I roi
trosolwg i Aelodau o weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a
Môn.
Penderfyniad:
Penderfynwyd:
1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y
drafodaeth.
2. Cefnogi’r blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith i’r dyfodol.
3. Argymell bod y Bartneriaeth yn ychwanegu gwaith ataliol mewn
cyswllt â throseddau rhywiol yn flaenoriaeth benodol ar gyfer y dyfodol.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Oedolion, Iechyd a Llesiant, Uwch Reolwr Diogelu, Sicrwydd Ansawdd a Iechyd
Meddwl, Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a
Môn, Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru.
Atgoffwyd bod cyflwyno diweddariad blynyddol ar
weithrediad y Bartneriaeth Diogelwch yn ofyniad statudol ar Awdurdodau Lleol yn
unol â Deddf Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2002 a 2006.
Eglurwyd
bod Partneriaethau Diogelu Cymunedol wedi cael eu ffurfio yn 1988 er mwyn
sicrhau bod trosedd ac anrhefn yn cael ei gysidro i fod yn broblem i bawb o
fewn y gymdeithas, nid i’r heddlu yn unig. Ychwanegwyd bod gan y Bartneriaeth
gyfrifoldeb i lunio a gweithredu strategaeth i atal a lleihau trais difrifol a
bod hynny yn cael ei wneud yn rhanbarthol ar draws gogledd Cymru.
Pwysleisiwyd
nad oes unrhyw arian yn cael ei ddyrannu yn barhaol ar gyfer diogelwch
cymunedol ac mae’r Bartneriaeth yn ddibynnol ar gyfleoedd ariannu ad-hoc yn dilyn cyflwyno ceisiadau manwl. Nodwyd mai’r unig
wasanaeth sydd yn cael ei gomisiynu yn uniongyrchol gan y Bartneriaeth yw’r
Adolygiadau Dynladdiad Domestig (DHR). Eglurwyd bod yr Adolygiadau Dynladdiad
Domestig yn ddyletswydd statudol yn sgil Deddf Trais Domestig, Trosedd a
Dioddefwyr 2024. Cadarnhawyd bod dau adolygiad wedi cael eu cyflwyno i’r Swyddfa
Gartref a’i gymeradwyo. Diweddarwyd bod y Bartneriaeth wedi gwneud cais i’r
Gronfa Atal Hunan-niwed a Hunanladdiad er mwyn cyflwyno prosiect ar y cyd gydag
Uned Diogelwch Cam-drin Domestig, Heddlu Gogledd Cymru, a’r llinell gymorth
‘Byw Heb Ofn’ i ddarparu cefnogaeth i ddioddefwyr o gam drin domestig. Mynegwyd
balchder bod y cais hwn wedi cael ei gymeradwyo a bydd y prosiect yn cael ei
ddatblygu yn ystod 2025.
Tynnwyd sylw at nifer o faterion sydd yn
flaenoriaeth i’r bartneriaeth yn ystod 2024-25, yn seiliedig ar flaenoriaethau
rhanbarthol Strategaeth Bwrdd Gogledd Cymru Mwy Diogel. Eglurwyd bod y rhain yn
cynnwys:
· Atal
troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
· Mynd
i’r afael â throseddau treisgar
· Mynd
i’r afael â throseddau cyfundrefnol difrifol
· Diogelu
ac adeiladu cymunedau gwydn a chynnal diogelwch y cyhoedd.
Rhannwyd
data ar nifer o wahanol fathau o droseddau gan gymharu ystadegau data 2023/24
gan edrych i weld os oedd cyfraddau ystadegau Gwynedd yn debyg i’r hyn a welir
ar draws gogledd Cymru. Cydnabuwyd bod cynnydd sylweddol i weld yn nhroseddau
ystelcian ac aflonyddu (+11.5%) a throseddau rhyw (+27.9%) o’i gymharu â
chyfraddau 2023/24. Ystyriwyd bod y cynnydd hwn yn deillio o’r ffaith bod mwy o
achosion yn cael eu hadrodd gan fod dioddefwyr yn fwy hyderus i wneud hynny yn
dilyn ymgyrchoedd diweddar. Ychwanegwyd bod cynnydd i’w weld yn nifer o
droseddau sydd yn cael eu hadrodd wedi i fwy na 12 mis fynd heibio ers y
drosedd. Cyfeiriwyd hefyd at gyfraddau troseddau casineb gan nodi bod y rhain
16.3% yn uwch yng Ngwynedd o’i gymharu â 2023/24. Pwysleisiwyd bod cynnydd o
10.9% o’r math yma o droseddau i’w gweld yn rhanbarthol. Fodd bynnag, sicrhawyd
nad yw cyfraddau’r holl fathau o droseddau ar gynnydd, megis digwyddiadau
domestig (-1.3% o’i gymharu â 2023/24) a chyfraddau o unigolion sydd yn
troseddu o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau (-28.5% yn rhanbarthol o gymharu
â 2023/24).
Adroddwyd bod Strategaeth Trais Difrifol Gogledd
Cymru wedi cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2024. Eglurwyd bod y Strategaeth hon
yn gosod Dyletswydd Trais Difrifol ar awdurdodau penodedig i gydweithio er mwyn
atal a lleihau troseddau difrifol yn eu cymunedau. Pwysleisiwyd bod y
Bartneriaeth wedi chwarae rôl ganolog wrth ddatblygu’r Strategaeth hon. Bu i’r
Bartneriaeth dderbyn £82,000 am y gwaith hwn sydd wedi cael ei ddynodi i
ariannu wyth prosiect newydd.
Mynegwyd
balchder bod y Bartneriaeth wedi derbyn £450,000 drwy’r Gronfa Ffyniant
Gyffredin er mwyn gosod ac uwchraddio teledu cylch cyfyng (CCTV) mewn ardaloedd
yng Nghaernarfon, Bangor a Phwllheli. Diolchwyd am y
cydweithio clos gydag Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC sydd wedi bod yn
cynorthwyo i osod y camerâu. Ychwanegwyd bod y Bartneriaeth yn bwriadu cyflwyno
ceisiadau am arian ychwanegol gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin er mwyn gallu
gosod mwy o gamerâu cylch cyfyng mewn ardaloedd eraill o Wynedd.
Diweddarwyd
bod Gorchmynion Diogelwch Mannau Cyhoeddus wedi cael eu cyflwyno mewn ardaloedd
yng Nghaernarfon, Cricieth a Phwllheli ym mis Awst
2024 yn dilyn cymeradwyaeth y CabinetAwst. Nodwyd bod
y rhain wedi cael eu cyflwyno er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn teimlo’n ddiogel
o fewn eu cymunedau ac yn rhoi pŵer ychwanegol i’r heddlu wrth fynd i’r
afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Mynegwyd
pryder bod y data a gyflwynwyd o fewn yr adroddiad yn dangos bod troseddau rhyw
wedi cynyddu llawer mwy yng Ngwynedd (+27.9%)
nag yn rhanbarthol (+14.6%) o’i gymharu â data 2023/24. Diolchwyd i’r
Bartneriaeth am y gwaith sydd yn cael ei wneud i gefnogi dioddefwyr o droseddau
rhyw. Fodd bynnag, ystyriwyd y dylai’r Bartneriaeth sicrhau bod gwaith ataliol
yn y maes hwn yn flaenoriaeth i’r dyfodol er mwyn sicrhau bod y cyfraddau yn
gostwng. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Diogelu, Sicrwydd Ansawdd a Iechyd Meddwl bod gwaith ataliol
yn cael ei weithredu megis rhaglenni sydd yn cael eu cynnal mewn ysgolion er
mwyn dysgu am ymddygiadau derbyniol a pherthnasau iach.
Llongyfarchwyd
y Bartneriaeth ar eu llwyddiant i adnewyddu systemau CCTV yn ardaloedd
Caernarfon, Bangor a Phwllheli. Ystyriwyd os oes
gwaith yn cael ei wneud er mwyn asesu cyfraddau troseddu cyn i’r camerâu newydd
gael eu gosod a’u cymharu er mwyn gweld os yw’r prosiect hwn wedi arwain at lai
o droseddau. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Gweithredol
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn bod hyn yn elfen bwysig o’r
prosiect a buasai data cadarnhaol yn wybodaeth gefnogol i geisiadau ychwanegol
o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Cadarnhawyd bod cwmni ‘Wavehill’
wedi cael eu comisiynu i ganfod y data perthnasol gan gadarnhau bydd y
wybodaeth yn cael ei gynnwys yn niweddariad blynyddol 2025/26 y Bartneriaeth,
gyda modd rhannu gwybodaeth gyda’r Pwyllgor hwn cyn hynny os dymunir.
Cyfeiriwyd
at Strategaeth Bregusrwydd a Cham-fanteisio Gogledd
Cymru 2021-24 sydd yn ymwneud a thrais yn erbyn merched, cam-drin domestig,
cam-drin rhywiol a chaethwasiaeth fodern, gan ofyn pa waith sydd yn digwydd er
mwyn cefnogi cymunedau i adnabod arwyddion bod unigolion yn dioddef o gaethwasiaeth
fodern. Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Diogelu, Sicrwydd
Ansawdd a Iechyd Meddwl nad oedd hyn yn waith a oedd yn cael ei weithredu yn
uniongyrchol gan y Bartneriaeth ond bod Bwrdd Bregusrwydd
yn edrych i mewn i’r materion hyn gan addysgu trigolion ar ymwybyddiaeth
caethwasiaeth fodern a sut gallent adnabod arwyddion bod unrhyw un yn dioddef
ohono.
Amlygwyd
bod troseddau casineb yn broblem gynyddol yng Ngwynedd ac yn rhanbarthol,
gyda’r ystadegau yn cynyddu yn flynyddol. Mewn ymateb i ymholiad ar sut mae
delio gyda’r her hon, cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth
Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn bod y Bartneriaeth yn ymwybodol o’r her.
Nodwyd ei fod yn anodd delio ag o mewn un dull penodol gan fod nifer o agweddau
gwahanol i’r troseddau. Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod y Bartneriaeth yn
cydweithio er mwyn datblygu cynlluniau grymus i
ymateb i’r her gyda’r bwriad i leihau niferoedd y math hwn o droseddau
i’r dyfodol.
Ystyriwyd
y byddai cyfraddau troseddau domestig, rhywiol ag ystelcian yn gallu gostwng os
byddai mwy o adnoddau yn cael ei glustnodi i ddelio â nhw, megis sicrhau bod
mwy o heddweision ar batrôl yn ein cymunedau. Mewn ymateb i’r sylwadau,
cytunodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a
Môn y byddai hyn yn gallu bod yn ddull effeithiol o ostwng y cyfraddau o
droseddau. Fodd bynnag, cadarnhawyd mai Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am y
grantiau amrywiol sydd yn ariannu’r Bartneriaeth ac mae cyfyngiadau ar sut gall
yr arian hynny gael ei wario. Pwysleisiwyd bod gwaith lobïo yn mynd ymlaen er
mwyn gweld cynnydd yn y grantiau sydd ar gael i’r Bartneriaeth eleni a bod
swyddogion yn ymholi am ragolygon o’r grantiau ar gyfer y flwyddyn ariannol
2025/26.
Nodwyd
bod ystadegau troseddau byrgleriaeth tai a busnesau yn gymharol debyg i’r
ystadegau a welwyd yn 2023/24. Gofynnwyd a oes modd derbyn data i amlinellu
faint o’r troseddau hyn sydd yn digwydd mewn mannau gwledig o’i gymharu ag
ardaloedd trefol. Ystyriwyd hefyd os oes ystyriaeth yn cael ei roi ar gyfer
dyfais CCTV symudol a ellir ei ddefnyddio mewn gwahanol ardaloedd yn ôl yr
angen. Mewn ymateb i’r sylwadau, eglurodd yr Uwch Swyddog Gweithredol
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn oherwydd cymhlethdod y dasg ac
mai dim ond un dadansoddwr a oedd yn gwneud y gwaith ar draws y Gogledd nad
oedd modd derbyn y data hwn ar gyfer y Sir gyfan ond bod modd darparu data os
gwneir cais am wybodaeth am ardal benodol. Ymhelaethodd y Prif Arolygydd bod yr
Heddlu a’r Bartneriaeth yn croesawu’r syniad o ddyfais CCTV symudol ond bod
ystyriaethau ariannol yn rhwystr i’w prynu.
Gofynnwyd
a yw’r lleoliadau ble mae troseddau yn cymryd lle yn cael eu hasesu (megis
ansawdd y golau stryd, os yw’n llecyn cysgodol neu guddiedig) yn cael ei
ystyried yn dilyn troseddau, er mwyn ystyried gwelliannau i atal troseddau yn y
dyfodol. Mewn ymateb i’r cwestiwn, cadarnhaodd y Prif Arolygydd bod hwn yn rhan
bwysig iawn o ymchwiliadau’r heddlu a'i fod yn arwain at addasiadau i’r ffordd
mae’r mannau hynny yn cael eu diogelu.
Ystyriwyd
os yw’r cynnydd yn ffigyrau troseddau rhywiol yn deillio o unrhyw newidiadau
i’r broses o adrodd ar droseddau. Mewn ymateb i’r ymholiad cadarnhaodd yr Uwch
Reolwr Diogelu, Sicrwydd Ansawdd a Iechyd Meddwl bod dioddefwyr yn teimlo mwy
hyderus i adrodd ar droseddau yn dilyn ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth am y
broses o wneud hynny. Ychwanegwyd bod hyn wedi arwain at ddioddefwyr yn adrodd
ar droseddau hanesyddol sydd wedi cael eu cynnwys yn y ffigyrau o fewn yr
adroddiad.
Soniwyd
bod yr ystadegau a gyflwynwyd yn yr adroddiad yn adlewyrchu’r troseddau sydd
wedi cael eu hadrodd. Trafodwyd bod nifer o droseddau heb gael eu cynnwys yn yr
adroddiad gan nad oes neb wedi adrodd arnynt, gan ystyried pa waith sydd yn
cael ei wneud gan y Bartneriaeth er mwyn ceisio sicrhau bod cymaint o droseddau
a phosib yn cael eu canfod a phrosesu’r data hynny’n flynyddol. Mewn ymateb i’r
ymholiad, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Diogelu, Sicrwydd Ansawdd a Iechyd Meddwl
bod casglu’r data hwn yn gallu bod yn heriol ond bod y Bartneriaeth yn
cydweithio gyda gwasanaethau cefnogol megis Llinell Gymorth Byw Heb Ofn,
Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru, Gorwel ac Uned
Diogelwch Cam-drin Domestig (DASU) er mwyn gallu ystyried sut fath o heriau
sydd yn effeithio hwy. Ychwanegodd y Prif Arolygydd nad yw troseddwyr yn cael
eu dal wrth weithredu eu trosedd cyntaf yn aml a bod gwaith yn cael ei wneud i
geisio dal troseddwyr yn gynt ac annog dioddefwyr i adrodd ar droseddau yn
gynharach.
Diolchwyd am yr adroddiad.
1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y
drafodaeth.
2.
Cefnogi’r blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith i’r dyfodol.
3.
Argymell bod y Bartneriaeth yn ychwanegu gwaith ataliol mewn
cyswllt â throseddau rhywiol yn flaenoriaeth benodol ar gyfer y dyfodol.
Dogfennau ategol: