Agenda item

Cais ar gyfer codi 16 annedd gyda mynedfa cysylltiol, parcio a thirweddu

Aelod Lleol: Cynghorydd Huw Rowlands

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:   CANIATÁU yn ddarostyngedig i’r amodau isod:-

1.       5 mlynedd.

2.       Yn unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.       Llechi naturiol.

4.       Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai i’w cytuno gyda’r ACLL.

5.       Amodau Priffyrdd.

6.       Tirlunio meddal a chaled.

7.       Amodau Bioamrywiaeth a Choed gan gynnwys gwelliannau bioamrywiaeth a chynllun rheoli cynefin

8.       Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00 - 18:00 yn yr wythnos, 08:00 - 12.00 ar ddydd Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gwyliau Banc.

9.       Cytuno manylion parthed enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle.

10.     Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau fforddiadwy.

11.     Tynnu hawliau datblygu cyffredinol o’r unedau fforddiadwy.

12.     Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu gan gynnwys darpariaeth parcio cerbydau’r adeiladwyr.

13.     Cyflwyno manylion goleuadau allanol i’w gytuno gyda’r ACLL cyn iddynt gael eu gosod.

14.     Amod mesurau lliniaru archeolegol.

15.     Darparu a diogelu’r llecyn agored ar gyfer y dyfodol

16.     Amod Dŵr Cymru

17.     Amodau Gwarchod y Cyhoedd (Sŵn, Llwch, Niwsans)

18.     Cynllun rheoli Amgylcheddol Adeiladu

19.     Manylion paneli PV solar ar doeau’r tai ynghyd a phympiau gwres ffynhonnell aer

20.     Arwyddion Cymraeg

 

Nodiadau: Dŵr Cymru, Priffyrdd, SUDS

 

Cofnod:

Tir Ger Talardd, Dinas, Caernarfon, LL54 7YN

 

Cais ar gyfer codi 16 annedd gyda mynedfa cysylltiol, parcio a thirweddu

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)     Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer darparu 16 o dai fforddiadwy gyda chymysgedd o dai, byngalos a fflatiau fydd hefyd yn darparu mynedfa i gerddwyr i’r briffordd A487, mynedfa gerbydol o’r safle a llecyn chwarae ffurfiol gyda chyfarpar yng nghanol y safle. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli yn rhannol o fewn ffin ddatblygu pentref Dinas, gyferbyn a modurdy a siop cyfarpar gweithgareddau awyr agored, gyda thai  preswyl wedi eu lleoli gyferbyn ac wrth ei ochr. Ategwyd bod y safle wedi ei ddefnyddio fel compownd ar gyfer datblygiad tai union drws nesaf, a chyn hynny fel maes parcio anffurfiol wedi dymchwel bwyty oedd wedi ei leoli yno.

 

Gyda mwyafrif o’r safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Dinas ystyriwyd Polisi TAI 4, ond hefyd gyda rhan bychan o’r safle wedi ei leoli y tu allan i’r ffin ddatblygu ac felly yn destun polisi TAI 16 fel safle eithrio. Nodwyd bod lefel cyflenwad dangosol o dai i Dinas, ynghyd a’r nifer o unedau sydd wedi eu cwblhau, a’r banc tir yn golygu y byddai’r pentref yn mynd y tu hwnt i’w lefel twf dangosol, ac felly’n ofynnol cael cyfiawnhad ar gyfer y bwriad ynghyd a datganiad iaith.

 

Mynegwyd y byddai’r tai yn cael eu rheoli gan Landlord Cymdeithasol Cofrestredig Adra sydd yn darparu tai cymunedol i’r ardal. Nodwyd bod Datganiad Tai Fforddiadwy a Datganiad Cymysgedd Tai wedi eu cyflwyno gyda’r cais yn nodi fod angen wedi ei brofi ar gyfer tai llai er mwyn diwallu angen teuluoedd llai. Ystyriwyd, o ran polisi cynllunio, bod y bwriad yn darparu nifer priodol o dai fforddiadwy a bod cymysgedd briodol o dai wedi eu cynnig yn unol â’r angen sydd wedi ei adnabod ac wedi ei gadarnhau gan yr Uned Strategol Tai. Yn ychwanegol, cyfeiriwyd at ffigyrau’r Uned oedd yn cadarnhau fod diffyg 255 o unedau yn yr haen Pentrefi a Chlystyrau, ac felly o ganlyniad i hyn, ac i’r angen sydd wedi ei brofi, ystyriwyd fod cyfiawnhad ar gyfer yr unedau.

 

Adroddwyd bod yr holl unedau yn cael eu cynnig fel rhai fforddiadwy ac er mwyn rheoli’r ddarpariaeth fforddiadwy o safbwynt polisi cynllunio, mae bwriad gosod amod safonol fydd yn gofyn cytuno â’r cynllun darparu’r tai fforddiadwy. Nodwyd bod Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy yn cadarnhau bod angen unedau fforddiadwy o fewn Pentrefi i ddarparu ar gyfer yr angen lleol, sef pobl sydd angen tŷ fforddiadwy ac sydd wedi byw yn y Pentref neu’r ardal wledig gyfagos am gyfnod di-dor o bum mlynedd neu fwy; y Canllaw hefyd yn cadarnhau fod ardal wledig gyfagos yn cael ei ddiffinio fel unrhyw Gyngor Cymuned sydd yn cael ei rhannu gan y pellter o 6km o’r safle datblygiad gan eithrio eiddo o fewn ffin datblygu unrhyw anheddiad, oni bai am yr anheddiad hwnnw lle mae’r cais wedi ei leoli.

 

Cyflwynwyd Datganiad Iaith Gymraeg gyda’r cais sy’n dod i’r canlyniad na fydd disgwyl i’r datblygiad arfaethedig arwain at unrhyw effeithiau negyddol ar y Gymraeg, ac y byddai’n debygol o gael effaith buddiol bychan o gysidro mai tai fforddiadwy i bobl leol sy’n cael eu cynnig. Derbyniwyd sylwadau’r Uned Iaith ar y datblygiad oedd o’r farn y byddai’r bwriad yn cael effaith cadarnhaol bychan ar yr Iaith yn yr ardal.

 

Nodwyd fod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn yn nodi nad yw Polisi Gosod Tai Cyffredin Gwynedd yn rhoi ystyriaeth i’r Iaith, ac felly ni ellid sicrhau beth fydd effaith y datblygiad ar yr iaith. Ategwyd bod asiant y cais wedi darparu gwybodaeth yn amlygu bod 94% o breswylwyr stad Gwêl y Foel (datblygiad tai gerllaw  a ddarparwyd gan Adra) yn siaradwyr Cymraeg (canran sy’n uwch na chanran ward Llanwnda sydd yna 81%).  Er derbyn bod y gwrthwynebiadau yn amlygu pryder am y polisi gosod, bydd rhaid i’r datblygiad gydymffurfio gyda’r caniatâd cynllunio yn y lle cyntaf sy’n gofyn bod y ddarpariaeth ar gyfer pobl leol. O ganlyniad, ni ystyriwyd bod tystiolaeth y byddai’r bwriad yn debygol o gael effaith niweidiol ar yr Iaith Gymraeg.

 

Ystyriwyd fod dyluniad a gorffeniad y tai yn dderbyniol ac yn briodol ar gyfer yr ardal. Ategwyd bod bwriad tirweddu o gwmpas y safle ac ystyriwyd yn briodol derbyn manylion llawn y tirweddu fel amod cynllunio. Dylinwyd y safle fel na fyddai'n cael effaith andwyol sylweddol ar yr eiddo sydd drws nesaf ac na fyddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar breifatrwydd na mwynderau unrhyw drigolyn cyfagos.

 

Nodwyd fod gwrthwynebiad i ddwysau defnydd mynedfa'r datblygiad sydd union ddrws nesaf i’r bwriad, yn hytrach na defnyddio mynedfa sydd i’r A487 o’r safle. Mewn ymateb, mae’n ofynnol ystyried y bwriad ar ei rinweddau ei hun, ac ar sail fod defnyddio’r fynedfa drwy’r stad gyfagos yn dderbyniol gan yr Uned Drafnidiaeth, nid oedd sail ar gyfer ystyried unrhyw opsiwn arall.

 

Nodwyd hefyd fod y bwriad yn destun Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd ac mai’r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) yw’r awdurdod cymwys ar gyfer gwneud yr asesiad. Adroddwyd yn wreiddiol bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau bod ganddynt bryderon sylweddol ynghyd a’r cynnydd o allyriant ffosffad o waith trin carthffosiaeth i’r Afon Gwyrfai a’r effaith a ellir hyn ei gael ar yr afon sy’n Ardal Cadwraeth Arbennig.  Erbyn hyn fodd bynnag, roedd adolygiad o Drwydded Amgylcheddol Dŵr Cymru ar gyfer gollwng dŵr wedi’i drin i Afon Gwyrfai o Waith Trin Carthion Llanfaglan wedi cymryd lle a therfyn ffosfforws yn ei le. Cadarnhaodd Dŵr Cymru bod gan Waith Trin Carthion Llanfaglan y gallu i brosesu carthffosiaeth o’r bwriad o fewn eu terfyn ffosfforws ac ar sail y wybodaeth yma roedd Uned Bioamrywiaeth y Cyngor (ar ran yr ACLl) wedi dod i'r casgliad nad oedd y datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effaith sylweddol ar Afon Gwyrfai.

 

Adroddwyd bod Adroddiadau Ecolegol a Choed ynghyd a datganiad seilwaith gwyrdd wedi eu cyflwyno fel rhan o’r cais cynllunio, ac ystyriwyd eu bod yn dderbyniol yn ddarostyngedig i amodau cynllunio.

 

Yng nghyd-destun  addysg, ni fyddai’r bwriad yn achosi gormodedd o blant yn yr ysgolion cyfagos ac felly ni fydd angen cyfraniad ariannol o ran hynny. Bydd y bwriad hefyd yn darparu llecyn chwarae gyda chyfarpar bydd yn cyfrannu’n gadarnhaol tuag at y diffyg sydd wedi ei amlygu yn yr ardal.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol. Roedd y swyddogion yn argymell caniatáu’r cais gyda’r amodau

 

b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd swyddog ar ran Adra, y sylwadau canlynol:

·        Byddai’r bwriad yn darparu 16 o gartrefi fforddiadwy fyddai’n diwallu anghenion tai Gwynedd

·        Bod y datblygiad yn destun cefnogaeth grant gan Cyngor Gwynedd fel ymateb i’r argyfwng tai

·        Bod gwedd un  Gwêl y Foel o adeiladu 24 tŷ fforddiadwy wedi ei gwblhau gyda phobl lleol wedi ymgartrefu yn y tai

·        Bod y bwriad yn cynnig cymysgedd  dda o dai

·        Bod Adra wedi cydweithio gyda’r holl ymgynghorwyr

·        Bod y cynlluniau yn dderbyniol

·        Bod y swyddogion yn argymell caniatáu'r bwriad - y cais yn cydymffurfio gyda pholisïau lleol a chenedlaethol

·        Bod gwybodaeth yn amlygu bod 94% o ddatblygiad gwedd un Gwêl y Foel yn siarad Cymraeg sydd yn sylweddol fwy na chanran 81% ward Llanwnda a chanran y Sir o 64%.

·        Bod polisïau gosod gwedd un wedi sicrhau bod y tenantiaid gyda chysylltiad lleol i’r ward

·        Bod angen brys am gartrefi

 

c)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·        Bod y bwriad yn ymateb i’r angen am dai fforddiadwy, ond dim tystiolaeth na fydd effaith ar yr iaith Gymraeg yn y gymuned leol

·        Derbyn bod gwedd un wedi bod yn llwyddiannus ac yn groesau hyn, ond dim tystiolaeth y bydd gwedd dau yr un mor llwyddiannus - nid yw’r defnydd ieithyddol wedi ei asesu

·        Bod ymgeiswyr yn gallu nodi ardaloedd niferus ar ffurflen gais Opsiynau Tai ac felly hyn yn drysu ffigyrau angen - rhaid cael ffigyrau cadarn

·        Rhagdybio sefyllfa sydd yma ac nid rhoi sicrwydd

·        Pryderu nad yw Polisi Gosod Tai Cyffredin Gwynedd yn rhoi ystyriaeth i warchod yr Iaith Gymraeg

·        Bod angen adolygu’r Polisi Gosod Tai

·        Derbyn bod asesiad ieithyddol wedi ei gyflwyno ond asiant y datblygwr sydd wedi ei gwblhau. A oes gan yr asiant y cymwysterau perthnasol? Ymarferiad damcaniaethol ydyw

·        Uned Iaith wedi cyflwyno asesiad byr, ansylweddol – dim hyder yn eu sylwadau gan nad yw’r wybodaeth wedi ei gloriannu yn argyhoeddedig

·        Bod hi’n rhesymol ystyried sylwadau Cyngor Cymuned Llanwnda oedd yn gwrthwynebu’r cais ar sail bod y tai yn cael eu gosod o dan Bolisi Gosod Tai Cyffredin y Cyngor sydd yn gweithredu yn groes i nod strategol y Cyngor Cymuned o ‘warchod a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg

·        Gofyn i’r Pwyllgor wrthod y cais ar sail diffyg tystiolaeth ei effaith ar yr Iaith Gymraeg

 

d)     Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

e)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau:

·        Er yn derbyn sylwadau’r Aelod Lleol, bod rhaid ystyried Strategaeth Tai Cyngor Gwynedd  - mae angen tai ar bobl lleol

·        Bod Adra wedi tystiolaethu mai pobl leol sydd ymgartrefu yn y tai.

·        Er derbyn nad oes sicrwydd am yr effaith ar yr iaith Gymraeg, mae cyfrifoldeb gan y Cyngor i ddarparu tai i bobl lleol

·        Bod gan Adra gofnod da o fod o blaid y Gymraeg – o osod tai i Gymry lleol

·        Nad oes gan Cyngor Cymuned Llanwnda dystiolaeth i’w datganiad

·        Bod y Polisi Gosod yn llwyddiannus ac yn blaenoriaethu tai i bobl lleol

·        Bod canran gwedd un Gwêl y Foel o siaradwyr Cymraeg yn uwch na’r ganran leol - y rheswm am hyn yw bod y tai yn cael eu gosod i bobl leol. Cymdeithasau Tai yn gefnogol i’r iaith, Tai Preifat yw’r bygythiad

·        Byddai’r bwriad yn cefnogi ysgolion lleol

·        Er nad yw’r effaith ar y Gymraeg yn glir ymhob cais, yn glir yma a byddai’n cryfhau’r Gymraeg

·        Lle arall mae pobl leol i fod i fyw fel arall?!

·        Bydd cyfle i feddianwyr ddysgu Cymraeg - Cymraeg yw prif iaith yr ysgolion lleol

·        Dim amheuaeth bod angen am dai yn lleol - y bwriad i’w ariannu gan Lywodraeth Cymru

 

·        Comisiynydd yr Iaith (2019) yn nodi nad oedd yr asesiad iaith a wnaethpwyd ar y Polisi Gosod Tai Cyffredin Gwynedd wedi cydymffurfio a safonau’r Gymraeg

·        Bod data ar goll - dylid gwrthwynebu’r cais ar sail Polisi PS1

·        Bod angen ystyried nifer genedigaethau - pobl ifanc y Sir yn allfudo ac felly dim angen mwy o dai, ond dim newid - parhau i ddatblygu

·        Dim siop yn lleol i’r datblygiad. Achubiaeth i ba ysgol leol?

·        Bod rhaid cyfarch y mater o fodloni cymunedau. Diffyg cadernid mewn gwybodaeth - angen gwella hyn

·        Bod Cyngor Cymuned Llanwnda wedi trefnu cyfarfod arbennig i drafod y mater – eu pryder yn amlwg. A yw’r Swyddogion wedi ymgynghori gyda hwy?  Trafodaethau gyda thrigolion lleol yn allweddol. A yw Adra yn casglu barn yn lleol?

·        Bod Dinas wedi cyrraedd lefel twf dangosol

·        Bod 16 tŷ yn ormod i lecyn tir cymharol fychan

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Pennaeth Cynorthwyol nad oedd tystiolaeth wedi ei gyflwyno y byddai’r bwriad yn niweidiol i’r Gymraeg, er bod tystiolaeth wedi ei gyflwyno i’r gwrthwyneb yn nodi effaith gadarnhaol. Ategodd bod y bwriad yn cyfrannu at ddiwallu'r angen lleol am dai ac yn cwrdd â pholisïau’r Sir. Nododd  hefyd bod Swyddogion yn ymgynghori gyda chymunedau a hynny yn rhan o’r broses statudol.

 

PENDERFYNWYD: CANIATÁU yn ddarostyngedig i’r amodau isod:-

1.         5 mlynedd.

2.         Yn unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.         Llechi naturiol.

4.         Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai i’w cytuno gyda’r ACLL.

5.         Amodau Priffyrdd.

6.         Tirlunio meddal a chaled.

7.         Amodau Bioamrywiaeth a Choed gan gynnwys gwelliannau bioamrywiaeth a chynllun rheoli cynefin

8.         Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00 - 18:00 yn yr wythnos, 08:00 - 12.00 ar ddydd Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gwyliau Banc.

9.         Cytuno manylion parthed enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle.

10.       Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau fforddiadwy.

11.       Tynnu hawliau datblygu cyffredinol o’r unedau fforddiadwy.

12.       Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu gan gynnwys darpariaeth parcio cerbydau’r adeiladwyr.

13.       Cyflwyno manylion goleuadau allanol i’w gytuno gyda’r ACLL cyn iddynt gael eu gosod.

14.       Amod mesurau lliniaru archeolegol.

15.       Darparu a diogelu’r llecyn agored ar gyfer y dyfodol

16.       Amod Dŵr Cymru

17.       Amodau Gwarchod y Cyhoedd (Sŵn, Llwch, Niwsans)

18.       Cynllun rheoli Amgylcheddol Adeiladu

19.       Manylion paneli PV solar ar doeau’r tai ynghyd a phympiau gwres ffynhonnell aer

20.       Arwyddion Cymraeg

 

Nodiadau: Dŵr Cymru, Priffyrdd, SUDS

 

Dogfennau ategol: