Agenda item

I dderbyn a nodi diweddariad chwarterol gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn a nodi’r wybodaeth
  • Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau i amlygu pryderon y Pwyllgor i’r PPC o’r awgrym y gall yr holl weithgarwch gweithredu ei ddirprwyo i'r Bartneriaeth. Nodwyd pryder, pe byddai’r Bartneriaeth am gymryd mwy o gyfrifoldeb am weithredu strategaeth fuddsoddi, rhaid sicrhau mewnbwn gan gronfeydd unigol y Bartneriaeth.
  • Croesawu bod defnydd o’r Iaith Gymraeg wedi ei nodi yn anghenrheidol mewn ymateb i Ymgynghoriad gan yr MHCLG - ‘Fit for the Future’ - bydd angen i Gronfa Bensiwn Gwynedd a PPC allu darparu gwybodaeth ac unrhyw waith cyfathrebu yn Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg.

 

Cofnod:

Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod yr adroddiad bellach yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith PPC. Tynnwyd sylw at drafodaethau cyfarfod Rhagfyr 2024 o’r Cydbwyllgor gan amlygu bod y Bartneriaeth wedi ennill gwobr ‘ESG Innovation’ yn ddiweddar a hynny oherwydd yr Is-gronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy.

 

Cyfeiriwyd at ddiweddariad y Gweithredwr dros y cyfnod ac amodau’r farchnad maent yn monitro. Adroddwyd bod perfformiad y cronfeydd wedi bod yn gryf gydag ecwiti byd-eang a marchnadoedd incwm sefydlog yn codi yn y cyfnod. Eglurwyd bod dau ymarfer caffael wedi digwydd yn ddiweddar ar gyfer Ymgynghorydd Goruchwylio a Darparwr Gwasanaeth Pleidleisio ac Ymgysylltu gydag argymhellion y broses wedi eu cymeradwyo gan y Pwyllgor ym mis Rhagfyr. Cyhoeddwyd mai Hymans Robertson oedd wedi eu hail benodi fel Ymgynghorydd Goruchwylio a Robeco wedi ail ennill cytundeb Darparwr Gwasanaeth Pleidleisio ac Ymgysylltu.

 

Tynnwyd sylw at ymgynghoriad diweddaraf Llywodraeth San Steffan - ‘Addas I’r Dyfodol’ oedd yn galw am dystiolaeth sy’n awgrymu’n fras y trywydd mae Llywodraeth San Steffan yn disgwyl i’r LGPS ei ddilyn. Adroddwyd bod yr ymgynghoriad yn edrych ar feysydd megis pwlio asedau, buddsoddi yn lleol ac yn y Deyrnas Unedig, a llywodraethu gyda 30 cwestiwn i ymateb iddynt erbyn 16eg o Ionawr 2025. Cyfeiriwyd at ymateb Cronfa Bensiwn Gwynedd i’r ymgynghoriad (gydag ymateb PPC eisoes wedi ei rannu gyda’r Aelodau drwy e-bost), gan nodi bod ffrydiau gwaith parod i weithredu unwaith bydd canlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu rhannu.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â newidiadau disgwyliedig i’r pwls, a'r gofyn iddynt fod wedi cofrestru gyda’r FCA (Financial Conduct Authority), nodwyd mai tri pwl yn unig oedd heb gofrestru. Mewn ymateb i gwestiwn ategol os oedd gan yr FCA gapasiti i gofrestru cwmnïau, derbyniwyd y sylw bod hwn yn waith ychwanegol iddynt, ond bod angen sicrhau'r gwasanaeth gorau i’r dyfodol gan yr FCA. Ategwyd bod cyswllt parhaus  gyda’r FCA a chyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal rhwng aelodau PPC a’r FCA.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau;

·        Pryder o’r awgrym y gall yr holl weithgarwch weithredu ei ddirprwyo i'r Bartneriaeth. A fydd Cronfa Pensiwn Gwynedd yn colli rheolaeth? Colli allan?

·        Derbyn bod angen Strategaeth Buddsoddi, ond a fydd gan Wynedd fewnbwn i’r strategaeth?

·        Bod PPC yn gwneud gwaith da iawn ac er yn deall ystyriaethau ymgynghoriad Llywodraeth San Steffan, bod rhai o’r syniadau yn achosi pryder

·        Bod yr Iaith Gymraeg yn elfen bositif a chryf i PPC

·        Pryderon i’w cyflwyno i gyfarfod nesaf Fforwm Cadeiryddion PPC – ymateb o’r Fforwm i’w rhannu gyda’r Pwyllgor

 

PENDERFYNWYD

·        Derbyn a nodi’r wybodaeth

·        Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau i amlygu pryderon y Pwyllgor i’r PPC o’r awgrym y gall yr holl weithgarwch gweithredu ei ddirprwyo i'r Bartneriaeth. Nodwyd pryder, pe byddai’r Bartneriaeth am gymryd mwy o gyfrifoldeb am weithredu strategaeth fuddsoddi, rhaid sicrhau mewnbwn gan gronfeydd unigol y Bartneriaeth.

·        Croesawu bod defnydd o’r Iaith Gymraeg wedi ei nodi yn angenrheidiol mewn ymateb i Ymgynghoriad gan yr MHCLG - ‘Fit for the Future’ - bydd angen i Gronfa Bensiwn Gwynedd a PPC allu darparu gwybodaeth ac unrhyw waith cyfathrebu yn Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg.

 

Dogfennau ategol: