Craffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet argymell cyllideb 2024/25 i’r Cyngor Llawn
Penderfyniad:
·
Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r cynnwys
·
Derbyn
priodoldeb ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol
·
Cyflwyno
sylwadau o’r drafodaeth i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod a chymeradwyo
Cyllideb 2025/26 yn eu cyfarfod 11/02/25
·
Diolch
i’r Adran Cyllid am y gwaith trylwyr o baratoi’r Gyllideb
Nodyn:
Sefyllfa
gorwariant yn bryderus - angen sicrhau llai o ddefnydd o’r gronfa wrth gefn
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd
grant Llywodraeth o 3.1% gyfer 2025/26, sy’n cyfateb i gynnydd gwerth £7.5m
mewn ariannu allanol. Adroddwyd y byddai nifer o ffactorau yn creu pwysau
gwariant ychwanegol ar wasanaethau’r Cyngor yn 2025/2g gyda’r angen i gynyddu
gwariant o £24.,2m i gwrdd â phwysau ar gyllidebau’r gwasanaethau. Yn ogystal â chyfarch y galw ar wasanaethau
yn ogystal â chwyddiant uchel bydd rhaid ystyried cyfuniad o gynnydd Treth
Cyngor a rhaglen newydd o arbedion a thoriadau. Gydag argymhelliad o gynnydd o
8.66% yn y Dreth Cyngor bydd angen mwy o arbedion a thoriadau i osod cyllideb
gytbwys gyda rhagolygon yn awgrymu bydd pwysau pellach wrth anelu i osod
cyllideb gytbwys ar gyfer 2026/27.
Amlygwyd mai rôl y Pwyllgor oedd craffu’r
wybodaeth gan sicrhau bod y Cabinet a’r Cyngor yn glir o’r ffeithiau sydd yn
cael eu cyflwyno iddynt fel bod y penderfyniad yn seiliedig ar wybodaeth
gadarn.
Gwahoddwyd y Pennaeth Cyllid yn ei rôl fel
swyddog cyllid statudol i gyflwyno’r wybodaeth, i fynegi ei farn a manylu ar
gadernid yr amcangyfrifon oedd yn sail i’r gyllideb ynghyd a’r risgiau posib
a’r camau lliniaru.
Amlygodd y bydd y Cabinet (cyfarfod
11/02/25) yn argymell i’r Cyngor Llawn (06/03/25) i sefydlu cyllideb o
£355,243,800 ar gyfer 2025/26 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £246,818,190
a £108,425,610 o incwm o’r Dreth Cyngor (sydd yn gynnydd o 8.66% ar dreth
anheddau unigol) a sefydlu rhaglen
gyfalaf o £53,736,190 yn 2025/26.
Eglurwyd bod Gofynion Gwario Ychwanegol wedi
eu hystyried yn y gyllideb ac amlygwyd y meysydd hynny;
·
Chwyddiant Cyflogau o £8.6m - y gyllideb yn
neilltuo cynnydd cytundeb tâl 2025/26 o 3.5% ar gyfer yr holl weithlu ac
athrawon
·
Addasiad i’r trothwy a chyfradd yswiriant gwladol a delir gan y
cyflogwr.
·
Cyllideb o £4.6m wedi ei osod ar y sail y bydd y gost yn cael ei
ariannu’n rhannol gan y Llywodraeth, sef gwerth £3.5 miliwn
·
Cynnydd mewn Ardollau i gyrff perthnasol - £506K
·
Demograffi - lleihad mewn nifer disgyblion yn
yr ysgolion - £643k
·
Pwysau ar Wasanaethau - argymell cymeradwyo bidiau gwerth £7.7m am
adnoddau parhaol ychwanegol a gyflwynwyd gan adrannau’r Cyngor i gwrdd â
phwysau anorfod ar eu gwasanaethau.
Nodwyd bod y bidiau a gyflwynwyd wedi eu herio’n drylwyr gan y Tîm
Arweinyddiaeth cyn eu hargymell i’w cymeradwyo gan y Cabinet.
·
Ystyriaethau pellach - £2.2m ( addasiadau i
wahanol gyllidebau ar draws y Cyngor sy’n cynnwys effaith lleihad mewn
derbyniadau llog o £2.3m mewn dychweliadau wrth fuddsoddi balansau a llif arian
y Cyngor
Cyfeiriwyd at
Rhagolygon Gorwariant 2024/25 yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Plant a Theuluoedd gan
nodi’r bwriad o gyllido'r gorwariant drwy gronfeydd wrth gefn (gwerth £8,294m)
Yng nghyd-destun y cynlluniau arbedion,
cyfeiriwyd at gynlluniau arbedion a thoriadau
newydd i leihau’r bwlch ariannu o £519k fydd yn cael eu cyflwyno i’r
Cabinet 11-02-25 (er mai £100k gellid ei dynnu o gyllideb 2025/26.
Adroddwyd y byddai angen cyfarch gweddill y
bwlch drwy’r Dreth Cyngor ac o ganlyniad bydd y Cabinet yn argymell i’r Cyngor
Llawn i godi’r dreth 8.66% er mwyn diwallu’r pwysau ar wasanaethau wrth osod
cyllideb gytbwys.
Cyfeiriwyd at y gwaith gofynnol a wnaed i
adrodd ar gadernid yr amcangyfrifon sydd yn sail i’r gyllideb, ac wedi ystyried
yr holl risgiau a'r camau lliniaru roedd y
Pennaeth Cyllid o’r farn fod y cyllidebau ar gyfer 2025/26 yn un gadarn,
digonol a chyraeddadwy.
Diolchwyd am y cyflwyniad.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol
·
Bod lefel y dreth yn uchel - yn anodd a’r
drethdalwyr Gwynedd o ystyried bod sefyllfa'r blynyddoedd nesaf i weld yn
gwaethygu. Angen osgoi codi treth eto
·
Croesawu bod y gyllideb yn gytbwys, ond angen
cadw llygad ar y sefyllfa o ystyried bod prisiau tai yn uchel yng Ngwynedd a
chyflogau yn isel
·
Yn diolch am y gwaith trylwyr o baratoi’r gyllideb
·
Bod defnydd o £8.8m o gronfa wrth gefn i weld
yn sylweddol - yn amlygu pryder bod y gorwariant yn parhau. Angen i’r Adrannau
geisio gweithredu o fewn eu cyllidebau
·
Bod rhaid sicrhau bod arian wrth gefn ar
gyfer argyfwng
·
Os daw mwy o arian gan Lywodraeth Cymru, a
fydd bwriad ei ddefnyddio i gryfhau’r gronfa wrth gefn yn hytrach na defnydd
bidiau?
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â thalu chwyddiant ar gyflogau, nododd y Pennaeth Cyllid
bod cynnydd mewn cyflogau yn cael eu gosod yn genedlaethol ac anodd yw rhagweld
y cynnydd hwnnw. Ategwyd mai swm ac nid canran sydd wedi ei weithredu yn y
gorffennol, ac er mai anodd yw gosod canran, nid yw’r Cyngor mewn sefyllfa i
wrthod gweithredu’r cynnydd.
Mewn ymateb i’r
sylwadau, nododd Arweinydd y Cyngor bod Gwynedd gyda chefnogaeth siroedd
gwledig eraill megis Sir Fynwy a Phowys yn pwyso ar CLlLC i osod isafswm i’r
setliad. Cydnabuwyd hefyd bod pwysau cynyddol ariannol ar drigolion Gwynedd a
bod y dewis rhwng cynnal gwasanaethau a chynnig lefel rhesymol o drethiant yn
un anodd.
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnwys
·
Derbyn priodoldeb ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol
·
Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod a
chymeradwyo Cyllideb 2025/26 yn eu cyfarfod 11/02/25
·
Diolch i’r Adran Cyllid am y gwaith trylwyr o baratoi’r Gyllideb
Nodyn:
Sefyllfa gorwariant yn bryderus - angen
sicrhau llai o ddefnydd o’r gronfa wrth gefn
Dogfennau ategol: