Agenda item

I ystyried yr Adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Gwasanaethau Corfforaethol a tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod enw’r Adran wedi cael ei newid o ‘Cefnogaeth Gorfforaethol’ i ‘Gwasanaethau Corfforaethol’ yn ddiweddar er mwyn cyfleu’r ystod o wasanaethau sy’n rhan o’r Adran.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran yn arwain ar chwe prosiect blaenoriaeth o fewn Cynllun y Cyngor 2023 -2028 ac yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg ar pob cyfle. Ychwanegwyd bod yr Adran hefyd yn cefnogi nifer o brosiectau eraill y Cynllun megis Blaenoriaethau Cynllun Ffordd Gwynedd 2023 -2028. Manylwyd bod yr Adran yn arwain a chyfrannu’n helaeth at wireddu blaenoriaethau megis:

 

·       Gweithlu Bodlon ac Iach

·       Cynllunio’r Gweithlu a Datblygu Talent

·       Cynllun Digidol y Cyngor

 

Adroddwyd bod y Gwasanaeth Ymchwil a gwybodaeth mewn trafodaethau rheolaidd gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Eglurwyd bod y Swyddfa ystadegau Gwladol yn cysidro peidio cynnal Cyfrifiadau yn y dyfodol ac yn ystyried casglu data mewn ffyrdd eraill i gasglu gwybodaeth debyg. Nodwyd ystyrir y Gwasanaeth a’r Adran bod parhau gyda’r Cyfrifiad yn ei ffurf bresennol yn arferiad pwysig i’w barhau.

 

Tynnwyd sylw bod y Gwasanaeth Cefnogol yn parhau i ddatblygu modiwlau hyfforddiant staff yn ddwyieithog drwy’r system Hunanwasanaeth mewnol. Ychwanegwyd eu bod wedi bod mewn cyswllt gyda swyddfa’r Disclosure and Barring Service (DBS) yn Lerpwl i roi pwysau arnynt ddatblygu ffurflen gais ar-lein Cymraeg, gan ofyn am ddiweddariad at ba bryd bydd y ffurflen honno ar gael i’w defnyddio.

 

Cyfeiriwyd at waith y Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith gan sôn am sesiynau Ymwybyddiaeth Iaith, Fforwm Iaith Gwynedd, Y Gymraeg mewn busnes, Byrddau partneriaethau, Prosiect Enwau Lleoedd ac Ymwelwyr Gwlad y Basg.

 

Mynegwyd balchder bod Cyngor Gwynedd wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr ‘Cyflogwr y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Gogledd Cymru 2025, yn dilyn gwaith yr Adran i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a dylanwadu ar ddarparwyr i ddarparu cyrsiau cyfrwng Cymraeg i hyfforddeion a phrentisiaid sy’n gyflogedig gan Cyngor Gwynedd.

 

Cadarnhawyd bod gwaith dylanwadol yn cael ei wneud yn y maes Caffael wrth i reoliadau Caffael newydd gael eu datblygu ar gyfer y dyfodol. Pwysleisiwyd bod y Gwasanaeth Caffael yn dylanwadu ar y trafodaethau hynny er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i’r broses Caffael i’r dyfodol.

 

Llongyfarchwyd swyddogion Menter Iaith Gwynedd am ddod i’r brig yng ngwobrau Mentrau Iaith Cymru yn ddiweddar. Eglurwyd bod y wobr yn ymwneud a’u gwaith ar ddatblygu Croeso Cymraeg.

 

Eglurwyd bod Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn ddatblygiad mae’r Adran yn ymwybodol ohono gan wneud defnydd pan yn briodol gan fod yn wyliadwrus o’r heriau o’i ddefnyddio. Nodwyd bydd y maes hwn yn cael ystyriaeth barhaus gan yr Adran wrth iddo ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf.

 

Adroddwyd bod 166 o’r 176 aelod o staff o fewn yr Adran wedi cwblhau’r hunanasesiad ieithyddol. Cadarnhawyd bod 119 o unigolion sydd wedi ei gyflawni yn cyrraedd Lefel Hyfedredd, 39 o unigolion ar Lefel Uwch ac 8 unigolyn yn cyrraedd Lefel Canolradd. Eglurwyd bod y 10 aelod o staff sydd heb gyflawni’r holiadur hyd yma yn newydd a bydd yn cwblhau’r holiadur cyn gynted a bod modd, yn unol â phwyslais yr Adran i bwysleisio ar ei bwysigrwydd.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Mynegwyd pryder bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ystyried addasu’r trefniadau ynghylch cynnal y cyfrifiad a gofynnwyd os oes ganddynt opsiynau eraill ar gyfer y dyfodol. Mewn ymateb i’r ymholiad cytunodd Pennaeth Adran Gwasanaethau Corfforaethol ei fod yn bwysig sicrhau bod data yn cael ei gasglu ac nid yw’r gwasanaeth Ymchwil a Data yn cytuno gyda’r awgrym o ddod a’r Cyfrifiad i ben. Fodd bynnag, nodwyd bod y Gwasanaeth yn croesawu newid os oes modd gwarantu bod yr holl ddata angenrheidiol yn cael ei gasglu drwy ddulliau newydd. Pwysleisiwyd bod yr Adran yn annog y Swyddfa Ystadegau Gwladol i barhau gyda’r Cyfrifiad.

 

Tynnwyd sylw at brosiect newydd sydd ar y gweill o fewn yr Adran ble mae’r Uned Iaith, Dysgu a Datblygu, Adnoddau Dynol a’r tîm Cyfathrebu yn cydweithio er mwyn chwalu mythau ieithyddol. Mewn ymateb i ymholiad am beth yw’r rhai o’r mythau sydd yn bodoli eisoes, eglurodd Pennaeth Adran Gwasanaethau Corfforaethol bod y cyhoedd yn dueddol o gredu bod angen Cymraeg perffaith er mwyn gweithio yn y Cyngor. Manylwyd bod y gwaith traws-wasanaethol hwn yn anelu i addasu swydd ddisgrifiadau er mwyn eu gwneud yn fwy syml a hygyrch gan bwysleisio bod rhai swyddi angen lefelau gwahanol o allu yn y  Gymraeg. Ychwanegodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu bod y gwaith hwn yn deillio o rôl y Cyngor ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn sydd yn ceisio datblygu cyfres o fideos sydd yn dangos i bobl beth yw gwir anghenion ieithyddol gwahanol swyddi o fewn y Cyngor. Nodwyd hefyd bod y gefnogaeth sydd ar gael i unrhyw un sydd eisiau cymorth i wella eu sgiliau Cymraeg, neu eu hyder i ddefnyddio’r iaith, yn cael ei ddarparu gan y Cyngor. Cydnabuwyd bod mythau ieithyddol yn her benodol ar gyfer recriwtio yn y maes Gofal, ond bod gwaith yn cael ei wneud i chwalu’r mythau hyn drwy ddefnyddio adnoddau’r Cyngor a datblygu adnoddau penodol ar gyfer y maes hwn drwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Ymholwyd am drefniadau’r gwasanaeth Cofrestru gan ystyried os oes modd defnyddio ffurflenni Cymraeg neu ddwyieithog ar gyfer cofrestru genedigaethau a marwolaethau erbyn hyn. Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth Adran Gwasanaethau Corfforaethol nad oes modd defnyddio ffurflenni Cymraeg na dwyieithog ar hyn o bryd gan nad yw systemau gweinyddol y Gwasanaeth yn caniatáu hynny. Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod y trafodaethau gyda defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu cynnal yn Gymraeg pan mae modd. Ychwanegodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu bod yr heriau hyn yn deillio o Lywodraeth San Steffan ac bod lobïo parhaus yn mynd rhagddo er mwyn i’r iaith fod yn weledol ar y ffurflenni pwrpasol yn y dyfodol.

 

Gofynnwyd beth yw’r trefniadau i’r aelodau staff hynny sydd angen mynychu hyfforddiant iaith gan eu bod yn dysgu’r Gymraeg o’r newydd, gan ystyried os ydynt yn cael amser i ffwrdd o’r gwaith a chymorth ariannol i fynd at danysgrifiadau megis ‘Say Something In Welsh’. Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth Adran Gwasanaethau Corfforaethol bod trefniadau penodol yn cael eu gwneud ar gyfer pob aelod o staff sydd yn dysgu’r Gymraeg yn seiliedig ar eu hanghenion unigol. Sicrhawyd bod hyfforddiant wythnosol yn cael ei ddarparu o fewn oriau gwaith arferol mewn sesiynau o hyd at 3 awr rhwng mis Medi a mis Mehefin, a bod yr aelodau staff yn cael eu rhyddhau o’r gwaith i fynychu. Ychwanegwyd bod safle ‘Hwb Hyfforddiant Iaith’ yn dangos i staff beth sydd ar gael yn ychwanegol i hyn. Cadarnhawyd bod gwybodaeth am hyfforddiant newydd yn cael ei rannu yn chwarterol yn dilyn cyfarfodydd o’r Fforwm Dynodiadau Iaith. Esboniwyd nad oes unrhyw aelod o staff wedi gwneud cais am gymorth gyda thanysgrifiadau ond bod croeso i ddysgwyr wneud defnydd o Say Something In Welsh neu Duolingo os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

 

Holiwyd am fwy o wybodaeth am ymweliad diweddar gynrychiolwyr Gwlad y Basg. Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Iaith bod yr ymweliad hwn yn un anffurfiol ar y cyd gyda Phrifysgol Bangor, ARFOR, Menter Iaith Gwynedd a’r adran Economi a Chymuned. Eglurwyd bod yr Uned Iaith wedi darparu cyflwyniad ar Bolisi Iaith Cyngor Gwynedd, gwybodaeth am y Strategaeth Iaith, hyrwyddo gwaith y Fenter Iaith a thynnu sylw at sefydliadau pwysig eraill. Mynegwyd balchder bod y Basgwyr o’r farn fod trefniadau Cyngor Gwynedd yn arloesol ac yn uchelgeisiol iawn. Ychwanegodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu bod y Basgwyr yn rhoi buddsoddiad ariannol i’r iaith er mwyn sicrhau ei fod yn ganolog i weithrediad cyffredinol y wlad. Nodwyd nad yw hyn pob amser yn wir yng Nghymru a bod Cyngor Gwynedd yn arwain y ffordd drwy ddatblygu Strategaeth a Pholisi Iaith arloesol sy’n dylanwadu ar sefydliadau eraill.

 

Gofynnwyd a oes gwaith ymgynghori cymunedol yn digwydd trwy’r Prosiect Enwau Lleoedd gan gyfeirio at gynllun pellgyrhaeddol Parc Cenedlaethol Eryri a oedd yn gwahodd trigolion lleol i gofnodi enwau ar adeiladau ac ardaloedd lleol ar fap. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu bod gwaith tebyg wedi cael ei gynnal gan Gyngor Gwynedd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan. Cydnabuwyd nad oes mwy o’r sesiynau wedi cael eu cynnal er mwyn peidio mynd ar draws y gwaith pwysig mae’r Parc yn ei wneud yn y maes. Fodd bynnag, nodwyd y byddai’r sylw’n cael ei ystyried wrth lunio’r rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar hyfforddiant Cadernid Iaith, cadarnhaodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu bod yr hyfforddiant hwn yn parhau i gael ei gynnal. Eglurwyd mai nod yr hyfforddiant yw ceisio sicrhau nad yw sgyrsiau yn cael eu troi i’r Saesneg yn ddiangen, drwy sicrhau bod pobl yn parhau i ddefnyddio’r Gymraeg yn gwrtais mewn sefyllfaoedd cymunedol i addysgu eraill am yr iaith.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

 

Dogfennau ategol: