Cais ar gyfer defnyddio tir i storio, trin ac ailgylchu gwastraff anadweithiol /
ddim yn beryglus yn deillio o'r gwaith Darpariaeth Effaith Weledol Eryri
AELODAU LLEOL: Cynghorydd June Jones, Nia Jeffreys, Gwilym Jones a
Meryl Roberts
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol:
1. Datblygiad i ddechrau o fewn 12 mis o
ddyddiad y caniatâd.
2. Datblygiad
a ganiatawyd i ddod i ben ymhen 5 mlynedd o gyflwyno rhybudd dechrau. Bydd y
datblygiad a ganiateir drwy hyn yn dod i ben ar unwaith pe cyfyd sefyllfa o
echdynnu a gweithio ar y mwynau ar y safle (Chwarel Garth) yn dod i ben yn
gynnar neu'n gynamserol.
3. Yn unol â’r cynlluniau a'r manylion a
gyflwynwyd.
4. Ni fydd
unrhyw beth heblaw deunyddiau gwastraff anadweithiol a echdynnwyd o'r
datblygiad SVIP, yn cael ei fewnforio i'r safle.
5. Bydd y
gweithredwr/datblygwr yn darparu cofnod o'r deunydd a fewnforiwyd i'r ACLl o
fewn 10 diwrnod i'r cais (gwybodaeth i gynnwys tarddiad, tunelli, disgrifiad
o'r deunydd, dyddiad ac amseroedd y symud a'r canlyniad).
6. Cyfyngu
ar hawliau GPDO perthnasol ar gyfer adeiladau, strwythurau, ffyrdd preifat,
llifoleuadau, ffensys ac ati.
7. Marcio ffin yr ardal a ganiateir cyn
dechrau'r gwaith.
8. Cytuno ar welliannau bioamrywiaeth cyn
dechrau'r gwaith.
9. Copi o'r
penderfyniad a'r cynlluniau a gymeradwywyd i'w dangos yn swyddfa safle Chwarel
Garth.
10. Oriau gweithio (i gyd-fynd â'r caniatâd
mwynau).
11. Storio
olew, tanwydd a deunydd cemegol ar waelodion anhydraidd ac wedi'u bwndio.
12. Monitro'r safle am bresenoldeb rhywogaethau
ymledol anfrodorol.
13. Cyfyngiadau lefel sŵn (lefelau penodol
i gyd-fynd â'r caniatâd mwynau).
14. Cyfyngiadau
lefelau sŵn ar gyfer gweithrediadau dros dro (lefelau penodol i gyd-fynd
â'r caniatâd mwynau).
15. Monitro/arolwg sŵn yn flynyddol.
16. Cerbydau,
offer a pheiriannau i weithredu o fewn y lefelau allyriadau sŵn mwyaf o
fanyleb gwneuthurwr a ddim yn cael eu gweithredu heb sgriniau 'lladd' sain
briodol, gwaith achos, caeadau a distewyddion.
17. Defnyddio larymau 'sŵn gwyn' ar gyfer
peiriannau a cherbydau symudol.
18. Mesurau
lliniaru llwch i'w cyflawni yn unol ag amod 23 o Ganiatâd Cynllunio Mwynau
(C16/1385/05/MW).
19. Cadw
arwyneb mynediad safle i'r briffordd yn lân a dim dyddodi mwd/malurion ar y
briffordd.
20. Cadw
cofnod amgylcheddol o gwynion llwch a sicrhau ei fod ar gael i'r ACLl o fewn 14
diwrnod i gais.
21. Bydd
mewnforio deunydd gwastraff anadweithiol yn cael ei gyfyngu i ddefnyddio'r
llwybrau cludo pwrpasol presennol.
22. Rhaid
gosod llenni dros gerbydau llwythog sy'n gadael y safle neu eu trin i osgoi
allyrru llwch (ar gyfer deunydd dan 75mm).
23. Amod i gadw arwyddion dwyieithog ar gyfer
cyfnod y datblygiad.
24. Cynllun goleuo i osgoi unrhyw effeithiau ar
lwybrau hedfan ystlumod.
25. Cynllun
Atal Llygredd i sicrhau bod pob mesur yn cael ei gymryd i osgoi unrhyw lygredd
rhag mynd i gyrsiau dŵr a'r Glaslyn.
26. Mesurau gwella bioamrywiaeth.
27. Monitro a
rheoli rhywogaethau planhigion ymledol yn ystod cyfnod y caniatâd.
Cofnod:
a)
Cais
gyfer gorsaf trosglwyddo gwastraff dros dro yn Chwarel Garth i dderbyn, storio,
trin a phrosesu deunyddiau anadweithiol o Brosiect Darpariaeth Effaith Weledol
Eryri (SVIP).
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr
Amlygodd Uwch Swyddog Cynllunio
Mwynau a Gwastraff y byddai'r gweithgareddau ailgylchu gwastraff anadweithiol
am gyfnod dros dro i gyd-fynd â'r datblygiad SVIP. Eglurwyd bod safle’r cais
gyferbyn â rhan o’r chwarel ble mae gweithgareddau mathru yn digwydd eisoes a
byddai’ bwriad yn defnyddio isadeiledd presennol y chwarel megis ffyrdd cludo,
pont pwyso, swyddfeydd a mynediad i’r briffordd.
Yng nghyd-destun egwyddor
y bwriad, nodwyd bod Hierarchaeth Gwastraff, Polisi Cynllunio Cymru, TAN 21 a
dogfen “Tuag at Ddyfodol Diwastraff” Llywodraeth Cymru yn nodi y dylid, wrth
drin gwastraff, leihau cynhyrchu gwastraff ac arallgyfeirio gwastraff o
safleoedd tirlenwi drwy ailgylchu ac ailddefnyddio lle bo hynny'n bosib. Yn
ychwanegol rhoddir pwyslais ar bolisïau cynllunio mwynau i hyrwyddo'r defnydd o
agregau eilaidd/amgen er mwyn lleihau'r ddibyniaeth ar echdynnu carreg brimaidd
a gwarchod banc tir carreg galed y Sir.
O ran polisïau lleol,
eglurwyd bod yr egwyddor o sefydlu cyfleuster rheoli gwastraff wedi ei selio ym
mholisïau PS 21, GWA 1 a GWA 2. Er nad yw’r safle wedi ei ddynodi ym mholisi
GWA 1, mae’r polisi yn datgan fod posib sefydlu cyfleuster rheoli gwastraff
mewn chwareli presennol os bydd cyfiawnhad a dim effeithiau andwyol. Yn
ychwanegol, mae polisi GWA 2 yn gosod meini prawf sydd angen i gynigion rheoli
gwastraff gydymffurfio â hwy. Yn yr achos yma, amlygwyd bod yr angen wedi
deillio yn benodol o'r gwaith SVIP gan y Grid Cenedlaethol. Ni fydd unrhyw
wastraff sy’n deillio o ffynonellau eraill yn cael ei drin - rheoli'r deunydd gwastraff anadweithiol a
gynhyrchir gan y gwaith cloddio a thwnelu yn unig sydd yma. Amlygwyd bod y
wybodaeth a gyflwynwyd gyda'r cais yn cynnig cyfanswm ychydig yn uwch o 250,000
tunnell er mwyn gallu darparu ar gyfer unrhyw anghysondebau yn yr amcangyfrif
rhagarweiniol. Mae’r bwriad yn datgan bydd deunydd yn cael ei fewnforio i’r
safle ar gyfradd flynyddol o 75,000 tunnell a fyddai'n cyfateb felly i gyfnod o
3.3 blynedd.
Mynegwyd nad oes safle
dynodedig agosach i’r datblygiad SVIP ac nad oedd unrhyw un o fewn y cyffiniau
fyddai’n gallu darparu ar gyfer y symiau sylweddol o ddeunydd gwastraff fydd yn
cael ei gynhyrchu.
Yng nghyd-destun polisi
MWYN 1 a MWYN 5 sy’n rhoi ystyriaeth ar yr angen i ddiogelu adnoddau mwynau’r
Sir, mae bwriad defnyddio isadeiledd presennol y chwarel dros dro er mwyn
ailgylchu gwastraff anadweithiol i agregau eilaidd. Nodwyd y bydd angen gosod amodau
i sicrhau fod y gwastraff yn benodol o’r prosiect SVIP.
Yng nghyd-destun
mwynderau gweledol a phreswyl, mae’r safle o fewn dynodiadau Ardal Tirwedd
Arbennig Aber Glaslyn a Dwyryd a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol
Aberglaslyn. Byddai'r bwriad yn ymwneud â mân newidiadau ffisegol i'r safle ond
gan na fydd y bwriad yn arwain at unrhyw effaith weledol fyddai’n sylweddol
wahanol i effaith y gweithfeydd mwynau a ganiateir yn y chwarel ar hyn o bryd
ystyriwyd bod y bwriad yn cydymffurfio a
pholisïau PCYFF 3, AMG 2 ac AT 1 o’r CDLl.
O ran effeithiau
sŵn ac ansawdd aer, bydd bwriad cyfyngu’r gweithgareddau rheoli gwastraff
i’r un amodau gwaith y chwarel ehangach er mwyn sicrhau cysondeb ac
ymarferoldeb. Bydd yr amodau yn cynnwys ymysg eraill oriau gweithio, lefelau cyfyngedig sŵn,
monitro lefelau sŵn a mesurau lliniaru llwch. O ystyried pellter y safle o
eiddo cyfagos ac amodau amgylcheddol sydd eisoes mewn lle yn y chwarel,
ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio a pholisïau MWYN 3 a PCYFF 2 o’r CDLl.
Yng nghyd-destun
traffig a mynediad, bydd y bwriad yn defnyddio’r ffyrdd cludo mewnol, pont
bwyso, cyfleuster golchi olwynion, llecynnau parcio a mynediad cerbydol
presennol y chwarel i’r gefnffordd A487 ac felly ni ystyriwyd y byddai yn cael
unrhyw effaith andwyol i'r rhwydwaith priffyrdd cyhoeddus a'r safonau parcio;
yn cydymffurfio felly â pholisïau TRA 2 a TRA 4 y CDLl
a TAN 18.
Eglurwyd bod rhannau
gorllewinol y safle yn dod o fewn Parthau Risg Llifogydd ar Fap Cyngor Datblygu
a map Llifogydd ar gyfer Cynllunio’r Llywodraeth. Diffinnir cyfleuster rheoli
gwastraff anadweithiol fel datblygiad llai agored i niwed at ddibenion TAN 15,
felly gall y defnydd arfaethedig fod yn dderbyniol os yw'r cynnig yn
cydymffurfio â'r profion cyfiawnhau a gynhwysir yn TAN 15. Nodwyd fod y bwriad
yn cwrdd â phrofion cyfiawnhau’r TAN 15 gyda
Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau fod y wybodaeth yn yr Asesiad
Canlyniadau Llifogydd yn dderbyniol. O ganlyniad, ystyriwyd na fyddai’r bwriad
yn cael effaith niweidiol ar nodweddion hydrolegol a pherygl llifogydd ac yn
cydymffurfio â gofynion polisïau perthnasol.
Yng nghyd-destun
materion Ecoleg, nodwyd bod safle'r cais arfaethedig wedi'i leoli'n agos at
ddynodiadau ecolegol Ardal Cadwraeth Arbennig ‘Coedydd Derw a Safleoedd
Ystlumod Meirion’ a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ‘Glaslyn’. O ystyried fod y bwriad mewn chwarel bresennol a
gweithredol, ni fydd colled uniongyrchol o unrhyw gynefin. Ategwyd bod Uned Bioamrywiaeth yr Awdurdod Lleol a
Chyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi bod rhan o'r chwarel yn rhan o lwybr hedfan
ar gyfer yr Ystlum Bedol Leiaf ac yn argymell dim llifoleuadau ychwanegol na
goleuadau allanol fyddai'n creu rhwystr i'w llwybrau hedfan. O ganlyniad, bydd angen cynnwys amodau i sicrhau cynllun
goleuo, Cynllun Atal Llygredd a gwelliannau bioamrywiaeth.
Wrth ystyried materion
Iaith, Cymuned ac Economi atgoffwyd yr Aelodau bod Maen Prawf 1 (A) o bolisi
strategol PS 1 yn nodi y bydd angen darparu Datganiad Iaith Gymraeg gyda
chynnig am "ddatblygiad, diwydiannol sy’n cyflogi mwy na 50 o weithwyr neu
gydag arwynebedd o 1,000 metr sgwâr neu fwy.
Yn yr achos hwn, nid yw'r cynnig yn cynnwys unrhyw newidiadau ffisegol
i'r safle na newidiadau i'r gweithlu presennol. Ategwyd bod Diagram 5: Polisi
PS 1 yng Nghanllaw Cynllunio Atodol 'Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a
Chynaliadwy' yn ymhelaethu ar ofynion polisi PS 1 gan nodi mai'r unig ofyniad
yw ystyried maen prawf 4 a 5 o'r polisi sy'n gofyn am gynigion i ymgorffori
cynlluniau arwyddion dwyieithog a defnyddio enwau Cymraeg ar gyfer datblygiadau
newydd, enwau tai a strydoedd. O ystyried bod enw safle'r cais yn ddwyieithog a
gydag arwyddion dwyieithog eisoes yn eu lle, yr unig amod rhesymol i'w
ddefnyddio dan yr amgylchiadau fyddai cadw'r arwyddion ar gyfer cyfnod y
datblygiad.
Wedi ystyried yr holl
faterion perthnasol, ystyriwyd fod y cais yn dderbyniol. Argymhellwyd
caniatáu’r cais yn unol ag amodau priodol.
b)
Cynigwyd
ac eiliwyd caniatáu y cais
PENDERFYNWYD Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i'r amodau
canlynol:
1. Datblygiad i ddechrau o fewn 12 mis
o ddyddiad y caniatâd.
2. Datblygiad a ganiatawyd i ddod i ben
ymhen 5 mlynedd o gyflwyno rhybudd dechrau. Bydd y datblygiad a ganiateir drwy
hyn yn dod i ben ar unwaith pe cyfyd sefyllfa o echdynnu a gweithio ar y mwynau
ar y safle (Chwarel Garth) yn dod i ben yn gynnar neu'n gynamserol.
3. Yn unol â’r cynlluniau a'r manylion
a gyflwynwyd.
4. Ni fydd unrhyw beth heblaw
deunyddiau gwastraff anadweithiol a echdynnwyd o'r datblygiad SVIP, yn cael ei
fewnforio i'r safle.
5. Bydd y gweithredwr/datblygwr yn
darparu cofnod o'r deunydd a fewnforiwyd i'r ACLl o
fewn 10 diwrnod i'r cais (gwybodaeth i gynnwys tarddiad, tunelli, disgrifiad
o'r deunydd, dyddiad ac amseroedd y symud a'r canlyniad).
6. Cyfyngu ar hawliau GPDO perthnasol
ar gyfer adeiladau, strwythurau, ffyrdd preifat, llifoleuadau, ffensys ac ati.
7. Marcio ffin yr ardal a ganiateir cyn
dechrau'r gwaith.
8. Cytuno ar welliannau bioamrywiaeth
cyn dechrau'r gwaith.
9. Copi o'r penderfyniad a'r cynlluniau
a gymeradwywyd i'w dangos yn swyddfa safle Chwarel Garth.
10. Oriau gweithio (i gyd-fynd â'r
caniatâd mwynau).
11. Storio olew, tanwydd a deunydd cemegol
ar waelodion anhydraidd ac wedi'u bwndio.
12. Monitro'r safle am bresenoldeb
rhywogaethau ymledol anfrodorol.
13. Cyfyngiadau lefel sŵn (lefelau
penodol i gyd-fynd â'r caniatâd mwynau).
14. Cyfyngiadau lefelau sŵn ar gyfer
gweithrediadau dros dro (lefelau penodol i gyd-fynd â'r caniatâd mwynau).
15. Monitro/arolwg sŵn yn flynyddol.
16. Cerbydau, offer a pheiriannau i
weithredu o fewn y lefelau allyriadau sŵn mwyaf o fanyleb gwneuthurwr a
ddim yn cael eu gweithredu heb sgriniau 'lladd' sain briodol, gwaith achos,
caeadau a distewyddion.
17. Defnyddio larymau 'sŵn gwyn' ar
gyfer peiriannau a cherbydau symudol.
18. Mesurau lliniaru llwch i'w cyflawni yn
unol ag amod 23 o Ganiatâd Cynllunio Mwynau (C16/1385/05/MW).
19. Cadw arwyneb mynediad safle i'r
briffordd yn lân a dim dyddodi mwd/malurion ar y briffordd.
20. Cadw cofnod amgylcheddol o gwynion
llwch a sicrhau ei fod ar gael i'r ACLl o fewn 14
diwrnod i gais.
21. Bydd mewnforio deunydd gwastraff
anadweithiol yn cael ei gyfyngu i ddefnyddio'r llwybrau cludo pwrpasol
presennol.
22. Rhaid gosod llenni dros gerbydau
llwythog sy'n gadael y safle neu eu trin i osgoi allyrru llwch (ar gyfer
deunydd dan 75mm).
23. Amod i gadw arwyddion dwyieithog ar
gyfer cyfnod y datblygiad.
24. Cynllun goleuo i osgoi unrhyw
effeithiau ar lwybrau hedfan ystlumod.
25. Cynllun Atal Llygredd i sicrhau bod
pob mesur yn cael ei gymryd i osgoi unrhyw lygredd rhag mynd i gyrsiau dŵr
a'r Glaslyn.
26. Mesurau gwella bioamrywiaeth.
27. Monitro a rheoli rhywogaethau planhigion
ymledol yn ystod cyfnod y caniatâd
Dogfennau ategol: