Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Llio Elenid Owen

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Llio Elenid Owen.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn darparu diweddariad ar yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Adran Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol yn ddiweddar. Mynegwyd bod yr Adran Gwasanaethau Corfforaethol yn arwain ar chwe phrosiect o fewn gwahanol feysydd blaenoriaeth Cynllun y Cyngor 2023-28 sef Cadw’r Budd yn Lleol, Merched Mewn Arweinyddiaeth, Sicrhau Tegwch i Bawb, Cynllunio’r Gweithlu, Hybu Defnydd o’r Gymraeg gan Drigolion Gwynedd ac Adolygiad Strategol ar Reolaeth Iechyd a Diogelwch. Darparwyd crynodeb ar yr hyn sydd wedi ei gyflawni hyd yma o fewn y prosiectau hyn.

 

Amlygwyd bod yr Adran Gwasanaethau Corfforaethol yn perfformio’n dda a chyfeiriwyd at rai o’r uchafbwyntiau fel sydd wedi eu nodi yn rhan 5 o’r adroddiad. I gloi cyfeiriwyd at sefyllfa ariannol yr Adran.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

           Cyfeiriwyd at Adroddiad Perfformiad y Gwasanaeth Cyfreithiol gan nodi ei bod yn galonogol gweld buddion o’r Cynllun Yfory.

           Mynegwyd pryder am y cyfeiriad at benodi locum ac allanoli gwaith, gofynnwyd am fwy o fanylion am niferoedd y locums sy’n cael eu defnyddio gan y Gwasanaeth ac os ydynt yn gallu’r Gymraeg. Holiwyd yn ogystal am yr heriau recriwtio gan ofyn a oes risgiau ariannol o ganlyniad i hyn.

o          Mewn ymateb cadarnhawyd bod y sefyllfa staffio wedi gweddnewid er gwell yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Nodwyd bod swydd yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd a gobeithir gallu penodi.

o          Cadarnhawyd bod y sefyllfa recriwtio wedi gwella a bod hyn wedi arwain at leihad yn nefnydd y Gwasanaeth o locums.

o          Nodwyd bellach bod y Gwasanaeth yn gallu recriwtio drwy gynnig cytundeb tymor byr yn hytrach na chyflogi locum.

o          Mynegwyd bod ymdrech yn cael ei wneud i ddefnyddio locums sy’n siarad Cymraeg er cydnabuwyd bod y rhain yn brin.

o          Esboniwyd bod llawer o faterion ac achosion ar agor gan y tîm Cyfreithiol a bod y defnydd o locums yn caniatáu i bontio bylchau er mwyn ymdopi efo’r gwaith. Ychwanegwyd bod natur y gwaith yn arbenigol gyda rhai meysydd technegol a bod dim digon o’r gwaith i benodi ond bod angen arbenigedd penodol am gyfnod felly bod elfen o ddefnydd o locums yn anorfod.

           Gofynnwyd am ddiweddariad ar yr ymdrech i geisio cael mwy o staff i ymuno â’r Fforwm Cydraddoldeb.

o          Mynegwyd bod y gwaith cychwynnol o ddarganfod beth yw’r diddordeb wedi ei gynnal a gwahoddiad wedi ei anfon i staff. Nodwyd bod diddordeb mawr ymysg staff a bod yr Adran yn aros i weld beth fydd yr ymateb yn dilyn i ail wahoddiad gael ei anfon wythnos diwethaf.

           Mynegwyd llongyfarchiadau ar lwyddiant y rhaglen Merched mewn Arweinyddiaeth gan nodi ei bod yn braf gweld y cynnydd. Amlygwyd y gwahaniaethau yn rhaniad dynion a merched rhwng Adrannau a rhwng haenau swyddi. Cwestiynwyd os yw’n amserol i werthuso'r rhaglen a chymharu’r gwahaniaethau rhwng Adrannau er mwyn gweld beth sy’n gweithio’n dda er mwyn parhau i ddysgu ac edrych ar ffyrdd newydd i wthio’r agenda hir dymor yma yn ei flaen.

o          Mewn ymateb nodwyd bod y data yn cael ei ddiweddaru’n gyson. Soniwyd am drefn newydd ers blwyddyn o geisiadau i swyddi lefel Rheolwr Gwasanaeth neu uwch gael eu cyflwyno yn ddienw er mwyn ceisio cael gwared ar unrhyw ragfarn ddiarwybod. Adroddwyd bod 50% o’r penodiadau sydd wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf i swyddi Rheolwr Gwasanaeth neu uwch wedi cael eu llenwi gan ferched sy’n galonogol iawn. Ychwanegwyd ymhellach bod mwy o ferched na dynion wedi cyflwyno ffurflen gais am y swyddi a bod hyn yn rhan holl bwysig o waith y rhaglen Merched Mewn Arweinyddiaeth sef i annog merched i gyflwyno cais.

Awdur:Ian Jones, Pennaeth Adran Gwasanaethau Corfforaethol ac Iwan Evans, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol

Dogfennau ategol: