i) Model Trosolwg ACGChC
ii) Asesu goblygiadau staffio ACGchC
iii) Cynllun Rhaglennu a Darparu
Cofnod:
Ar ôl i LC dderbyn cyflwyniad 31 Ebrill
gan ACGCC, cadarnhaodd DRC bod amcanion cyflwyniad ACGCC i’r Cyd-bwyllgor ar 29
Ionawr wedi’u bodloni oherwydd yr hyn a ganlyn:
·
Byddai’r model fyddai’n cael ei arwain gan y sector cyhoeddus yn
cael ei gadw gan LC;
·
Cedwir y cyfraniad at ddepo'r uned waith a gorbenion costau
sefydlog cynnal a chadw yn ystod y gaeaf;
·
Cedwir y darbodion maint o gynnal rhwydweithiau Cefnffyrdd a
ffyrdd Sirol;
·
Cedwir cyflwyniad gwasanaeth gan yr uned waith a’r ymgynghoriaeth.
i) Trosolwg o newid model ACGCC
Darparwyd trosolwg gan DRC. Y bwriad
oedd gweithredu’r model newydd rhwng nawr a mis Mawrth 2015. Byddai’r
mwyafrif o’r swyddogaethau craidd a oedd wedi’u
caffael yn hanesyddol drwy swyddogaeth y Weinyddiaeth Dechnegol yn trosglwyddo
i’r Asiant ym mis Ebrill 2016. Byddai rhai swyddogaethau’r
Weinyddiaeth Dechnegol sydd yn weddill yn aros gydag Awdurdodau Partner yn
cynnwys swyddogaethau Cyngor ar Reolaeth Ddatblygu, Monitro Signalau Pell a
Chanolfan Alw. Byddai’r swyddogaethau archwilio arbenigol
a gyflawnir ar hyn o bryd gan unedau ymgynghoriaeth AP hefyd yn cael eu mewnoli
yn ACGCC.
ii) Asesu
goblygiadau staffio
Adroddodd DRC bod cyfarfodydd manwl yn cael eu cynnal yn unigol
gyda phob AP ym mis Medi gyda’r bwriad o nodi nifer y swyddi gyda TUPE a sut i
reoli’r staff Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE) nad
oeddynt yn disgyn o fewn proses TUPE.
Ar gyfer trosglwyddiadau nad
oeddynt yn TUPE, eglurodd DRC bod yr Asiant yn bwriadu gweithio ar ddull o
ddewis grwpiau i’w hystyried ymlaen llaw ar gyfer pob swyddogaeth fyddai’n cael
ei throsglwyddo. Felly, bwriedid adnabod y staff fyddai’n cael eu heffeithio,
goblygiadau swyddi a llwythi gwaith presennol fyddai’n
pennu’r grwpiau i’w hystyried ymlaen llaw. Erbyn canol mis
Hydref 2015, bwriedid cytuno ar y grwpiau fyddai’n cael eu hystyried ymlaen
llaw a’r grwpiau TUPE gyda phob AP gyda chyfnod trawsnewid rhwng nawr a diwedd
y flwyddyn ariannol. Byddai staff yn y grwpiau i’w hystyried ymlaen llaw
yn cael eu gwahodd i wneud cais am swyddi gyda’r Asiant yn ystod mis Tachwedd a
Rhagfyr. Nododd DRC ei fod yn bwysig fod trefniadau trosglwyddo staff yn
cefnogi'r achosion busnes a bod cyfleoedd gwaith yn cael eu cadw cyn belled ag y bo modd.
Gallai’r broses hon effeithio ar hyd
at 50 swydd ar draws saith AP. Roedd chwe aelod o staff wedi cael eu hasesu fel
rhai oedd yn gymwys ar gyfer TUPE gyda’r cydbwysedd o bosib yn disgyn i’r grwpiau fyddai’n
cael eu hystyried ymlaen llaw. Roedd yr Asiant mewn
trafodaethau gyda phob AP ar hyn o bryd.
Codwyd y mater o alwadau/ymholiadau i’r ganolfan alw a
cheisiadau am wasanaeth gan Gwyn Morris Jones. Adroddodd DRC
y byddai’r Asiant yn defnyddio canolfannau galw pob AP ac yn gwneud cyfraniad
er mwyn bodloni costau AP.
iii) Cynllun a Rhaglen Gyflawni
Cyflwynwyd y proffil a’r
amserlen arbedion arfaethedig gan DRC. Dangosodd y rhaglen y byddai'r newidiadau
sefydliadol mwyaf arwyddocaol yn digwydd o fis Ebrill 2016 ymlaen.
Nododd DRC hefyd bod y mesurau a weithredwyd hyd yma eisoes wedi cynhyrchu
arbedion cost yn ystod 2014/15 a 2015/16.
Dogfennau ategol: