Cais ôl weithredol i ail adeiladu
bwthyn gyda estyniadau deulawr ochr ac estyniad unllawr cefn
Aelod Lleol: Cynghorydd Angela
Russell
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: GWRTHOD yn groes i’r argymhelliad
Rhesymau:
·
Gor ddatblygiad
·
Effaith niweidiol
ar y tirwedd / AHNE yn groes i polisi TAI 13.
Cofnod:
Cais ôl weithredol i ail
adeiladu bwthyn gyda estyniadau deulawr ochr ac estyniad unllawr
cefn
a)
Amlygodd Arweinydd
Tîm Rheolaeth Datblygu bod y cais yn un
ar gyfer dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le. Eglurwyd
bod y safle wedi ei leoli ar gyrion pentref Llanbedrog a thu allan i unrhyw
ffin ddatblygu ac wedi ei amgylchu gan goedlan sefydledig eang gyda’r tir yn
codi mewn uchder i gefn ag ochr yr eiddo. Ategwyd bod y safle a’r ardal
ehangach oddi mewn dynodiadau AHNE ynghyd a Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol
Eithriadol.
Nodwyd nad oedd y bwriad yn golygu
cynnydd yn y nifer o ystafelloedd gwely a bod gwybodaeth a gyflwynwyd gyda’r
cais yn cadarnhau mai bwthyn gwyliau yw defnydd presennol a bwriedig
yr eiddo. O ganlyniad, nid oedd unrhyw newid yn y defnydd. Mynegwyd bod
caniatâd cynllunio wedi ei roi yn 2021 ar gyfer ymestyn yr eiddo gwreiddiol,
ond y cais presennol yn ganlyniad o’r bwriad hynny yn dilyn darganfod nad oedd
y bwthyn gwreiddiol yn addas ar gyfer ei ymestyn.
Tynnwyd
sylw at Polisi TAI 13 sy’n ymwneud yn benodol ag ail-adeiladu tai, a’r meini
prawf perthnasol. Nodwyd fod Adroddiad Strwythurol o’r bwthyn gwreiddiol wedi
ei gyflwyno gan beiriannydd cymwysedig yn cyfiawnhau’r gwaith dymchwel oedd ei
angen oherwydd diffygion sylweddol. Yn ogystal, ystyriwyd bod graddfa’r bwriad
yn debyg i’r hyn oedd wedi ei ganiatáu yn flaenorol fel estyniadau i’r bwthyn
gwreiddiol.
Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, nid
yw’r safle yn gwbl weladwy o fannau cyhoeddus ac ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol o ran ei ddyluniad a gorffeniad. Ni ystyriwyd y byddai yn cael
effaith andwyol ar y tirlun ehangach gan gynnwys yr AHNE na’r Dirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol chwaith. Saif ymhell o unrhyw eiddo arall ac
ni fyddai’n cael effaith andwyol ar unrhyw drigolion cyfagos. Ni ystyriwyd y
byddai’n cael unrhyw effaith ar ddiogelwch ffyrdd, gan fod lle digonol i droi a
pharcio ar y safle.
Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth,
nodwyd bod y bwriad yn cynnwys gwelliannau derbyniol fydd yn cael eu sicrhau
drwy amod cynllunio.
Yng nghyd-destun materion ieithyddol,
nid yw’r bwriad yn golygu unrhyw newid defnydd ac nid oes cynnydd yn y nifer
ystafelloedd gwely. O ganlyniad, ni ystyriwyd y byddai’n cael unrhyw effaith ar
yr Iaith Gymraeg.
Wedi
ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol, ni ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol ac roedd y swyddogion yn argymell caniatáu’r cais gydag amodau
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr
ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Bod caniatâd
cynllunio wedi ei ganiatáu yn 2021 gyda gwaith adeiladu wedi dechrau'r Haf
canlynol
·
Yn dilyn glaw
trwm, sylweddolwyd bod y sylfeini yn ddiffygiol ac ansefydlog oedd wedi arwain
at waith ychwanegol
·
Addaswyd y
cynlluniau fel bod modd gwella mynediad a symud lleoliad y gegin i geisio mwy o
olau
·
Bod rhan
ganolig wreiddiol tŷ wedi ei gadw
a’r gwaith carreg wreiddiol wedi ei ddadorchuddio
·
Bod y system
draenio wedi ei adnewyddu – system wedi ei moderneiddio
·
Bod y drws
ffrynt wedi ei adfer
·
Bod y tŷ
wedi ei adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
c)
Yn manteisio ar
yr hawl i gyflwyno sylwadau, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:
·
Bod ceisiadau
ôl weithredol ar gynnydd yn ei ward ers tro byd gyda nifer helaeth o'r
trigolion yn cysylltu yn gofyn iddi ymyrryd; yn amlygu pryder oherwydd diffyg
parch tuag at bolisïau cynllunio lleol .
·
Y gred yw ‘fod
un rheol i bobl leol i fyw mewn tai 94 medr sgwâr a rheol arall i berchnogion
tai haf ac unedau gwyliau’! Ymddengys fod hawliau ganddynt i ddymchwel ac
ymestyn maint ei heiddo
·
Bod y cais yn
enghraifft glasurol o ymestyn a dymchwel ac ail adeiladu yn fwy na'r hyn sydd
yn dderbyniol.
·
Bod y cais oddi
fewn i ffin yr AHNE a Tirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Enlli -
yr adroddiad yn fwriadol dewis peidio atgoffa Aelodau fod "Ddyletswydd
Statudol i warchod y tiroedd dynodedig yma"
·
Cyngor Cymuned
yn nodi ... "Mae'r adeilad newydd yn sylweddol fwy na'r adeilad gwreiddiol
", ond eto fyth dywed y swyddog "dim ond yn fymryn mwy" heb
ychwanegu faint yn fwy yn llorweddol mewn medrau sgwâr ychwanegol .
·
Dywed y Cyngor
Cymuned fod y gwaith peirianyddol wedi cael cryn effaith ar fioamrywiaeth a
hynny yn groes i bolisïau. e.e., dywed yr adran bioamrywiaeth fod yna bosib fod
y gwaith wedi niweidio clwydfannau ystlumod a
chynefinoedd ystlumod.
·
Byddai costau
gwella, trwsio ac addasu er mwyn cyrraedd gofynion y perchnogion, a safonau
cyffredinol yn "debygol o fod yn sylweddol a gwaharddol " - peryg eto
o beidio cael adroddiad sydd heb ei
gomisiynu gan yr ymgeisydd. Dylid cael adroddiad strwythurol di duedd gan
drydydd parti - digon hawdd yw rhoi adroddiad o'r fath gerbron ar ôl i'r
tŷ gael ei ddymchwel ac yna rhoi cais ôl weithredol gerbron
·
Adeiladu o fewn
ôl troed - yn gwbl amlwg i’r rhai sydd yn gyfarwydd hefo'r
lleoliad, fod y tŷ newydd yn sylweddol fwy na’r bwthyn gwreiddiol. Bod
hanes o un estyniad ar ôl y llall cyn i'r cais ôl weithredol ddod gerbron y
Pwyllgor Cynllunio. Y swyddog yn datgan "fod yna newidiadau helaeth wedi
eu cynnal i'r adeilad dros y blynyddoedd"
·
Bod trigolion
Llanbedrog yn erfyn ar y Pwyllgor i wrthod y cais - gôr ddatblygiad o'r safle
a'r effaith niweidiol ar yr AHNE a Tirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol
Llyn ac Enlli.
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais
Rhesymau:
Bod y bwriad yn or ddatblygiad ac y byddai’n cael effaith niweidiol ar yr AHNE
d) Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau:
·
Bod sawl
estyniad yma – heb gadw at y sylfaen / ôl troed gwreiddiol
·
Bod yr eiddo
bellach yn sylweddol wahanol i’r bwthyn gwreiddiol
·
Bod diffyg
parch i broses gynllunio Cyngor Gwynedd - dylai pensaer, os oes angen addasu
cynlluniau, wybod bod angen rhoi gwybod i’r adran cynllunio.
·
Cais ôl-weithredol
arall – angen rheolaeth o’r sefyllfa – yn datblygu yn beth ffasiynol
·
Angen
pwysleisio bod angen caniatâd cynllunio. Oes diffygion yn y system?
·
Bod y tŷ
newydd o faint sylweddol – yn llawer mwy na’r gwreiddiol – adeiladau ôl troed
yw’r gofyn.
·
Pryder gosod
cynsail o ddymchwel tai bach ac adeiladu tai mawr yn eu lle
·
Maint tai tair
llofft i bobl leol yn 94m2!
·
Byddai’n creu
effaith niweidiol ar yr AHNE – coed wedi eu torri
Mewn ymateb i gwestiwn bod y tŷ gwreiddiol yn dŷ haf sydd
bellach wedi ei ddymchwel ac os yw’r bwriad bellach yn gynllun tŷ o’r
newydd, a fyddai angen ail ystyried defnydd newydd y tŷ, nodwyd bod Polisi
13 (Dymchwel ac Ail godi sy’n cyfeirio at ddefnydd tŷ), yn nodi os yw’r
defnydd gwyliau yn bodoli yn barod nid oes felly angen ystyried newid y
defnydd. Petai amod yn cael ei osod yn cyfyngu’r defnydd gwyliau, byddai’r hawl
i godi tŷ yn cael ei golli.
Mewn ymateb i sylw am ôl troed y tŷ newydd, nodwyd bod y bwthyn
gwreiddiol yn mesur 148m2 gyda chaniatáu
addasu yn mesur 184m2: Adeiladwyd 201m2 sydd yn ei gyfanrwydd oddeutu 50m2 o
arwynebedd yn fwy na’r gwreiddiol.
Mewn ymateb i gwestiwn mai ail gartref sydd yma ac nid bwthyn gwyliau ac
os byddai hawl newid y defnydd, nodwyd bod hawl i’w newid os byddai angen, ond
byddai hyn yn golygu colled o dŷ lleol.
PENDERFYNWYD: GWRTHOD yn groes i’r argymhelliad
Rhesymau:
·
Gorddatblygiad
·
Effaith niweidiol ar y dirwedd / AHNE yn groes i bolisi TAI 13.
Dogfennau ategol: