Agenda item

Alwen Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y Cyd-bwyllgor Corfforedig) a David Hole (Rheolwr Rhaglen Gweithredu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwyo'r Achos dros Newid gan gynnwys y Cynllun Ymgysylltu â Rhanddeiliaid.

 

Cefnogi dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft.

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro’r CBC a David Hole, Rheolwr Rhaglen Gweithredu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo'r Achos dros Newid gan gynnwys y Cynllun Ymgysylltu â Rhanddeiliaid.

 

Cefnogi dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu bod y Cynlluniau a gyflwynwyd eisoes wedi derbyn cymeradwyaeth gan yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol yn ei gyfarfod ar 16 Rhagfyr, 2024. Eglurwyd bod y Cynllun Achos dros Newid a’r Cynllun Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn gam gweithdrefnol beirniadol wrth ddatblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a chreu sylfaen angenrheidiol i ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar 20 Ionawr. Gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor gymeradwyo’r ddau Gynllun a chefnogi dechrau ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Rhannwyd gwybodaeth am linell amser bras oedd yn crynhoi’r prif gerrig milltir ar gyfer cyrraedd cyhoeddi Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Eglurwyd mai’r bwriad yw i redeg ymgynghoriad o 20 Ionawr hyd ar 14 Ebrill sydd yn gyfnod o 12 wythnos. Nodwyd bod copi o’r ddogfen bolisi Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi ei chynnwys yn Atodiad 3 o’r adroddiad a nodwyd bod yr holl ddogfennau cefnogol yn barod i’w lansio fel rhan o’r ymgynghoriad pe bai’r Cyd-bwyllgor yn gefnogol heddiw.

 

Mynegwyd balchder yn y gwaith sydd wedi cael ei gwblhau gan ARUP a’r gwaith pwysig sydd wedi cael ei wneud gan Trafnidiaeth Cymru fel rhan o’r broses o gasglu’r wybodaeth i gyd yn barod i fynd allan i ymgynghoriad. Amlygwyd mai Gogledd Cymru fydd y rhanbarth cyntaf i fynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a bod hyn yn destun balchder sy’n cydnabod y gwaith aeth yn ei flaen ers mis Hydref 2024 i gael yr holl ddogfennaeth yn barod.

 

Diolchwyd i Brif Weithredwr dros dro’r CBC a’r tîm am eu gwaith i sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus gan gydnabod pwysigrwydd y gwaith.

 

Mynegwyd diolch pellach i Brif Weithredwr dros dro’r CBC am fynychu sesiwn briffio i aelodau etholedig Ynys Môn yn ystod yr wythnos oedd yn fuddiol iawn. Cadarnhawyd bod yr aelodau etholedig wedi bod yn annog eu partneriaid trydydd sector i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

 

Gofynnwyd am sicrwydd y bydd yr iaith Gymraeg yn cael ei llawn le yn yr ymgynghoriad a bod ystyriaeth hefyd i ymgysylltu wyneb yn wyneb yn ogystal ag ymgysylltu digidol. Ychwanegwyd ei bod yn bwysig bod cyfleoedd i bobl fedru ymateb ac ymgysylltu trwy’r iaith Gymraeg. Cadarnhaodd Prif Weithredwr dros dro’r CBC bod yr holl ddogfennaeth yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn ymddangos yn gyntaf o fewn yr ymgynghoriad. Adroddwyd bod ystafell rithiol wedi ei chreu ar y cyd efo ARUP a bod y byrddau rhithiol hyn i gyd yn ymddangos efo’r Gymraeg yn gyntaf. Ychwanegwyd bod llinell ffôn wedi ei sefydlu fydd yn agored i’r cyhoedd ffonio fydd hefyd yn cynnig darpariaeth Gymraeg i unrhyw un sydd eisiau trafodaeth neu roi adborth yn Gymraeg. Nodwyd mai’r unig ddogfennaeth sydd heb eu cyfieithu i’r Gymraeg yn llawn yw dogfennaeth hynod dechnegol sydd wrth gefn i’r ymgynghoriad.

 

Mynegwyd o ran ymgysylltu wyneb yn wyneb bod y Cyd-bwyllgor yn barod iawn i gefnogi hyn o fewn unrhyw awdurdod. Adroddwyd bod ymgysylltu gyda rhai awdurdodau sydd eisiau cynnal sesiynau wyneb yn wyneb yn lleol eisoes wedi cychwyn. Ategwyd bod hynny yn benderfyniad i’r awdurdodau yn unigol os ydynt eisiau hwyluso sesiynau wyneb yn wyneb a bod y CBC yn barod iawn o fewn rheswm ac o fewn eu gallu efo’r adnoddau sydd ganddynt i ddod i gefnogi’r sesiynau hynny.

 

Holwyd am barcio ar gyfer Dyffryn Ogwen ac os oes rhywbeth wedi ei gytuno eisoes yn yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol. Eglurwyd bod popeth sydd ger bron y Cyd Bwyllgor Corfforaethol heddiw eisoes wedi ei gymeradwyo gan yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth ym mis Rhagfyr ond ni chredwyd bod unrhyw beth penodol ar barcio yn Nyffryn Ogwen wedi ei gynnwys. Nodwyd petai materion penodol lleol bod modd i’r rheini fwydo mewn i’r ymgynghoriad ac awgrymwyd darparu hyn fel rhan o’r adborth drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

 

Esboniwyd bod y broses ymgynghori yn un syml a chlir gyda 5-6 o gwestiynau sy’n ei gwneud yn hawdd i unrhyw un allu rhoi adborth fydd wedyn yn cael ei ddadansoddi gan y tîm yn ARUP.

Dogfennau ategol: