Agenda item

New Bangor Grill Ltd, Uned 25 Canolfan Deiniol, Bangor, Gwynedd LL57 1NW

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais fel cafodd ei gyflwyno

 

Oriau Agor

Dydd Sul 11:00 – 02:00

Dydd Llun 11:00 – 02:00

Dydd Mawrth 11:00 – 02:00

Dydd Mercher 11:00 – 02:00

Dydd Iau 11:00 – 02:00

Dydd Gwener 11:00 – 02:00

Dydd Sadwrn 11:00 – 02:00

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy: Lluniaeth hwyr yn y nos - Tu mewn 

Dydd Sul 23:00 – 02:00

Dydd Llun 23:00 – 02:00

Dydd Mawrth 23:00 – 02:00

Dydd Mercher 23:00 – 02:00

Dydd Iau 23:00 – 02:00

Dydd Gwener 23:00 – 02:00

Dydd Sadwrn 23:00 – 02:00

 

Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, i'w cynnwys fel amodau.

 

Nodyn: Annog yr ymgeisydd i greu a chadw ‘Asesiad Risg Safle Penodol’ a ‘chofnodion digwyddiad’ a fyddai yn rhoi ystyriaeth i ddefnydd swyddogion diogelwch ar y drws os yn berthnasol.

 

Cofnod:

·       Paul Tough                        Franchise Options (Ymgeisydd)

·       Aaron Haggas                   Swyddog Trwyddedu Yr Heddlu, Heddlu Gogledd Cymru

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                      Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Adan Amgylchedd yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer lle bwyd a gynlluniwyd ar gyfer casglu/bwyd parod, danfon bwyd a gweini nifer fach i fwyta tu mewn i’r eiddo.  Bydd cynnyrch wedi ei grilio, pwdinau a diodydd oer (dim alcohol) yn cael eu gwerthu yno. Gwnaed y cais mewn perthynas a darparu Lluniaeth Hwyr yn y Nos ar ac oddi ar yr eiddo.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at ymateb a dderbyniwyd gan Heddlu Gogledd Cymru yn ystod y cyfnod ymgynghori. Er nad oedd ganddynt unrhyw dystiolaeth o Drosedd ac Anhrefn fyddai’n uniongyrchol yn ymwneud â'r safle i gyfiawnhau gwrthwynebu'r cais, roeddynt yn pryderu bod yr ymgeisydd wedi nodi ei fwriad i beidio cyflogi staff diogelwch drysau ar benwythnosau ac ar adegau prysur gan ei fod yn credu y gall hyn ddychryn cwsmeriaid, gan ychwanegu bod  lleoliad Gorsaf yr Heddlu gerllaw. 

 

Roedd yr argymhelliad yn nodi y dylai’r Is-bwyllgor ystyried sylwadau Heddlu Gogledd Cymru gan ystyried cynnwys amod ar y drwydded o safbwynt darpariaeth swyddogion diogelwch ar y drws os caiff y cais ei gymeradwyo, yn unol â Deddf Trwyddedu 2003.

 

b)                      Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·       Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·       Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·       Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·       Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·       Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·       Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·       Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu

hachos.

 

c)          Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·       Bod y cwmni masnachol Franchise Options bellach yn gwmni cenedlaethol

·       Nad oedd gan eu masnachwyr hanes o unrhyw drwbl gyda’r nos

·       Ei fod yn deall pryderon yr Heddlu

·       Bod noson agoriadol y busnes ym Mangor wedi bod yn llwyddiannus - dim trwbl.

·       Bod yr eiddo wedi ei drefnu yn ofalus ac i’r safon uchaf

·       Bod TCC wedi ei osod - chwe camera rhai tu mewn a rhai tu allan - hyn felly yn fodd o adnabod unrhyw drwbl a’r staff yn gallu edrych ar y camerâu mewn gwir amser

·       Ni fydd alcohol yn cael ei werthu ar yr eiddo

·       Ei fod yn edrych ymlaen at lwyddiant yr eiddo ym Mangor. Masnachwr Bangor yn ddyn busnes lleol gyda busnesau eraill yn y Ddinas

·       Y cwmni yn dymuno bod yn rhan o’r gymuned leol - eisoes wedi noddi tîm peldroed yn y Ddinas

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â rhaglen hyfforddiant i’r staff, nodwyd bod y staff wedi derbyn hyfforddiant am ddiogelwch bwyd a thrin bwyd, diogelwch cwsmeriaid a staff, a thrin arian cyn i’r busnes agor. Bydd y staff hefyd yn derbyn cefnogaeth a chymorth gan dîm rheoli swyddfa'r cwmni. Y cwmni yn hybu hyfforddiant i sicrhau enw da.

 

Mewn ymateb i gwestiwn petai trafferthion yn codi ac a fyddai’r cwmni yn ail ystyried defnyddio swyddogion diogelwch ar y drysau, nododd yr ymgeisydd y byddai yn sicr o ail ystyried. Ei ddymuniad oedd bod y busnes yn llwyddo ym Mangor ac yn masnachu heb drafferthion.

 

d)               Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ganddynt.

 

Aaron Haggas, Heddlu Gogledd Cymru

·       Bod agoriad y busnes wedi bod yn llwyddiannus - yn noson brysur a’r busnes yn ychwanegiad da i’r economi leol

·       Bod lluniaeth gyda’r nos yn rhan fawr o economi Bangor – yn creu bwrlwm ar y strydoedd

·       Rhai dan effaith alcohol ac yn ymddwyn yn amhriodol yn gallu creu awyrgylch fregus i eraill - hyn yn rhoi cyfrifoldeb ar gwmnïau sydd yn gweini bwyd gyda’r nos i warchod eu staff a’u cwsmeriaid

·       Bod yr eiddo mewn lleoliad da o fewn y ddinas,

·       Bod angen rheoli pryderon cyn iddynt amlygu eu hunain - defnydd o swyddogion diogelwch ar y drysau yn gyson gyda lleoliadau eraill yn y ddinas ac yn rhoi sicrwydd i gwsmeriaid

·       Angen ystyried swyddogion diogelwch drysau fel aelod staff gwerthfawr yn hytrach na gweithred ataliol – yn fodd o ddiogleu’r eiddo

·       Rhaid cael economi nos sydd yn ddiogel i bawb

·       Yn cynnig i’r ymgeisydd ystyried defnyddio Asesiad Risg Safle Penodol a chadw  cofnod o ddigwyddiadau fel dulliau o reoli safle heb staff diogelwch drysau. Byddai asesiad risg yn fodd o ddeall y ddarpariaeth sydd mewn lle ar gyfer diogelu staff a chwsmeriaid.

·       Na ellid defnyddio lleoliad Gorsaf yr Heddlu fel modd o atal  trosedd

 

Yn manteisio ar ei hawl i grynhoi ei achos, nododd yr ymgeisydd bod gofynion ar y busnes i gadw cofnodion digwyddiadau, cofnodion damweiniau a chofnodion cwynion eisoes mewn lle ac y byddai’n annog bod asesiad risg yn cael ei gwblhau. Ei ddymuniad oedd bod y fenter yn llwyddo ac yn cyfrannu at adfywiad canol dinas Bangor.

 

dd)       Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

 

                          i.        Atal trosedd ac anhrefn

                         ii.        Atal niwsans cyhoeddus

                        iii.        Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                       iv.        Gwarchod plant rhag niwed

 

Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.

PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais fel cafodd ei gyflwyno

 

Oriau Agor

Dydd Sul 11:00 – 02:00

Dydd Llun 11:00 – 02:00

Dydd Mawrth 11:00 – 02:00

Dydd Mercher 11:00 – 02:00

Dydd Iau 11:00 – 02:00

Dydd Gwener 11:00 – 02:00

Dydd Sadwrn 11:00 – 02:00

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy: Lluniaeth hwyr yn y nos - Tu mewn 

Dydd Sul 23:00 – 02:00

Dydd Llun 23:00 – 02:00

Dydd Mawrth 23:00 – 02:00

Dydd Mercher 23:00 – 02:00

Dydd Iau 23:00 – 02:00

Dydd Gwener 23:00 – 02:00

Dydd Sadwrn 23:00 – 02:00

 

Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, i'w cynnwys fel amodau.

 

Nodyn: Annog yr ymgeisydd i greu a chadw ‘Asesiad Risg Safle Penodol’ a ‘chofnodion digwyddiad’ a fyddai yn rhoi ystyriaeth i ddefnydd swyddogion diogelwch ar y drws os yn berthnasol.

 

Yng nghyd-destun Trosedd ac Anrhefn, ni gyflwynodd yr Heddlu unrhyw sylwadau mewn ymateb i’r cais ac ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth oedd yn berthnasol i’r egwyddor hwn.

 

Yng nghyd-destun materion Diogelwch Cyhoeddus ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth oedd yn berthnasol i'r egwyddor hon.

 

Yng nghyd-destun Atal niwsans cyhoeddus, ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth oedd yn berthnasol i'r egwyddor hon.

 

Yng nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth oedd yn berthnasol i'r egwyddor hon.

 

Er na dderbyniwyd gwrthwynebiad i’r cais, derbyniwyd sylwadau ynglŷn â diogelu yn gyffredinol. O ganlyniad, roedd yr Is Bwyllgor yn annog yr ymgeisydd i greu a chadw ‘Asesiad Risg Safle Penodol’ a ‘chofnodion digwyddiad’. Byddai cofnodi digwyddiadau / risgiau yn fodd o ystyried defnydd swyddogion diogelwch ar y drws os byddai digwyddiadau / risgiau o bryder yn codi yn yr eiddo.

 

Ategwyd, fel unrhyw gais arall, petai unrhyw broblemau yn codi mewn cysylltiad â’r egwyddorion trwyddedu bod y Ddeddf yn caniatáu cyfeirio trwydded i’w hadolygu gan yr awdurdod.

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: