Agenda item

I ystyried yr Adroddiad.

Penderfyniad:

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

2.    Gofyn i Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi os oes modd i Aelodau’r Pwyllgor Iaith fynychu cyfarfod 13 Chwefror 2025  i wrando ar y drafodaeth wrth i  ‘Bolisi Iaith Addysg’ gael ei graffu gan yr Aelodau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd a’r Pennaeth Addysg. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Adroddwyd ar brosiect sydd yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd a’r Urdd sy’ anelu i gynyddu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg. Eglurwyd mai nod y prosiect yw darparu mwy  o gyfleoedd i bobl ifanc defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol gan gynyddu eu hyder yn yr iaith. Manylwyd bod 5 Aelwyd Gymunedol wedi cael eu datblygu yn ardaloedd y Felinheli, Bangor, Caernarfon, Ardudwy a’r Bala, sydd yn cynnig amrywiol weithgareddau y tu allan i oriau ysgol. Cadarnhawyd mai mewn 6 ysgol uwchradd yn y sir mae’r gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal ar hyn o bryd, ond pwysleisiwyd y gobeithir ehangu ar y cynllun cydweithredol hwn i fwy o ysgolion uwchradd yn y dyfodol drwy gydweithio ymhellach gyda’r Urdd, Cell B, Gisda a Menter Iaith Gwynedd.

 

Eglurwyd bod Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd yn derbyn grant gwerth £20,000 yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru er mwyn mynd ceisio cynyddu hyder pobl ifanc yn yr iaith Gymraeg. Nodwyd bod ffocws y Gwasanaeth ar yr ardaloedd sy’n profi heriau gyda’r iaith Gymraeg megis Bangor a Dolgellau. Cydnabuwyd bod y grant hwn yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol ac felly bydd angen sicrhau bod y gwaith yn cael ei ariannu drwy ddulliau amgen i’r dyfodol.         

 

Cyfeiriwyd at gynlluniau moderneiddio ac ehangu’r darpariaeth drochi ar gyfer dysgu Cymraeg i blant gan gadarnhau bod gwaith adeiladu a moderneiddio Gwedd 1 wedi cael ei gwblhau. Manylwyd bod y wedd hwn yn brosiect gwerth £1.1 miliwn er mwyn creu unedau trochi sy’n pontio addysg Gynradd ac Uwchradd. Cadarnhawyd bod Uned Drochi newydd wedi cael ei adeiladu yn Nhywyn ac ei fod wedi agor yn swyddogol ar 20 Ionawr 2025. Cydnabuwyd bod llithriad byr wedi bod yn amserlen y datblygiad hwn ond bod yr Uned yn barod i dderbyn dysgwyr Cymraeg newydd erbyn hyn. Yn yr un modd, cadarnhawyd bod Gwedd 2 y datblygiadau moderneiddio’r ddarpariaeth drochi ar y gweill gyda unedau newydd yn cael eu datblygu yn Nolgellau a Maesincla. Cadarnhawyd bod yr uned bresennol yn Llangybi yn symud i fod ar safle Ysgol Cymerau, Pwllheli. Gobeithiwyd bydd y dair uned newydd yn weithredol o dymor yr haf 2025.

 

Cadarnhawyd fod prosiect TGCh rhithiol ‘Aberwla’ wedi ei gwblhau erbyn hyn. Eglurwyd bod y prosiect yn rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg fagu hyder i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol mewn lleoliadau rhithiol cyn mynd ati i gyfathrebu’n Gymraeg yn eu cymunedau. Esboniwyd bod y lleoliadau rhithiol hyn yn cynnwys cae glampio, archfarchnad, garej, caffi, canolfan hamdden a llyfrgell. Pwysleisiwyd bod y prosiect hwn yn un arloesol a bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn ei dreialu mewn ardaloedd eraill yng Nghymru gan gynnwys Wrecsam, Ynys Môn, Rhondda Cynon Taf, Sir Gâr, Bro Morgannwg a Cheredigion.  

 

Cadarnhawyd bod Prifysgol Bangor wedi cael eu comisiynu i gynnal gwerthusiad o’r Gyfundrefn Addysg Drochi yng Ngwynedd. Nodwyd eu bod wedi cynnal cyfarfodydd ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ogystal ag arsylwi dysgwyr yn yr unedau trochi fel rhan o’r gwerthusiad. Esboniwyd y disgwylir adroddiad terfynol gydag adborth manwl ym mis Mawrth 2025. Yn yr un modd, cadarnhawyd bodd swyddogion wedi cyflwyno adroddiad ar Gynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg (CSGA) i Lywodraeth Cymru ac wedi derbyn adborth cadarnhaol. Pwysleisiwyd bod GwE yn darparu cymorth i’r ysgolion trosiannol er mwyn sicrhau bod trefniadau grymus mewn lle i gynyddu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Atgoffwyd bod cyfres o sesiynau ymgysylltu i drafod Polisi Iaith Addysg bresennol Cyngor Gwynedd wedi cael eu cynnal yn ddiweddar, gyda chefnogaeth Ymgynghorydd Iaith Llawrydd fel hwylusydd. Eglurwyd bod 20  o sesiynau gydag amrywiol rhan-ddeiliaid wedi eu cynnal ac bod yr Ymgynghorydd Iaith lawrydd yn coladu’r holl wybodaeth er mwyn llunio Polisi Iaith Addysg drafft newydd sy’n adlewyrchu’r trafodaethau a gafwyd.     

 

Tynnwyd sylw at waith gwerthfawr Menter Iaith Gwynedd wrth iddynt gydweithio gyda’r gyfundrefn drochi, ysgolion a chymunedau ar gyfer prosiect ‘Arwyr Iaith’. Eglurwyd bod y prosiect hwn yn caniatáu i ddisgyblion sydd wedi mynychu’r canolfannau trochi weithio ar ddigwyddiad yn y Gymraeg er mwyn gallu arddangos eu sgiliau ieithyddol newydd gyda’r gymuned ehangach. Canmolwyd y prosiect hwn yn ardal Botwnnog yn ddiweddar a gobeithir bydd llwyddiant y prosiect yn annog mwy o gymunedau i ddathlu llwyddiannau siaradwyr newydd. Ymfalchïwyd bod y prosiect yn weithredol yn ardaloedd Tregarth, Porthmadog a Manod ar hyn o bryd.   

 

Diweddariad bod Fframwaith y Siarter Iaith wedi lansio ar ei newydd wedd gan gynnal sawl sesiwn hyfforddiant ar gyfer staff ysgolion Gwynedd. Eglurwyd bod y cydlynydd yn gweithio i sefydlu gwobrwyon efydd, arian ac aur wrth ddilysu’r Siarter Iaith.         

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Llongyfarchwyd y Gwasanaeth Ieuenctid a’r Urdd ar eu gwaith o sefydlu Aelwydydd Cymunedol, gan ofyn sut mae’r data ynghylch gweithgareddau yn cael eu casglu. Ystyriwyd bod 19,625 o gyfranogiadau yn uchel o ystyried lefelau’r iaith Gymraeg cyffredinol. Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd bod y ffigwr yn cynnwys pob unigolyn sydd wedi mynychu digwyddiadau, gan nodi ei fod yn cynnwys yr un unigolion os ydynt yn mynychu mwy nag un digwyddiad. Nodwyd bod y dull o gasglu data yn cael ei addasu er mwyn sicrhau eglurder i’r dyfodol.

 

Gofynnwyd a yw’r Adran yn cydweithio gyda Chlybiau rygbi lleol a Mudiad Ffermwyr Ifanc yng Ngwynedd, gan eu bod yn sefydliadau sydd yn gweithredu’n helaeth drwy’r Gymraeg ac y byddai cydweithio â hwy yn ddull arall o fagu hyder pobl ifanc yn yr iaith Gymraeg. Mewn ymateb, nododd Pennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd bod cydweithio gyda’r sefydliadau hyn yn syniad da ar gyfer y dyfodol gyda buddion i bobl ifanc Gwynedd a’r iaith Gymraeg. Pwysleisiwyd bod pwysigrwydd mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru yn cael ei bwysleisio fel rhan o waith yr Adran a’r fenter Iaith fel esiampl o sefyllfaoedd anffurfiol gan ddysgwyr a siaradwyr ymarfer eu sgiliau Cymraeg.

 

Llongyfarchwyd y Gwasanaeth Ieuenctid am ddarparu dros 3000 o weithgareddau a gofynnwyd os oes cynlluniau ar y gweill i sicrhau bod gweithgareddau yn cael eu cynnal yn ardaloedd Arfon a Dwyfor i’r dyfodol. Ymhellach, holwyd os oes data ar gael ar niferoedd y mynychwyr sydd wedi nodi eu bod yn mwynhau defnyddio’r Gymraeg yn ystod y sesiynau ynghyd â mwy o ddata ansoddol i’r dyfodol.  Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Pennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd bod nifer y gweithgareddau yn ganmoliaeth i’r swyddog perthnasol, gan egluro bod grant gwerth £20,000 yn ariannu cyflogaeth yr unigolyn sy’n llywio’r gwaith hwn. Pwysleisiwyd hefyd bod yr unigolyn yn cydweithio’n agos gyda swyddogion mewn ysgolion er mwyn sicrhau bod digwyddiadau ychwanegol annibynnol yn cael eu trefnu yn ychwanegol i waith y swyddog. Cydnabuwyd nad yw mynychwyr digwyddiadau yn cael eu holi os ydynt wedi mwynhau defnyddio’r Gymraeg ac bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei ychwanegu i’r dyfodol, yn ogystal â chyflwyno mwy o ddata ansoddol.

 

Clodforwyd trefniadau’r Gyfundrefn Drochi yng Ngwynedd gan ystyried os oes modd trochi mwy o bobl yn yr iaith. Nodwyd mai 195 o unigolion oedd wedi cael eu trochi eleni a gofynnwyd oedd modd cynyddu’r ffigwr hwn.  Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth Gyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd bod derbyn 195 o unigolion i’r Canolfannau yn uchel iawn. Pwysleisiwyd bod yr hyfforddiant a geir yma yn arbenigol iawn ac fe fyddai’n peri risg i ansawdd yr hyfforddiant ac yn amharu ar natur gartrefol y Canolfannau pe byddai mwy o fynychwyr yno.

 

Trafodwyd y gwerthusiad o’r Gyfundrefn drochi gan ofyn am wybodaeth bellach ynghylch pa unigolion sydd wedi cael cyfle i gyflwyno sylwadau. Mewn ymateb, eglurodd Pennaeth Gyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd bod athrawon a phenaethiaid yr ysgolion sydd â disgyblion yn mynychu Canolfannau trochi wedi cael gwahoddiad i rannu sylwadau fel rhan o’r gwerthusiad. Ychwanegwyd bod disgyblion a rhieni hefyd wedi cael lleisio eu barn er mwyn sicrhau bod y gwerthusiad mor fanwl â phosib.

 

Gofynnwyd faint o hwyr-ddyfodiaid sydd yn mynychu’r Canolfannau Trochi yn ogystal â faint o unigolion rhwng blynyddoedd 2 a 9 sydd yno. Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd y data hwn yn cael ei gasglu ac y byddai’n waith sylweddol i gasglu’r data gan ysgolion. Fodd bynnag, manylwyd nad oes disgwyliad i’r unigolion gyrraedd yr un safon ar yr un pryd, gan bod y system wedi cael ei ffurfio i sicrhau bod pawb yn dysgu’r iaith ar raddfa sy’n addasu iddynt fel unigolion.  Pwysleisiwyd bod adroddiad cynnydd manwl yn cael ei ddarparu i’r ysgolion wedi i'r unigolion ddiweddu eu cyfnod yn y Canolfannau fel bo gan yr athrawon ymwybyddiaeth o ddealltwriaeth yr unigolyn o’r iaith er mwyn gallu darparu cefnogaeth briodol i’r dyfodol.

 

Mynegwyd balchder bod wythnosau ail-ennill hyder yn cael eu cynnal ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7-9 gan ofyn os oes cynlluniau i ehangu’r cynllun hwn i ysgolion eraill yn y dyfodol. Eglurodd Pennaeth Gyfundrefn Drochi Addysg Gwynedd bod y cynllun hwn wedi dod i sylw swyddogion yn dilyn cyfarfod o rwydwaith cenedlaethol sydd yn rhannu ymarferion da am yr iaith Gymraeg. Pwysleisiwyd ei fod yn gynllun pwysig ac y dymunir ei gyflwyno yn ehangach yng Ngwynedd. Er hyn, cydnabuwyd bod heriau’n codi o ystyried bod cyllidebau cludiant yn amharu ar y gallu i gyflawni’r prosiectau.

 

Gofynnwyd a yw’r Adran Addysg yn casglu data ar effaith ieithyddol yn yr ardaloedd hynny ble mae ysgolion bychan wedi cau er niferoedd isel o ddisgyblion. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Pennaeth Addysg bod ystyriaeth manwl yn cael ei roi i’r iaith Gymraeg wrth ystyried cau ysgolion, wrth i’r Adran gwblhau Asesiad Effaith Cydraddoldeb o’r penderfyniad. Esboniwyd bod yr Asesiadau hyn rhan amlaf yn nodi nad oes unrhyw risgiau ieithyddol yn codi o gau ysgolion oherwydd bod trefniadau mewn lle i sicrhau bod iaith addysg y plant yn parhau i fod yr un fath wrth iddynt fynychu ysgol arall. Pwysleisiwyd nad oes data am effaith ieithyddol hirdymor yn cael ei gasglu gan yr Adran oherwydd nad yw hyn yn ystyriaeth ofynnol fel rhan o’r prosesau cyfreithiol.

 

Nodwyd bod 73.2% o ddisgyblion Blwyddyn 11 yn astudio o leiaf 5 pwnc Cyfnod Allweddol 4 drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf. Ychwanegwyd bod 84.2% o ddisgyblion Blwyddyn 11 yn sefyll arholiad TGAU Cymraeg Ail Iaith. Gofynnwyd pa waith sy’n cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y ffigyrau hyn yn cynyddu yn y blynyddoedd nesaf. Mewn ymateb, eglurodd Pennaeth Gyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd bod nifer o brosiectau ar y gweill er mwyn sicrhau bod cynnydd mewn darpariaeth Gymraeg o bynciau TGAU. Soniwyd bod GwE yn cydweithio gydag ysgolion trosiannol Gwynedd er mwyn eu cynorthwyo gyda’r gofyniad hwn. Ymhellach, cadarnhawyd bod cynllun yn cael ei ddatblygu ar y cyd gyda Choleg Cymraeg Cenedlaethol, am y 3-5 mlynedd nesaf er mwyn cynyddu hyder athrawon i addysgu pynciau TGAU drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Holwyd pa ddefnydd o dechnoleg gwybodaeth sy’n cael ei wneud o fewn yr Adran Addysg er mwyn hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Sicrhaodd Pennaeth Gyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd bod technoleg gwybodaeth yn cael ei ddefnyddio’n gyson er mwyn hyrwyddo’r iaith Gymraeg, gan dynnu sylw pellach at adnodd ‘Aberwla’. Ymhelaethwyd bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn annog unigolion i ddefnyddio gwefannau cymdeithasol yn y Gymraeg. Pwysleisiwyd bod pob disgybl yn derbyn dyfais gliniadur wrth iddynt fynychu’r ysgol uwchradd er mwyn  iddynt allu cyflawni eu gwaith. Cadarnhawyd bydd y dyfeisiadau hyn yn cael eu gosod gyda meddalwedd â gosodiadau Cymraeg. Tynnwyd sylw hefyd bod Deallusrwydd Artiffisial (AI) Cymraeg yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo penaethiaid mewn rhai sefyllfaoedd.

 

Cyfeiriwyd at Adroddiad Cynnydd 2024 Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2022-27 y gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar gan dynnu sylw mai 47.49% o ddarpariaeth sydd yn uniaith Gymraeg. Ymhelaethwyd bod 47.10% pellach yn cael ei ddarparu yn ddwyieithog gan ystyried sut bod hyn yn cael ei fonitro. Pwysleisiodd Pennaeth Gyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd bod gwaith yn cael ei wneud ar y cyd gyda Mudiadau Meithrin er mwyn sicrhau bod yr iaith yn cael ei hyrwyddo. Ychwanegwyd bod ymgyrchodd hyfforddi a recriwtio hefyd ar waith er mwyn sicrhau bod darpariaeth uniaith Gymraeg ar gynnydd i’r dyfodol.

 

Nodwyd bod yr ystadegyn mai 64% o ddisgyblion sydd yn hyfedr yn y Gymraeg a Saesneg yn isel, gan holi pa gamau sydd mewn lle i sicrhau bod mwy o ddisgyblion yn hyfedr yn y Gymraeg. Mewn ymateb, pwysleisiodd Pennaeth Gyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd bod diffiniadau o fewn y maes yn annelwig ond bod ffigyrau siaradwyr Cymraeg yn uwch na hynny. Yn ychwanegol i’r 64%, mae 8.8% pellach yn gryfach eu Cymraeg na’r Saesneg a 21.3% arall o ddisgyblion yn gryfach eu Saesneg na’u Cymraeg, ond bod dealltwriaeth o’r Gymraeg. Esboniwyd bod 94.2% â dealltwriaeth gref o’r iaith Gymraeg. Ystyriwyd bod hyn yn ddatblygiad cadarnhaol er bod gwaith angen ei wneud er mwyn gweld cynnydd i’r dyfodol.

 

Tynnwyd sylw bod 55.57% o staff yr Adran heb gyflawni Hunan Asesiad Ieithyddol i nodi ydynt yn cyrraedd dynodiad iaith eu swyddi. Ystyriwyd nad oes newid sylweddol i’w weld yn y lefelau hyn ers y flwyddyn ddiwethaf. Mewn ymateb i’r pryderon, cadarnhaodd Pennaeth Gyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd nad oes cynnydd yn y ffigyrau hyn gan nad oes gan gyfran fawr o staff yr adran megis staff arlwyo a glanhawyr, fynediad i’r system ‘Hunanwasanaeth’ gan nad oes ganddynt gyfrif technolegol na chyfarpar i allu llenwi’r holiaduron. Cadarnhawyd bod hyn yn ystyriaeth gan yr Adran a bod trafodaethau yn cael eu cynnal er mwyn mynd i’r afael a’r her hon.

 

Cyfeiriwyd at y cyfarfodydd ymgysylltu i drafod Polisi Iaith Addysg newydd Gwynedd gan dynnu sylw bod yr eitem hon yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi yn eu cyfarfod ar 13 Chwefror 2025. Gofynnwyd a oes modd i  Aelodau’r Pwyllgor hwn fynychu’r drafodaeth. Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu y gellir gyrru cais i Gadeirydd y Pwyllgor hwnnw i aelodau’r Pwyllgor Iaith gael bod yn bresennol yn y drafodaeth, gan atgoffa’r Aelodau bod gwe-ddarllediad byw o’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi hefyd ar gael os ydynt yn dymuno ei wylio o adref.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
  2. Gofyn i Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi os oes modd i Aelodau’r Pwyllgor Iaith fynychu cyfarfod 13 Chwefror 2025  i wrando ar y drafodaeth wrth i  ‘Bolisi Iaith Addysg’ gael ei graffu gan yr Aelodau.

 

Dogfennau ategol: