Agenda item

Estyniad deulawr yng nghefn yr eiddo

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau

 

1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd

2. Unol a’r cynlluniau

3. Deunyddiau i weddu

4. Gwelliannau Bioamrywiaeth 

5. Sicrhau nad oes dwr wyneb yn rhedeg i’r briffordd.

 

Nodyn : Dŵr Cymru

 

Cofnod:

Estyniad deulawr yng nghefn yr eiddo

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 30-01-25

 

a)           Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn un ar gyfer dymchwel ystafell amlbwrpas bresennol yng nghefn yr eiddo a chodi estyniad deulawr to fflat. Gohiriwyd y cais ym mhwyllgor mis Ionawr 2025 er mwyn cynnal ymweliad safle. Eglurwyd bod yr eiddo yn eiddo par mewn ardal anheddol o fewn dinas Bangor gyda’r cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr aelod lleol.

 

Cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd. O safbwynt dyluniad ac edrychiad, ystyriwyd nad oedd y math yma o estyniad yn annisgwyl mewn llefydd anheddol ac felly ni fyddai’n cael effaith weledol annerbyniol. Mewn ymateb i sylwadau oedd yn codi pryder am golli golau, nodwyd bod asesiad manwl o’r effeithiau wedi dod i gasgliad na fydd effaith yr estyniad yn niweidiol ar sail colli golau nac effaith gormesol (er yn estyniad deulawr dim ond 0.5m yn hirach na’r estyniad cefn presennol ydoedd).

 

Amlygwyd bod yr Aelodau yn ystod yr ymweliad safle wedi awgrymu rendr golau ar waliau’r estyniad a bod yr awgrym yma yn dderbyniol. Nodwyd hefyd bod yr ymgeisydd wedi datgan fod bwriad i symud y sied gardd bresennol i gongl uchaf yr ardd ar y chwith fydd o ganlyniad yn caniatáu mwy o olau yng nghefn rhif 16.

 

Cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ynghylch problemau gorlif dŵr ehangach ar y stryd yn gyffredinol, ynghyd ag effaith y datblygiad ar ddraeniau'r ardal. Nodwyd bod y sylwadau a dderbyniwyd gan Dŵr Cymru yn gofyn am amod i atal llif ychwanegol o ddŵr wyneb i’r system garthffosiaeth. Nid oedd gan Uned Draenio’r Cyngor wrthwynebiad i’r bwriad. Er yn cydnabod y pryder, nid oedd unrhyw dystiolaeth gadarn yn amlygu y byddai’r  estyniad yn cael effaith ar y sefyllfa bresennol nac yn ei waethygu. Yn ddibynnol ar natur y draeniau, preifat neu yn rhan o’r sustem draenio gyhoeddus, ategwyd y bydd gwarchodaeth unai drwy’r drefn rheolaeth adeiladau neu reolau Dŵr Cymru ac felly ni ystyriwyd bod  rheswm cynllunio i wrthwynebu’r bwriad ar sail materion draenio.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol, y polisïau a’r canllawiau lleol a chenedlaethol, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol. Roedd y Swyddogion yn argymell caniatáu y cais gydag amodau.

 

b)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·        Ei bod yn gwrthwynebu’r cais

·        Bod Hafod Planning ar ran deilydd rhif 16 wedi amlygu dadleuon dros wrthwynebu’r cais

·        Bod tri mater dadleuol dros wrthod - draenio, mwynderau ac effaith ar gymeriad

·        Cymeriad – byddai’r tŷ yn ymddangos yn wahanol iawn i bob tŷ arall ac yn creu effaith weledol sylweddol i edrychiad tŷ pâr. Yr estyniad, ar raddfa anferth

·        Mwynderau - rhif 16 yn colli golau a’r estyniad yn creu goredrych sylweddol annioddefol; o ystyried natur topograffi'r ardal bydd y datblygiad yn gwaethygu’r sefyllfa

·        Bod patio rhif 16 yn colli golau oherwydd gosodiad sied rhif 14

·        Draenio - rhaid ystyried tirwedd serth yr ardd yng nghefn yr eiddo ynghyd a draen sydd wedi ei gosod rhwng rhif 14 ac 16 i ymdrin â dŵr wyneb

·        Bydd y gwaith gosod sylfaen ar yr estyniad yn debygol o gael effaith – yr elfen yma heb ei gyfarch gan swyddogion

·        Draeniad, gorlifiad, dwr wyneb a newid hinsawdd yn arwain at gynnydd mewn lefelau dŵr yn yr ardal - angen cyfarfod gyda YGC i drafod hyn. Rhai tai yn y stryd gyda thamprwydd a phympiau dŵr - y sefyllfa angen asesiad trylwyr a system draenio gadarn i osgoi trafferthion yn y tymor hir

·        Yn annog y Pwyllgor i wrthod y cais

 

c)         Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn unol ar argymhelliad

 

d)         Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau:

 

·        Bod yr ymweliad safle wedi bod yn fuddiol – yr ardal yn gyfyng gyda thir serth i’r cefn

·        Bod y bwriad yn orddatblygiad – allan o gymeriad i weddill y stryd

·        Bod y datblygiad yn un o dŷ pâr ac felly angen ystyried barn preswylydd rhif 16

·        Awgrym gosod amod i symud y sied i lecyn llai ymwthiol ac amlwg yn yr ardd

·        Bod yr estyniad yn ymateb i angen teulu

·        Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol - angen sicrhau ystyriaeth i lesiant trigolion

·        Dim sylwadau gan Cyngor Dinas Bangor

 

Mewn ymateb i awgrym am amod i symud y sied, nodwyd nad oedd modd gosod amod gan nad oedd yn rhan o’r cais, ond cyfeiriwyd at y sylwadau hwyr oedd yn datgan bod yr ymgeisydd yn bwriadu symud y sied i gongl uchaf yr ardd.

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau

 

1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd

2. Unol a’r cynlluniau

3. Deunyddiau i weddu

4. Gwelliannau Bioamrywiaeth 

5. Sicrhau nad oes dwr wyneb yn rhedeg i’r briffordd.

 

Nodyn : Dŵr Cymru

 

Dogfennau ategol: