skip to main content

Agenda item

I ystyried adroddiad gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

 

(Copi’n amgaeedig).

Cofnod:

Cyflwynwyd:             Adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion rheolaethol yr Harbwr gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:-

 

(a)                                                  Cod Diogelwch Morwrol

 

Nodwyd bod y cod diogelwch yn ddogfen fyw a phwysigrwydd i dderbyn sylwadau yn rheolaidd ar y cynnwys fel y gall gael ei adolygu ac bod y ddogfen yn berthnasol i weithgareddau’r Harbwr.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod. 

 

(b)   Mordwyo

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cyng. Rob Triggs ynglyn â bwi i farcio peipen arllwys dŵr i’r môr, eglurwyd y derbyniwyd ymddiheuriad gan Dŷ’r Drindod nad oeddynt wedi cysylltu ymlaen llaw a bod y bwi yn cydymffurfio â’r gofynion a bod Dŵr Cymru allan o drefn gan na fu iddynt hysbysu’r Cyngor fod bwriad ganddynt i gomisiynu gwaith gan Dŷ’r Drindod oddi fewn ffiniau’r harbwr.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 (c)       Cynnal a Chadw

 

Gofynnwyd i aelodau’r Pwyllgor os oedd ganddynt unrhyw bryder a oedd angen sylw cyn gwyliau’r Pasg ac fe nodwyd y materion canlynol:

 

(a)  Arwydd newydd ger Ty Crwn

(ii)           Clo’r giat y brif llithrfa angen ei sythu allan gan nad oes modd ei gloi ar hyn o bryd

 

(ch)      Materion Staff

 

(i)         Adroddwyd bod cytundeb Cymhorthydd Harbwr Abermaw (tymhorol) wedi dod i ben ar 30 Medi 2016 ond fe estynnwyd y cyfnod dros fisoedd y gaeaf gyda deilydd y swydd wedi ei leoli ym Mhorthmadog.  Nodwyd ymhellach bod yr Uwch Swyddog Harbyrau i ffwrdd o’i waith yn sal ar hyn o bryd ac os oedd unrhyw broblemau yn codi gofynnwyd i Aelodau gysylltu â’r Gwasanaeth ym Mhwllheli. 

 

(d)      Materion Gweithredol

 

(i)   Derbyniwyd adroddiad gan Sefydliad y Bad Achub ynglyn ag arwyddion diogelwch ardal yr Harbwr a thraeth Abermaw a thrwy Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol hwn, y Cyngor Tref, a Sefydliad y Bad Achub y byddir yn trafod ymhellach yr hyn a ellir ei gyflawni erbyn gwyliau Sulgwyn.  Pwysleislwyd bod yn rhaid bod yn ofalus o leoliad yr arwyddion oherwydd effaith y tywod yn Abermaw.  O ran cynnal a chadw’r arwyddion, rhagwelir y byddir yn gorfod eu tynnu yn ystod y gaeaf.

 

(ii)  Mewn ymateb i bryder amlygwyd gan Aelod lle gall unigolion gwympo i sianel yn ardal y baddon ar adegau llanw isel nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y gofynnir i’r Harbwr Feistr gynnal archwiliad o’r safle ac ystyried pa fath o arwyddion i’w gosod ger bron dros dro.  

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(e)     Angorfeydd – Ras y Tri Copa           

Derbyniwyd cais gan Bwyllgor Ras y Tri Copa am ganiatad i osod blociau concrid ac angorfeydd “ôl a blaen” yn ardal lle mae’r dŵr dwfn parhaol yn yr Harbwr.

 

Esboniodd cynrychiolydd Pwyllgor Ras y Tri Copa pa mor bwysig yw’r ras i Abermaw yn nhermau cysylltiadau cyhoeddus ac economi’r ardal gan bod y ras yn denu cystadleuwyr ac ymwelwyr i’r ardal o bob cwr o’r byd.   Pe byddir yn hysbysebu Harbwr Abermaw mewn cylchgronnau, a.y.b. fe fyddai’n golygu cost enfawr i’r Cyngor a’r Bwrdd Twristiaeth ond credir bod bodolaeth y ras yn amlygu Abermaw ynddo’i hun drwy wefannau cymdeithasol, a.y.b., a dilynnwyr y ras ac o ganlyniad yn denu budd enfawr i’r ardal.  

 

Derbyniwyd esboniad pellach o’r angen am y blociau concrid gan nodi bod y math yma wedi eu defnyddio ers blynyddoedd ac nad oeddynt wedi symud o wely’r môr.  Deallir bod gwrthwynebiad i’r Pwyllgor roi y blociau yn yr Harbwr ond nid oedd yn wybyddus o’r rhesymau am hyn.  Gwnaed cais i osod 15 bloc concrid a hyd yn hyn roedd y Pwyllgor wedi derbyn 13 o gystadleuwyr i’r ras gyda’r gobaith wrth gwrs o dderbyn mwy.  Defnyddir y blociau concrid oherwydd eu bod yn rhatach o’i cymharu ag angorfeydd dur a chadwyni.  Deallir y defnyddir blociau concrid yn Aberdyfi a bod Ty’r Drindod yn eu defnyddio.  Amcangyfrifir cost o oddeutu £5,000 i £7,000 a bwriedir cryfhau’r rhai presennol a gosod cadwyni daear arnynt.  Nodwyd ymhellach bod y blociau a fwriedir eu defnyddio yn llawer iawn mwy ac y byddent yn cael eu gosod gan y contractwr lleol.  Apeliwyd am benderfyniad gan y Pwyllgor Ymgynghorol oherwydd yr angen i’r contractwr dderbyn cyfarwyddyd er mwyn eu cael yn barod erbyn mis Ebrill.  Roedd Pwyllgor y Ras yn fodlon i’r Gwasanaeth Morwrol ddefnyddio’r blociau concrid ac yr angorfeydd wedi’r Ras ac am weddill y tymor heb gost ychwanegol.

 

Mewn ymateb gan y Swyddog Morwol a Pharciau Gwledig, rhoddwyd glod i Bwyllgor Ras y Tri Copa ac yn sicr cydnabuwyd gyfraniad sylweddol y ras i economi’r Harbwr a’r ardal ehangach o ystyried mai gwirfoddolwyr yn unig sydd ynghlwm i’r trefniadau, a.y.b.  Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod y Cyngor wedi cefnogi’r ras yn hanesyddol a bod y Gwasanaeth Morwrol wedi buddsodi offer a chelfi yn y gorffennol i hyrwyddo’r trefniadau. 

 

Nodwyd ymhellach bod y Gwasanaeth Morwrol gyda meddwl agored o ran y blociau concrid ac nad oeddynt yn ymwybodol o unrhyw wrthwynebiad na chwyn a fu wedi ei gyflwyno.  O safbwynt manylion yr angorfeydd, gwnaethbwyd lawer o ymchwil yn y gorffennol a chyfeirwyd at y ddogfennaeth oedd ynghlwm i’r rhaglen yn rhestru manyldeb isafswm angorfeydd y Cyngor.  Yn ychwanegol pwysleiswyd bwysigrwydd bod yr angor yn cydymffurfio â safonau er cadw cychod yn ddiogel.  Yng nghyd-destun y cais, tynnwyd sylw bod angorfeydd yn bodoli’n barod, ond bod angen sicrwydd pendant o’r nifer angorfeydd ychwanegol sydd angen ar gyfer y ras.

 

O safbwynt defnydd blociau concrid, mynegwyd bryder pe byddai’r cadwyn yn torri a’r blociau concrid yn aros ar wely’r môr ac yn creu trafferthion mewn blynyddoedd i ddod, ond ar yr un pryd yn falch bod bwriad i ddefnyddio cadwyn daear.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod ynglyn â manyleb blociau concrid, esboniodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod hyn yn anodd a’r unig sylw a gynigwyd ydoedd bod blociau concrid a ddefnyddiwyd yn y gorffennol wedi gweithio.  Rhagwelir y byddai’n bosibl eu harchwilio unwaith y flwyddyn ond fe fyddai’n rhaid i hyn fod ar gost Ras Tri Copa. 

 

Amlygwyd y sylwadau canlynol mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau:

 

·         Bod angorfeydd dur yn ddrutach na’r blociau concrid

·         Nad oedd unrhyw gwynion ysgrifenedig wedi eu derbyn ynglyn â gosod blociau concrid

 

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol gwnaed y sylwadau canlynol:

 

  • Pryder ynglyn â’r bwi arweiniol tuag at y môr (pen llinell yr angorfeydd)
  • A fyddai’r angorfeydd newydd yn gwrthdaro gyda rhai presennol
  • Datblygiadau’r dyfodol – os oes cyfarpar wedi eu gadael, a fyddai’n creu anawsterau i angorfeydd presennol

 

Mewn ymateb i’r uchod, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig mai’n debygol bod rhai o’r angorfeydd presennol angen eu symud, ac fel awdurdod yr Harbwr nodwyd bod hawl i ofyn i berchennog cwch symud i leoliad newydd a’r gost i’w dalu gan y perchennog.  Fe fydd yr Uwch swyddog Harbyrau ar y cyd gyda’r Harbwr feistr yn sicrhau fod y gwaith hwn wedi ei gwblhau cyn brîf dymor yr haf.

 

Tra’n cytuno a deall dilema Pwyllgor Ras y Tri Copa  o safbwynt faint o angorfeydd fydd eu hangen awgrymwyd mai’r ffordd orau ymlaen ydoedd i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig / Harbwr Feistr drafod ymhellach anghenion Pwyllgor Ras y Tri Copa a defnydd yr angorfeydd gan y Cyngor yn dilyn y ras.   Awgrymwyd i gynnal cyfarfod fel mater brys ar ol y Pwyllgor Ymgynghorol hwn.

 

Penderfynwyd:          (a)        Derbyn a nodi’r uchod.

 

(b)           Cefnogi mewn egwyddor cais Pwyllgor Ras y Tri Copa i

ddarpariaeth y blociau concrid ar gyfer Ras y Tri Copa a gofyn i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig / Harbwr Feistr drafod ymhellach gyda swyddogion Pwyllgor y Ras o ran trefniadaeth, lleoliadau, defnydd yr angorfeydd gan y Cyngor yn dilyn y ras a sicrwydd nad yw’r blociau concrid yn aros fel gwastraff ar wely môr yr Harbwr mewn blynyddoedd i ddod. 

 

 

(f)        Symud Tywod

 

Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddir yn symud y tywod wythnos nesaf.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(ff)       Pontwn Wal y Cei

 

Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y cynhaliwyd cyfarfod cadarnhaol ar 1 Chwefror 2017 gyda chynrychiolaeth o grwpiau a mudiadau lleol a’r Cyngor Tref yn bresennol pryd trafodwyd perchnogaeth a chynnal a chadw’r pontwn.  O’r cyfarfod hwn, deallir bod Ymddiriedolaeth Cymunedol Abermaw yn rhoi ystyriaeth i gymryd perchnogaeth a chyfrifoldeb o’r pontwn i’r dyfodol.  Rhoddwyd ar ddeall i’r Pwyllgor Ymgynghorol nad oedd y Gwasanaeth Morwrol yn berchen ar y pontwn ac felly ddim yn gyfrifol o safbwynt ei gynnal a’i gadw neu yn gyfrifol am drefnu neu ariannu yswirant atebolrwydd cyhoeddus.  Mynegwyd ymhellach nad oedd unrhyw warant bod wal y cei yn ddigon cadarn ar gyfer y pontwn.  Pryderwyd hefyd am bysedd y pontwn a oedd wedi eu lleoli ar hyn o bryd yn ardal y Baddon a’r angen i weithredu yn ddioed i’w symud oddi yno ac os oedd unrhyw anhawster gyda lleoliad byddai’r Harbwr Feistr yn fodlon trefnu lleoliad i’w cadw dros dro. 

 

Nododd Aelod bod yr Ymddiriedolaeth Cymunedol wedi rhagdybio, gan bod y pontwn mewn defnydd ers pedair blynedd a hanner bellach, ei fod wedi ei yswirio gan y Cyngor am y cyfnod hwnnw.

 

Mynegodd Aelod bwysigrwydd i ymdrin a’r uchod yn ddioed.

 

Penderfynwyd:          (a)  Derbyn a nodi’r uchod.

 

(c)  Gofyn i’r Harbwr Feistr ymchwilio i’r posibilrwydd o leoliad addas

ar gyfer symud y bysedd dros dro a chysylltu gydag aelodau’r Ymddiriedolaeth Cymunedol Abermaw ynglyn â threfniant i’w gludo.

 

(g)  Ystorfa Betrol

 

Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, yn dilyn cais o’r cyfarfod diwethaf ynglyn a’r posibilrwydd i storio a gwerthu petrol ar y cei ar gyfer cychod pwer yn unig, ei fod wedi trafod gyda swyddogion Adran Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor a oedd o’r farn na fyddai’n bosibl i wneud hyn oherwydd cymhlethdodau gyda’r rheoliadau.  Yn unol â chanllawiau Adran Weithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) nid oedd y Gwasanaeth wedi bod yn codi’r ffi gywir am ddisel coch ac fe fyddai’n rhaid cywiro’r broses.  Hyderir hefyd erbyn gwyliau’r Sulgwyn y byddir yn gallu cynnig gwasanaeth talu gyda cherdyn am ddisel, ffioedd, a.y.b.   Byddai’n ofynnol felly i hysbysu cwsmeriaid o’r drefn newydd fyddai’n golygu dim credyd unwaith bydd gwasanaeth talu a cherdyn yn weithredol yn yr harbwr.          

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(ng)      Trwydded Perchennog a Thrwydded Cychwyr

 

Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod gan Abermaw adnodd gwych rhwng Abermaw a Fairbourne drwy’r gwasanaeth ysgraff ond bod angen ystyried tynhau’r trefniadau.  Nodwyd bod tair trwydded wedi eu caniatau ar gyfer ysgraff a fyddai’n cludo teithwyr rhwng Abermaw a Phwynt Penrhyn gydag 1 trwydded yn cael ei ganiatau ar gyfer cwch a fydd yn cynnig mordeithiau oddi amgylch yr aber hyd at y dollbont yn unig.  Gofynnwyd am farn y Pwyllgor Ymgynghorol ynglyn â:

  • chyfyngu’r nifer Trwyddedau Perchennog
  • sefydlu uchafswm Trwyddedau Perchennog a ganiateir i weithredu yn yr harbwr
  • sefydlu cyfnod a nifer ddyddiau pendant ble mae gofyn i ddaliwr Trwydded Perchennog weithredu
  • sefydlu isafswm oriau gweithredu
  • unrhyw welliannau neu ofynion pellach a fu i’w ystyried fel amodau i Drwydded Perchennog neu Drwydded Cychwyr

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol:

 

  • bod yr ysgraff yn cynnig gwasanaeth i ymwelwyr a’r gymuned ac y gellir dadlau y dylid mynnu gweithrediad bob dydd o’r wythnos yn ddibynnol ar dywydd ffafriol
  • Bod Rheilffordd Fairbourne yn ail-agor am dymor twristiaeth o’r 1 Ebrill ond nad oedd gweithredwyr yr ysgraff yn gallu dechrau tan 7 Ebrill, a gofynnwyd a fyddai modd gweithredu o’r 1 Ebrill i gydfynd a’r Rheilffordd

 

Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod y dyddiad yn unol â gofynion y ddeddf berthnasol a phe byddai angen cychwyn ynghynt na 7 diwrnod cyn y Pasg, byddai’n ofynnol trafod gyda’r Harbwr Feistr y posibilrwydd o drwydded gaeaf sy’n cydymffurfio a rhan arall o’r ddeddf.

 

Penderfynwyd:          (a)   Cymeradwyo i barhau gyda’r broses presennol o weithredu ac adolygu’r sefyllfa ym mis Hydref ar sut y gweithredwyd y gwasanaeth.

 

(h) Materion eraill      

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod ynglyn â lansio o Pwynt Penrhyn, adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddir yn cyflogi Cymhorthydd Harbwr o’r 1 Ebrill ond yn anffodus nid oedd capasiti’r Gwasanaeth yn caniatau i staff fynd drosodd i reoli Pwynt Penrhyn.  Eglurwyd ymhellach bod yr Harbwr Feistr yn gyfrifol am gofrestriadau cychod sydd yn cofrestru yn yr Harbwr a gwirio’r dogfennau perthnasol. 

 

Ychwanegwyd y derbyniwyd 7 cais llynedd gan wirfoddolwyr yn Abermaw i gynorthwyo gyda gweithrediadau o amgylch yr Harbwr a chroeswir hyn eto eleni gan ofyn i’r Harbwr Feistr ddynodi gwaith iddynt cyn belled a bo cymwysterau’r unigolion yn dderbyniol. 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(b)          Materion Ariannol

 

Cyfeiriwyd at grynodeb o gyllideb yr Harbwr a oedd ynghlwm i’r Rhaglen.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r gyllideb.

 

(c)          Ffioedd a Thaliadau 2017/18

 

Cyfeiriwyd at y daenlen ffioedd a oedd yn nodi cynydd o 2% ar gyfartaledd gyda ffi angora cychod masnachol yn codi 6%. 

 

Tynnwyd sylw hefyd at ffi ychwanegol angorfa gan Stad y Goron o £25.00 a fyddir yn ei gasglu gan y Gwasanaeth Morwrol a fydd yn cael ei ad-dalu i’r Goron.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r ffioedd.

 

Dogfennau ategol: