Derbyn yr wybodaeth ac ystyried y risgiau cyffredinol sy’n deillio o lithriadau yn yr arbedion
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
·
Derbyn
y wybodaeth gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau cyffredinol sydd yn deillio o
lithriadau yn yr arbedion
·
Cefnogi
fod y Cabinet yn cymeradwyo dileu un cynllun arbedion gwerth £146,910
perthnasol i 2025/26 yn y maes gwastraff yn yr Adran Amgylchedd, gan
ddefnyddio’r ddarpariaeth a osodwyd o’r neilltu yn y gyllideb er mwyn gwneud
hynny.
·
Diolch i
bawb oedd yn gysylltiedig â’r adroddiad - gwaith heriol iawn wedi ei gyflwyno
mewn modd dealladwy
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn
gofyn i’r pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y
Trosolwg Arbedion, ystyried argymhellion i’r Cabinet (22-01-2025) a sylwebu fel
bo’ angen. Eglurwyd, bod £42 miliwn o arbedion wedi eu gwireddu, sef 90% o’r
£46.6 miliwn gofynnol dros y cyfnod a gwerthfawrogwyd y gwaith gan staff y
Cyngor i wireddu hyn. Nododd, er mwyn cau'r bwlch ariannol, roedd rhaid
gweithredu gwerth £5.6 miliwn o arbedion yn ystod 2024/25 oedd yn gyfuniad o £3.6 miliwn oedd wedi ei
gymeradwyo yn Chwefror 2023 ac arbedion newydd gwerth £2 filiwn a gymeradwywyd
yn Chwefror 2024.
Cyfeiriwyd at grynhoad cyrhaeddiad arbedion pob
Adran yn seiliedig ar adolygiad Tachwedd 2024 (cyfanswm o £12miliwn) a
chyhoeddwyd bod dros £8 miliwn (67%) o’r cynlluniau hyn eisoes wedi eu gwiredd
gyda 6% ar drac i gyflawni’n llawn ac amserol. Ategwyd bod risgiau i wireddu’r
arbedion yn amlwg mewn rhai meysydd gyda’r prif rai yn yr Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant a’r Adran Amgylchedd.
Adroddwyd, yn dilyn adolygiad diweddar gan y Prif Weithredwr o
gynlluniau arbedion yn y maes gwastraff gan yr Adran Amgylchedd, daethpwyd i’r
canlyniad fod angen uno tri cynllun arbedion yn y maes gwastraff masnachol,
dileu un cynllun casglu clytiau gwerth £147 mil a bod cynlluniau amgen yn cael
eu cynnig ar gyfer gwerth £300k o gynllun gwastraff £400k. Bydd hyn yn cael ei argymell i’r Cabinet i’w
gymeradwyo.
Ategodd y Pennaeth
Cyllid Cynorthwyol, ym Mhwyllgor mis Hydref, gwnaed cais i lunio tabl oedd yn
gwahaniaethu rhwng y sefyllfa hanesyddol a’r sefyllfa ddiweddaraf fel bod bodd
adnabod risgiau i’r sefyllfa gyfredol. Nodwyd bod y cais wedi ei weithredu gyda
gwybodaeth am gynlluniau hanesyddol sydd wedi eu gwireddu mewn un tabl a thabl
arall yn rhoi sylw i’r arbedion hanesyddol sydd eto i’w gwireddu
Tynnwyd sylw at
gynlluniau arbedion newydd fesul Adran
ar gyfer 2025/26 ymlaen – gan nodi bod y cynlluniau hyn eisoes dan ystyriaeth y
Cyngor yn destun adroddiad pellach i’r Pwyllgor.
Diolchwyd
am yr adroddiad.
Yn
ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Yn croesawu bod y cynnig o gyflwyno gwybodaeth am y
arbedion hanesyddol wedi ei weithredu – trosolwg o’r sefyllfa yn gliriach
·
Croesawu bod 67% o gynlluniau arbedion effeithlonrwydd
2024/25 wedi eu gwireddu
·
Bod yr arbedion ‘hawsaf’ wedi eu gwireddu – yr arbedion
sydd angen eu gwireddu yn y dyfodol agos yn anodd ac felly angen sicrhau bod
ystyriaeth yn cael ei roi i osod amserlen briodol ar gyfer gweithredu a rhoi
cyfle i adrannau gynllunio’n well i’r tymor hir
·
Diolch i bawb a fu’n gysylltiedig ar adroddiad – gwaith
heriol iawn wedi ei gyflwyno mewn modd dealladwy
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn y wybodaeth gan nodi’r sefyllfa
a’r risgiau cyffredinol sydd yn deillio o lithriadau yn yr arbedion
·
Cefnogi fod y Cabinet yn cymeradwyo
dileu un cynllun arbedion gwerth £146,910 perthnasol i 2025/26 yn y maes
gwastraff yn yr Adran Amgylchedd, gan ddefnyddio’r ddarpariaeth a osodwyd o’r
neilltu yn y gyllideb er mwyn gwneud hynny.
·
Diolch i bawb oedd yn gysylltiedig â’r
adroddiad - gwaith heriol iawn wedi ei gyflwyno mewn modd dealladwy
Dogfennau ategol: