Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Nia Jeffreys

Penderfyniad:

(1)  Cytunwyd i lunio Cytundeb Partneriaeth a Chyllido (Atodiad 1) lle trosglwyddir rôl corff Atebol, cyfrifoldeb dros gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru a'r trefniadau cyllido ar gyfer y Cynllun Twf i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar neu cyn 31 Mawrth 2025.

(2)  Cytunwyd i amnewid a neilltuo yn ôl y galw, cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru a hawliau a rhwymedigaethau ym mhob cytundeb cyllido a ddaw i mewn a ddelir gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran trosglwyddiad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ("y Bwrdd Uchelgais") i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ("y CBC");

(3)  Cytunwyd i drosglwyddo ac amnewid a/neu neilltuo'r holl fuddiannau yn y portffolio o brosiectau a ariennir gan Gynllun Twf Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw gytundebau, taliadau a phrydlesi ategol gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran y Bwrdd Uchelgais i'r CBC.

(4)  Cytunwyd i drosglwyddo a / neu aseinio'r holl falansau ariannol, arian sy'n ddyledus ac asedau fel a ddelir ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru gan Gyngor Gwynedd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

(5)  Cytunwyd i ddirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro a'r Swyddog Adran 151, i gytuno a gweithredu'r cytundebau, y gweithredoedd a phob dogfen gyfreithiol arall yn eu ffurf terfynol, sy'n angenrheidiol i weithredu'r trosglwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1), (2) a (3) uchod.

(6)  Ar ôl cwblhau'r Cytundeb Partneriaeth a Chyllido, cytunwyd i derfynu cytundeb GA2 a dirwyn Cyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ben.

(7)  Cytunwyd i drosglwyddo atebolrwydd i'r CBC a bod y CBC yn derbyn cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau ar gyfer gweithredu Cynllun Twf Gogledd Cymru yn amodol ar amnewid y Cynllun Twf a chymeradwyo Rheolau Sefydlog Tud. 251 ychwanegol sy'n ymgorffori telerau allweddol y Cytundeb Cyd-weithio ("GA2") rhwng y 6 Cyngor Cyfansoddol a'r 4 parti Addysg.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Monitro.

PENDERFYNIAD

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu ei fod yn adroddiad technegol iawn. Darparwyd y cefndir gan gyfeirio at y penderfyniad i fuddsoddi arian cyhoeddus yn y rhanbarth nôl yn 2020 a sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn 2021. Eglurwyd bod gan y CBC dair swyddogaeth benodol ar hyn o bryd sef datblygu polisïau trafnidiaeth rhanbarthol, paratoi Cynllun Datblygu Strategol a gwaith Lles Economaidd. Nodwyd bod penderfyniad mewn egwyddor ar draws chwe awdurdod y Gogledd i drosglwyddo’r Cynllun Twf i’r CBC.

Cyfeiriwyd at yr oedi wrth symud y prosiect yn ei flaen ac wrth sefydlu’r CBC a’r rhesymau dros yr oedi megis y rheoliadau ar drefn ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig yn parhau i ddatblygu. Amlygwyd bod tîm prosiect yn gweithio ar drosglwyddo’r Cynllun Twf i’r CBC; bydd hyn yn y pen draw yn golygu y bydd Gwynedd yn gallu camu nôl o’r rôl awdurdod lletyol. Eglurwyd y bydd y grantiau yn trosglwyddo i gyfrifoldeb y Cyd-bwyllgor ond bydd Craffu yn parhau efo’r Cynghorau.

Esboniwyd bod adroddiad tebyg yn mynd ger bron Cabinet y Cynghorau eraill yn fuan a ger bron y ddwy brifysgol er mwyn cytuno i drosglwyddo ar 31 Mawrth 2025. Nodwyd mai Cyngor Gwynedd yw’r Cyngor cyntaf i wneud y penderfyniad.

Nid oedd unrhyw sylwadau na chwestiynau.

Awdur:Iwan Evans, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol

Dogfennau ategol: