Agenda item

I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau, ystyried penderfyniadau i’r Cabinet a sylwebu fel bo angen.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

·       Cytuno gyda’r argymhellion i’r Cabinet:

 

Nodyn:

·       Gwaith sydd wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i gael gwell dealltwriaeth o orwariant gan yr Adran Oedolion Iechyd a Llesiant - cais i’r Cabinet herio beth yw amserlen y gwaith yma – angen sicrwydd bod y gwaith yma yn ei le i osod cyllideb

·       Gwaith sydd wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i egluro manylder y darlun yng ngofal Plant, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r materion a rhaglen glir i ymateb.

 – angen cyflwyno dadansoddiad manylach o’r gwaith i’r Pwyllgor

·       Cais am wybodaeth ar sut mae rhagolygon ariannol Gwynedd yn cymharu gyda Chynghorau eraill

·       Gwybodaeth am incwm uwch gan y gwasanaeth profedigaeth marwolaethau, diffyg incwm parcio a manylion ‘pres y pen’ i’w rannu’n uniongyrchol gyda’r Cyng. Angela Russell

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2024/25, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor graffu’r wybodaeth a chynnig sylwadau cyn cyflwyno am gymeradwyaeth y Cabinet  21 Ionawr 2025.

 

Cyfeiriwyd ar dalfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau gan adrodd, yn dilyn adolygiad

ddiwedd Tachwedd ar orwariant bod  83% ohono yn y maes gofal oedolion a phlant, ond  y rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd pump o’r adrannau yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn, gyda gorwariant sylweddol ar gyfer yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a’r Adran Amgylchedd.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·        Gwaith sydd wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i gael gwell dealltwriaeth o orwariant gan yr Adran Oedolion Iechyd a Llesiant - beth yw amserlen y gwaith a pryd fydd y wybodaeth yn cael ei rannu?

·        Gwaith sydd wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i egluro manylder y darlun ym maes gofal plant - angen cyflwyno’r wybodaeth i’r Pwyllgor

·        Bod mwy o alw am wasanaethau - a’i buddsoddiad annigonol sydd yma ynteu orwariant? Bod Cynghorau ar draws Cymru yn yr un sefyllfa. Sut mae Gwynedd yn cymharu gyda Chynghorau eraill?

·        Er yn ffodus o gronfeydd wrth gefn y Cyngor, nid yw hyn yn gallu cynnal y sefyllfa - cyfrifoldeb ar Benaethiaid i ‘fyw o fewn’ y gyllideb

·        Gwendidau gweinyddiaeth i ofal cartref – a yw’r sefyllfa wedi gwella?

·        Cyfeiriad at seibiant gwario canol blwyddyn - a yw hyn yn annheg os byddai rhywun angen gwasanaeth?

·        A oes cynlluniau tymor hir i feysydd incwm y Cyngor yn hytrach na thymor byr / canolig? A yw’r trothwy incwm yn rhy uchel ac o ganlyniad yn amlygu bod y gwasanaeth yn aneffeithiol ar bapur? Faint yn llai e.e., yw incwm parcio yng Ngwynedd?

·        Prinder gweithwyr - a yw cytundebau 16 awr yn cronni’r sefyllfa? Wrth ystyried amodau gwaith gofalwyr yn gyffredinol a oes ystyriaeth i ail gyflwyno tâl chwyddedig?

·        Ffigyrau sensws Gwynedd – nifer marwolaethau yn uchel – beth yw effaith hyn?cais am fanylion pres y pen ac incwm uwch y gwasanaeth profedigaeth marwolaethau

·        A oes mewnbwn i leoliadau all sirol i blant gan y Bwrdd Iechyd?

 

Er bod gwaith eisoes wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i edrych ar sefyllfa ariannol yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, gwahoddwyd Dylan Owen (Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol) ac Aled Davies (Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant) i’r cyfarfod i roi cyd-destun ac eglurhad llawnach ar benawdau cyllideb yr Adran gan fanylu ar sefyllfa gyllidol heriol yr Adran.

 

Wrth ymateb i sylw ynglŷn â mewnbwn y gwasanaeth iechyd i leoliadau allsirol, nodwyd nad mater iechyd oedd yma, ond diffyg darpariaeth cartrefi / llety i blant mewn angen. Eglurwyd nad oes darpariaeth ddigonol yng Ngwynedd ac felly bod rhaid chwilio am lety diogel tu allan i’r Sir. Ategwyd bod y galw am leoliadau preswyl yn genedlaethol yn uchel ac nad oedd y cyflenwad presennol yn cyfarch y galw - y diffyg hefyd yn arwain at sefyllfa o orfod defnyddio eiddo heb gofrestriad (megis carafán) sy’n arwain at brynu gofalwyr (asiantaethol) i warchod y plentyn / plant, sydd o ganlyniad yn uchafu’r costau.

 

Adroddwyd bod datblygu darpariaeth breswyl drwy Gynllun Cartrefi Grŵp Bychain yn flaenoriaeth yng Nghynllun y Cyngor 2023-28. Esboniwyd bod gwariant y Cyngor ar leoliadau preswyl all-sirol yn cynyddu a hynny oherwydd chwe lleoliad eithriadol eleni. Byddai datblygu’r Cynllun Cartrefi Grŵp Bychain yn gyfle i arbed costau, wrth sicrhau bod plant mewn lleoliadau preswyl yn cael aros yn lleol, bod yn rhan o’r gymuned a derbyn addysg o fewn y Sir.

 

Yng nghyd-destun Cartrefi Nyrsio, eglurwyd gyda dyfodiad datblygiad Penyberth bydd y Cyngor yn gallu darparu gofal nyrsio o fewn y Sir - gwasanaeth sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddarparu gan ddarparwyr gofal annibynnol neu drydydd sector yn unig. Ategwyd bod y darparwyr hyn yn cynnig gofal preifat sydd a’u pryd ar wneud elw ac felly bod angen ceisio cytundeb costau ymlaen llaw. Bydd Penyberth yn fodd o ailfodelu’r sector gofal yn y Sir.

 

Tynnwyd sylw at yr amcan gorwariant ar gyfer 2024/25 gan sicrhau nad Gwynedd yn unig oedd yn y sefyllfa yma - y darlun yn un cyffredin ar draws y Deyrnas Unedig. Ategwyd bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn un o brif ddiwydiannau’r Sir yn cyflogi nifer ac yn buddsoddi yn sylweddol yn y gwasanaethau. Cyfeiriwyd at ddefnydd ‘Care Cubed’ sydd yn gwmni di-elw sy’n cynorthwyo’r gwasanaeth i ddeall ffioedd a chael y gwerth gorau am arian - ei ddefnydd eisoes wedi arwain at danwariant mewn rhai meysydd. Yn ôl Cymdeithas Gofal Cartref, cost safonol ddisgwyliedig gofal cartref yw £34 yr awr gyda Chyngor Gwynedd yn talu ychydig llai na hyn, ond y galw am ofal yn fawr o fewn y Sir. Nodwyd bod gwaith parhaus yn cael ei wneud i sicrhau balans gan gynnig cefnogaeth i drigolion gynnal eu hunain a byw’n annibynnol.

 

Er y manylion yn yr adroddiad, derbyniwyd nad oedd y wybodaeth yn amlygu’r gwariant yn ddigonol ac felly cytunwyd cydweithio gyda’r Adran Cyllid i geisio darlun cliriach. 

 

Yn ychwanegol, tynnwyd sylw at y materion canlynol:

·        Anableddau Dysgu - costau yn amrywio gyda chyflwyniad o achosion newydd

·        Bod costau staff asiantaethau yn sylweddol, ond y sefyllfa yn gwella

·        Bod recriwtio staff achlysurol yn heriol - gorddibyniaeth ar nifer cyfyngedig. Pryder am salwch staff - gwaith yn cael ei wneud i gefnogi llesiant staff.

·        Nifer o ddatblygiadau ac ymdrech wedi ei wneud i ‘werthu’ pecyn gyrfa ym maes Gofal. Gyda lansiad Academi Gofal, y gobaith yw denu mwy o weithwyr. Gwenno Williams (Swyddog Marchnata a Datblygu Gyrfaoedd Gofal) wedi cael ei chydnabod ar lefel genedlaethol am ei chyfraniad i’r gwaith yma.

·        Arbedion – y sefyllfa yn cael ei hadolygu yn barhaus – cynlluniau arbedion newydd gyda symiau sylweddol wedi eu cyflwyno

·        Darpariaeth Dyledion Drwg yr Adran yn sylweddol - y gyllideb yn annigonol

·        Croesawu datblygiad Penyberth - y ddarpariaeth yn gymorth i’r sefyllfa gofal yn y Sir yn y tymor hir

 

Diolchwyd am yr eglurhad manwl i heriau sylweddol yr Adran

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â Gofal Iechyd Parhaus a’r ffîn annelwig rhwng cyfrifoldebau’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Bwrdd Iechyd, nodwyd bod y sefyllfa yn un cymhleth. Wedi ystyried holl anghenion unigolyn (a chwblhau'r Daflen Cefnogi Penderfyniad), bydd gofyn penderfynu sut i fynd i'r afael â’r anghenion iechyd ynteu /a’r anghenion gofal. Nodwyd, bod penderfyniadau yn cael eu gwyrdroi yn rheolaidd sy’n ychwanegu at heriau’r gwasanaeth - sefyllfa wedi codi lle bod angen ystyried cyflogi person i ymdrin â’r gwaith yma yn unig.

 

Mewn ymateb i sylw bod llithriad i bedwar cynllun gwerth £1,2 i gyllideb 2024/25 ac os oedd bwriad cyflawni’r arbedion hyn, nodwyd na fyddai’r Adran yn cyflwyno arbedion oni bai y byddant yn hyderus o’u cyflawni. Ategwyd bod costau yn cynyddu ac mai anodd yw cyflawni o fewn yr amserlen - yn realistig nid yw’n hawdd cyflawni o fewn cyfnod byr o ystyried y gwaith sydd angen ei wneud i newid gwasanaeth e.e., amserlen ymgynghori gyhoeddus. Y flaenoriaeth yw cynnal a rhoi gwasanaeth i drigolion y Sir, ond bod y Gwasanaeth hefyd yn methu rhoi gwasanaeth i lawer - nid oes cyllideb ar gyfer methu darparu ac angen ystyried hyn i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

·        Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

·        Cytuno gyda’r argymhellion i’r Cabinet:

·        Llongyfarch Gwenno Williams (Swyddog Marchnata a Datblygu Gyrfaoedd Gofal) am ei chyfraniad i’r gwaith recriwtio staff i faes gofal ac am ennill gwobr Cyfraniad Personol Eithriadol yng ngwobrau Gyrfa Cymru. 

 

Nodyn:

·        Gwaith sydd wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i gael gwell dealltwriaeth o orwariant gan yr Adran Oedolion Iechyd a Llesiant - cais i’r Cabinet herio beth yw amserlen y gwaith yma – angen sicrwydd bod y gwaith yma yn ei le i osod cyllideb

·        Gwaith sydd wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i egluro manylder y darlun yng ngofal Plant, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r materion a rhaglen glir i ymateb – angen cyflwyno dadansoddiad manylach o’r gwaith i’r Pwyllgor

·        Cais am wybodaeth ar sut mae rhagolygon ariannol Gwynedd yn cymharu gyda Chynghorau eraill

·        Gwybodaeth am incwm uwch gan y gwasanaeth profedigaeth marwolaethau, diffyg incwm parcio a manylion ‘pres y pen’ i’w rannu’n uniongyrchol gyda’r Cyng. Angela Russell

 

Dogfennau ategol: