Agenda item

(a)  Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau o’r cyhoedd, y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.17 o’r Cyfansoddiad.

 

Cwestiwn gan Mr Ieuan Wyn (cyfeiriad wedi’i ddarparu yn unol â gofynion y Cyfansoddiad).

 

Mae’n gwbl annerbyniol fod disgyblion Gwynedd o aelwydydd Cymraeg ac aelwydydd di-Gymraeg yn derbyn llai o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg nag y mae disgyblion ysgolion Cymraeg mewn cymunedau llai Cymraeg mewn rhannau eraill o’n gwlad. Mae plant a phobl ifanc, rhieni a chymunedau Gwynedd yn haeddu ysgolion gyda’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fwyaf cyflawn sy’n cael ei chynnig. Hynny fyddai’n briodol yn addysgol, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol. Yn sgil y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bil addysg a bod shifft iaith yn dwysáu yn arw yn y sir, a yw Cyngor Gwynedd am gymryd y cyfle euraid a thyngedfennol hwn i ddisodli polisi iaith addysg sydd wedi dyddio a chyflwyno polisi iaith addysg uchelgeisiol, clir, a chwbl newydd i’w ysgolion?

 

(b)  Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau etholedig, y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.

 

 

Cofnod:

 

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

(A)      Cwestiwn gan Aelod o’r Cyhoedd

 

Cwestiwn gan Mr Ieuan Wyn (cyfeiriad wedi’i ddarparu yn unol â gofynion y Cyfansoddiad)

 

Mae’n gwbl annerbyniol fod disgyblion Gwynedd o aelwydydd Cymraeg ac aelwydydd di-gymraeg yn derbyn llai o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg nag y mae disgyblion ysgolion Cymraeg mewn cymunedau llai Cymraeg mewn rhannau eraill o’n gwlad. Mae plant a phobl ifanc, rhieni a chymunedau Gwynedd yn haeddu ysgolion gyda’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fwyaf cyflawn sy’n cael ei chynnig.  Hynny fyddai’n briodol yn addysgol, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.  Yn sgil y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bil addysg a bod shifft iaith yn dwysáu yn arw yn y sir, a yw Cyngor Gwynedd am gymryd y cyfle euraid a thyngedfennol hwn i ddisodli polisi iaith addysg sydd wedi dyddio a chyflwyno polisi iaith addysg uchelgeisiol, clir, a chwbl newydd i’w ysgolion?

 

Ateb yr Aelod Cabinet Addysg, Y Cynghorydd Dewi Jones

 

Diolch am eich cwestiwn ac am eich diddordeb yn y maes pwysig hwn, maes sy’n bwysig i ni i gyd yn y Siambr hon rwy’n siŵr.  Hefyd, diolch yn fawr i chi am fod yn barod i ddod i drafod gyda mi ychydig wythnosau yn ôl, pan gawsom yr union drafodaeth yma.  Ydi, mae Cyngor Gwynedd am gymryd y cyfle euraid a thyngedfennol hwn i gyflwyno polisi iaith addysg uchelgeisiol, clir, a chwbl newydd i’n hysgolion.  Fel rydych chi’n ymwybodol rwy’n siŵr, ac fel mae nifer o aelodau yn y Siambr heddiw yn ymwybodol, mae gwaith sylweddol yn digwydd eisoes dan arweiniad Meirion Prys Jones o lunio polisi a fydd yn cael ei gyflwyno ar ffurf drafft i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y 10fed o Ebrill.  Yn dilyn hynny, bydd yna gyfleoedd i ymgynghori gyda’r cyhoedd, ac rwy’n siŵr y bydd yna ran i chi chwarae yn hynny hefyd.

 

Cwestiwn Atodol gan Mr Ieuan Wyn

 

Diolch i chi am eich ymateb cadarnhaol a chalonogol yma heddiw ar goedd y bydd y polisi newydd yn uchelgeisiol, clir, a chwbl newydd.  Gan hynny, fedrwch chi gadarnhau nad awgrymiadau a dyheadau yn unig fydd y polisi newydd, ond polisi clir a chadarn fydd yn gosod targedau clir i’r ysgolion i gynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn amserlen a cherrig milltir pendant, a pholisi i’w weithredu’n egnïol mewn ysbryd cenhadol gydag arweiniad a chefnogaeth yr Adran Addysg o ran monitro, adolygu a chynnig cymorth ymarferol i’r ysgolion?

 

Ateb yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Dewi Jones

 

Gallaf eich sicrhau y bydd y polisi yn uchelgeisiol a bydd y polisi yn sicrhau ein bod ni fel sir yn chwarae ein rhan i sicrhau bod gennym ni filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

(B)      Cwestiynau gan Aelodau Etholedig

 

(1)     Cwestiwn Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

O ystyried bod ymdeimlad cryf yn lleol bod polisi treth gyngor ym maes tai gwag ac ail gartrefi, mewn rhai amgylchiadau, yn gosod baich trethiannol anghymesur ac annheg ar frodorion Gwynedd ac o ystyried bod canllawiau Llywodraeth Cymru ar y dreth gyngor ar dai gwag ac ail gartrefi yn dweud fel hyn:

 

Mater i'r awdurdod lleol yw penderfynu a fydd yn defnyddio'r pwerau disgresiwn yn adrannau 12A, 12B neu 13A i leihau atebolrwydd y dreth gyngor mewn perthynas â phremiwm neu i leihau rhwymedigaeth safonol y dreth gyngor, neu’r ddau, fel y bo’n briodol.  Dylai’r polisi hwn gwmpasu amrywiaeth o sefyllfaoedd lle byddai awdurdod lleol yn ystyried defnyddio ei bwerau dewisol, gan gynnwys eiddo nad ydynt yn bodloni’r meini prawf i gael eu dosbarthu fel rhai annomestig.  Er mwyn sicrhau tegwch a thryloywder, dylai fod gan awdurdod lleol bolisi clir ynghylch a gaiff y pwerau hyn eu defnyddio a sut.  Fodd bynnag, dylai'r awdurdod ystyried pob achos yn unigol ar ôl pwyso a mesur amgylchiadau'r achos.

 

A oes gan Wynedd bolisi clir o’r fath gyda golwg ar ddefnyddio pwerau disgresiynol i leihau cyfradd y dreth gyngor sylfaenol (e.e. yn achos unedau gwyliau hunan ddarpar, heb ganiatâd cynllunio i fod yn aelwydydd parhaol, sy'n methu cyrraedd y trothwy gosod 182 diwrnod) a sut mae’r awdurdod yn cloriannu amgylchiadau pob achos yn unigol gyda golwg ar y mater hwn ac ar fater cysylltiedig y premiwm?

 

Ateb yr Aelod Cabinet Cyllid, Y Cynghorydd Huw Wyn Jones

 

Dyma beth ydi sefyllfa’r Cyngor ar hyn o bryd.  Rydym ni’n gweithredu’r gyfraith ac unrhyw eithriadau statudol sydd gennym i’w cyflawni yn ôl y gyfraith.  Nid ydym yn gwneud unrhyw eithriadau dewisol ar hyn o bryd.  Y pryder yw y byddem ni’n creu cynsail ac y byddai’r cynsail hwnnw yn gallu dod yn ôl i’n brathu, oni bai bod gennym ni bolisi cwbl glir.  Mae eithriadau, wrth gwrs, yn anodd gan fod pob sefyllfa yn wahanol.  Mae creu polisi clir, sydd ddim yn gosod cynsail, yn anodd ac mae croeso i chi ddod yn ôl atom ni i drafod hyn, ac i efallai ein helpu i geisio llunio rhyw fath o bolisi clir ar y mater hwn.  Nid yw’r drws wedi cau, ond ar hyn o bryd mae ceisio darganfod ffordd o greu polisi eithriadau heb greu cynsail sy’n dod â phroblemau yn ei sgil yn anodd felly mae croeso i unrhyw un sydd yma heddiw gysylltu â mi i drafod hyn er mwyn gweld oes modd llunio polisi sy’n gweithio, ond mae’n anodd oherwydd bod pob achos ychydig yn wahanol.  Rwy’n derbyn e-byst ynglŷn â’r maes yma yn lled aml. 

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

Gawn ni gadarnhau felly mai trwy fwriad yn hytrach na thrwy ddiffyg does gennym ni ddim polisi ar hyn o bryd a bod y drws yn agored i lunio polisi, o bosib’, yn y dyfodol fel nad ydi ffermydd teuluol, mentrau cymdeithasol, busnesau llety gwyliau lleol dilys sy’n methu cyrraedd y trothwy yn cael bil annisgwyl am £5,000 yn lle £2,000?  Felly mae’r drws yn agored i ni drafod y math yna o bolisi?

 

Ateb yr Aelod Cabinet Cyllid, Y Cynghorydd Huw Wyn Jones

 

Mae’r rhestr o eithriadau rydych chi wedi eu rhoi yn amlygu pa mor anodd yw creu polisi sydd ddim yn dod yn ôl i’n brathu yn y dyfodol.  Mae’r drws yn agored.  Cysylltwch â mi – rydw i’n hapus iawn i drafod hefo chi, ond mae’n anodd iawn creu polisi yn y maes yma.  Yn sicr, ni fydd unrhyw bolisi yn plesio pawb.

 

(2)       Cwestiwn Y Cynghorydd Rhys Tudur

 

O ystyried bod unigolyn yn medru cael ei nodi i fod mewn angen am dŷ ar gyfer sawl ardal ar unwaith ar restr Cymdeithasau Tai neu’r Gofrestr Tai Gyffredin gan ychwanegu a lluosogi’r ffigwr y 'galw am dai' ar gyfer yr holl ardaloedd rheini y mae wedi dangos diddordeb i fyw ynddynt;

 

Ac o ystyried bod data'r 'galw am dai' wedi ei sylfaenu ar ddiddordeb mewn ardal yn hytrach nag angen ei phoblogaeth ac felly yn camarwain i’r graddau ei fod yn cyfiawnhau pob datblygiad ymhob man er mor anghydnaws ag ydynt ac er nad oes twf poblogaeth yn ein Sir;

 

Pa barodrwydd sydd gan y Cyngor hwn i nodi data o wir angen poblogaeth yr ardal ymhle lleolir cais cynllunio yn hytrach nag ystyried yr holl ‘ddiddordeb’ sirol sydd wedi ei nodi ar gyfer yr ardal?

 

Ateb yr Aelod Cabinet Tai ac Eiddo, Y Cynghorydd Paul Rowlinson

 

Diolch am godi’r pwynt pwysig hwn.  Mae’n bwysig bod pob un ohonom yn deall union natur yr angen am dai cymdeithasol a beth mae’r ffigurau yn ddweud wrthym, ac yn arbennig felly'r sawl sy’n gwneud penderfyniadau ar faterion cynllunio.  Rwy’n hyderus bod y data ar angen tai yr ydym yn eu cyhoeddi yn adlewyrchu yn gywir y gwir angen.  Mae’r ffigurau ar adran Data Agored gwefan y Cyngor yn nodi’r “Angen Tai” ym mhob ardal, gan ddiffinio angen tai yn ôl y nifer o geisiadau am dŷ cymdeithasol.  Efallai fod y gwir angen am dai ychydig yn fwy na hyn gan nad yw rhai yn gwneud cais gan feddwl nad ydynt yn debygol o gael tŷ, ond nid oes modd mesur hynny ar hyn o bryd.  Yn y data, mae’r sir yn cael ei rhannu yn 144 ardal, tua dwy ardal ym mhob ward ar gyfartaledd ac felly gan amlaf maent yn fychan iawn.  Pan fydd rhywun yn chwilio am dŷ, fel rheol maent yn fodlon ystyried sawl ardal.  Anogir ymgeiswyr i nodi ar eu ffurflen gais yr holl ardaloedd lle maent yn fodlon byw er mwyn uchafu eu siawns o gael cynnig cartref e.e. os yw rhywun yn ceisio tŷ ym Mangor, gallant roi cais am naw ardal o fewn y ddinas.  O fewn ward Llanystumdwy y mae pum ardal.  Mae’r ardaloedd hyn yn fychan iawn, rhai yn ddim ond un pentref.

 

Petai rhywun yn adio ffigurau ar gyfer yr holl ardaloedd at ei gilydd, byddai’r cyfanswm yn gamarweiniol gan y byddai’n cyfrif yr un ymgeiswyr sawl tro.  Efallai mai dyna yw tarddiad y dryswch.  Fodd bynnag, nid yw’r data a gyhoeddir yn gwneud hynny; mae’r ffigurau a nodir ar gyfer nifer y ceisiadau ar y gofrestr aros, dros 2,000, a nifer yr unigolion ar y gofrestr aros, dros 4,000, yn gywir.  Mae yna nifer helaeth o bobl a phlant ar y rhestr ac mae’n bwysig codi mwy o dai cymdeithasol i ddiwallu’r angen a lleihau’r niferoedd hyn.

 

Pan gyflwynir cais cynllunio i ddatblygu tai cymdeithasol, mae’r Uned Strategaeth Tai yn rhoi sylwadau, gan gynnwys nifer y ceisiadau am dŷ yn yr ardal a’r mathau o dai sydd eu hangen.  Mae’r dull yma o fesur angen yn ddull cydnabyddedig yn genedlaethol a defnyddir yr wybodaeth hon i brofi a oes angen lleol i gyfiawnhau’r cais.

 

Petaem ni’n cyfrif y rhai sy’n byw yn y pentref yn unig, ni fuasai hynny yn adlewyrchu’r gwir angen.

 

Mae rhai ymgeiswyr ar y rhestr aros yn byw yn y pentref ei hun, rhai yn yr ardaloedd cyfagos, rhai efallai yn dod o’r ardal yn wreiddiol, yn byw yn bell yn awr ac yn awyddus i symud adref.  Efallai fod rhai wedi gorfod symud o’r ardal o’r blaen oherwydd diffyg tai fforddiadwy ac maent yn awyddus i symud adref a dylem eu helpu i wneud hynny.  Efallai fod eraill yn ddigartref, yn aros dros dro mewn hostel neu wely a brecwast yn bell o’r pentref ac yn awyddus i ddychwelyd adref.  Mae eraill yn gorfod symud i gymuned arall oherwydd eu hangen am fath arbennig o lety, e.e. eiddo ar gyfer pobl hŷn, fflatiau ayb., sydd ddim ar gael ymhob cymuned.  Mae pobl yn symud hefyd yn aml ar sail angen ac nid dyhead (e.e. symud i fod yn agos i’w teulu er mwyn rhoi neu dderbyn cymorth, symud am resymau cyflogaeth, addysg, hyfforddiant, symud i osgoi trais neu fygythiadau o drais – ac mae’r rhain yn llawer iawn mwy cyffredin na fuasai rhywun yn feddwl).  Mae’r rhesymau hyn wedi eu cydnabod yn y gyfraith ac felly yn rhywbeth sydd angen i’r Cyngor ei adlewyrchu yn ei drefniadau gosod.

 

Mae Polisi Gosod Tai Cyffredin Gwynedd yn blaenoriaethu unigolion a theuluoedd sydd wedi preswylio am bum mlynedd neu fwy yn ardal Cyngor Cymuned ar gyfer pob gosodiad a wneir trwy’r gofrestr er mwyn sicrhau bod blaenoriaeth i unigolion sydd â chyswllt â’r ardal benodol ond, fel rwyf wedi esbonio, mae ceisio diffinio’r angen lleol am dai trwy ei gyfyngu i’r rhai sydd yn byw yno ar hyn o bryd yn gamarweiniol.

 

Nid oes neb yn ceisio cyfyngu prynwyr tai i’r pentrefi ble maent eisoes yn byw yn unig; ni ddylid ceisio gosod cyfyngiadau cyffelyb ar y rhai y mae arnynt angen tai cymdeithasol.

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Rhys Tudur

 

O ystyried mai’r data rydym ni’n ei gasglu ar hyn o bryd yw’r data angen sirol, a hefyd data ardaloedd sydd – ac rwy’n darllen nodyn yn y fan hyn ar y data ei hun sy’n dweud “Mae’r data angen tai yn gofnod o bob ardal mae unigolyn wedi’i ddewis ar y cais”.  Felly o ystyried hynny, gai ofyn pa barodrwydd sydd gan y Cyngor hwn i gasglu data ar gyfer faint o unigolion sydd wedi dewis ardal fel eu blaenoriaeth pennaf rhif un, a hefyd faint o unigolion, sy’n byw mewn ardal lle mae yna gais cynllunio eisoes, sydd mewn angen am dŷ?  Bydd y data hwnnw yn ein grymuso i fesur ble mae’r bobl sydd mewn angen am dai a bydd yn grymuso’r data sydd gennym ar yr angen yn lleol.

 

Ateb yr Aelod Cabinet Tai ac Eiddo, Y Cynghorydd Paul Rowlinson

 

Wel, rwyf wedi esbonio pam na fyddai’n briodol i nodi’r nifer sy’n byw yn y pentref, yn yr ardal yn barod.  O ran y cwestiwn am y dewis cyntaf, wrth feddwl am y cwestiwn gwreiddiol, roeddem yn ystyried a fyddai’n beth doeth cynnwys y wybodaeth ychwanegol yna i helpu’r penderfynwyr, ond penderfynwyd nad oedd yn briodol.  Wrth osod tai, nid ydym yn ystyried y drefn mae pobl wedi rhoi beth bynnag.  Mae rhywun sydd wedi rhoi'r pentref i lawr fel ei ail ddewis yn cael ei ystyried yr un fath â rhywun sydd wedi’i roi fel dewis cyntaf, a hefyd nid yw llawer o bobl yn nodi’r dewis wrth lenwi’r ffurflen, ond yn ticio efallai hanner dwsin o flychau ar gyfer ble maent eisiau byw.  Nid ydynt yn eu gosod mewn trefn flaenoriaeth ac felly, os ydynt yn y pentref, mae’n rhaid iddynt dderbyn y cynnig.  Os ydynt yn gwrthod, maent yn disgyn i lawr y rhestr felly nid yw pobl yn cyflwyno ceisiadau am dai oni bai eu bod yn wirioneddol fodlon byw yn rhywle, er enghraifft, petai rhywun eisiau tŷ ym Mangor, efallai eu bod yn fodlon byw yn unrhyw un o’r 9 ardal ym Mangor.  Nid yw pobl yn rhestru llefydd mewn trefn flaenoriaeth ar y ffurflenni, ac ni fyddai’n bosib’ i ni ddarparu data cadarn o ran hynny.  Mae yna broblemau ymarferol hefyd a byddai’n rhaid i chi fynd drwy’r system yn gwirio dewis cyntaf pawb.  Mae yna gannoedd ar y rhestr.  Yn fy ward i yn unig yn Rachub mae yna 177 felly mae yna broblemau ymarferol ynghlwm â gwneud hynny, ac nid yw hyn yn rhywbeth fyddai’n rhoi unrhyw ddata ystyrlon i chi mae gen i ofn.

 

(3)       Cwestiwn Y Cynghorydd Gwynfor Owen

 

Tair blynedd yn ôl gofynnais gwestiwn yn y Cyngor “Beth mae’r Cyngor am ei wneud ynglŷn â’r broblem o oryrru yn ein cymunedau?

 

Cefais ateb adeg hynny gan y deilydd Cabinet, Y cyn Gynghorydd Gareth Griffiths, yn dweud y byddai’r cyfyngiad cyflymder 20mya yn dod i mewn yn fuan ac y byddai hynny gobeithio yn gwella’r sefyllfa.

 

Y realiti yw nad yw'r sefyllfa wedi gwella o gwbl.  Rwyf yn derbyn cwynion ar hyd fy ward yn cychwyn yn Llandecwyn, ymlaen i Dalsarnau, Glan y Wern, Ynys, Harlech, Llanfair a Llanbedr.  A fuasai'r Cyngor yn fodlon edrych ar ffyrdd amgen o atal y goryrru sydd yn creu gwir boendod i gymaint o fy etholwyr?

 

Ateb yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Craig ab Iago

 

Rwy’n rhannu eich pryderon am y goryrru.  Dros y blynyddoedd, wrth fod yn gynghorydd, rydw i wedi llwyddo i ostwng y terfynau cyflymder gyrru ar lonydd yn fy ardal.  Rwyf wedi cael sawl sgwrs gyda sawl swyddog o’r Cyngor ynglŷn â hyn, a’r realiti o’m mhersbectif i fel cynghorydd yw nad oes yna lawer y gall y Cyngor ei wneud i newid sut mae pobl yn bihafio ar y lonydd.  Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau neu syniadau, byddwn yn croesawu sgwrs ynglŷn â hynny unrhyw bryd.  Rwy’n credu y byddai’n fuddiol mynd â’r mater gerbron pwyllgor craffu rhywbryd, ac mi fyddwn yn croesawu sgwrs gyda chi ynglŷn â’r mater.

 

Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Gwynfor Owen

 

Diolch am yr ateb cynhwysol.  Er bod yr ateb ysgrifenedig yn llawn ffeithiau, y paragraff olaf yn unig sy’n ateb fy nghwestiwn, ac er fy mod yn hynod ddiolchgar o’r ateb yma, hoffwn ofyn am sicrwydd pellach y bydd swyddogion y Cyngor yn fodlon trafod pob opsiwn gyda mi ar gyfer arafu traffig ar lonydd oddi mewn i fy ward.  Wrth deithio drwy Gymru a thu hwnt, mae rhywun yn gweld pob math o bethau yn cael eu defnyddio i arafu traffig, ee. culhau lonydd, creu mannau croesi, arwyddion yn fflachio neu rywbeth i atgoffa gyrwyr o’r peryglon o or-yrru, a byddai’n braf gweld rhai o’r opsiynau yma yn cael eu defnyddio yn fy ward.  Gan hynny, a fedrwch chi sicrhau y bydd swyddogion y Cyngor yn fodlon trafod gyda mi bob opsiwn posib’ ar gyfer arafu traffig oddi mewn i fy ward?

 

Ateb yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Craig ab Iago

 

Rwy’n hapus i drafod gyda chi.  Croeso hefyd i unrhyw aelod arall gysylltu â mi i gael sgwrs am or-yrru yn eu ward.

 

(4)       Cwestiwn Y Cynghorydd Jina Gwyrfai

 

Pa ystyriaeth a roddir i’r dynodiad ‘ardal cadwraeth’ wrth ystyried ceisiadau cynllunio, yn enwedig ceisiadau i osod paneli solar a phympiau gwresogi?

 

Ateb yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Craig ab Iago

 

Mae’r cwestiwn yn dechnegol iawn.  Nid oes gen i unrhyw beth i’w ychwanegu i’r hyn sydd yn yr ateb ysgrifenedig.  Ydi’r ateb o gymorth i chi?

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Jina Gwyrfai

 

O’r ateb, mae’n dda bod ystyriaeth arbennig yn cael ei rhoi i edrychiad ardaloedd cadwraeth tra bo pob cais cynllunio yn cael sylw unigol, sy’n ddigon teg.  Fodd bynnag, wedyn mae’r egwyddor o edrych ar ôl cadwraeth yn y fantol yn fy marn, felly hoffwn holi sut mae cysoni’r ddwy egwyddor bwysig yma i sicrhau nad canlyniad cronnol caniatáu nifer fawr o baneli solar, ac ati, yw dinistrio ardaloedd cadwraeth?  Mae’n rhaid cael rhyw fath o fonitro.

 

Ateb yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Craig ab Iago

 

Mi fyddwn i’n cytuno â chi, ond eto mae’r cwestiwn yn gwestiwn technegol.  Rwy’n hapus i gael sgwrs gyda chi a’r swyddogion i ddod o hyd i ateb sy’n ateb eich cwestiwn o ddifri’.

 

 

Dogfennau ategol: