Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Cyllid.
Penderfyniad:
1.
Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd gan y
Cabinet, sef:-
(a) Sefydlu cyllideb o
£356,815,330 ar gyfer 2025/26 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £248,389,720
a £108,425,610 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 8.66%).
(b) Sefydlu rhaglen
gyfalaf o £53,736,190 yn 2025/26 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad
4 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor.
2. Nodi fod yr Aelod
Cabinet dros Gyllid, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 30 Rhagfyr 2024, wedi
cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2025/26 yn unol â’r
rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y
Ddeddf”):-
(a) 56,842.05 yw’r swm
a gyfrifwyd fel ei Sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn yn unol â’r Rheoliadau
Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i
diwygiwyd.
(b) Rhan o ardal y
Cyngor – Sylfaen Drethiannol Cymuned –
Aberdaron |
621.88 |
|
Llanddeiniolen |
1,904.89 |
Aberdyfi |
1,194.77 |
Llandderfel |
528.88 |
|
Abergwyngregyn |
121.90 |
Llanegryn |
174.80 |
|
Abermaw (Barmouth) |
1,317.52 |
Llanelltyd |
310.17 |
|
Arthog |
695.76 |
Llanengan |
2,751.39 |
|
Y Bala |
818.83 |
Llanfair |
362.68 |
|
Bangor |
4,244.36 |
Llanfihangel y Pennant |
251.76 |
|
Beddgelert |
350.40 |
Llanfrothen |
237.36 |
|
Betws Garmon |
146.24 |
Llangelynnin |
484.85 |
|
Bethesda |
1,765.16 |
Llangywer |
159.19 |
|
Bontnewydd |
463.21 |
Llanllechid |
371.67 |
|
Botwnnog |
484.06 |
Llanllyfni |
1,471.45 |
|
Brithdir a Llanfachreth |
474.36 |
Llannor |
951.51 |
|
Bryncrug |
355.42 |
Llanrug |
1,154.25 |
|
Buan |
244.98 |
Llanuwchllyn |
334.68 |
|
Caernarfon |
3,721.81 |
Llanwnda |
857.37 |
|
Clynnog Fawr |
489.83 |
Llanycil |
213.75 |
|
Corris |
319.67 |
Llanystumdwy |
937.44 |
|
Criccieth |
1,016.89 |
Maentwrog |
319.62 |
|
Dolbenmaen |
652.91 |
Mawddwy |
378.38 |
|
Dolgellau |
1,315.09 |
Nefyn |
1,696.20 |
|
Dyffryn Ardudwy |
873.94 |
Pennal |
238.53 |
|
Y Felinheli |
1,202.04 |
Penrhyndeudraeth |
838.59 |
|
Ffestiniog |
1,842.24 |
Pentir |
1,310.58 |
|
Y Ganllwyd |
88.00 |
Pistyll |
298.51 |
|
Harlech |
870.85 |
Porthmadog |
2,304.34 |
|
Trefor a Llanaelhaearn |
475.75 |
Pwllheli |
1,866.35 |
|
Llanbedr |
359.87 |
Talsarnau |
365.44 |
|
Llanbedrog |
882.45 |
Trawsfynydd |
528.93 |
|
Llanberis |
814.21 |
Tudweiliog |
520.39 |
|
Llandwrog |
1,083.91 |
Tywyn |
1,776.31 |
|
Llandygai |
1,038.17 |
|
Waunfawr |
595.31 |
sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth Cyngor ar gyfer y
flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem
arbennig neu fwy’n berthnasol.
3. Bod y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo
yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2025/26 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r
Ddeddf:-
(a) |
£581,749,890 |
Sef cyfanswm y
symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn
Adran 32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf (gwariant gros). |
(b) |
£221,986,500 |
Sef cyfanswm y
symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn
Adran 32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf (incwm). |
(c) |
£359,763,390 |
Sef y swm sy’n
cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a
gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion
cyllideb ar gyfer y flwyddyn (cyllideb net). |
(ch) |
£247,894,058 |
Sef cyfanswm y
symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn
i’w gronfa ar gyfer cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal
Refeniw, llai amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth
annomestig a ganiateir. |
(d) |
£1,968.07 |
Sef y swm yn
3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod, y cyfan wedi ei rannu gan y swm a nodir
yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 33(1) o’r Ddeddf,
sef swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn (treth Cyngor Gwynedd a
threth cyfartalog cynghorau cymuned). |
(dd)
|
£3,443,721.04 |
Sef cyfanswm yr
holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) o’r Ddeddf (praeseptau’r cynghorau cymuned). |
(e) |
£1,907.49 |
Sef y swm yn
3(d) uchod llai’r canlyniad a geir wrth rannu’r swm yn 3(dd)
uchod â’r swm yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 34(2)
fel swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y
rhannau hynny o’i ardal lle nad oes unrhyw eitem arbennig yn berthnasol (Band
D ar gyfer treth Cyngor Gwynedd yn unig). |
(f) Ar gyfer rhannau o
ardal y Cyngor –
Aberdaron |
1,935.63 |
|
Llanddeiniolen |
1,923.76 |
Aberdyfi |
1,945.61 |
Llandderfel |
1,935.85 |
|
Abergwyngregyn |
1,944.41 |
Llanegryn |
1,952.40 |
|
Abermaw (Barmouth) |
1,960.16 |
Llanelltyd |
1,946.18 |
|
Arthog |
1,929.05 |
Llanengan |
1,931.11 |
|
Y Bala |
1,942.30 |
Llanfair |
1,957.12 |
|
Bangor |
2,049.15 |
Llanfihangel y Pennant |
1,957.54 |
|
Beddgelert |
1,948.02 |
Llanfrothen |
1,961.42 |
|
Betws Garmon |
1,929.03 |
Llangelynnin |
1,937.20 |
|
Bethesda |
1,971.14 |
Llangywer |
1,938.90 |
|
Bontnewydd |
1,947.43 |
Llanllechid |
1,953.82 |
|
Botwnnog |
1,920.92 |
Llanllyfni |
1,943.51 |
|
Brithdir a Llanfachreth |
1,932.79 |
Llannor |
1,929.56 |
|
Bryncrug |
1,945.05 |
Llanrug |
1,994.13 |
|
Buan |
1,925.86 |
Llanuwchllyn |
1,957.69 |
|
Caernarfon |
2,022.94 |
Llanwnda |
1,946.10 |
|
Clynnog Fawr |
1,978.94 |
Llanycil |
1,929.71 |
|
Corris |
1,966.93 |
Llanystumdwy |
1,929.36 |
|
Criccieth |
1,966.49 |
Maentwrog |
1,928.99 |
|
Dolbenmaen |
1,935.06 |
Mawddwy |
1,942.11 |
|
Dolgellau |
1,966.04 |
Nefyn |
1,963.50 |
|
Dyffryn Ardudwy |
1,970.42 |
Pennal |
1,982.95 |
|
Y Felinheli |
1,951.27 |
Penrhyndeudraeth |
2,028.65 |
|
Ffestiniog |
2,043.19 |
Pentir |
1,949.46 |
|
Y Ganllwyd |
1,944.42 |
Pistyll |
1,947.69 |
|
Harlech |
2,005.10 |
Porthmadog |
1,939.46 |
|
Trefor a Llanaelhaearn |
1,960.04 |
Pwllheli |
1,977.14 |
|
Llanbedr |
1,988.07 |
Talsarnau |
2,000.53 |
|
Llanbedrog |
1,941.49 |
Trawsfynydd |
1,945.30 |
|
Llanberis |
1,958.07 |
Tudweiliog |
1,926.71 |
|
Llandwrog |
1,983.73 |
Tywyn |
1,966.57 |
|
Llandygai |
1,944.96 |
|
Waunfawr |
1,927.65 |
sef
y symiau a geir trwy ychwanegu symiau’r eitem neu eitemau arbennig sy’n
berthnasol i dai annedd yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt
uchod, at y swm a geir yn 3(e) uchod wedi’u rhannu ym mhob achos gan y swm yn
2(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 34(3) o’r Ddeddf, fel
symiau sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau
hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.
(ff) Ar gyfer rhannau o
ardal y Cyngor, y ffigyrau a nodir yn Atodiad 1 i Atodiad 11 i Eitem 9 ar raglen y Cyngor, sef y symiau a
geir trwy luosi’r symiau yn 3(f) uchod â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau a nodir
yn Adran 5 (1) o’r Ddeddf, yn berthnasol i dai annedd a restrir mewn band
prisio arbennig wedi’i rannu â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny’n berthnasol
i dai a restrir ym mand prisio D, a gyfrifir gan y Cyngor, yn unol ag Adran
36(1) o’r Ddeddf, yn symiau sydd i’w hystyried ar gyfer y flwyddyn ar gyfer y
categorïau o dai annedd a restrir yn y gwahanol fandiau prisio.
4. Nodi ar gyfer y
flwyddyn 2025/26 fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi nodi’r
symiau a ganlyn mewn praesept a roddwyd i’r Cyngor,
yn unol ag Adran 40 o’r Ddeddf ar gyfer pob un o’r categorïau o dai annedd a
ddangosir isod:
|
Band A |
Band B |
Band C |
Band D |
Band E |
Band F |
Band G |
Band H |
Band I |
|
248.10 |
289.45 |
330.80 |
372.15 |
454.85 |
537.55 |
620.25 |
744.30 |
868.35 |
5. Wedi pennu’r
cyfanswm ym mhob achos o’r symiau 3(ff) a 4 uchod,
bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) o’r Ddeddf trwy hyn, yn pennu’r symiau a
nodir yn Atodiad 2 i Atodiad
11 i Eitem 9 ar raglen y Cyngor ar gyfer y Dreth Cyngor yn y flwyddyn
2025/26 ar gyfer pob categori o dai annedd a ddangosir yn yr Atodiad.
Cofnod:
Cyn cychwyn trafod
yr eitem hon, nododd y Cadeirydd, yn unol â’r Cyfansoddiad, bod rhaid i’r
Pennaeth Cyllid dderbyn rhybudd o unrhyw welliant i’r gyllideb yn ysgrifenedig
ymlaen llaw, a bod rhaid i’r gwelliant hwnnw arwain at gyllideb hafal, os am
gael ei drafod. Roedd holl aelodau’r
Cyngor wedi’u hatgoffa o hynny'r wythnos cynt, a gan na dderbyniodd y Pennaeth
Cyllid unrhyw rybudd o welliant erbyn yr amser cau dynodedig, ni fyddai modd
i’r Cyngor ystyried unrhyw welliant i’r gyllideb.
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Huw Wyn Jones:-
·
Adroddiad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei
chymeradwyo ar gyfer 2025/26;
·
Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar
argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 8.66%) ynghyd â thablau yn
dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned.
Diolchodd yr Aelod Cabinet i staff yr Adran Gyllid am eu holl waith yn
paratoi’r gyllideb.
Diolchodd yr Arweinydd i’r Aelod Cabinet am ei gyflwyniad ac am wneud yr
achos dros y gyllideb yn glir. Diolchodd
i’r swyddogion am arwain y Cyngor drwy’r broses, ac am eu harbenigedd a’u
sgiliau. Diolchodd hefyd i aelodau’r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am eu gwaith yn craffu’r gyllideb, ac i’w
chyd-gynghorwyr am fynychu’r gweithdai ar y gyllideb. Nododd ymhellach:-
·
Bod
y gyllideb yn adlewyrchu gwerthoedd y Cyngor gan ei bod yn blaenoriaethu’r bobl
fwyaf bregus mewn cymdeithas drwy warchod gofal i blant a gwasanaethau
cymdeithasol oedolion, clustnodi arian i geisio lleihau’r rhestrau aros am ofal
a gwarchod ysgolion rhag toriadau'r flwyddyn nesaf.
·
Bod
y pwysau ar y gwasanaethau yn cynyddu yn flynyddol gyda phoblogaeth y sir yn
heneiddio, mwy o bobl angen gofal, mwy o blant bregus angen gofal a mwy o bobl
yn ddigartref.
·
Er y cynnydd yn y galw am wasanaethau, bod rhaid
i’r Cyngor osod cyllideb hafal.
·
Yn sgil dwyn pwysau ar Bwyllgor Cyllid Senedd Cymru
drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y cafwyd isafswm i’r setliad, neu
byddai sefyllfa Gwynedd wedi bod hyd yn oed yn fwy dybryd. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn ateb tymor hir,
ac er lles pobl Gwynedd, roedd yn ofynnol sicrhau cyllido teg i lywodraeth
leol.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.
Holwyd pa mor hyderus oedd y Pennaeth Cyllid bod y gyllideb yn gadarn ac
na fyddai’n rhaid i’r Cyngor wneud defnydd o falansau eto eleni. Mewn ymateb, manylodd y Pennaeth Cyllid ar
gynnwys Atodiad 10 i’r adroddiad, sef y datganiad y mae’n ofynnol iddo ei wneud
fel Swyddog Cyllid Statudol ar gadernid yr amcangyfrifon yn unol ag Adran 25,
Deddf Llywodraeth Leol 2003.
O ran yr elfen o’r
cwestiwn yn ymwneud â’r defnydd o falansau, nododd y Pennaeth Cyllid y credai y
byddai’r adnoddau ychwanegol a gynhwyswyd fel rhan o’r bidiau (Atodiad 2) yn
mynd lawer o’r ffordd tuag at ymdrin â’r bwlch ariannol a’r gorwariant a welwyd
yn 2024/25, gan ragweld na fyddai hynny’n digwydd eto'r flwyddyn nesaf. Er hynny, ni allai warantu na fyddai yna
orwariant eto yn 2025/26.
Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid, wedi ystyried yr holl risgiau a’r camau
lliniaru, ei fod o’r farn bod Cyllideb y Cyngor am 2025/26 yn gadarn, yn
ddigonol, ac yn gyraeddadwy.
Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-
·
Nad
oedd llywodraeth leol yn cael ei ariannu’n briodol ac nad oedd y system Dreth
Cyngor fyth am weithio i’n hetholwyr.
Byddai treth incwm lleol yn system decach, a chredid bod angen ymchwilio
ymhellach i hynny.
·
Bod y bwlch ariannol yn cynyddu o flwyddyn i
flwyddyn ac y byddai angen cynyddu gwariant y Cyngor £25.8m yn 2025/26 er mwyn
sefyll yn llonydd.
·
Bod y ddwy Lywodraeth yn symud fwyfwy tuag at dreth
anflaengar, yn hytrach na threth flaengar.
Yn 1996, roedd 81.8% o gyllideb y Cyngor yn cael ei thalu gan y
llywodraeth ganolog. Erbyn 2009/10 roedd
y ffigwr wedi gostwng i 78.4%, ac erbyn hyn roedd wedi disgyn bron 10% arall i
69.5%.
·
Yn sgil 15 mlynedd o lymder, bod y gwasanaethau
cyhoeddus ar eu gliniau, lefelau uwch nag erioed o bobl yn ddigartref a phlant
yn dioddef o afiechydon nas gwelwyd ers Oes Fictoria.
·
Bod Llywodraeth San Steffan yn llwyddo i ganfod
arian i dalu am ryfel tra’n torri ar y wladwriaeth les.
·
Y cafwyd addewid o “bartneriaeth mewn grym” rhwng
Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru, yn cael ei arwain at y Blaid
Lafur, ond addewid gwag oedd hynny.
·
Bod
y Dreth Gyngor yn dreth annheg ac anflaengar sy’n sicrhau nad yw’r bobl fwyaf
cyfoethog mewn cymdeithas yn talu eu siâr.
O bosib’ bod angen siarad yn uwch am hyn yn y flwyddyn ariannol nesaf,
gan geisio perswadio cynghorau eraill i wneud yr un fath.
·
Bod
y Cyngor yn wynebu penderfyniadau anodd, ond bod y penderfyniadau hynny yn
sicrhau ein bod yn gallu cefnogi’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, a hefyd
y genhedlaeth nesaf.
·
Bod y swm o arian sy’n dod i Wynedd gan Lywodraeth
Cymru yn ddibynnol ar ffigurau poblogaeth y sir, sy’n gostwng, ac y gobeithir y
bydd Uchelgais Gogledd Cymru yn gwneud popeth o fewn eu gallu i greu swyddi yng
Ngwynedd, fel na fydd angen i bobl adael y sir i chwilio am waith.
Nodwyd bod y cynnydd arfaethedig o 8.66% yn y Dreth
Gyngor yn cario drwodd i’r Premiwm Treth Cyngor ac yn gosod baich trethiannol
anghymesur ac annheg ar rai o frodorion Gwynedd, megis ffermydd teuluol,
mentrau cymdeithasol a busnesau llety gwyliau lleol dilys, ayb. Holwyd pa mor anodd fyddai cyflwyno
eithriadau ychwanegol mewn polisi eglur, yn hytrach nag ymdrin â sefyllfaoedd
achos wrth achos lle nad oes gwir eglurder.
Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Mai polisi’r Cyngor oedd i ganiatáu
eithriadau statudol yn unig.
·
Bod yna ran o’r ddeddfwriaeth sy’n caniatáu
i’r Cyngor ystyried gostwng biliau Treth Cyngor, boed hynny i grŵp o
drethdalwyr neu i drethdalwyr unigol.
·
Mewn achosion o wir galedi, y
tueddid i ystyried disgresiwn ar gyfer, nid yn unig y Premiwm, ond y Dreth
Gyngor i gyd.
·
Wrth ystyried sefyllfa grwpiau o
drethdalwyr, bod rhaid sicrhau bod y mater yn cael ei drin yn gytbwys ac yn
unol â’r ddeddfwriaeth, ac ni ellid codi Premiwm ar un garfan o bobl a ddim ar
garfan arall, oni bai bod yna eglurhad a chyfiawnhad clir dros wneud
hynny. Fel y bu i’r Aelod Cabinet Cyllid
nodi mewn ymateb i gwestiwn ar yr union fater hwn yn gynharach yn y cyfarfod,
roedd perygl o greu cynsail ac y gallai’r cynsail hwnnw ddod yn ôl i’n brathu,
oni bai bod gennym bolisi cwbl glir.
·
Er mor anodd fyddai creu polisi, ni
fyddai hynny’n amhosib’, a gellid edrych ar hynny ymhellach a chael polisi yn
ei le.
Nododd yr Aelod Cabinet Addysg ei fod yn falch bod y
gyllideb ysgolion yn cael ei hamddiffyn yn 2025/26, ond bod ysgolion y sir, fel
nifer o sectorau eraill mewn cymdeithas, dan straen aruthrol, gyda phenaethiaid
yn ei chael yn anodd llunio cyllideb gytbwys a staff mewn rhai ysgolion yn
colli swyddi o ganlyniad i hynny.
Nododd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant:-
·
Bod y gwaith anodd sydd wedi
digwydd i bwyso a mesur y toriadau yn erbyn cynyddu’r Dreth Gyngor wedi bod yn
llwybr hir a chaled.
·
Bod y gyllideb gerbron yn buddsoddi yn y bobl fwyaf bregus.
·
Bod 82% o orwariant y Cyngor yn dod
o’r maes gofal, ond nid gorwariant ydoedd mewn gwirionedd, eithr diffyg
cyllido’r holl ofal sydd ei angen, a hynny dros nifer o flynyddoedd.
·
Gyda’r galw am ofal yn cynyddu o
flwyddyn i flwyddyn, bod y staff yn gweithio’n galed iawn saith diwrnod yr
wythnos, bob wythnos o’r flwyddyn.
·
Er bod y Cyngor bellach yn darparu
ychydig dros 9,000 o oriau o ofal yr wythnos, nid oedd hynny’n ddigonol ac
roedd yna bobl ar y rhestrau aros o hyd.
·
Na ellir rhoi sicrwydd na fydd yna orwariant yn y maes gofal
eto'r flwyddyn nesaf gan na ellir darogan beth fydd y galw am y gwasanaethau,
ond gyda’r gyllideb hon, byddai’r Cyngor yn cymryd y cam cyfrifol tuag at y
bobl fwyaf bregus yn y sir.
Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y cynnig.
Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais
ganlynol ar y cynnig:-
O blaid |
45 |
Y Cynghorwyr:- Craig ab Iago, Menna Baines, Beca Brown, Stephen Churchman, Glyn
Daniels, Elwyn Edwards, Elfed Wyn ap Elwyn, Alan Jones Evans, Gwilym Evans,
Delyth Lloyd Griffiths, Jina Gwyrfai, Medwyn Hughes, Iwan Huws, Nia Wyn
Jeffreys, Berwyn Parry Jones, Dawn Lynne Jones, Dewi Jones, Gwilym Jones,
Gareth Tudor Jones, Huw Wyn Jones, June Jones, Cai Larsen, Beth Lawton,
Dilwyn Morgan, Linda Morgan, Edgar Wyn Owen, Gwynfor Owen, Llio Elenid Owen,
John Pughe, Rheinallt Puw, Arwyn Herald Roberts, Beca Roberts, Elfed P
Roberts, Meryl Roberts, Richard Glyn Roberts, Huw Llwyd Rowlands, Paul
Rowlinson, Dyfrig Siencyn, Ioan Thomas, Menna Trenholme, Rhys Tudur, Einir
Wyn Williams, Elfed Williams, Sasha Williams a Sian Williams. |
Yn erbyn |
12 |
Y Cynghorwyr:- Dylan Fernley, Louise Hughes,
Anne Lloyd Jones, Elwyn Jones, Dewi Owen, Gareth Coj Parry, John Pughe
Roberts, Peter Thomas, Rob Triggs, Hefin Underwood, Gareth Williams a
Gruffydd Williams. |
Atal |
2 |
Y Cynghorwyr Eryl Jones-Williams a Nigel Pickavance. |
Nododd y Cadeirydd
fod y cynnig wedi cario.
PENDERFYNWYD
1.
Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd gan y
Cabinet, sef:-
(a) Sefydlu cyllideb o
£356,815,330 ar gyfer 2025/26 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £248,389,720
a £108,425,610 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 8.66%).
(b) Sefydlu rhaglen
gyfalaf o £53,736,190 yn 2025/26 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad
4 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor.
2.
Nodi fod yr Aelod Cabinet dros Gyllid, drwy daflen
benderfyniad dyddiedig 30 Rhagfyr 2024, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a
ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2025/26 yn unol â’r rheoliadau a luniwyd dan Adran
33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):-
(a) 56,842.05 yw’r swm
a gyfrifwyd fel ei Sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn yn unol â’r Rheoliadau
Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i
diwygiwyd.
(b) Rhan o ardal y
Cyngor – Sylfaen Drethiannol Cymuned –
Aberdaron |
621.88 |
|
Llanddeiniolen |
1,904.89 |
Aberdyfi |
1,194.77 |
Llandderfel |
528.88 |
|
Abergwyngregyn |
121.90 |
Llanegryn |
174.80 |
|
Abermaw (Barmouth) |
1,317.52 |
Llanelltyd |
310.17 |
|
Arthog |
695.76 |
Llanengan |
2,751.39 |
|
Y Bala |
818.83 |
Llanfair |
362.68 |
|
Bangor |
4,244.36 |
Llanfihangel y Pennant |
251.76 |
|
Beddgelert |
350.40 |
Llanfrothen |
237.36 |
|
Betws Garmon |
146.24 |
Llangelynnin |
484.85 |
|
Bethesda |
1,765.16 |
Llangywer |
159.19 |
|
Bontnewydd |
463.21 |
Llanllechid |
371.67 |
|
Botwnnog |
484.06 |
Llanllyfni |
1,471.45 |
|
Brithdir a Llanfachreth |
474.36 |
Llannor |
951.51 |
|
Bryncrug |
355.42 |
Llanrug |
1,154.25 |
|
Buan |
244.98 |
Llanuwchllyn |
334.68 |
|
Caernarfon |
3,721.81 |
Llanwnda |
857.37 |
|
Clynnog Fawr |
489.83 |
Llanycil |
213.75 |
|
Corris |
319.67 |
Llanystumdwy |
937.44 |
|
Criccieth |
1,016.89 |
Maentwrog |
319.62 |
|
Dolbenmaen |
652.91 |
Mawddwy |
378.38 |
|
Dolgellau |
1,315.09 |
Nefyn |
1,696.20 |
|
Dyffryn Ardudwy |
873.94 |
Pennal |
238.53 |
|
Y Felinheli |
1,202.04 |
Penrhyndeudraeth |
838.59 |
|
Ffestiniog |
1,842.24 |
Pentir |
1,310.58 |
|
Y Ganllwyd |
88.00 |
Pistyll |
298.51 |
|
Harlech |
870.85 |
Porthmadog |
2,304.34 |
|
Trefor a Llanaelhaearn |
475.75 |
Pwllheli |
1,866.35 |
|
Llanbedr |
359.87 |
Talsarnau |
365.44 |
|
Llanbedrog |
882.45 |
Trawsfynydd |
528.93 |
|
Llanberis |
814.21 |
Tudweiliog |
520.39 |
|
Llandwrog |
1,083.91 |
Tywyn |
1,776.31 |
|
Llandygai |
1,038.17 |
|
Waunfawr |
595.31 |
sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth Cyngor ar gyfer y
flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem
arbennig neu fwy’n berthnasol.
3. Bod y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo
yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2025/26 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r
Ddeddf:-
(a) |
£581,749,890 |
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu
hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf
(gwariant gros). |
(b) |
£221,986,500 |
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu
hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf
(incwm). |
(c) |
£359,763,390 |
Sef y swm sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng
cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol
ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn
(cyllideb net). |
(ch) |
£247,894,058 |
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif
y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa ar gyfer cyfan o’r Dreth
Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai amcangyfrif o’r gost i’r
Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig a ganiateir. |
(d) |
£1,968.07 |
Sef y swm yn 3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod, y
cyfan wedi ei rannu gan y swm a nodir yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor
yn unol ag Adran 33(1) o’r Ddeddf, sef swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y
flwyddyn (treth Cyngor Gwynedd a threth cyfartalog cynghorau cymuned). |
(dd) |
£3,443,721.04 |
Sef cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir
atynt yn Adran 34(1) o’r Ddeddf (praeseptau’r cynghorau cymuned). |
(e) |
£1,907.49 |
Sef y swm yn 3(d) uchod llai’r canlyniad a geir wrth
rannu’r swm yn 3(dd) uchod â’r swm yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor,
yn unol ag Adran 34(2) fel swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn ar
gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle nad oes unrhyw eitem
arbennig yn berthnasol (Band D ar gyfer treth Cyngor Gwynedd yn unig). |
(f) Ar gyfer rhannau o
ardal y Cyngor –
Aberdaron |
1,935.63 |
|
Llanddeiniolen |
1,923.76 |
Aberdyfi |
1,945.61 |
Llandderfel |
1,935.85 |
|
Abergwyngregyn |
1,944.41 |
Llanegryn |
1,952.40 |
|
Abermaw (Barmouth) |
1,960.16 |
Llanelltyd |
1,946.18 |
|
Arthog |
1,929.05 |
Llanengan |
1,931.11 |
|
Y Bala |
1,942.30 |
Llanfair |
1,957.12 |
|
Bangor |
2,049.15 |
Llanfihangel y Pennant |
1,957.54 |
|
Beddgelert |
1,948.02 |
Llanfrothen |
1,961.42 |
|
Betws Garmon |
1,929.03 |
Llangelynnin |
1,937.20 |
|
Bethesda |
1,971.14 |
Llangywer |
1,938.90 |
|
Bontnewydd |
1,947.43 |
Llanllechid |
1,953.82 |
|
Botwnnog |
1,920.92 |
Llanllyfni |
1,943.51 |
|
Brithdir a Llanfachreth |
1,932.79 |
Llannor |
1,929.56 |
|
Bryncrug |
1,945.05 |
Llanrug |
1,994.13 |
|
Buan |
1,925.86 |
Llanuwchllyn |
1,957.69 |
|
Caernarfon |
2,022.94 |
Llanwnda |
1,946.10 |
|
Clynnog Fawr |
1,978.94 |
Llanycil |
1,929.71 |
|
Corris |
1,966.93 |
Llanystumdwy |
1,929.36 |
|
Criccieth |
1,966.49 |
Maentwrog |
1,928.99 |
|
Dolbenmaen |
1,935.06 |
Mawddwy |
1,942.11 |
|
Dolgellau |
1,966.04 |
Nefyn |
1,963.50 |
|
Dyffryn Ardudwy |
1,970.42 |
Pennal |
1,982.95 |
|
Y Felinheli |
1,951.27 |
Penrhyndeudraeth |
2,028.65 |
|
Ffestiniog |
2,043.19 |
Pentir |
1,949.46 |
|
Y Ganllwyd |
1,944.42 |
Pistyll |
1,947.69 |
|
Harlech |
2,005.10 |
Porthmadog |
1,939.46 |
|
Trefor a Llanaelhaearn |
1,960.04 |
Pwllheli |
1,977.14 |
|
Llanbedr |
1,988.07 |
Talsarnau |
2,000.53 |
|
Llanbedrog |
1,941.49 |
Trawsfynydd |
1,945.30 |
|
Llanberis |
1,958.07 |
Tudweiliog |
1,926.71 |
|
Llandwrog |
1,983.73 |
Tywyn |
1,966.57 |
|
Llandygai |
1,944.96 |
|
Waunfawr |
1,927.65 |
sef
y symiau a geir trwy ychwanegu symiau’r eitem neu eitemau arbennig sy’n
berthnasol i dai annedd yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt
uchod, at y swm a geir yn 3(e) uchod wedi’u rhannu ym mhob achos gan y swm yn
2(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 34(3) o’r Ddeddf, fel
symiau sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau
hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.
(ff) Ar gyfer rhannau o
ardal y Cyngor, y ffigyrau a nodir yn Atodiad 1, sef y symiau a geir trwy
luosi’r symiau yn 3(f) uchod â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5
(1) o’r Ddeddf, yn berthnasol i dai annedd a restrir mewn band prisio arbennig
wedi’i rannu â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny’n berthnasol i dai a restrir
ym mand prisio D, a gyfrifir gan y Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) o’r Ddeddf,
yn symiau sydd i’w hystyried ar gyfer y flwyddyn ar gyfer y categorïau o dai
annedd a restrir yn y gwahanol fandiau prisio.
4. Nodi ar gyfer y
flwyddyn 2025/26 fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi nodi’r
symiau a ganlyn mewn praesept a roddwyd i’r Cyngor, yn unol ag Adran 40 o’r
Ddeddf ar gyfer pob un o’r categorïau o dai annedd a ddangosir isod:
|
Band A |
Band B |
Band C |
Band D |
Band E |
Band F |
Band G |
Band H |
Band I |
|
248.10 |
289.45 |
330.80 |
372.15 |
454.85 |
537.55 |
620.25 |
744.30 |
868.35 |
5. Wedi pennu’r
cyfanswm ym mhob achos o’r symiau 3(ff) a 4 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag
Adran 30(2) o’r Ddeddf trwy hyn, yn pennu’r symiau a nodir yn Atodiad 2 ar
gyfer y Dreth Cyngor yn y flwyddyn 2025/26 ar gyfer pob categori o dai annedd a
ddangosir yn yr Atodiad.
Dogfennau ategol: