I dderbyn diweddariad ar yr adroddiad gan Dr Gareth Evans-Jones.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem gan Dr Gareth Evans-Jones, gan dynnu sylw at y prif
bwyntiau canlynol:
Agorwyd y cyflwyniad drwy roi cyd-destun ynghylch y Canolfan[M(1] Genedlaethol Addysg Grefyddol
Cymru, a gafodd ei hail-lansio ym mis Awst 2023 yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn
ac Eifionydd. Adroddwyd mai amcan y Ganolfan yw hybu astudiaeth, gwybodaeth ac
ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o draddodiadau crefyddol, gwerthoedd a
thraddodiadau athronyddol sy’n bodoli yng Nghymru a’r byd ehangach.
Nodwyd bod y Ganolfan, dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi trefnu a chynnal
sawl sesiwn a nifer o weithgareddau:
Esboniwyd bod y
prosiect ymchwil wedi’i ddatblygu o ganlyniad i geisiadau athrawon ysgolion i’r
Ganolfan i gael eu cynorthwyo ynglŷn â’u hanghenion penodol ar gyfer
addysgu Safon Uwch, Addysg Grefyddol ac Addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
(CGM) yn yr adrannau[M(2] iau hyd at TGAU. Nodwyd
bod y prosiect ymchwil wedi para naw mis ac yn edrych ar ddarpariaeth addysgu
CGM ledled Cymru. Nodwyd mai diben yr holiadur oedd cael gwell syniad o’r
heriau y mae athrawon yn teimlo eu bod yn eu hwynebu, pa gryfderau sy’n bodoli,
a pha agweddau sy’n wan ar hyn o bryd, er mwyn i’r Ganolfan allu ymateb a
chynnal cyfres o sesiynau datblygu.
Amlygwyd bod 58 o
ysgolion wedi ymateb, ond gan fod nifer yr ysgolion uwchradd a ymatebodd yn
uwch, penderfynwyd llunio adroddiad ar sail y data uwchradd. Nodwyd bod
enghreifftiau da o athrawon yn manteisio ar ac ymgysylltu â chyfleoedd
hyfforddiant, ond bod enghreifftiau hefyd a oedd yn codi pryderon.
Nodwyd bod y pwnc
CGM yn cael ei addysgu naill ai fel pwnc annibynnol neu fel rhan o gynllun
Dyniaethau Cymysg hyd at TGAU, gan fod y TGAU yn parhau i fod yn Addysg
Grefyddol. Amlygwyd bod pryder wedi codi o ganlyniad i hyn ynglŷn â cholli
arbenigedd pwnc ac ynghylch y ffaith bod athrawon sy’n addysgu’r pwnc heb gael
eu hyfforddi’n ddigonol. Nodwyd bod hyfforddiant wedi’i greu er mwyn addysgu’r
pwnc o fewn Dyniaethau Cymysg ond nid yn unigol. Ymhelaethwyd bod y diffyg
hyfforddiant hwn yn peri pryder gan fod natur y pwnc mor sensitif.
Nodwyd mai un
gwerslyfr CGM swyddogol sy’n bodoli – yn Saesneg, heb fersiwn
cyfrwng Cymraeg cyfatebol. Nodwyd nad yw wedi derbyn sêl bendith CBAC na
Llywodraeth Cymru - yr esboniad a gynigiwyd ganddynt oedd nad oes angen un
gwerslyfr ar gyfer pawb o ystyried natur holistig y cwricwlwm yng Nghymru.
Ehangwyd bod cais i gyfieithu’r gwerslyfr wedi’i wrthod gan y cyhoeddwr.
Nodwyd bod heriau
systematig yn bodoli o fewn CGM, yn benodol o ran yr ansicrwydd ynghylch y term
‘mandadol’ a’r[M(3] amser statudol sydd
angen ei roi i’r pwnc, gan nad oes eglurhad clir o beth mae hyn yn ei olygu.
Ymhelaethwyd, ar gyfartaledd, nad yw CGM yn derbyn yr un dyraniad amser â
phynciau eraill.
Tanlinellwyd bod
rhai ysgolion yn dal i roi’r hen ofynion statudol o un awr yr wythnos i bob
disgybl, tra bod ysgolion eraill yn rhoi dim ond un awr y flwyddyn. Nodwyd bod
amwysedd ynghylch dilyniant RVE a dulliau asesu wedi gadael addysgwyr yn
chwilio am ganllawiau cliriach a strategaethau trawsgwricwlaidd.
Adroddwyd bod y
Ganolfan yn cynnal sgyrsiau gyda CYSAGau ynglŷn â chanfyddiadau’r ymchwil
ynghylch sut i helpu. Mynegwyd bod canfyddiadau’r adroddiad wedi derbyn
beirniadaeth gan gyngor canolog CYSAGau, gan ei gyhuddo o fod yn rhy negyddol
ac nid yn adlewyrchiad teg o’r farn gyffredinol oherwydd y nifer a oedd wedi
ymateb i’r holiadur.
Nodwyd bod y Ganolfan wedi cymryd camau i
gynhyrchu ail adroddiad, i geisio cynnal ymweliadau a sgyrsiau unigol ag
athrawon er mwyn clywed mwy am farn athrawon. Tanlinellwyd bod y sgyrsiau hyn
yn mynd i fod yn hollol gyfrinachol, ac mae gan athrawon hawl tynnu eu cyfraniadau
yn ôl ar unrhyw adeg. Nodwyd bod chwe ymweliad wedi’u cynnal hyd yma, gan
ganolbwyntio’n benodol ar Ogledd-Orllewin Cymru yn ystod y cyfnod hwn o’r
ymchwiliad. Ymhelaethwyd eu bod yn chwilio am athrawon bodlon mewn ysgolion
uwchradd sy’n dysgu CGM, Dyniaethau Cymysg neu Addysg Grefyddol i gymryd rhan
yn yr ymchwiliad, gan ofyn i GYSAG Gwynedd rannu’r alwad hon gydag athrawon yng
Ngwynedd.
Nodwyd sawl mater
arall sydd wedi codi ac yn peri pryder:
• Bod cwrs byr TGAU wedi’i
ddiddymu.
• Bod rhai ysgolion ddim
yn cynnig Addysg Grefyddol o gwbl fel pwnc TGAU.
• Bod rhai ysgolion yn cynnig
Astudiaethau Cymdeithasol yn lle Addysg Grefyddol oherwydd eu bod yn swnio’n
fwy difyr.
• Bod y TGAU Addysg
Grefyddol newydd, er ei fod yn cynnwys agweddau diddorol, hefyd yn cynnwys rhai
sydd wedi dyddio (e.e. dim sôn am ddeallusrwydd artiffisial).
Nodwyd bod y Ganolfan wedi dechrau ymateb i
rai o’r pryderon sydd wedi’u codi yn yr adroddiad. Nodwyd bod y Ganolfan yn
cydweithio â CHYSAG Conwy ac Abertawe i ddarparu sesiynau fin nos ar wahanol
agweddau ar CGM. Nodwyd ymhellach ei bod wedi creu cynllun mentoriaeth
athrawon. Nodwyd y byddai, ym mis Chwefror 2025, rhaglen fentora am ddim yn
cael ei lansio i athrawon fydd yn gorfod addysgu Astudiaethau Crefyddol ar
lefel TGAU ond nad ydynt wedi’u hyfforddi mewn AC/AG/CGM.
Ymhelaethwyd fod y cynllun yn para 15 mis,
gyda dyddiad cau cyflwyno cais ym mis Ebrill 2025 a diwrnod dechrau’r cynllun
ym mis Medi 2025. Nodwyd bod lle i 20 ar y cwrs hwn, gyda’r gobaith o ymestyn y
cynllun i gymhwyso Safon Uwch o’r flwyddyn nesaf ymlaen, gan ddibynnu ar gael
mwy o nawdd. Amlinellwyd bod modd rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau’r cwrs
gydag aelodau’r CYSAG os dymunir.
Nodwyd ymhellach
bod y Ganolfan yn cynnal Sesiynau Adolygu Safon Uwch a Safon Uwch-Gyfrannol yn
ystod y Pasg, wrth ganolbwyntio ar y meysydd Bwdhaeth, Athroniaeth, Moeseg a
Christnogaeth
Mynegwyd bod y
Ganolfan yn barod i ymateb i unrhyw ymateb neu alwad am y canlynol drwy gyfrwng
y Saesneg, yn Gymraeg neu’n ddwyieithog:
• Ymweld ag ysgolion.
• Darparu sesiynau
adolygu/hyfforddiant.
• Rhannu adnoddau.
• Cyfeirio at
fudiadau/mannau perthnasol.
Nodwyd bod
digwyddiad ar 11 Mehefin ar gyfer ysgolion cynradd yn benodol, lle bydd
sesiynau amrywiol yn edrych ar gynefin ac y bydd cyfeiriad at nifer o lefydd
yng Ngwynedd a enwyd ar ôl mannau o’r Beibl. Nodwyd ymhellach bod, yn ystod y
prynhawn (6.00y.h. – 9.30y.h.), cynhadledd i’r cyhoedd i edrych ar dirweddau
beiblaidd yn ehangach.
Diolchwyd am y
diweddariad cynhwysfawr. Cytunwyd i helpu drwy ofyn i GYSAG Gwynedd rannu’r
alwad am athrawon i gymryd rhan yng ngham dau o’r ymchwil. Holwyd ynglŷn â
beth mae’r Ganolfan yn ei wneud i geisio cynyddu’r niferoedd o fyfyrwyr sy’n
dewis Addysg Grefyddol ar gyfer TGAU, gan fod tystiolaeth yn dangos bod y
niferoedd sy’n mynychu’r cyrsiau’n gostwng.
Cytunwyd bod y
niferoedd sy’n dewis astudio Addysg Grefyddol yng Nghymru yn lleihau ar bob
lefel, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg. Nodwyd bod cyfle wedi’i fethu wrth
greu’r TGAU newydd i wreiddio’r pwnc yn y byd go iawn. Nodwyd ymhellach bod
diffyg dilyniant gan fod y TGAU wedi dewis cadw’r enw Addysg Grefyddol ac nid
ei newid i CGM. Mynegwyd bod cyfle i godi diddordeb pan gaiff Lefel A newydd ei
gyhoeddi [M(4] fewn dwy flynedd, gan ei
ddiweddaru i adlewyrchu’r byd modern sy'n dal i gadw'r cyfanrwydd pynciol.
Mynegwyd diolch pellach am y cyflwyniad a’r
adroddiad, wrth fynegi bodlonrwydd am y drafodaeth. Cymeradwywyd y teitl
newydd, CGM, gan nodi ei fod yn adlewyrchu cyd-destun modern. Mynegwyd
parodrwydd i roi cymorth mewn unrhyw fodd gyda’r gwaith mae’r Ganolfan yn ei
wneud. Diolchwyd am y sylwadau, gan nodi mai’r prif gymorth y dymunir ei
dderbyn yw ynglŷn â’r ail adroddiad, yn benodol o ran ymgysylltu ag
athrawon i gymryd rhan yn yr ymweliadau cyfrinachol. Nodwyd mai ei brif bwrpas
yw rhoi llais i athrawon er mwyn amlygu’r problemau sydd yn bodoli o fewn y
maes.
Nodwyd bod un
ysgol yn y Gogledd, flynyddoedd lawer yn ôl, wedi atal cynnig Addysg Grefyddol
fel pwnc Lefel A oherwydd diffyg staffio, gan nodi eu bod erbyn hyn wedi cyrraedd sefyllfa
debyg ynghylch TGAU. Cwestiynwyd a oes modd gwneud rhywbeth gyda phlant iau i
geisio codi diddordeb i barhau gyda’r pwnc ar lefelau uwch. Mynegwyd parodrwydd
ar ran yr Adran Addysg i gynorthwyo drwy gynnal sesiynau i danio diddordeb yn y
pwnc gyda disgyblion Blwyddyn 8/9 cyn iddynt wneud penderfyniadau TGAU.
Cytunwyd y byddai
hyn yn syniad da a bod angen trafodaeth bellach. Nodwyd bod CYSAG Abertawe wedi
adrodd am sawl ysgol sydd wedi profi diffyg staffio mewn Addysg Grefyddol ar ôl
i athrawon y pwnc ymddeol.
Cwestiynwyd Dr Gareth Evans-Jones ynglŷn â’r sylw bod yr ymateb gan CYSAGau Cymru wedi bod yn negyddol ei agwedd. Nodwyd,
mewn ymateb, bod sawl aelod craidd wedi beirniadu bod camliwio wedi bod ar yr
adroddiad. Nodwyd bod sawl aelod o Fwrdd Rheoli CYSAGau Cymru ynghlwm â
Chwricwlwm Newydd Cymru a CGM, ac yn hynod gefnogol o’r dull Dyniaethau Cymysg.
Ymhelaethwyd bod CYSAGau Cymru bellach wedi rhyddhau holiadur ei hun er mwyn
clywed barn athrawon. Mynegwyd bod hyn yn gadarnhaol gan ei bod yn bwysig cael
cymaint o ymateb ag sy’n bosibl, ond nodwyd fod rhai o’r cwestiynau yn
arweiniol. Nodwyd mai bwriad adroddiad y Ganolfan yw bod mor ddiduedd â
phosibl. Nodwyd bod adroddiad CYSAGau Cymru wedi’i dderbyn gan GYSAG Gwynedd ac
y caiff ei rannu gyda’r aelodau cyn bo hir.
Gwahoddwyd Dr
Gareth Evans-Jones i fynychu eto ar adeg ddiweddarach i roi diweddariad pellach
yn dilyn ail gam o’i waith ymchwil.
Dogfennau ategol: