Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Huw Wyn Jones

Penderfyniad:

Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 6 Mawrth 2025) y dylid sefydlu cyllideb o £355,243,800 ar gyfer 2025/26 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £246,818,190 a £108,425,610 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 8.66%).

 

Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 6 Mawrth 2025) y dylid sefydlu rhaglen gyfalaf o £53,736,190 yn 2025/26 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones.

 

PENDERFYNIAD

 

Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 6 Mawrth 2025) y dylid sefydlu cyllideb o £355,243,800 ar gyfer 2025/26 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £246,818,190 a £108,425,610 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 8.66%).

 

Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 6 Mawrth 2025) y dylid sefydlu rhaglen gyfalaf o £53,736,190 yn 2025/26 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y gyllideb yn ymgais i fuddsoddi mewn gwasanaethau sy’n darparu ar gyfer y bobl fwyaf bregus megis gwasanaethau cymdeithasol oedolion a gwasanaethau gofal i blant. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy fuddsoddi i leihau rhestrau aros a cheisio cywiro cyllidebau nad oedd modd buddsoddi ynddynt yn flaenorol. Diolchwyd i’r Adran Gyllid am eu gwaith caled yn paratoi’r gyllideb.

 

Rhannwyd cyflwyniad oedd yn crynhoi prif bwyntiau’r adroddiad. Cyfeiriwyd at y gorwariant oedd yn gyfanswm o £8.3 miliwn gyda bron i £7 miliwn yn deillio o’r gwasanaethau gofal sef Oedolion, Iechyd a Llesiant a Phlant a Theuluoedd. Credwyd bod hyn yn rhannol am fod pobl yn byw yn hirach yn ogystal â chyflyrau mwy dwys, nodwyd bod cyfarch y gofynion hyn yn gostus.

 

Cyfeiriwyd at y bidiau refeniw gan nodi bod £6.8 miliwn eisoes wedi eu cymeradwyo a nifer hefyd sydd wedi derbyn cefnogaeth neu yn faterion newydd 2025/26. Nodwyd bod hyn yn golygu bod cyfanswm o £7.7 miliwn o adnoddau ychwanegol angen eu darganfod. Wrth ystyried y cynnydd yn yr ardollau, chwyddiant cyflogau a chynnydd yn yswiriant gwladol y cyflogwr, nodwyd bod cyfanswm gwariant ychwanegol y Cyngor yn £24 miliwn.

 

Cadarnhawyd drwy ystyried y gyllideb sylfaenol a’r gwariant ychwanegol a’r incwm o Grant Llywodraeth Cymru, bob bwlch ariannol o £109 miliwn i’w ariannu drwy arbedion a gan y Dreth Cyngor. Nodwyd ar ôl cynnwys yr arbedion fod y bwlch gweddilliol fydd i’w gyfarch drwy’r Dreth Cyngor yn £108,45,610. Ymhelaethwyd y byddai’n rhaid cynyddu’r Dreth Cyngor 8.66% er mwyn cwrdd â’r ffigwr hwn. Cydnabuwyd nad yw hyn yn newyddion da ond nad oes llawer o opsiynau eraill.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at Atodiad 10 sef datganiad swyddog cyllid statudol ar gadernid yr amcangyfrifon gan ymhelaethu ei fod yn hyderus bod y cyllidebau a gyflwynwyd yn gadarn ac yn ddigonol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

           Diolchwyd am y cyflwyniad gan nodi bod y sleidiau a gyflwynwyd yn gymorth i ddeall y ffigyrau.

           Cyfeiriwyd at y gwasanaethau costus megis oedolion a chostau ysgolion gan nodi nad ydynt yn wasanaethau amlwg ond yn rhai costus iawn i’w cynnal.

o          Ategodd yr Aelod Cabinet nad yw’r Adran wedi amharu ar y gyllideb Addysg yn ormodol eleni. Pryderwyd nad yw trigolion y Sir yn gweld y gwaith gofal oni bai eu bod yn dderbynnydd gofal ac felly ddim yn deall pa mor gostus ydyw.

           Mynegwyd nad yw’n bleser awgrymu i gynyddu’r Dreth Cyngor. Ychwanegwyd bod cynlluniau gostyngiadau Treth Cyngor ar gael.

o          Ymhelaethodd y Pennaeth Cyllid bod cyfyngiadau i fod yn gymwys am y cynllun hwn ond cymerwyd y cyfle i nodi ei bod yn bwysig i’r sawl sy’n gymwys i hawlio unrhyw fudd-daliadau neu ostyngiadau.

Awdur:Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid

Dogfennau ategol: