Agenda item

Estyniad deulawr yng nghefn yr eiddo 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: Gohirio penderfyniad a chynnal ymweliad safle

 

Cofnod:

 

Estyniad deulawr yng nghefn yr eiddo

 

a)           Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn un ar gyfer dymchwel ystafell amlbwrpas bresennol yng nghefn yr eiddo a chodi estyniad deulawr to fflat. Eglurwyd bod yr eiddo yn eiddo par mewn ardal anheddol o fewn dinas Bangor gyda’r cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr aelod lleol.

 

 

Cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd. O safbwynt dyluniad ac edrychiad, ystyriwyd nad oedd y math yma o estyniad yn annisgwyl mewn llefydd anheddol ac felly ni fyddai’n cael effaith weledol annerbyniol. Mewn ymateb i sylwadau oedd yn codi pryder am golli golau, nodwyd bod asesiad manwl o’r effeithiau wedi dod i gasgliad na fydd effaith yr estyniad yn niweidiol ar sail colli golau nac effaith gormesol (er yn estyniad deulawr dim ond 0.5m yn hirach na’r estyniad cefn presennol ydoedd).

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cyfeirio at effaith cronnol addasiadau sydd â hawl cynllunio, addasiadau a ganiateir (sef estyniadau ac addasiadau sydd ddim angen hawl cynllunio) a’r effaith cronnol gyda’r bwriad. Eglurwyd bod y cynlluniau a gyflwynwyd yn dangos effaith yr holl elfennau a fwriedir ac felly bod modd asesu’r sefyllfa yn ei gyfanrwydd. Ni roddwyd ystyriaeth unigol i’r porth, yr estyniad talcen ar ochr y to a’r ffenestr gromen yn y cefn oherwydd yr hawl sy’n bodoli yn barod, ynghyd a’r ffaith y byddai’n bosib adeiladu’r estyniad to fflat, sydd yn destun y cais yma, heb gwblhau gweddill yr addasiadau. O ganlyniad, nid oedd y Swyddogion o’r farn bod effaith cronnol yr holl elfennau hyn yn niweidiol pe byddent i gyd yn cael eu gweithredu.

 

Cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ynghylch problemau gorlif dŵr ehangach ar y stryd yn gyffredinol, ynghyd ag effaith y datblygiad ar ddraeniau'r ardal. Nodwyd bod y sylwadau a dderbyniwyd gan Dŵr Cymru yn gofyn am amod i atal llif ychwanegol o ddŵr wyneb i’r system garthffosiaeth. Nid oedd gan Uned Draenio’r Cyngor wrthwynebiad i’r bwriad. Er yn cydnabod y pryder, nid oedd unrhyw dystiolaeth gadarn yn amlygu y byddai’r  estyniad yn cael effaith ar y sefyllfa bresennol nac yn ei waethygu. Yn ddibynnol ar natur y draeniau, preifat neu yn rhan o’r sustem draenio gyhoeddus, ategwyd y bydd gwarchodaeth unai drwy’r drefn rheolaeth adeiladau neu reolau Dŵr Cymru ac felly ni ystyriwyd bod  rheswm cynllunio i wrthwynebu’r bwriad ar sail materion draenio.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol, y polisïau a’r canllawiau lleol a chenedlaethol, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol. Roedd y Swyddogion yn argymell caniatáu y cais gydag amodau.

 

b)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau canlynol:

·        Bod deilydd eiddo rhif 16 wedi cysylltu gyda Hafod Planning am gyngor ynglŷn â’r cais, a’r ymateb wedi ei gyflwyno fel llythyr (dyddiedig 6-01-25) i’r swyddogion

·        Annog yn gryf cynnal ymweliad safle fel bod yr Aelodau yn deall safbwynt preswylydd rhif 16 a’r effaith fyddai’r estyniad gormesol yn cael ar ei thŷ

·        Bydd rhif 16 yn colli goleuni i gefn y tŷ a hyn yn creu effaith ar fwynderau’r preswylydd

·        Bod y tir i gefn yr adeilad yn serth iawn ac yn cyfateb i lefel llawr un yr eiddo

·        Bod problemau llifogydd yn y gorffennol – preswylydd rhif 16 yn pryderu am hyn

 

c)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·        Ei fod eisiau darparu lle i’w deulu fyddai’n sicrhau lle digonol i’r plant ymweld ag ef. Er bod rhai o’r plant yn mynd a dod, bod angen ystafelloedd ar eu cyfer

·        Byddai’r tŷ, gydag estyniad yn cynnig 4 ystafell wely a swyddfa

·        Bod ei bartner angen swyddfa i weithio / astudio o adre, ac iddo yntau, fel person hunan gyflogedig, gael swyddfa i wneud gwaith gweinyddol

·        Dim yn gallu fforddio prynu tŷ mwy

·        Lleoliad Rhodfa Belmont yn gyfleus

·        Nad oedd y cynlluniau allan o gymeriad - nifer o dai cyfagos gydag estyniadau

 

d)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·        Ei bod yn gwrthwynebu’r cais

·        Ei bod, fel Aelod Lleol, yn adnabod yr ardal yn dda iawn

·        Bod tri mater dadleuol dros wrthod - draenio, mwynderau a chymeriad

·        Cymeriad – byddai’r tŷ yn ymddangos yn wahanol iawn i bob tŷ arall ac yn creu effaith weledol sylweddol i edrychiad tŷ pâr. Yr estyniad, ar raddfa sylweddol

·        Mwynderau – drws nesaf yn colli golau a’r estyniad yn creu goredrych sylweddol annioddefol

·        Draenio - rhaid ystyried tirwedd serth yr ardd yng nghefn yr eiddo ynghyd a draen sydd wedi ei gosod rhwng rhif 14 ac 16 i ymdrin â dŵr wyneb (problemau llifogydd hanesyddol yma)

·        Bydd y gwaith gosod sylfaen ar yr estyniad yn debygol o gael effaith – yr elfen yma heb ei gyfarch

·        Draeniad, gorlifiad, dwr wyneb a chynnydd mewn lefelau dŵr - angen cyfarfod gyda YGC i drafod hyn. Rhai tai yn y stryd gyda thamprwydd a phympiau dŵr - y sefyllfa angen asesiad trylwyr a system draenio gadarn

·        Yn annog y Pwyllgor i wrthod y cais

 

e)         Cynigiwyd ac eiliwyd cynnal ymweliad safle

 

PENDERFYNWYD: Gohirio penderfyniad a chynnal ymweliad safle

 

 

Dogfennau ategol: