Cyflwynwyd gan:Cyng. Nia Jeffreys
Penderfyniad:
Cymeradwywyd
Adroddiad Blynyddol 2023/24 Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur Cyngor Gwynedd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd Adroddiad Blynyddol 2023/24 Cynllun Argyfwng
Hinsawdd a Natur Cyngor Gwynedd.
TRAFODAETH
Croesawyd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd i’r cyfarfod a
diolchwyd iddi am ei gwaith o reoli’r rhaglen ac am adroddiad cynhwysfawr.
Darparwyd cefndir y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur gan nodi bod ymateb i’r
argyfwng newid hinsawdd yn un o 8 o flaenoriaethau gwella o fewn Cynllun y
Cyngor (2023-28). Nodwyd mai’r adroddiad yma yw’r ail adroddiad blynyddol i
gael ei gyflwyno ers bodolaeth y Cynllun ar ddechrau blwyddyn 2023/23 a bod yr
adroddiad eisoes wedi bod ger bron y Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Ionawr.
Tywyswyd Aelodau’r Cabinet drwy’r adroddiad gan nodi bod
gostyngiadau allyriadau carbon wedi eu cyflawni yn ystod y flwyddyn. Nodwyd bod
37% o leihad yn allyriadau carbon Cyngor Gwynedd os yn diystyru’r maes caffael.
Ychwanegwyd bod y gostyngiad yn 16% ers 2019/20 os yn cynnwys caffael yn y
ffigyrau. Nodwyd bod y gwahaniaeth yma yn wir i pob sefydliad ar draws y wlad.
Nodwyd bod nifer o brosiectau cyffrous ar y gweill megis
buddsoddi mewn bws mini trydan er mwyn darparu cludiant i ysgolion. Cyfeiriwyd
at y dasg bwysig o newid ymddygiad sydd ddim wastad yn hawdd. Nodwyd er y
cynnydd, bod llawer o waith yn parhau er mwyn sicrhau dyfodol wyrddech i
Wynedd.
Cyfeiriwyd at y risg ariannol gan egluro bod cronfa Cynllun
Hinsawdd gwerth £3m wedi ei sefydlu drwy’r broses bidiau refeniw un-tro.
Ymhelaethwyd mai £792,015 sydd ar ôl yn y gronfa gyda £2,207984 wedi ei wario
neu ei neilltuo i’w wario. Eglurwyd bod y Cyngor wedi ychwanegu arian o nifer o
gronfeydd gwahanol tuag at y £3m dros y blynyddoedd yn ogystal â wedi bod yn
llwyddiannus iawn efo grantiau oedd wedi arwain at £6m ychwanegol i’r Cynllun.
Eglurwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at benawdau am
gynlluniau penodol eraill megis cynllun y Fflyd Werdd i drosi cerbydau’r Cyngor
o gerbydau diesel i gerbydau trydan er mwyn arbed carbon ag arian i’r Cyngor.
Cyfeiriwyd hefyd at gais grant llwyddiannus ble cafwyd cadarnhad ddoe am
lwyddiant y cais i ymgymryd â gwaith ar gartref henoed Plas Ogwen. Nodwyd bod y
Cyngor wedi denu £1.7 miliwn o arian grant tuag at drosi’r adeilad a gwella ei
berfformiad ynni. Bydd y Cyngor hefyd yn cyfrannu tuag at y cynllun hwn a
llongyfarchwyd yr uned cadwraeth ynni.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
• Llongyfarchwyd
y gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma.
• Mynegwyd
safbwynt fod y Cyngor wedi taclo’r newidiadau hawsaf yn gyntaf oedd wedi arwain
at ostyngiadau sylweddol yng nghychwyn y broses. Tynnwyd sylw bod y gostyngiad
allyriadau wedi arafu ers 2022/23 gyda dim ond 1% o gynnydd yn cael ei wneud yn
y gostyngiadau. Credwyd y bydd y cynnydd yn arafu wrth symud ymlaen i
gynlluniau anoddach a gall hyn arwain at risg o beidio cyrraedd y targed o 0%
erbyn 2030.
• Credwyd ei
bod yn anodd i Awdurdodau Lleol flaenoriaethu’r gwaith hwn oherwydd nad oes
unrhyw gyllid yn cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru o ran refeniw tuag at y
maes gwaith. Gobeithiwyd y bydd llwyddiant y Cyngor o allu denu grantiau yn
parhau.
• Credwyd y
bydd penderfyniadau anodd ar eu ffordd i’r Aelodau Cabinet pan ddaw’r amser i
gwblhau adolygiad o’r cynllun sydd ar y gweill fydd yn adnabod y gost ac yn
adnabod cyn lleied o arian sy’n cael ei dderbyn ar gyfer y maes hwn. Pryderwyd
y bydd angen gwneud penderfyniad rhwng y maes hwn neu gyfrifoldebau eraill y
Cyngor.
• Holiwyd pa
brosiectau eraill sydd ar y gweill ac os oes modd cymharu â’r hyn mae Cynghorau
eraill yn ei wneud.
o Mewn ymateb nodwyd bod adolygiad ar y gweill i edrych ar bob prosiect sydd ar gofrestr Gwynedd a syniadau newydd sydd wedi eu cyflwyno gan Adrannau yn ogystal a syniadau newydd sydd wedi eu derbyn drwy edrych ar weithgaredd cyrff allanol eraill. Nodwyd bod angen asesu’r cynlluniau hyn er mwyn darganfod eu ymarferoldeb, cost a faint o garbon fyddent yn ei arbed. Bydd angen rhannu’r wybodaeth yma efo’r Aelodau Cabinet yn fuan er mwyn blaenoriaethu a gweld faint o’r cynlluniau all gael eu cyllido. Croesawyd unrhyw syniadau newydd.
Awdur:Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr
Dogfennau ategol: