Cyflwynwyd gan:Cyng. Dewi Jones
Penderfyniad:
Ystyriwyd yr ymatebion a
dderbyniwyd i’r ymgynghoriad ar adolygu dalgylch Ysgol Felinwnda,
ynghyd â’r gwerthusiad o’r opsiynau a gyflwynir yn yr adroddiad. Penderfynwyd
cymeradwyo’r opsiwn ffafriedig, sef: ‘Opsiwn 2:
Trosglwyddo dalgylch Felinwnda yn ei gyfanrwydd i
ddalgylch Ysgol Bontnewydd’
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones
PENDERFYNIAD
Ystyriwyd
yr ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad ar adolygu dalgylch Ysgol
Felinwnda, ynghyd â’r gwerthusiad o’r opsiynau a gyflwynir yn yr adroddiad.
Penderfynwyd cymeradwyo’r opsiwn ffafriedig, sef: ‘Opsiwn 2: Trosglwyddo
dalgylch Felinwnda yn ei gyfanrwydd i ddalgylch Ysgol Bontnewydd’
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan dynnu sylw at Atodiad 5 sef sylwadau’r Aelod Lleol. Nodwyd bod
yr Aelod Lleol yn ymddiheuro na all fod yn bresennol ond yn awyddus iawn i
gyfleu ei sylwadau. Atgoffwyd yr Aelodau Cabinet y bydd angen ystyried y
sylwadau hyn wrth wneud y penderfyniad heddiw.
Nodwyd bod
yr adroddiad yn rhan o gynllunio ymlaen gan nodi bod ymgynghoriad a gwerthusiad
o’r holl opsiynau wedi eu cynnal. Yn dilyn hyn awgrymir Opsiwn 2 fel yr opsiwn
ffafriedig gan nodi bod Swyddogion yr Adran Addysg a’r Aelod Cabinet Addysg o’r
farn mai’r opsiwn yma yw’r un fwyaf addas.
Nodwyd y
bydd yr opsiwn hwn yn galluogi i holl ddysgwyr dalgylch Ysgol Felinwnda i aros
gyda’u gilydd a bydd yr opsiwn yn cyd-fynd a dewis presennol mwyafrif o
ddysgwyr y ddalgylch gyda 57% eisoes yn dewis mynychu Ysgol Bontnewydd.
Rhagwelir y bydd yr opsiwn yma yn cynnig costau cludiant is na’r holl opsiynau
eraill ag eithrio opsiwn 3.
Mynegwyd
bod ystyriaeth briodol wedi ei roi i’r elfen ariannol er nad yr elfen ariannol
oedd y brif ystyriaeth wrth wneud y penderfyniad.
Cadarnhawyd,
yn unol â Pholisi’r Cyngor, bod gan rieni hawl i gofrestru eu plant mewn unrhyw
ysgol sydd â llefydd gwag. Nodwyd nad yw gosod dalgylch yn golygu bod y Cyngor
yn mynnu bod unrhyw blentyn yn mynd i ysgol benodol. Gwnaethpwyd sylw bod yr
addewid y byddai’r Cyngor yn darparu cludiant i gyn-ddisgyblion Ysgol Felinwnda
i’r ysgol o’u dewis drwy gydol eu cyfnod yn yr ysgol gynradd yn parhau.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth:
• Cydnabuwyd bod y penderfyniad hwn yn
un anodd a’i bod yn anodd plesio pawb.
• Gofynnwyd am sicrwydd y bydd rhieni
yn cael dewis i ba ysgol i anfon eu plant os yw’r ysgol o’u dewis mewn dalgylch
arall.
o Cadarnhawyd bod hyn yn gywir a bod gan
rieni hawl i gofrestru eu plant mewn unrhyw ysgol ar yr amod bod llefydd gwag
yn yr ysgol dan sylw.
• Mynegwyd siom nad trosglwyddo
dalgylch Felinwnda i Ysgol Llandwrog ydi’r argymhelliad a mynegwyd anghytundeb
cryf efo’r opsiwn sydd ger bron. Soniwyd am y cysylltiad sydd wedi bod rhwng
Ysgol Felinwnda ac Ysgol Llandwrog ers blynyddoedd ac ategwyd pwyntiau’r Aelod
Lleol oedd hefyd yn anghytuno â’r argymhelliad. Pryderwyd y byddai’r
argymhelliad hwn yn arwain at effaith negyddol ar Gylch Meithrin Dinas a
Llanwnda. Cadarnhawyd y byddai’r Aelod Cabinet yn pleidleisio yn erbyn y
penderfyniad heddiw ar sail y rhesymau hyn.
• Croesawyd addewid y Cyngor ar dudalen
59 o’r adroddiad i barhau i gynnig cludiant i blant yr ardal.
o Pwysleisiwyd y bydd unrhyw
gyn-ddisgybl yn parhau i dderbyn cludiant tra’n parhau yn yr ysgol gynradd.
• Mynegwyd bod yr Adran Addysg yn
parhau i gefnogi Ysgol Llandwrog.
• Nodwyd bod rhaid rhoi addysg a phlant
o flaen dyfodol unrhyw ysgol.
• Credwyd na fyddai unrhyw effaith negyddol ar y Cylch Meithrin gan ychwanegu bod yr Adran Addysg yn gefnogol iawn o’r Cylch Meithrin a’n dymuno ei weld yn parhau i lwyddo a’r berthynas agos rhwng Cylch Meithrin Llanwnda ac Ysgol Llandwrog yn parhau.
Awdur:Debbie Ann Jones, Pennaeth Cynorthwyol: Gwasanaethau Corfforaethol, Addysg
Dogfennau ategol: