnydd 20 mlynedd
Cofnod:
Ystyried
a ddylai'r Awdurdod lunio Gorchymyn Addasu Map Diffiniol.
Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd yr Arweinydd
Tîm Mynediad bod cais wedi ei gyflwyno i’r Cyngor, o dan Adran 53 Deddf Bywyd
Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i gofrestru llwybr cyhoeddus yn Nhref Nefyn ar y Map
Swyddogol. Gwnaed y cais ar y sail bod y cyhoedd wedi cerdded ar y llwybr hwn,
fel petai ganddynt yr hawl, yn ddirwystr ac yn gyson, heb fod yn gyfrinachol a
heb ganiatâd y tirfeddiannwr dros gyfnod di-dor o ugain mlynedd.
Derbyniwyd y cais gan y Cynghorydd
Gruffydd Williams ar ei ffurf ddiwygiedig fis Tachwedd 2021. Eglurwyd bod y
llwybr a hawlir yn cychwyn mewn cyffordd â Llwybr Cyhoeddus rhif 19 Tref Nefyn
(pwynt B ar y Cynllun) gan arwain i lawr llwybr cul, serth gyda llawer o
risiau, hyd y traeth tywodlyd; yn parhau i flaen nifer o eiddo preswyl a
chytiau glan mor cyn diweddu tu draw i’r morglawdd (pwynt E ar y Cynllun).
Eglurwyd, wedi derbyn y cais a chymryd
cyngor cyfreithiol, ystyriwyd y byddai’n hanfodol i'r Cyngor wrthod y cais am y
rhesymau canlynol: -
·
Methiant
1: Na ellid adnabod y rhan o'r llwybr a hawlir rhwng pwyntiau B i E yn y
cynllun ar y ddaear ac nad oedd gan y llwybr unrhyw ffiniau sydd yn ei wahanu.
Nid oedd modd cadarnhau a oes gwir ddefnydd wedi'i wneud (naill ai gan y
cyhoedd neu fel arall) gan nad yw'n bodoli mewn modd adnabyddadwy ar y ddaear.
Yn benodol, dadleuwyd wrth gerdded, y byddai aelodau o'r cyhoedd yn dueddol o
ddefnyddio'r llwybr a hawlir neu unrhyw ran arall o'r traeth yn ddibynnol ar
leoliad y llanw. Mae gofyniad o fewn y gyfraith i gael sicrhad o hyd a lled
llwybr a hawlir i’r graddau y gellid sicrhau ei fod yn bosib ei adnabod ar y
ddaear. Ystyriwyd nad yw’n bosib adnabod y llwybr dan sylw yn eglur ar y ddaear
ac felly ni ellid bodloni'r gofyniad hwn, ac ni fyddai modd i unrhyw un
fyddai’n gwrthwynebu’r cais gael modd o wrthwynebu’r cais.
·
Methiant
2: Ystyriwyd bod y llwybr wedi ei ddefnyddio yn bennaf gan ddefnyddwyr neu
berchnogion y cytiau glan mor neu berchnogion cychod sydd ar y traeth. Yn
benodol nid oedd gan y llwybr a hawlir gyswllt gyda phriffordd neu rwydwaith
hawliau tramwy cyhoeddus ar ei ddiwedd ym mhwynt E. Gan nad oedd y cyhoedd, yn
gyffredinol byth yn defnyddio'r llwybr, nid oedd modd ystyried defnydd o'r fath
fel hawl, ac o ganlyniad, nid oedd modd bodloni'r cod o gyflwyniad tybiedig dan
adran 31 (1) Deddf Priffyrdd 1980.
Tynnwyd sylw at y fframwaith
ddeddfwriaethol perthnasol gan amlygu’r ffaith mai ystyriaeth o’r dystiolaeth
yn unig oedd dan sylw ac na ellid ystyried ffactorau megis diogelwch y cyhoedd,
dymunoldeb, addasrwydd neu angen ar gyfer y llwybr gan yr Awdurdod. Ategwyd bod
yr holl broses yn ymwneud â phenderfynu a oes hawliau tramwy cyhoeddus mewn
gwirionedd wedi bodoli neu beidio.
Cyfeiriwyd at y dystiolaeth a
dderbyniwyd gan nodi nad oedd angen isafswm lefel statudol o ddefnyddwyr i
ddangos defnydd digonol i arwain at ragdybiaeth o gyflwyniad, fodd bynnag,
dylai'r ffordd gael ei defnyddio gan y cyhoedd neu'r gymuned. Wrth ystyried
cais o’r math hwn rhaid i'r cyhoedd arddangos eu bod wedi defnyddio'r llwybr
heb her a thros gyfnod o ugain mlynedd.
Er mwyn gwneud achos dan Adran 31 o
Ddeddf Priffyrdd 1980, roedd angen sefydlu dyddiad pan ddaeth hawl y cyhoedd i
ddefnyddio'r llwybr o dan amheuaeth. Yn yr achos penodol hwn, dadleuiwyd nad oedd dyddiad cyflwyniad tybiedig. Roedd y
Swyddogion yn argymell gwrthod ychwanegu’r llwybr honedig i’r map swyddogol.
a)
Gyda’r Cynghorydd Gruffydd Williams yn ymgeisydd ar
y cais ac felly’n codi
buddiant fyddai’n rhagfarnu, bu iddo enwebu’r
Cynghorydd Rhys Tudur i siarad ar ran y gymuned. Cyflwynwyd y sylwadau canlynol
ac arddangoswyd lluniau hanesyddol o’r llwybr;
·
Bod ymateb cryf wedi bod i’r cais yn lleol – hyn yn
amlygu diddordeb trigolion lleol
·
Y llwybr yn un hanesyddol gyda defnydd ohono ymhell
dros 20 mlynedd
·
Bod hoel y llwybr i’w adnabod yn glir a phan fydd y
llanw i mewn does dim dewis ond defnyddio’r llwybr uwchben y wal
·
Bod
lluniau diweddar gyda giatiau diogelwch a llystyfiant yn rhwystro defnydd ac
felly’n cuddio ôl defnydd y llwybr - bod yr hoel troedio yn gliriach mewn hen
luniau
·
Defnydd
cyson o’r llwybr yn hanesyddol gan bysgotwyr - dim defnydd hamdden yn unig
·
Bod y ffin yn dilyn y tai a’r waliau yn glir
·
Yng
nghyd-destun Polisi Cyhoeddus a Rhybudd Cyngor Sir o ddefnydd, nifer
perchnogion eiddo yn cydnabod bodolaeth a defnydd y llwybr fel un cyhoeddus.
Nid ydynt wedi atal neb rhag cerdded arno ac nid oeddynt wedi cymryd camau i
atal defnydd cyhoeddus ohono
b)
Amlygodd
y Cyfreithiwr bod y llwybr yn cael ei ddefnyddio pan fydd y llanw yn uchel, ond
mewn amgylchiadau arferol byddai pobl yn cerdded ar y traeth yn gyffredinol ac
felly ni ellid cyfyngu’r defnydd i lwybr yn unig, ond i ddefnydd ‘crwydro’.
Ategodd, petai ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal, rhagwelir mai ‘defnydd
crwydrol’ fydd yn cael ei brofi ac anodd fyddai tystiolaethu yn groes i hyn.
Gyda’r dystiolaeth yn annelwig ac yn groes i’r cod, byddai caniatáu yn debygol
o arwain at risg o gostau sylweddol i’r Cyngor.
ch) Cynigwyd ac eiliwyd gwrthod
y cais yn unol â’r argymhelliad.
c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol,
nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau:
·
Bod
27 o ymatebion a lluniau wedi eu derbyn / dangos, yn tystiolaethu’r defnydd
·
Bod
defnydd hanesyddol o’r llwybr; defnydd gan genedlaethau o drigolion Nefyn. Y
llwybr yn rhan annatod o hanes a threftadaeth yr ardal
·
Bod
y geiriad ‘defnydd rhesymol’ ar y gorchymyn i weld yn drothwy isel ynghyd a
‘chydbwysedd tebygolrwydd’ (balance of probabilities) - mater o farn - nid oes sicrwydd y byddai
ymchwiliad cyhoeddus yn gwrthod.
·
Cais wedi ei gyflwyno 2018 gyda chais diwygiedig
2021, beth sydd wedi digwydd yn y cyfamser?
·
Bod hysbysfwrdd ar y traeth yn amlygu llwybr
·
Cywilydd nad oes parch gan y Cyngor i’r llwybr
hanesyddol yma
·
Bod arwydd llwybr cyhoeddus wedi ei osod – y llwybr
yn weladwy
·
Y
llwybr yn arwain at y morglawdd gyda dewis o gerdded ymlaen o gwmpas y trwyn i
Morfa Nefyn
·
Bod
meinciau i gofio am anwyliaid wedi eu gosod ar hyd y llwybr
·
Bod lle digonol i gerdded rhwng y tai ar wal
·
Rhaid
parchu teimladau pobl leol - cyfryngau cymdeithasol yn berwi gyda sylwadau a
theimladau
Mewn ymateb i
sylwadau bod pwysau i wrthod oherwydd risg a chostau i’r Cyngor, nododd y
Cyfreithiwr bod dyletswydd arno i amlygu’r risgiau perthnasol. Mewn ymateb i
sylw pellach ynglŷn ag efallai na fydd y costau yn afresymol o ystyried
apêl a gafwyd rhai blynyddoedd yn ôl gyda Mawddach Crescent,
nodwyd eto bod dyletswydd i amlygu’r risgiau perthnasol i’r Pwyllgor.
Mewn ymateb i sylw
bod y llwybr mewn cyflwr gwael ac yn beryglus, nodwyd nad oedd diogelwch yn
ffactor i’w ystyried yma. Mewn ymateb i sylw pellach ynglŷn â chydnabod y
llwybr drwy osod arwyddion clir a rhoi cyfle i Gyngor Tref Nefyn ei fabwysiadau
a pharchu dymuniad y gymuned, nodwyd nad oedd unrhyw orchymyn yn mynd i atal
pobl rhag defnyddio’r traeth, ond bod risg yma nad oedd tystiolaeth yn amlygu
defnydd o’r llwybr yn unig.
Ategodd y
Cyfreithiwr, petai’r Pwyllgor yn penderfynu ar orchymyn i gofrestru'r llwybr yn
groes i’r argymhelliad, y bydd disgwyl i'r Cynigydd a’r Eilydd amddiffyn
penderfyniad y Pwyllgor petai apêl / ymchwiliad cyhoeddus.
dd) Pleidleisiwyd ar y cynnig i wrthod
Disgynnodd y
cynnig
Cynigwyd ac eiliwyd gofyn i’r Awdurdod lunio gorchymyn i gofrestru’r
llwybr. Ystyriwyd bod tystiolaeth ddigonol wedi ei gyflwyno yn amlygu defnydd
o’r llwybr dros fwy nag 20 mlynedd. Nodwyd hefyd gosod dyddiad y cyflwynwyd y
cais diwygiedig (Tachwedd 2021) fel dyddiad codwyd y cwestiwn.
PENDERFYNWYD: Yn groes
i’r argymhelliad, yr Awdurdod i lunio Gorchymyn Addasu Map Diffiniol a
chofrestru llwybr cyhoeddus Harbwr Nefyn, Tref Nefyn – nodi dyddiad codi
cwestiwn fel Tachwedd 20fed, 2021
Rheswm:
Tystiolaeth ddigonol o ddefnydd 20 mlynedd
Dogfennau ategol: