Cais llawn i gynnal gwelliannau i'r safle i
gynnwys man ddiwygiadau i leoliad a dyluniad adeilad gwasanaethau a ganiatawyd
yn flaenorol ynghyd ac ymestyn lonydd presennol a gwelliannau amgylcheddol
Aelod Lleol: Cynghorydd John Brynmor Hughes
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: CANIATAU gydag
amodau
1. Amser
2. Cydymffurfio
gyda cynlluniau
3. Cynnal
y datblygiad yn unol ac adroddiad ecolegol
4. Cynnal y datblygiad yn unol a Chynllun Rheolaeth Adeiladu
Amgylcheddol
5. Cynnal
y datblygiad yn unol a chynllun goleuo
6. Cyfyngu
niferoedd carafanau
7. Cyfyngu
cyfnod defnydd y safle
8. Tynnu pob
carafán o’r safle y tu allan i gyfnod defnydd y safle
9. Cyfyngu
storio carafán/cwch/cerbyd tu allan i’r lleiniau ffurfiol
10. Cyfyngu
defnydd y carafanau i ddefnydd gwyliau yn unig
11. Arwyddion
dwyieithog
12. Enw
Cymraeg
13. Deunyddiau.
14. Cynllun
tirlunio
15. Materion
draenio
Cofnod:
Fferm Fronhyfryd, Bwlchtocyn,
Pwllheli, Gwynedd, LL53 7EU
Cais llawn i gynnal gwelliannau i'r safle i gynnwys
man ddiwygiadau i leoliad a dyluniad adeilad gwasanaethau a ganiatawyd yn
flaenorol ynghyd ac ymestyn lonydd presennol a gwelliannau amgylcheddol
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd
yn ymwneud â gwelliannau i safle carafanau teithiol a gwersylla
presennol gan gynnwys diwygio lleoliad a dyluniad adeilad gwasanaethau o'r hyn
a ganiatawyd yn flaenorol ynghyd ac ymestyn lonydd mynediad o fewn y safle a
chynnal gwelliannau amgylcheddol. Ni fydd cynnydd yn niferoedd o garafanau
teithiol ar y safle o'r 24 a ganiatawyd yn flaenorol. Byddai’r carafanau yn
parhau i gael eu lleoli o amgylch ffin y safle gerllaw gwrychoedd presennol
sydd yn amgylchynu'r safle.
Yng nghyd-destun mwynderau gweledol,
nodwyd bod bwriad cynnal tirlunio ychwanegol drwy blannu coed a gwrychoedd
newydd ar y tir. Adroddwyd na fyddair
bwriad yn debygol o greu nodwedd ymwthiol nac amlwg yn y dirwedd sydd o fewn
dynodiad yr AHNE. Yn yr un modd, nodwyd bod y safle o fewn Tirwedd o Ddiddordeb
Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Enlli ac o ran lleoliad a maint ni fyddai’n cael
effaith ehangach ar y dirwedd hanesyddol ac felly yn cydymffurfio gyda Polisi
AT1
Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, ystyriwyd
bod dyluniad yr adeilad gwasanaethau yn dderbyniol ac yn gweddu i’r ardal a bod
cynigion gwella bioamrywiaeth yn dderbyniol ac yn unol â pholisïau perthnasol.
Cyfeiriwyd at lythyr o wrthwynebiad a
dderbyniwyd yn nodi cynnydd yn y nifer o garafanau tymhorol yn yr ardal leol.
Nodwyd y byddai’r nifer carafanau yn cael ei reoli trwy amodau a phwysleisiwyd
mai cais am welliannau yn unig oedd yma a bod hawl defnydd eisoes yn bodoli.
O ystyried y
polisïau a’r canllawiau lleol a chenedlaethol roedd y Swyddogion yn argymell
caniatáu y cais
b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Prif
bwrpas y bwriad oedd symud adeilad gwasanaethau i ffwrdd o’r garthffos
gyhoeddus
·
Bod
yr ymgeisydd eisiau gwella’r safle
·
Bod
enw Cymraeg i’r safle a gwybodaeth ddwyieithog ar eu gwefan ynghyd ag arwyddion
dwyieithog o gwmpas y safle
·
Os
caniatáu, gobeithir cyflawni'r gwaith cyn dechrau tymor Haf 2025
c)
Yn
manteisio ar yr hawl i gyflwyno sylwadau, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Nad
oedd ganddo farn bersonol ar y mater
·
Problemau
posib yw bod y ffordd yn gul (traffig), sŵn, a’r hen dip sbwriel.
Mewn ymateb i sylw gan yr Uned Trwyddedu bod
angen sicrhau 3m rhwng y carafanau a’r gwrych ac os gellid amodi hyn, nodwyd
nad oedd angen amod, ond bod rhaid i’r ymgeisydd sicrhau cydymffurfiaeth wrth
geisio trwydded.
Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
PENDERFYNWYD CANIATÁU
gydag amodau
1. Amser
2. Cydymffurfio
gyda chynlluniau
3. Cynnal
y datblygiad yn unol ag adroddiad ecolegol
4. Cynnal
y datblygiad yn unol â Chynllun Rheolaeth Adeiladu Amgylcheddol
5. Cynnal
y datblygiad yn unol â chynllun goleuo
6. Cyfyngu
niferoedd carafanau
7. Cyfyngu
cyfnod defnydd y safle
8. Tynnu pob
carafán o’r safle y tu allan i gyfnod defnydd y safle
9. Cyfyngu
storio carafán/cwch/cerbyd tu allan i’r lleiniau ffurfiol
10. Cyfyngu
defnydd y carafanau i ddefnydd gwyliau yn unig
11. Arwyddion
dwyieithog
12. Enw Cymraeg
13. Deunyddiau.
14. Cynllun
tirlunio
15. Materion
draenio
Dogfennau ategol: