I graffu
Adroddiad Cynnydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn.
Penderfyniad:
Penderfynwyd:
1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y
drafodaeth.
2. Gofyn bod adroddiadau i’r dyfodol yn cynnwys gwybodaeth/data ar
gynnydd o ran cyflawni.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd y Cyngor, Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd
ac Ynys Môn a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol.
Atgoffwyd bod Cyngor Gwynedd yn un o 5 aelod statudol y
Bwrdd, gan nodi bod cyfanswm o 15 sefydliad yn aelodau ohono. Manylwyd bod y
rhain yn cynnwys Prif Weithredwyr ac Uwch Swyddogion y Gwasanaeth Tân, Cyfoeth
Naturiol Cymru, Mantell Gwynedd, Coleg Llandrillo Menai, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr a Chyngor Sir Ynys Môn.
Nodwyd y cyhoeddwyd Cynllun Llesiant 2023-28 Gwynedd a Môn
ym mis Mai 2023. Ymhelaethwyd bod y Cynllun hwn yn nodi tri amcan ble fydd
Aelodau’r Bwrdd yn cydweithio i’w cyflawni, sef:
· Lliniaru effaith tlodi ar lesiant cymunedau.
· Gwella lles a llwyddiant plant a phobl ifanc
er mwyn gwireddu eu llawn botensial.
· Cefnogi gwasanaethau a chymunedau i symud
tuag at sero net carbon.
Cyhoeddwyd bod trefniadau cyflawni’r Bwrdd wedi cael eu
haddasu yn dilyn sylwadau a dderbyniwyd gan Bwyllgorau Craffu Cyngor Gwynedd a
Chyngor Sir Ynys Môn. Ymhelaethwyd mai’r unig Is-grŵp sydd yn atebol i’r
Bwrdd yw’r Is-grŵp Cymraeg. Eglurwyd fod yr Is-grŵp parhaol hwn wedi
bod yn cydweithio’n agos gyda Chomisiynydd yr Iaith a phrosiect ARFOR er mwyn
datrys heriau cynllunio gweithlu dwyieithog, gan ddatblygu rhestr wirio ymarfer
da i gyflogwyr eu dilyn. Ychwanegwyd bod yr Is-grŵp wedi cyflwyno syniadau
ar gyfer prosiect i ‘chwalu mythau’ yn y dyfodol agos er mwyn parhau i fynd i’r
afael â heriau cynllunio’r gweithlu.
Cadarnhawyd bod y Bwrdd wedi ymrwymo i gynllun Pwysau Iach.
Manylwyd bod y Bwrdd yn cydweithio ar lefel ranbarthol er mwyn sicrhau bod y
cynllun yn ychwanegu gwerth a bod gweithdrefnau mewn lle er mwyn asesu effaith
y cynllun i’r dyfodol.
Mynegwyd balchder
bod y Bwrdd yn arwain ar Siarter Teithio Llesol, gan nodi bod digwyddiad wedi
cael ei drefnu ar gyfer mis Mawrth ble fydd Aelodau’r Bwrdd yn ymrwymo yn
swyddogol i’r Cynllun ym mhresenoldeb Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru
dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Ychwanegwyd bod Grŵp Tasg a Gorffen
gweithredol mewn lle ar gyfer gweithredu’r Siarter hon, gan sicrhau bod
arferion da ac adnoddau yn cael eu rhannu gyda’r holl Aelodau.
Adroddwyd bod
cynllun cyflawni wedi cael ei ddatblygu gan y Bwrdd, gan nodi bod adroddiadau
ar gynnydd Amcanion y Bwrdd yn cael eu derbyn yn rheolaidd. Eglurwyd bod y
wybodaeth hon yn galluogi’r Bwrdd i adnabod os oes unrhyw amserlen i gwblhau
unrhyw Amcan yn llithro, a’r rhesymau dros hynny.
Tynnwyd sylw at waith ymgysylltu mae’r Bwrdd yn ei wneud
gyda chymunedau. Eglurwyd bod hyn yn cynnwys ymweliadau i bedair ysgol uwchradd
yng Ngwynedd er mwyn trafod oblygiadau Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)
2015 a’r Cynllun Llesiant. Ychwanegwyd bod gwaith wedi cael ei wneud yn Hafod y
Gest, Porthmadog er mwyn canfod faint o ‘oed-gyfeillgar’ yw’r ardal, ar gais yr
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd. Cadarnhawyd y bwriedir cynnal
mwy o weithgareddau ymgysylltu yn y dyfodol wrth baratoi at ddatblygu asesiadau
llesiant newydd yn 2025/26.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Diolchwyd i’r Bwrdd am weithredu ar sylwadau’r Pwyllgor hwn
yn dilyn yr Adroddiad Cynnydd a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn 2024/25 drwy sicrhau
bod trefniadau monitro cynnydd prosiectau wedi cael eu cynnwys yn yr Adroddiad.
Gofynnwyd a oes modd i Adroddiadau’r dyfodol gynnwys gwybodaeth sy’n dangos os
yw’r cynlluniau yn cyflawni ai peidio er mwyn sicrhau bod y broses Craffu mor
effeithiol â phosib. Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd Rheolwr Rhaglen
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn bod bodd i’r Pwyllgor derbyn y
data yma gan ei fod yn cael ei rannu gyda’r Bwrdd fel rhan o drefniant newydd.
Sicrhawyd bydd y wybodaeth hon yn cael ei gynnwys yn yr Adroddiadau Cynnydd i’r
dyfodol.
Gofynnwyd pam nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr wedi cael eu nodi fel Aelodau o’r Is-grŵp Iaith Gymraeg na’r
Is-grŵp Pwysau Iach. Holwyd beth oedd y trefniadau o ran penderfynu ar yr
aelodaeth a sut gellir annog y Bwrdd Iechyd i gymryd rhan yn y gwaith yn y
meysydd allweddol yma gan fod ganddynt fewnbwn pwysig er mwyn cyflawni. Mewn
ymateb, cadarnhaodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac
Ynys Môn mai materion staffio sydd wedi arwain at hyn eleni ond maent wedi
ymrwymo i fod yn rhan o’r Is-grŵp Iaith Gymraeg. Eglurwyd bod Iechyd
Cyhoeddus Cymru yn arwain ar waith yr Is-grŵp Pwysau Iach a bod gwaith y
Bwrdd ar bwysau iach yn bwydo i mewn i waith y Grŵp Strategol Rhanbarthol
a oedd yn cael ei arwain gan y Bwrdd Iechyd. Cadarnhawyd byddai Adroddiadau’r
dyfodol yn manylu os oes unrhyw sedd wag ar yr Is- grwpiau gan unrhyw un o
Aelodau’r Bwrdd er eglurder. Yn yr un modd, nodwyd bod gan y Cymdeithasau Tai
sedd wag ar y Bwrdd ar hyn o bryd a’u bod yn ymdrechu i ganfod y person cywir i
fynychu cyfarfodydd.
Tynnwyd sylw bod y sesiwn hyfforddiant Trawma Ymwybodol ar
gyfer Aelodau’r Bwrdd, er mwyn gallu gwireddu amcan ‘Gwella lles a llwyddiant
plant a phobl ifanc er mwyn gwireddu eu llawn botensial’ wedi llithro. Mewn
ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwynedd ac Ynys Môn bod llithriad wedi bod yn yr amserlen i ddarparu’r
hyfforddiant hwn i Aelodau’r Bwrdd a bod yr oediad yma wedi codi oherwydd
anhawster i sicrhau dyddiad cyfleus ar gyfer pob Aelod. Pwysleisiwyd y
gobeithir bydd y sesiwn hyfforddiant hwn wedi cael ei gynnal cyn diwedd yr haf
a diolchwyd i Gyngor Sir Ynys Môn am eu haddewid i ddarparu’r hyfforddiant am
ddim i Aelodau’r Bwrdd. Mynegwyd mai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus hwn
fyddai’r Bwrdd cyntaf i fod yn Drawma Ymwybodol pan fydd yr hyfforddiant hwn
wedi cael ei gyflawni a bydd yr Aelodau yn cwblhau’r gwaith gyda gwell
ymwybyddiaeth o’r maes.
Diolchwyd am yr
adroddiad.
PENDERFYNWYD
1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
2. Gofyn bod adroddiadau i’r dyfodol yn
cynnwys gwybodaeth/data ar gynnydd o ran cyflawni
Dogfennau ategol: