Agenda item

Craffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet ystyried cymeradwyo’r Cynllun Arbedion yn ei gyfarfod ar Chwefror 11eg 2025

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Bod camau rhesymol, o dan amgylchiadau heriol, wedi eu cymryd i lunio’r Cynllun Arbedion

·       Bod yr arbedion a gynigwyd yn rhesymol a chyraeddadwy

·       Bod y risgiau a’r goblygiadau’r penderfyniad yn glir

·       Bod yr adroddiad yn ddigonol i alluogi’r Cabinet i wneud penderfyniad ar y Cynllun Arbedion

·       Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth ar yr adroddiad i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod a chymeradwyo’r Cynllun Arbedion 2025/26 yn eu cyfarfod 11/02/25

·       Croesawu  gwahoddiad i’r gweithdai rhannu gwybodaeth

 

Nodyn:

I ystyried adolygu’r ymgynghoriad cyhoeddus i’r dyfodol i geisio barn trigolion am lefel treth

Annog mwy o ymdrech i resymoli gwasanethau

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Arweinydd y Cyngor, yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried priodoldeb y broses o adnabod yr arbedion, a chyflwyno sylwadau i’r Cabinet eu hystyried cyn dod i benderfyniad yn eu cyfarfod 11-02-25. Adroddwyd nad rôl y Pwyllgor oedd mynegi barn ar beth ddylai maint yr arbedion fod neu rinweddau’r cynigion unigol sy’n cael ei hargymell fel arbedion, ond yn hytrach sicrhau fod y Cabinet yn glir o’r ffeithiau sydd yn cael eu cyflwyno iddynt, fel bod y penderfyniad sydd yn cael ei gymryd yn seiliedig ar wybodaeth gadarn.

 

Wrth gyflwyno cefndir i’r gwaith, nodwyd bod y Cyngor wedi bod yn cyflawni arbedion yn ddi-ffael ers blynyddoedd bellach a’r her o gyflawni’r arbedion hynny heb niweidio gwasanaethau trigolion y Sir yn anoddach. Eglurwyd bod y Cyngor bellach yn ymwybodol o lefel Grant Cynnal Refeniw (GCR) gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 (cynnydd o 3.2%), ac y bydd yn sylweddol is na hyn fydd ei angen i gynnal lefel gwasanaethau presennol. Nododd bod gwaith manwl wedi ei wneud gyda holl Adrannau’r Cyngor i adnabod cynlluniau arbedon a thoriadau.

 

Ategodd y Prif Weithredwr bod y Cyngor hefyd yn wynebu sefyllfa lle mae adrannau yn gorwario, a hynny yn bennaf oherwydd cynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau; yn amhosib erbyn hyn i rai gwasanaethau megis gofal plant, gofal oedolion, gwastraff a phriffyrdd weithredu o fewn eu cyllideb bresennol. Bydd hyn yn arwain at orwariant eleni o oddeutu £8m a rhan helaeth o’r bwlch hwn yn deillio o ddiffyg cyllideb i gwrdd â galw uwch am wasanaethau ac yn y rhan fwyaf o achosion nid yw’n opsiwn peidio darparu'r gwasanaethau hynny. O ganlyniad bydd angen defnyddio arian wrth gefn ar gyfer ymdopi â’r sefyllfa. 

 

Cyfeiriwyd at y cynnydd sylweddol mewn costau staffio yn sgil newid polisi San Steffan i gynyddu cyfraniad Yswiriant Gwladol y cyflogwr. Fel cyflogwr i 6,000 o staff, bydd hyn yn ychwanegu hyd at £4.5M at gostau staffio. Er mai’r Cyngor fydd yn cyfarch y gost bydd  Llywodraeth Cymru, (o ganlyniad i ddarpariaeth ôl-ddilynol cyhoeddiad Llywodraeth San Steffan i fod yn cyfarch costau ychwanegol i gyfraniadau cyflogwr Yswiriant Gwladol y sector gyhoeddus yn Lloegr), yn cyfrannu oddeutu £3.5m efallai.

 

O ganlyniad i ddarparu cyllideb uwch ar gyfer yr Adrannau sydd methu ymdopi â’u cyllideb bresennol a chyfanswm Grant Cynnal Refeniw isel gan y Llywodraeth, bydd bwlch ariannol 2025/26 oddeutu £8.77m.

 

I ganfod arbedion, cyflwynwyd 39 o gynigion gan Adrannau’r Cyngor (gwerth £1.89). Cynhaliwyd paneli toriadau gyda phob Adran lle heriwyd y wybodaeth a gyflwynwyd yng nghyd-destun staff, swyddogaeth, gwariant ac incwm. Amlygwyd yn y cyfarfodydd hyn mai ychydig iawn oedd modd peidio eu gweithredu yn eu cyfanrwydd. Aseswyd pob cynnig gan y Prif Weithredwr neu gan un o'r Cyfarwyddwyr Corfforaethol ac fe’u gosodwyd mewn pedwar categori i gynorthwyo’r Aelodau flaenoriaethu cynlluniau arbedion 2025/26 gydag ymwybyddiaeth o beth fyddai’r lefel risg o weithredu unrhyw gynnig unigol.  Cynhaliwyd Ymgynghoriad Cyhoeddus gan esbonio sefyllfa ariannol y Cyngor a’r tebygolrwydd y bydd gorfodaeth i weithredu toriadau fel rhan o’r ymdrech i gyfarch y bwlch ariannol yn 25/26 a chafwyd 627 o ymatebion.

 

Yn ystod gweithdai a sesiynau un i un a gynhaliwyd gyda’r Aelodau, cyflwynwyd yr holl gynigion gan ofyn i’r Aelodau nodi os oeddent yn fodlon gweithredu pob un o’r 39 o gynigion, neu, os nad oeddent yn fodlon eu gweithredu, derbyn bod angen cynyddu’r dreth cyngor cyfwerth â gwerth ariannol y toriad oedd dan sylw. Adroddwyd mai’r consensws bras ymysg yr aelodau o ran pa gynlluniau y dylid eu blaenoriaethu, oedd nad oedd awydd gweithredu llawer o doriadau. Nodwyd bod  21 allan o’r 39 o opsiynau yn rhai lle nad oedd dros hanner yr aelodau yn gefnogol i'w  gweithredu; dim ond ar gyfer 9 opsiwn cafwyd  consensws ymysg dros 80% o’r aelodau eu bod yn fodlon eu gweithredu - gwerth £519k.

 

Ategwyd bod asesiad cyfreithiol, cydraddoldeb ac ardrawiad iaith wedi eu cwblhau yn ystod y broses ynghyd ag ymateb i ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.  

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gweledigaeth i’r dyfodol, nodwyd er bod rhai o’r cynlluniau yn doriadau effaith fechan, byddai tynnu adnodd yn gyfan gwbl yn cael mwy o effaith ar drigolion y Sir. Ategwyd na fydd pethau cystal ar gyfer 2026/27 gyda ffactorau gwleidyddol, megis etholiadau, yn debygol o gael effaith pellach. Er hynny, nodwyd bod y Cyngor yn paratoi ar gyfer gwneud penderfyniadau anodd, ac yn yr un modd yn gobeithio am setliad gwell gan Lywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â thrafod gyda phob Adran, ond nid gyda gwasanaethau ar y cyd, ac os oedd rhesymoli gwasanaethau yn faes i’w ystyried i’r dyfodol, nodwyd bod rhesymoli gwasanaethau wedi cael ei ystyried yn y gorffennol fel arbedion effeithlonrwydd, ond eleni, y trafodaethau wedi eu cynnal fesul Adran a’r paneli yn adnabod cymariaethau ac ystyried cyfleoedd uno.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ystyriaeth risg i ysgolion yn sgil diddymu GwE ac y byddai’r toriad yn cael effaith ar ddisgyblion y Sir, nodwyd bod y risg wedi ei ystyried. Ategwyd mai’r drefn genedlaethol oedd yn newid gyda’r Gwasanaeth yn cael ei fewnoli i’r Cynghorau unigol. Penderfyniad Gwynedd yw gweithredu toriad bychan o ran canran gyda bwriad o adolygu’r drefn wrth i’r Gwasanaeth sefydlogi

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Croesau gwahoddiad i’r gweithdai rhannu gwybodaeth – hyn wedi bod yn fuddiol

·         Bwlch ariannol wedi gostwng ond yr arian wrth gefn yn lleihau

·         Croesawu bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei gynnal - pam na ofynnwyd i’r cyhoedd am eu barn ynglŷn â graddfa Treth Cyngor?

·         A fu ystyriaeth lawn i’r cynigion hynny a wrthodwyd? Oes manylion pellach? A yw’r Cabinet wedi cael arweiniad clir ar y cynigion hynny?

·         Er arbediad o £519k, dim ond £100k sydd yn weithredol 2025/26

·         Croesawu cynllun ariannol tymor canolig – hyn yn rhoi amser i adrannau addasu

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r ymgynghoriad cyhoeddus, nodwyd bod sawl ffurf wedi bod i’r ymgynghoriad cyhoeddus dros y blynyddoedd ac yn sicr y drefn i’w hadolygu eto i’r dyfodol. Nodwyd mai anodd fyddai i’r cyhoedd wneud penderfyniad ynglŷn â’r Dreth Cyngor - petai’r dreth yn gostwng byddai hyn yn arwain at fwy o doriadau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn os oedd y panel toriadau yn hyderus bod pob dim wedi ei hidlo yn drwyadl o ystyried bod cyfnod o ryw 5 - 6 mis heb fewnbwn gan Aelodau, nododd Arweinydd y Cyngor, er yn cydnabod bod y broses wedi bod yn un hir, ei bod yn hapus gyda’r wybodaeth a gyflwynwyd a bod yr Aelodau wedi cael cyfle i roi mewnbwn. Ategodd y Prif Weithredwr bod cadarnhad o’r setliad yn arafu’r broses ac er y gallu i ddamcaniaethu a chael amrediad o opsiynau, bod materion ychwanegol yn codi o’r setliad.

 

Ategodd yr Arweinydd mai digalon yw gorfod gweithredu toriadau yn flynyddol er y deheuad o gynnal gwasanaethau o safon a chynnig Treth Cyngor isel. Y weledigaeth yw gweithio yn drawsadrannol - yn un Cyngor, yn un Tîm.

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Bod camau rhesymol, o dan amgylchiadau heriol, wedi eu cymryd i lunio’r Cynllun Arbedion

·         Bod yr arbedion a gynigwyd yn rhesymol a chyraeddadwy

·         Bod y risgiau a’r goblygiadau’r penderfyniad yn glir

·         Bod yr adroddiad yn ddigonol i alluogi’r Cabinet i wneud penderfyniad ar y Cynllun Arbedion

·         Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth ar yr adroddiad i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod a chymeradwyo’r Cynllun Arbedion 2025/26 yn eu cyfarfod 11/02/25

·         Croesawu  gwahoddiad i’r gweithdai rhannu gwybodaeth

 

Nodyn:

·         I ystyried adolygu’r ymgynghoriad cyhoeddus i’r dyfodol i geisio barn trigolion am lefel treth

·         Annog mwy o ymdrech i resymoli gwasanethau

 

 

Dogfennau ategol: