Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau etholedig, y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.
Cofnod:
(1) Cwestiwn Y Cynghorydd
Gruffydd Williams
Mewn cyd-destun y penderfyniad diweddaraf gan Y
Sefydliad Goruchaf, pa drefniadau sydd mewn lle er mwyn cadarnhau fod merched
yng Ngwynedd yn cael mynediad i lefydd a chyfleoedd o bob math ar gyfer merched
yn unig?
Ateb yr Aelod Cabinet
Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol a dros y Gymraeg, Y Cynghorydd Llio
Elenid Owen
Mi wnâi ddarllen
yr ateb swyddogol i ddechrau.
“Mae’r Cyngor yn y
broses o ystyried goblygiadau’r dyfarniad gan ystyried gwybodaeth bellach e.e.
Canllawiau Interim y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a gyhoeddwyd ar 25
Ebrill. Dylid nodi bod y Comisiwn yn edrych
i ddiweddaru eu canllawiau ar ôl ymgynghori, a'u rhoi gerbron Llywodraeth San
Steffan cyn toriad yr haf. Yn ôl y
Comisiwn “Gwyddom fod gan lawer o bobl gwestiynau am y dyfarniad a'r hyn y
mae'n ei olygu iddynt. Bydd ein
canllawiau wedi'u diweddaru yn rhoi mwy o eglurder.”
Byddwn yn edrych ar ein polisïau, canllawiau, gweithdrefnau, ac yn y
blaen, i weld os ydynt yn cyd-fynd gyda’r dyfarniad.”
Fel sydd wedi cael ei nodi yn yr ateb, mae Canllawiau Interim y Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a gafodd eu cyhoeddi wythnos diwethaf, yn dilyn
dyfarniad y Goruchaf Lys ar y diffiniad cyfreithiol o ddynes, a bydd angen
disgwyl y canllawiau terfynol fydd yn mynd gerbron y Llywodraeth cyn yr haf i
gael eglurder ac arweiniad pellach ar y sefyllfa.
Hoffwn dynnu eich sylw at yr hyn mae’r Goruchaf Lys wedi’i nodi, sef nad
yw hyn yn fuddugoliaeth i’r naill ochr na’r llall. Diffiniad o fewn Deddf Cydraddoldeb yn unig
ydi hyn. Mae’n hynod bwysig pwysleisio
nad ydi’r farn gyfreithiol yma yn lleihau hawliau cyfreithiol pobl draws yn
erbyn gwahaniaethu, ac mae ail-bennu rhywedd yn un o’r 9 nodwedd sy’n cael eu
diogelu yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Gruffydd Williams
Yn unol â’r Ddeddf
Cydraddoldeb, mae rhyw yn golygu rhyw biolegol, ac mae gan ferched hawl
cyfreithlon i ystafelloedd newid cyhoeddus, ystafelloedd ymolchi a chanolfannau
argyfwng un rhyw, ac nid yw tystysgrif cydnabod rhywedd yn gwneud dyn yn ddynes
o dan y gyfraith. Ni all y dyfarniad fod
yn fwy eglur na hynny, ac yn sgil hynny hoffwn ofyn pa drefniadau, cyfleusterau
sydd angen cael eu gwneud, ac yn lle a phryd y gwelwn y newid er mwyn
adlewyrchu'r penderfyniad?
Ateb yr Aelod
Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol a dros y Gymraeg, Y
Cynghorydd Llio Elenid Owen
I bwysleisio’r hyn a gafodd ei ddweud yn yr ateb i’r cwestiwn cyntaf,
rydym ni, fel pob sefydliad arall, angen arweiniad pellach i allu ymateb yn
llawn ac yn gyfreithiol i’r dyfarniad yma.
Hoffwn gymryd y
cyfle hwn hefyd i ddatgan ein cefnogaeth ni a’n cydsafiad ni yma hefo’r gymuned draws.
Dylai pawb fod yn rhydd i ddewis eu hunaniaeth rhywedd eu hunain a dylem
barchu hynny, ac yn sicr ni ddylem eithrio pobl draws o gymdeithas. I ddyfynnu ac ategu’r hyn a ddywedodd y
Cynghorydd Beca Roberts ar ddechrau’r cyfarfod yma, mae gan bawb yr hawl i fod
yn hwy eu hunain. Rydym ni’n gwbl
ymrwymedig yma yng Nghyngor Gwynedd i gefnogi hawliau merched a hawliau pobl
draws, ac mae brwydro dros hawliau merched yn golygu brwydro dros hawliau
merched dosbarth gweithiol, merched anabl, merched o gefndiroedd ethnig
lleiafrifol a merched LGBTQ+. Mae angen
cefnogi a pharchu hawliau i bawb ac nid yw hawliau cyfartal i eraill yn golygu
llai o hawliau i chi.
Mae amddiffyn a diogelu hawliau pawb yn sail i safbwynt Plaid Cymru a
dyna pam rydw i’n aelod o Blaid Cymru.
Mae yna lawer o
gwestiynau yn codi a sgyrsiau ehangach yn dilyn y dyfarniad, ac yn enwedig lle
mae hyn yn gadael pobl ‘intersex’ a ‘non-binary’, a merched sydd ddim yn
cydymffurfio â’r norm o beth ydi dynes.
Ac yn fwy na dim, mae’n hollbwysig bod llais pobl draws yn cael eu
cynnwys yn y trafodaethau hyn.
Mae pryder mawr
fod rhai yn manteisio ar y dyfarniad yma i roi rhwydd hynt iddyn nhw fynegi
rhagfarn yn erbyn y gymuned draws, cymuned fechan sydd eisoes yn fregus, ac
sydd ond yn trio byw eu bywydau gydag urddas.
Mae’n loes calon i mi feddwl y gallai rhai o bobl Gwynedd
gam-ddefnyddio’r dyfarniad yma i wneud bywydau cymuned sydd ar yr ymylon yn
anoddach. Rydym ni yma fel cynghorwyr i
gefnogi pob un o drigolion Gwynedd i gyd-fyw ac i fyw eu bywydau gydag urddas a
pharch. I gloi, o fy mhrofiad
uniongyrchol i fel dynes, ac yn tyfu i fyny fel hogan, nid wy’n teimlo bod
hawliau pobl draws wedi cymryd dim o gwbl oddi ar fy hawliau i fel merch.
(2)
Cwestiwn Y Cynghorydd Sian Williams
Mater pwysig sydd wedi dod i’m sylw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn
enwedig yn fy nhref fy hun, Cricieth, yw ymddygiad gwrthgymdeithasol ymysg pobl
ifanc. Mae’n bwnc sy’n fy mhoeni yn arw,
gan mai ein cyfrifoldeb ni, fel cymdeithas, yw meithrin a chefnogi'r
genhedlaeth nesaf i fod yn ddinasyddion crwn a chyfrifol sy’n gweld gobaith a
gwerth ynddynt eu hunain, ac yn eu pentrefi, trefi a’u hardaloedd.
Nid
yw Cricieth yn unigryw. Mae yna
ardaloedd eraill yng Ngwynedd sy’n dioddef heriau tebyg, ac mae yna siroedd
eraill ledled Cymru a thu hwnt yn cael trafferthion. Does ond angen i chi agor papur newydd neu
ddarllen negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol i weld sut mae pethau.
Mae’n bwysig i ni fynd at wraidd y trafferthion. Pam bod pobl ifanc yn ymddwyn fel hyn a beth
allwn ni wneud, fel cymuned, i’w cefnogi neu daclo’r trafferthion? Yng Nghricieth,
rydym wedi gweld difrod i’r toiledau cyhoeddus a’r maes, dringo ffensys i erddi
preifat; dwyn o siopa lleol a chysgu dros nos mewn meysydd parcio.
Yn amlwg, mae’r heddlu ac asiantaethau eraill yn ymwybodol o’r sefyllfa
ac mae gweithredu a chydweithio yn digwydd.
Ond gyda’r tywydd braf diweddar, mae’r sefyllfa wedi gwaethygu. Mae’r lleiafrif bach o bobl ifanc sy’n
ymddwyn fel hyn wedi eu diarddel o’r ysgol.
Mae’r gosb yn profi i fod yn aneffeithiol gan nad ydynt yn derbyn
cefnogaeth nac arweiniad trwy’r ysgolion na chan wasanaethau eraill yn ystod y
cyfnod hwn.
Fy
nghwestiwn i ydi, a oes modd agor trafodaeth gydag Adran Addysg y Cyngor ac
asiantaethau cefnogi eraill er mwyn ystyried ffordd arall o daclo’r heriau sy’n
wynebu’r bobl ifanc yma a’u teuluoedd?
Proses o gynnig arweiniad a chefnogaeth, yn hytrach nag esgymuno pobl
ifanc sy’n amlwg yn profi heriau bywyd?
System fyddai’n diogelu’r bobl ifanc yma a’u harwain ar hyd llwybr
gwell, fel bod modd i’r gymuned yng Nghricieth gysgu
yn dawelach y nos ac ymfalchïo o fod wedi estyn llaw,
yn hytrach na phardduo pobl ifanc yr ardal i gyd ag un brwsh? Wedi’r cyfan, llond llaw sy’n ymddwyn fel
hyn, mae’r mwyafrif o’n pobl ifanc yn gyfrifol ac yn foneddigaidd.
Dyma ddyfodol ein cymdeithas, maent yn werthfawr ac
yn bwysig, ac yn fy marn i, mae buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf yn hollbwysig
i ni, yma, yng Ngwynedd.
Ateb yr Aelod Cabinet
Addysg, Y Cynghorydd Dewi Jones
Diolch am y cwestiwn. Rwy’n
cytuno hefo llawer o’r hyn a ddywedwyd yn y
cwestiwn. Rwy’n meddwl bod hwn yn bwnc
hollbwysig, ac mae unrhyw fater sy’n ymwneud hefo plant a phobl ifanc yn agos
iawn at fy nghalon i yn bersonol, a dyna pam mae’n gymaint o fraint i mi fod yn
cyflawni’r rôl rwy’n wneud ar hyn o bryd.
Hefyd, rwy’n
cydymdeimlo’n llwyr hefo rhai o’r pethau rydych chi yng Nghricieth
yn ddioddef, a hefyd yn ymwybodol bod yna drafferthion fel hyn mewn nifer o
bentrefi a threfi yng Ngwynedd, a hefyd y tu hwnt i Wynedd. Ond dydi hynny ddim yn ei wneud yn iawn. O ran yr ymateb, mae’r ymateb ysgrifenedig
wedi’i roi, ac fel mae’n dweud, mae angen ymateb trawsadrannol. Mae’n gyfrifoldeb i ni i gyd, rwy’n credu, o
ran y Cyngor, ond yn fwy na dim ond ni fel sefydliad, fel Cyngor, mae’n cynnwys
llu o sefydliadau eraill hefyd, ac rwy’n falch mod i a’r aelod yn dod o’r un
ochr ar hwn oherwydd beth sydd yn y cwestiwn.
Nid ydym ni eisiau bod yn pwyntio bys na chosbi, ond rydym ni eisiau
datrys y broblem yn hytrach nag ymateb a chosbi yn unig, ac fel roedd yr aelod
yn dweud, mae’n amlwg nad yw cosbi yn gweithio.
Rydym ni wedi bod yn gwneud hyn ers blynyddoedd, ac mae’r un problemau
yn codi dro ar ôl tro ar ôl tro.
O ran yr Adran
Addysg a gwaharddiadau, rwy’n sicr o’r farn nad yw gwaharddiadau yn
gweithio. Maen nhw’n cael eu defnyddio
fel dull cosbi - dull cosbi traddodiadol efallai fyddai rhai pobl yn ddweud,
ond efallai ei bod yn hen bryd i ni edrych eto ar hyn i gyd ac ystyried ydi hwn
yn ddull rydym ni eisiau bod yn ei ddefnyddio i’r dyfodol. Yr unig beth mae gwahardd plentyn neu berson
ifanc neu unigolyn yn wneud ydi cael gwared â’u gallu i gael mynediad i
gefnogaeth, i fodelau rôl cadarnhaol, i’r is-strwythurau sydd yna i’w cefnogi,
a’r peth diwethaf rydym ni eisiau gwneud ydi eu hesgymuno, cael gwared ohonyn
nhw, achos dydi o ddim yn datrys y broblem.
Efallai ei fod yn datrys y broblem i un unigolyn neu un grŵp am gyfnod
byr, ond y cwbl mae’n wneud ydi symud y broblem i rywle arall. Felly rwy’n awyddus i gyfarfod a chael gweld
pa ddatrysiadau fedrwn ni roi at ei gilydd i drio gwneud gwahaniaeth i fywydau
plant a phobl ifanc Cricieth a Gwynedd gyfan.
(3)
Cwestiwn Y Cynghorydd Elfed Williams
Mae trigolion
Gwynedd yn parhau i ddioddef dros ddeg mlynedd ers i gynllun tlodi tanwydd
Llywodraeth Cymru achosi difrod i'w cartrefi gan eu gadael yn llaith, yn flêr
ac angen gwaith atgyweirio.
Mae rhai trigolion
tai preifat yn Neiniolen, Dinorwig, Clwt y Bont a Fachwen ar eu colled yn ariannol
ac eraill yn cael trafferth talu am waith atgyweirio.
Bwriad y prosiect Arbed, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, oedd gwella
effeithlonrwydd ynni’r tai gan sicrhau y byddai’r perchnogion â biliau ynni
is. Ond mae gwaith israddol yn ardal
Deiniolen wedi gadael y perchnogion â thai llaith sy’n datblygu’n llwydni,
pibellau draenio wedi eu hail osod yn anghywir, render
blêr a chraciau yn y waliau.
Yn ddiweddar, mae 42 o dai yn Arfon wedi eu cymeradwyo am waith
atgyweirio gan Lywodraeth Cymru. Rwy’n
croesawu’n fawr y gwaith yma i dai trigolion y gymuned, ond rwy’n parhau i
bryderu am y trigolion na fydd yn gymwys am y gwaith atgyweirio o dan gynllun
Llywodraeth Cymru eleni.
Mae’n hen bryd i
holl drigolion Deiniolen weld eu tai yn cael eu cywiro, wedi dioddef y difrod
i’w heiddo ers cymaint o flynyddoedd.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw unioni’r cam yma, o ganlyniad i waith
israddol a wnaed o ganlyniad i’w prosiect Arbed.
Fy nghwestiwn i felly ydi, a yw’r Cyngor yn ymrwymo i sicrhau bod
trigolion tai Arfon i gyd yn derbyn gwaith atgyweirio gan Lywodraeth Cymru ac
yn derbyn y gefnogaeth briodol sy’n ddyledus iddynt?
Ateb yr Aelod Cabinet
Tai ac Eiddo, Y Cynghorydd Paul Rowlinson
Diolch am ofyn y
cwestiwn dros drigolion eich ward, pobl sydd wedi ymuno â Chynllun Arbed er
mwyn gwella eu tai a lleihau’r biliau, ond oherwydd y gwaith diffygiol, wedi
canfod eu hunain mewn sefyllfa lle mae’r tai yn waeth.
Hoffwn amlygu mai cynllun Llywodraeth Cymru ydi Arbed, ac roedd llawer o
gartrefi ledled Cymru wedi cael eu heffeithio gan waith diffygiol o dan y
Cynllun hwnnw, nid yn unig yn Arfon ond mewn llawer o lefydd eraill ledled
Cymru. Mae’r broses o sicrhau datrysiad
teg drwy ddilyn y broses hawlio a osodwyd gan y Llywodraeth wedi bod yn hir, ac
yn aml yn gymhleth iawn. Mae’r
perchnogion eiddo eu hunain wedi rhoi llawer o’u hamser ac ymdrech i wneud
hynny.
Mae Siân
Gwenllïan, yr Aelod o’r Senedd dros Arfon, wedi bod yn codi’r mater gyda’r
Llywodraeth ers 2017, a’r llynedd cytunodd Llywodraeth Cymru i edrych ar
achosion y trigolion oedd wedi cysylltu â hi. Yn anffodus mae Llywodraeth Cymru
wedi datgan na fydd unrhyw achosion newydd yn cael eu hychwanegu at y rhestr.
Er nad oes gan y Cyngor unrhyw ran yn y broses yma, rwy’n fodlon
ysgrifennu at y Llywodraeth i ofyn pam nad ydynt yn fodlon ystyried unrhyw
achosion newydd.
(4)
Cwestiwn Y Cynghorydd Rhys Tudur
Wrth wneud penderfyniadau yn ymwneud â chaffael nwyddau ac is gontractio gwasanaethau, ym mha fodd
y mae gan y Cyngor hwn griteria sgorio
sy’n rhoi pwyntiau i gwmnïau/busnesau/cyrff am:
- fuddion
cymunedol y maent ac y byddent yn eu darparu
i'r Gymraeg;
- eu defnydd o’r Gymraeg;
- fod â chanran uchel o staff sy’n siarad Cymraeg;
- ddangos
bod ganddynt ymrwymiadau tros y Gymraeg a pholisïau iaith;
- fod â chynllun hyfforddi ar gyfer gwella sgiliau
yn y Gymraeg;
- gefnogi
prentisiaethau cyfrwng Cymraeg;
- ddefnyddio’r
Gymraeg fel iaith ohebu fewnol
ac allanol?
Ateb yr Aelod Cabinet
Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol a dros y Gymraeg, Y Cynghorydd Llio
Elenid Owen
Diolch am y
cwestiwn. Mae’r trefniadau caffael a’r
broses werthuso fewnol yn cael ei rheoli’n gyfreithiol yma o dan y rheoliadau
caffael cenedlaethol (Deddf Caffael 2023).
Yn unol â’r rheoliadau hynny, mae’n ofynnol i’r asesiad a’r criteria fod
yn gyfatebol ac yn gysylltiedig â phwrpas yr hyn y dymunir ei gaffael.
Mae gan y Cyngor fodd i ddefnyddio gwahanol griteria er mwyn asesu’r
cynigion. Fel rheol mae’r criteria yn
cynnwys asesiad pris ac ansawdd ynghyd ag unrhyw ofynion penodol eraill.
Mae’r Cabinet wedi cymeradwyo addasiad i’r Polisi Caffael Cynaliadwy
presennol ym mis Tachwedd 2023, ac yn sgil hynny, mae’r Cyngor wedi datblygu a
mabwysiadu trefniadau asesu gwerth cymdeithasol, ac mae’r iaith Gymraeg yn un
o’r mesurau hynny. Mae’r gofyn yma
bellach yn ychwanegol i’r criteria pris ac ansawdd.
O ganlyniad, rydym
yn gallu asesu ymrwymiad busnesau i fuddsoddi amser ac arian er mwyn hyrwyddo a
datblygu’r Gymraeg wrth gyflawni’r cytundeb gyda’r Cyngor. Gall yr ymrwymiad fod yn rhai amrywiol sy’n
ddibynnol ar faint a natur y cwmni sydd wedi tendro, ac nid ydym ar hyn o bryd
yn eu cyfyngu i gynigion penodol. Gall y
cynigion gynnig prentisiaeth, hyfforddiant, arwyddion Cymraeg o fewn y cwmni
neu unrhyw gynnig arall sy’n arddangos eu hymrwymiad i hyrwyddo’r iaith.
Mae’r Cyngor yn prynu amrywiaeth eang o nwyddau a gwasanaethau o wahanol
feysydd ac yn prynu nwyddau a gwasanaethau unigryw ac arbenigol ar adegau. Yn aml iawn dim ond rhai cwmnïau di-gymraeg o
du allan y Sir sydd yn gallu cyflawni’r anghenion hynny. Serch hynny, ble mae’n angenrheidiol i gael
gwasanaethau neu systemau drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’r Cyngor yn manylu’r
angen yma yn y tendr, ac o ganlyniad, ni fydd yn derbyn ceisiadau sydd ddim yn
cyrraedd y gofynion.
Mae’r Polisi Caffael Cynaliadwy yn cael ei adolygu ar hyn o bryd yn sgil
newidiadau deddfwriaethol cenedlaethol diweddar, ac mae’n fwriad ei gyflwyno
i’r Pwyllgor Iaith am sylwadau, a hefyd bydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet.
Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Rhys Tudur
O ystyried bod y Cyngor hwn yn fewnol yn rhoi pwys go dda ar y Gymraeg,
a bod fy nghwestiwn i yn nodi sawl agwedd ychwanegol y gellir sgorio o ran y
gwerth a roddir i’r Gymraeg, y defnydd o’r Gymraeg, ac i’r Gymraeg fel iaith
gymunedol yng nghyd-destun caffael, ac o ystyried bod y polisi caffael
cynaliadwy ond yn rhoi sgôr bychan a thocynistaidd
i’r Gymraeg, a yw’r Cyngor hwn yn barod i lawn sylweddoli, drwy addasu ac
ychwanegu at y mesurau sgorio caffael a gwneud hyfywedd y Gymraeg yn amcan
dilys, y gallem fedru cymell gymaint ag y medrwn ni o fusnesau a chyrff y rhyngweithiwn â hwy i gyfrannu o ddifri’ at atgyfnerthu’r
Gymraeg?
Ateb yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol a dros y Gymraeg, Y
Cynghorydd Llio Elenid Owen
Mae’r Gymraeg yn amlwg yn hollbwysig ymhob
agwedd o’r Cyngor ac nid yw’r drefn caffael yn eithriad. Ble mae yna ofyn penodol o’r Gymraeg, mae’n
bosib’ i’r Cyngor ei gynnwys fel gofyn penodol yn ei gytundeb, ac yn hyn o
beth, dim ond cwmnïau Cymraeg fydd y Cyngor yn eu penodi. Mae yna ymdrech gan y Cyngor i roi mwy o
bwyslais ar werth cymdeithasol sgorio contractau ac fe ddaw hyn yn amlwg wrth
i’r Cyngor a chwmnïau lleol ddod yn fwy cyfarwydd â’r trefniadau hyn. Fel bydd y polisi caffael yn cael ei adolygu
bydd yna gyfle i aelodau a swyddogion ddylanwadu’r pwyslais mae gwerth
cymdeithasol yn ei gael. Fel sydd eisoes
wedi’i grybwyll yn yr ymateb cyntaf, rydym ni fel Cyngor yn gorfod pwyso a
mesur sawl peth – gwerth am arian, ansawdd, diogelu data a chwrdd â gofynion
cydraddoldeb a moesegol, ond mae’r Gymraeg hefyd yn cael ystyriaeth wrth asesu
tendrau.
Os yw’r aelod eisiau sgwrs bellach am hyn,
byddwn yn croesawu hynny, a gallwn drefnu hynny hefo’r
Tîm Caffael hefyd.
Dogfennau ategol: