Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Nia Jeffreys

Penderfyniad:

·         Cymeradwyo a mabwysiadu y Cynllun Ymateb yn Atodiad 1.

 

·         Galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Ymchwiliad Cyhoeddus i’r holl amgylchiadau ynghlwm â’r troseddu difrifol hwn.

 

·         Comisiynu’r Prif Weithredwr i roi trefniadau mewn lle i weithredu cynnwys y Cynllun Ymateb hwn gan gynnwys sefydlu Bwrdd Rhaglen penodol ac adrodd ar gynnydd yn rheolaidd i’r Cabinet.

 

·         Awdurdodi’r Prif Weithredwr i sefydlu a threfnu’r adnoddau a chapasiti staffio dros dro sydd eu hangen i wireddu cynnwys y Cynllun hwn gan ariannu o gronfeydd wrth gefn.

 

·         Nodi fod y Cynllun Ymateb yn gynllun byw fydd angen ei adolygu'n rheolaidd ac yn y cyd-destun hwnnw gofyn i'r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi graffu y Cynllun fel rhan o’u Rhaglen waith.

 

·         Dirprwyo’r hawl i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad gyda'r Arweinydd, yr Aelod Cabinet Addysg a'r Aelod Cabinet Plant, i wneud mân addasiadau golygyddol fel bo'r gofyn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys, Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr.

 

PENDERFYNIAD

 

·       Cymeradwyo a mabwysiadu y Cynllun Ymateb yn Atodiad 1.

 

·       Galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Ymchwiliad Cyhoeddus i’r holl amgylchiadau ynghlwm â’r troseddu difrifol hwn.

 

·       Comisiynu’r Prif Weithredwr i roi trefniadau mewn lle i weithredu cynnwys y Cynllun Ymateb hwn gan gynnwys sefydlu Bwrdd Rhaglen penodol ac adrodd ar gynnydd yn rheolaidd i’r Cabinet.

 

·       Awdurdodi’r Prif Weithredwr i sefydlu a threfnu’r adnoddau a chapasiti staffio dros dro sydd eu hangen i wireddu cynnwys y Cynllun hwn gan ariannu o gronfeydd wrth gefn.

 

·       Nodi fod y Cynllun Ymateb yn gynllun byw fydd angen ei adolygu'n rheolaidd ac yn y cyd-destun hwnnw gofyn i'r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi graffu y Cynllun fel rhan o’u Rhaglen waith.

 

·       Dirprwyo’r hawl i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad gyda'r Arweinydd, yr Aelod Cabinet Addysg a'r Aelod Cabinet Plant, i wneud mân addasiadau golygyddol fel bo'r gofyn.

 

TRAFODAETH

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad pwysleisiwyd mai’r dioddefwyr sydd wrth graidd y cynllun hwn a thalwyd teyrnged i ddewrder a gwydnwch y dioddefwyr a phawb sydd wedi eu heffeithio gan y troseddau erchyll a gyflawnwyd.  Dyfynnwyd darn o’r adroddiad “ni allwn am eiliad anghofio am y rhai pwysicaf yng nghanol hyn, sef y merched a ddylai fod wedi bod yn ddiogel yn eu hysgol. Holl bwrpas y Cynllun Ymateb hwn a phob cam sy’n cael eu cymryd gennym yw gwneud popeth posib i sicrhau na fydd neb yn dioddef yn yr un modd fyth eto, a dyna ddylai fod ar frig ein hystyriaethau pob amser.

 

Nododd yr Arweinydd ei bod wedi ymddiheuro i’r dioddefwyr, a’i bod yn benderfynol o droi pob carreg i sefydlu beth aeth o’i le.  Nodwyd mai pwrpas y cynllun yw gosod yr holl waith sy’n digwydd i fynd i’r afael a’r sefyllfa mewn un dogfen fyw, gyda chyrff allanol wedi rhoi mewnbwn ac arweiniad, ac am roi mewnbwn pellach wrth i’r cynllun gael ei ddatblygu i’r dyfodol. Pwysleisiwyd ei bod yn ddogfen fyw a fydd yn cael ei haddasu wrth i wersi ddod i’r amlwg ac wrth i’r sefyllfa ddod yn fwy eglur. Pwysleisiwyd y chwe prif amcan cyfredol fel a nodwyd yn yr adroddiad, gan amlinellu’r camau nesaf o sefydlu Bwrdd Rhaglen dan arweiniad person annibynnol er mwyn mesur cynnydd ac adnabod unrhyw fylchau.  Nodwyd na fyddai’r cynllun yn troi’r cloc yn ôl nac yn dad wneud yr hyn a ddigwyddodd i’r dioddefwyr. 

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr yr effaith ysgytwol ar y dioddefwyr yn bennaf, ac ar yr ysgol, y gymuned ehangach ac ar y Cyngor.  Nodwyd ei bod yn sefyllfa unigryw sy’n datblygu’n ddyddiol, gyda’r cam cyntaf wedi ei sefydlu trwy drefniadau statudol yr Adolygiad Ymarfer Plant gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.

 

Ymhelaethwyd ar y 6 nod a’r pedair ffrwd gwaith yn y Cynllun.  Pwysleisiwyd y byddai pob carreg yn cael ei throi gan fod yn agored a thryloyw gyda’r gwaith. 

 

 Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

·       Datganwyd cefnogaeth i’r ymweliadau monitro diogelwch mewn ysgolion a’r awydd i’w addasu i fod yn ymweliadau blynyddol.

·       Croesawyd fod y Pwyllgor Craffu yn bwriadu cynnal ymchwiliad fel rhan o’r cynllun, a’r gwaith pwysig fydd gan y pwyllgor yn craffu’r cynnydd ar y cynllun i’r dyfodol.

·       Croesawyd manylder y rhaglen, mewnbwn yr arbenigwyr allanol a’r ffaith ei bod yn rhaglen fyw.  Pwysleisiwyd fod y Bwrdd Rhaglen am gael ei gadeirio gan berson annibynnol.

·       Gofynnwyd am sicrhad fod cefnogaeth yn parhau i gael ei roi i’r dioddefwyr wrth i sylw ddod i’r cynllun ac wrth i bob ymchwiliad adrodd

o   Mewn ymateb nodwyd fod cefnogaeth yn cael ei roi i’r dioddefwyr, gyda mwy o gymorth i’w roi i’r dyfodol.  Nodwyd yr angen i sicrhau fod hynny’n digwydd mewn modd sensitif a phriodol, dan arweiniad y dioddefwyr

·       Talwyd teyrnged i staff a disgyblion Ysgol Friars a gofynnwyd am y gefnogaeth i’w cynnal hwy

o   Mewn ymateb nodwyd fod cefnogaeth yn cael ei ddarparu i Lywodraethwyr a thîm rheoli’r ysgol gyda’r angen i ddatblygu cefnogaeth i holl staff yr ysgol gan atgoffa fod gwasanaeth cwnsela ar gael i’r disgyblion.  Nodwyd fod cefnogaeth barhaus ar gael gan yr Awdurdod trwy’r bwrdd cefnogi’r ysgol

·       Croesawyd pwyslais y cynllun ar weithredu a’r ymrwymiad i weithredu wrth i wybodaeth ddod i law.

·       Diolchwyd i’r Prif Weithredwr, holl staff yr Adran Addysg a’r holl adrannau perthnasol am y gwaith sy’n digwydd ganddynt ynghlwm a’r uchod.

 

Awdur:Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr

Dogfennau ategol: