I graffu Adroddiad Blynyddol 2023/24 Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur sy’n rhan
o Gynllun y Cyngor 2023-29 – Gwynedd Werdd.
Penderfyniad:
Penderfynwyd:
1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y
drafodaeth.
2. Argymell y dylid cynnwys mwy o wybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol
am yr hyn sy’n gyfrifol am y canrannau allyriadau carbon.
3. Bod y pwyllgor yn craffu casgliadau adolygiad o’r Cynllun Argyfwng
Hinsawdd a Natur cyn i’r Cabinet ei ystyried.
4. Gofyn i Arweinydd y Cyngor lobïo Llywodraeth Cymru yng nghyswllt
adolygu’r fethodoleg o fesur allyriadau carbon sy’n deillio o brosesau caffael.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd y Cyngor, Y Prif Weithredwr a Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd.
Atgoffwyd bod Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur wedi cael ei
fabwysiadu gan y Cabinet ar 8 Mawrth 2022 gyda’r uchelgais y ‘Bydd Cyngor
Gwynedd yn garbon sero net ac yn ecolegol gadarnhaol erbyn 2030’. Ychwanegwyd
bod y mater o ymateb i argyfwng newid hinsawdd yn un o flaenoriaethau ‘Gwella'r
Cyngor’ o fewn Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28.
Eglurwyd bod allyriadau carbon y Cyngor wedi gostwng 16% o’i
gymharu â’r waelodlin a sefydlwyd yn 2019/20, gan gynnwys caffael. Cydnabuwyd
bod allyriadau carbon o brosesau caffael yn cyflwyno her i gyflawni’r uchelgais
hwn gan ei fod yn seiliedig ar wariant yn unig a ddim yn cymryd i ystyriaeth
lleoliadau mae’r Cyngor yn prynu nwyddau. Nodwyd bod hyn yn creu darlun
camarweiniol o wir effaith gwariant ar yr hinsawdd.
Nodwyd bod £3miliwn wedi cael ei glustnodi ar gyfer creu
cronfa Cynllun Hinsawdd drwy’r broses bidiau refeniw un-tro. Darparwyd
diweddariad bod £792,015 yn weddill yn y gronfa hon ar ddiwedd Rhagfyr 2024 gan
fod £2,207,984 wedi cael ei wario neu ei glustnodi ar gyfer gwariant. Eglurwyd
bod y gwariant hwn yn cynnwys £500,000 ar bwyntiau gwefru ceir trydan a
£2.1miliwn ar gynllun gwres carbon isel.
Esboniwyd bod materion sydd yn berthnasol i’r Cynllun yn
datblygu’n gyflym a'i fod yn amserol i ystyried adolygu’r Cynllun. Anogwyd yr
Aelodau i rannu unrhyw syniadau a datblygiadau priodol er mwyn eu hystyried
wrth adolygu’r Cynllun.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Cyfeiriwyd at y bwriad i adolygu’r Cynllun. Cynigiwyd ac
eiliwyd bod casgliadau o adolygiad y Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor
hwn pan yn amserol er mwyn i’r Pwyllgor gallu rhoi mewnbwn iddo cyn cyflwyno’r
adolygiad i’r Cabinet.
Gofynnwyd a yw’r Bwrdd yn gwireddu anghenion amcanion y
Cynllun yn effeithiol, neu a oes angen ystyried opsiynau eraill er mwyn sicrhau
bod yr uchelgais yn cael ei gyfarch. Nododd y Prif Weithredwr bod yr adolygiad
ar y Cynllun hwn yn mynd i asesu os yw’r prosiectau sydd mewn lle yn ddigonol i
gyrraedd yr uchelgais, neu oes angen datblygu cynlluniau newydd. Ychwanegwyd
bydd agweddau eraill o’r Cynllun yn cael ei asesu er mwyn ystyried ei fod yn
addas i bwrpas, arbed arian ac yn gwarchod gwasanaethau. Hefyd, cadarnhawyd
bydd ystyriaeth yn cael ei roi er mwyn gweld os mai’r Bwrdd yw’r cerbyd gorau i
yrru’r Cynllun yn ei flaen neu oes angen ail-ystyried y strwythur.
Nodwyd bod buddsoddi mewn cynlluniau i leihau allyriadau
carbon wedi arbed llawer o arian i’r Cyngor. Anogwyd y Cyngor i barhau i
fuddsoddi yn y cynlluniau hyn i’r dyfodol.
Holwyd sut all y Pwyllgor hwn neu Aelodau Etholedig fod o
gymorth i lobio’r Llywodraeth yng
nghyswllt heriau’r prosesau Caffael er mwyn galw am newid i sut mae caffael yn
cael ei gofnodi wrth geisio lleihau allyriadau carbon. Mewn ymateb i’r
sylwadau, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd bod gwaith yn cael ei
wneud er mwyn lleihau allyriadau carbon yn y maes caffael er bod heriau’n codi
o fewn y prosesau. Manylwyd bod swyddogion yn cydweithio gyda Busnes Cymru er
mwyn cynnal seminarau penodol o fewn y maes gofal er mwyn gweld sut allent
leihau eu hallyriadau carbon. Ymhelaethwyd bod cefnogaeth ar gael i ddarparwyr
allanol er mwyn eu hannog i ddad-garboneiddio, yn y
gobaith y byddent yn gweld y budd ohono. Mynegwyd balchder bod y mwyafrif o’r
darparwyr sydd yn cydweithio gyda’r Cyngor o fewn y maes gofal yn gweld gwerth
o’r cynlluniau hyn ond bod heriau ariannol yn atal rhai cwmnïau rhag gwireddu
addasiadau.
Cyfeiriwyd at y siart ar dudalen 8 yr adroddiad blynyddol a
oedd yn dangos bod ‘Adeiladau’ yn gyfrifol am 45% o allyriadau carbon (heb
gynnwys caffael) yn ystod 2023/24. Nodwyd byddai’n ddefnyddiol i gael data
manylach er mwyn gallu canfod pa heriau sydd yn cyfrannu at yr allyriadau
carbon. Credwyd byddai manylu ar y data hwn yn arwain at ddatrysiadau i’r
heriau presennol.
Nodwyd bod yr Adroddiad yn cadarnhau bod adeiladu ffermydd
paneli solar wedi cael ei dynnu o’r Cynllun oherwydd materion ariannol. Soniwyd
byddai hyn wedi cael effaith fawr ar dirwedd yr ardal, ond ystyriwyd os yw’r
Cyngor wedi ystyried rhoi paneli solar ar diroedd eraill megis ar adeiladau neu
feysydd parcio. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd y Prif Weithredwr nad yw
pob ardal yn addas ar gyfer paneli solar ond bod gwaith estynedig yn cael ei
wneud ar feysydd parcio er mwyn gosod paneli solar ar fannau priodol.
Tynnwyd sylw bod yr Adroddiad yn nodi cynnydd o 11% mewn
allyriadau carbon o oleuadau stryd ers 2022/23. Mewn ymateb i’r sylwadau,
cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod y ffigwr hwn wedi cynyddu eleni oherwydd bod
y Cyngor wedi etifeddu mwy o oleuadau stryd yn dilyn datblygiadau megis ffordd
osgoi Caernarfon. Cadarnhawyd y disgwylir i’r ffigwr hwn ostwng erbyn yr
adroddiad blynyddol nesaf.
Cyfeiriwyd at gynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus integredig
fel rhan o flaenoriaeth ‘Symud a Thrafnidiaeth’ y Cynllun, gan nodi bod
amserlenni bws yn creu problemau mewn rhai cymunedau. Manylwyd bod angen magu
hyder trigolion i ddefnyddio cludiant cyhoeddus, drwy gadarnhau bod amserlenni
bysiau yn caniatáu iddynt fynd a dod o’r gweithle, gymdeithasu a chrwydro gyda
sicrwydd er mwyn cynyddu defnydd o’r gwasanaethau. Ystyriwyd hefyd byddai hyn
yn annog trigolion i beidio prynu ceir personol gan fod cludiant cyhoeddus yn
cyfarch eu hanghenion.
Nodwyd sylwadau a oedd yn cwestiynu’r angen i geisio lleihau
allyriadau carbon. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y Cyngor wedi penderfynu
ymdrechu i wireddu’r Cynllun yn unol ag argymhellion arbenigwyr.
Gofynnwyd faint o’r arian sydd yn cael ei arbed drwy
weithredu prosiectau’r Cynllun sydd yn cael ei fuddsoddi yn ôl i’r Cynllun ar
gyfer ariannu prosiectau’r dyfodol. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Weithredwr
nad yw’r arian a arbedwyd yn cael ei ail-fuddsoddi yn y cynllun ar hyn o bryd
oherwydd y pwysau ariannol presennol ar y Cyngor. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod
yr arbediad ariannol yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod gwasanaethau eraill
sydd yn cael ei gynnig gan y Cyngor yn cael eu gwarchod wrth geisio ymdopi â’r
sefyllfa.
Ymholwyd pa ddatblygiadau sydd ar y gweill mewn cysylltiad â
chynllun ‘Fflyd Werdd’ y Cyngor. Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd y Prif
Weithredwr bod ystyriaeth yn cael ei roi er mwyn gweld os oes modd lleihau
fflyd y Cyngor drwy ystyried pa swyddi sydd angen defnydd ohonynt a sut effaith
byddai lleihau’r fflyd yn cael ar wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor. Nodwyd
hefyd bod ymgais yn cael ei wneud i brynu cerbydau trydan wrth adnewyddu
cerbydau ond cydnabuwyd nad oes modd gwneud hyn ar gyfer pob cerbyd, megis
lorïau casglu gwastraff, ar hyn o bryd. Sicrhawyd bydd holl gerbydau trydan y
Cyngor yn cael eu gwefru yn y canolfannau ble cedwir y cerbydau a ni fydd
disgwyliad i unrhyw aelod o staff wneud hynny ar aelwyd bersonol.
Rhannwyd nifer o syniadau a ellir eu datblygu fel rhan o’r
Cynllun i’r dyfodol megis gadael i fenter gymdeithasol Datblygiadau Egni
Gwledig (DEG), rentu meysydd parcio gan y Cyngor ar gyfer gosod paneli solar
gyda’r cytundeb y byddent yn gwerthu’r trydan i’r Cyngor am bris gostyngedig.
Cyfeiriwyd hefyd at fentrau ynni cymunedol gan nodi byddai cydweithio gyda
rhain yn gallu bod o fudd i’r Cynllun. Mewn ymateb i’r syniadau hyn,
cadarnhaodd y Prif Weithredwr byddent yn cael eu hystyried gan groesawu gwahodd
mentrau ynni cymunedol a sefydliadau eraill i fynychu cyfarfodydd y Bwrdd i
rannu gwybodaeth a chyflwyniadau.
Diolchwyd am yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
2. Argymell y dylid cynnwys mwy o wybodaeth yn
yr Adroddiad Blynyddol am yr hyn sy’n gyfrifol am y canrannau allyriadau
carbon.
3. Bod y pwyllgor yn craffu casgliadau
adolygiad o’r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur cyn i’r Cabinet ei ystyried.
4. Gofyn i Arweinydd y Cyngor lobïo
Llywodraeth Cymru yng nghyswllt adolygu’r fethodoleg o fesur allyriadau carbon
sy’n deillio o brosesau caffael.
Dogfennau ategol: