Agenda item

Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar adroddiad(au) sydd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar gan Archwilio Cymru – ‘Cynaliadwyedd ariannol llywodraeth leol’ ac ‘Adolygiad o Gynaliadwyedd Ariannol – Cyngor Gwynedd’

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn yr adroddiad Cenedlaethol a Lleol

·       Derbyn ymateb y Cyngor i’r argymhellion

 

Nodyn:

·       Yn dilyn derbyn cefnogaeth a chanllawiau CIPFA, Rhaglen Waith yr ymateb i’w chyflwyno i’r Pwyllgor erbyn Mawrth 2026

·       Adroddiadau Perfformiad fydd yn cael eu cyflwyno i Bwyllgorau Craffu i arddangos bod y gofynion statudol yn cael eu cyfarch

 

Cofnod:

Croesawyd Alan Hughes a Dewi Wyn Jones (Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor) i’r cyfarfod

 

Nodwyd bod yr adroddiadau ‘Cynaliadwyedd  Ariannol Llywodraeth Leol’ (Adroddiad Cenedlaethol ac Adroddiad Lleol - Cyngor Gwynedd) yn ymateb i ddatganiad ‘bod sefyllfa ariannol llywodraeth leol yn anghyliadwy dros y tymor canolig oni chymerir camau gweithredu’. Dros Haf 2024, bu i Archwilio Cymru fwrw golwg ar gynaliadwyedd pob Cyngor yng Nghymru gan ganolbwyntio ar y strategaethau i ategu cynaliadwyedd ariannol hirdymor cynghorau, ystyried dealltwriaeth Cynghorau am eu sefyllfa ariannol ac edrych ar drefniadau adrodd Cynghorau i ategu goruchwyliaeth reolaidd ar eu cynaliadwyedd ariannol.

 

Eglurwyd bod yr adroddiad cenedlaethol yn darparu peth cyd-destun ar gyfer yr heriau ariannol a wynebir gan Gynghorau ac yn crynhoi canfyddiadau allweddol y gwaith yn genedlaethol ac yn lleol.

 

Wrth gyfeirio at brif negeseuon yr adroddiad lleol nodwyd cynnydd sylweddol yn nifer o Adrannau Cyngor Gwynedd sydd yn gorwario, ac er bod y Cyngor wedi dechrau datblygu dull strategol i sefydlu trefniadau i asesu effaith gwasanaethau ar drigolion y Sir, nid yw wedi gweithredu strategaeth hirdymor i gefnogi cynaliadwyedd ariannol. Ategwyd bod defnydd cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn sylweddol a bod angen ystyried os yw’r sefyllfa sefydlog gyda chyllidebau dan bwysau.

 

Tynnwyd sylw at yr argymhelliad i fynd i’r afael a’r weithredu strategaeth ariannol hirdymor ac at ffurflen ymateb y Cyngor i’r adolygiad.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid, bod y Cyngor yn ystyried y modd gorau o wario o fewn y gyllideb drwy geisio sicrhau parhad gwasanaeth i drigolion y Sir. Cyfeiriwyd at amcanion Cynllun Llechen Lân fel enghraifft, sydd yn gynllun tymor hir ac yn fodd o ddarganfod beth yw gwir gost ac ymarferoldeb darparu gwasanaethau. Derbyniwyd bod bwriad ystyried ymarferiadau tebyg, ymateb i gyfleoedd a gwella effeithlonrwydd. Ategodd, er bod cronfeydd ariannol y Cyngor yn edrych yn iach, derbyniodd efallai nad oedd golwg digon strategol ar eu defnydd gyda gwaith adolygu angen ei wneud i ystyried os yw’r cronfeydd yn ymateb i’r galw ynteu yn bodoli oherwydd materion hanesyddol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyflawni gwasanaethau statudol gyda llwyddiant / methiant o fewn y gyllideb yn cael ei amlygu drwy ffigyrau, ac na fyddai llwyddiant / methiant cyflawni cyfrifoldebau statudol yn dod i’r amlwg hyd nes bydd y gwasanaeth yn wynebu her o fethu cyflawni, a fyddai modd rhestru holl gyfrifoldebau statudol y Cyngor wrth osod cyllideb, nodwyd bod y gyllideb yn cael ei gosod drwy flaenoriaethu'r hyn sydd angen ei wario ar ddarparu gwasanaethau statudol. Ategwyd, yng nghyd-destun yr her o fethu cyflawni, bydd adroddiadau perfformiad pob adran yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgorau Craffu perthnasol ac y byddai modd arddangos bod y gofynion statudol yn cael eu cyfarch yn yr adroddiad hwn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â dyddiad cwblhau camau gweithredu i weithredu strategaeth ariannol hirdymor ac os yw Mawrth 2025 yn ddyddiad rhesymol, nodwyd, yn dilyn cefnogaeth a chanllawiau gan CIPFA, bydd gwaith o ddechrau llunio rhaglen waith ar gyfer y strategaeth yn dechrau canol Mawrth 2025, gyda bwriad o gyflwyno rhaglen waith manwl, Mawrth 2026.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·        Bod angen ychydig mwy o fanylder yn y cynllun gweithredu

·        Awgrym i dreialu cyllideb di-sylfaen (zero based budget) i drawsnewid rhai gwasanaethau

·        Bod yr adroddiadau yn ddefnyddiol ac yn edrych ar y darlun mawr

·        Bod rhai Cynghorau mewn sefyllfa well na’i gilydd i ddygymod â’r heriau ariannol

·        Bod angen cywiro cyfieithiadau enwau llefydd ar y mapiau sydd yn yr adroddiad cenedlaethol

·        Derbyn sefyllfa cronfeydd wrth gefn y Cyngor, ond at bwrpas penodol ac nid i  wireddu arbedion

 

PENDERFYNWYD:

 

·        Derbyn yr adroddiad Cenedlaethol a Lleol

·        Derbyn ymateb y Cyngor i’r argymhellion

 

Nodyn:

·        Yn dilyn derbyn cefnogaeth a chanllawiau CIPFA, Rhaglen Waith yr ymateb i’w chyflwyno i’r Pwyllgor erbyn Mawrth 2026

·        Adroddiadau Perfformiad fydd yn cael eu cyflwyno i Bwyllgorau Craffu i arddangos bod y gofynion statudol yn cael eu cyfarch

·        Cywiro cyfieithiadau enwau llefydd yn yr adroddiadau

 

Dogfennau ategol: